Ken Skates: Mae gennym ddull gwahanol o benderfynu ar y fasnachfraint a fydd yn weithredol o 2018 ymlaen, lle’r ydym yn nodi’r canlyniadau ac yna bydd y cynigwyr yn cyflwyno’u cynigion ar gyfer cyflawni’r canlyniadau hynny. Rydym yn cydnabod nad yw’r fasnachfraint bresennol yn addas at y diben. Nid oes digon o gerbydau ac maent yn rhy hen. Mae’r ymgynghoriad a gynhaliwyd gennym yn dangos i ni...
Ken Skates: Roeddem yn aros am y cwestiwn. Roedd yn fyr yn y diwedd, ond gyda chyflwyniad hir. Yr wythnos hon, cyflwynodd yr Aelod strategaeth ei blaid ar gyfer buddsoddi a seilwaith gyda’r comisiwn seilwaith cenedlaethol. Croesawaf y papur, ond yr un gwall amlwg iawn ynddo yw nad yw wedi gallu nodi ble yng nghyllideb refeniw’r Llywodraeth y gellid dod o hyd i £700 miliwn. O ble fydd hwnnw’n dod?...
Ken Skates: Yn gyntaf, i ddychwelyd at Trafnidiaeth Cymru, mae Trafnidiaeth Cymru yn adlewyrchu model Transport for London, ac rwy’n siŵr na fyddech yn dadlau nad yw hwnnw’n unrhyw beth ond sefydliad dielw. O ran Cyllid Cymru, mae’r aelod yn beirniadu Cyllid Cymru, ond os edrychwn ar y ffigurau ar gyfer Cyllid Cymru am y cyfnod mwyaf diweddar sydd ar gael, fe welwn mai y llynedd oedd y flwyddyn...
Ken Skates: Mae Trafnidiaeth Cymru ei hun yn sefydliad dielw a fydd yn gyfrifol am bob elfen o’r fasnachfraint, gan gynnwys yr holl gonsesiynau. Fel gydag unrhyw elusen, neu yn wir, unrhyw sefydliad, megis Transport for London, byddant yn gallu rheoli’r fasnachfraint mewn modd sy’n sicrhau rhaniad rhwng y partner cyflenwi ei hun a’r consesiynau eraill megis lluniaeth a thocynnau i sicrhau, lle y...
Ken Skates: Gallaf. Rydym wedi cael y ddeiseb gan y Pwyllgor Deisebau, ac mae fy swyddogion wedi’i gweld, ac rydym wedi ymateb i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, yn ôl y gofyn.
Ken Skates: Gobeithiaf yn fawr y gall y datblygwyr gadw at eu haddewid o allu cyflawni’r prosiect gyda’r cyllid angenrheidiol o’r sector preifat. Fel y dywedais, mae trafodaethau’n parhau gyda fy swyddogion. Pan drafodais y mater gyda’r datblygwyr dros yr haf, roeddent yn hyderus o allu bodloni’r meini prawf a osodwyd, ac rydym yn aros am gyflwyniad ffurfiol ganddynt er mwyn i ni ei ystyried.
Ken Skates: Gwnaf. Mae trafodaethau yn parhau rhwng Cylchffordd Cymru a fy swyddogion.
Ken Skates: Mater i awdurdodau lleol ei ystyried yw hyn i raddau helaeth, ond mae’n rhywbeth y gall ardaloedd gwella busnes ei ystyried o ddifrif hefyd. Ac yn yr ardaloedd y maent wedi bod yn gweithredu ynddynt, credaf fod cryn lwyddiant wedi bod, a gellir gweld hynny mewn sawl achos yn y cynnydd a welwyd yn nifer yr ymwelwyr â chanol trefi. Felly, mae’n rhywbeth y gall yr awdurdodau lleol, ac yn...
Ken Skates: A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn a dweud fy mod yn cydymdeimlo â phawb yr effeithir arnynt gan y newyddion y bore yma? Rydym yn gwneud popeth a allwn i gefnogi’r diwydiant dur yng Nghymru yn ei gyfanrwydd, a buom yn ymwneud â’r cwmni hwn o’r blaen. Rydym wedi cynnig mynediad i’r cwmni at fentrau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y cynllun prentisiaeth a weithredir gan Goleg...
Ken Skates: Wel, dylent fanteisio ar y cynllun hwn yn wir, a byddaf yn ymdrechu i’w drafod nid yn unig gyda’r awdurdod lleol a’u huned datblygu economaidd, ond hefyd gyda chadeirydd yr ardal fenter, pan fyddaf yn cyfarfod â hwy nesaf.
Ken Skates: Wel, mae Busnes Cymru wedi bod yn anhygoel o lwyddiannus yn cynorthwyo busnesau bach a chanolig ledled Cymru, gan wneud yr hyn y mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach yn ei argymell ar gyfer eu model, fwy neu lai. Os caf dynnu sylw at lwyddiant Busnes Cymru, hyd yma eleni, mae 3,638 o unigolion a busnesau wedi cael eu cynorthwyo â chyngor busnes, ac o ganlyniad i hynny, mae Busnes Cymru ar y...
Ken Skates: Byddwn, yn wir. A byddwn yn dweud bod nifer nodedig o lwyddiannau wedi bod yn etholaeth yr Aelod yn ystod y blynyddoedd diwethaf—llwyddiannau a ysgogwyd yn rhannol gan gymorth sydd wedi bod ar gael gan Lywodraeth Cymru. Mae Ashwood Designs, Rokel Engineering, Heighway Pinball Limited, ac Elite Paper Solutions, i enwi ond ychydig, yn dangos beth y gellir ei wneud pan fo’r sector preifat yn...
Ken Skates: Gwnaf. Mae llawer o gefnogaeth ar gael i entrepreneuriaid, busnesau bach a chanolig, ledled Cymru, drwy ein gwasanaeth Busnes Cymru. Rydym yn parhau i ganolbwyntio’n llwyr ar gefnogi swyddi a’r economi.
Ken Skates: Ydy. Yn wir, cyfarfûm ag Aelodau ar draws y pleidiau ddydd Llun yng ngogledd Cymru ac addewais iddynt y byddwn yn darparu gwybodaeth gan Trenau Arriva Cymru ynglŷn â’u hymdrechion i fynd i’r afael â’r hyn sydd wedi bod, yn fy marn i, yn haf o ddarpariaeth annerbyniol o ran gwasanaethau trên. Mae’n dangos yn glir nad yw’r fasnachfraint bresennol yn addas at y diben, a dyna pam y...
Ken Skates: Hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn a dweud bod safon wirfoddol ansawdd bysiau Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth eleni, yn annog cwmnïau bysiau ledled Cymru i gyflwyno cerbydau allyriadau isel, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle y caiff ansawdd yr aer a anadlwn ei fygwth gan allyriadau niweidiol lle y ceir tagfeydd traffig parhaus. O dan y cynllun hwnnw, mae awdurdodau lleol yn gallu...
Ken Skates: Rydym wedi bod yn archwilio’r cerbydau, sydd o dan bwysau drwy Brydain gyfan wrth gwrs, ond rydym wedi bod yn archwilio’r cerbydau yng Nghymru a’r cerbydau sydd ar gael i Gymru ers i’r adroddiad hwnnw gael ei gomisiynu a’i gwblhau. Rydym yn trafod y mater gyda phartneriaid cyflenwi posibl fel rhan o’r fasnachfraint nesaf, ac wrth nodi’r allbynnau fel ffordd newydd a blaengar o...
Ken Skates: Rydym yn cydnabod pwysigrwydd system drafnidiaeth gyhoeddus effeithiol, fforddiadwy ac integredig ledled Cymru gyfan. Mae’r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2015, yn nodi buddsoddiad ar gyfer trafnidiaeth a seilwaith ar gyfer gwasanaethau o 2015 hyd at 2020 ym mhob rhan o Gymru.
Ken Skates: Economic growth is a fundamental part of our programme for government. The strong performance of the ICT sector has led to the creation of 7,500 high-end jobs in Wales. Ongoing support to this enabling sector will assist the development of all businesses in Wales through increased adoption of digital technologies.
Ken Skates: Whilst not directly responsible for the roll-out of public Wi-Fi, we support local towns and communities throughout Wales, including those in mid Wales, to create their own public Wi-Fi networks, such as through the provision of fast and reliable enabling infrastructure.
Ken Skates: Mae’r gogledd yn rheng flaen y gwelliannau ym mherfformiad economaidd Cymru. Rwyf yn awyddus inni adeiladau ar ddatblygiadau sydd wedi arwain at y lefelau uchaf erioed o gyflogaeth a mewnfuddsoddiad ac at gyfradd diweithdra sy’n is nag ar gyfer y DU gyfan.