Canlyniadau 221–240 o 900 ar gyfer speaker:Julie Morgan

4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gofal Plant am Ddim ( 8 Gor 2020)

Julie Morgan: Diolch i Hefin David am ei gwestiwn. Cafodd y gyllideb ar gyfer y cynnig ei haddasu o fis Ebrill i ariannu gofal plant ar gyfer plant cyn oed ysgol sy’n blant i weithwyr hanfodol a phlant agored i niwed o dan gynllun cymorth gofal plant y coronafeirws. Felly, yn anffodus, roedd hyn yn golygu bod yn rhaid inni gau'r cynnig dros dro i ymgeiswyr newydd. Rydym yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid...

4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gofal Plant am Ddim ( 8 Gor 2020)

Julie Morgan: Rydym yn darparu gofal plant am ddim i blant cyn oed ysgol sy’n blant i weithwyr hanfodol a phlant agored i niwed o dan gynllun cymorth gofal plant y coronafeirws. Mae ein cynnig gofal plant yn parhau i fod ar gau dros dro i ymgeiswyr newydd. Rydym yn bwriadu ei ailagor ym mis Medi, yn ddibynnol ar y sefyllfa o ran yr ymateb i'r feirws.

4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Taliadau Arbennig y Gweithlu Gofal Cymdeithasol ( 8 Gor 2020)

Julie Morgan: Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Joyce Watson am ei chwestiwn atodol, gan ei fod yn rhoi cyfle i mi ddiolch i'r holl weithwyr gofal yng Nghymru am eu gwaith diflino yn y cyfnod anodd hwn, ac i ddweud ei bod yn drueni y gallai geiriau Prif Weinidog y DU ddoe fod wedi peri loes iddynt. Rwy’n siŵr y byddai Joyce Watson yn cytuno â mi mai un o’r ffyrdd y gallai Prif Weinidog y DU ddangos ei...

4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Taliadau Arbennig y Gweithlu Gofal Cymdeithasol ( 8 Gor 2020)

Julie Morgan: Diolch i Joyce Watson am ei chwestiwn. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau dros dro ar y cynllun i gadarnhau'r meini prawf cymhwysedd. Mae'r gwaith bellach yn canolbwyntio ar gwblhau cynllun gweithredu a chyflawni cadarn i sicrhau bod y taliadau'n cael eu gwneud cyn gynted â phosibl.

QNR: Cwestiynau i Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ( 8 Gor 2020)

Julie Morgan: We have provided £400,000 to Age Cymru to establish a national telephone befriending service to provide emotional support to older people who live alone. We have also worked with local government and the third sector to ensure that practical support with shopping and medicines is in place.

7. Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 ( 3 Meh 2020)

Julie Morgan: Hoffwn i ddiolch i Janet Finch-Saunders am y sylwadau yna, a hoffwn i ailadrodd mai mesurau dros dro yw'r rhain i'w rhoi ar waith mewn argyfwng. Ni fyddan nhw'n fesurau parhaol, ac mae pob un o'r pwyntiau a wnaeth wedi eu hystyried yn ofalus iawn. O ran un o'r pwyntiau diwethaf a wnaeth, ynghylch a yw'n berthnasol i ddarpariaeth breifat, hoffwn i roi gwybod iddi fod y ddarpariaeth o ran...

7. Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 ( 3 Meh 2020)

Julie Morgan: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'r Rheoliadau hyn wedi eu datblygu i liniaru effeithiau y coronafeirws ar ofal cymdeithasol i oedolion mewn tair prif ffordd. Yn gyntaf, maen nhw'n mynd i'r afael â'r angen posibl i ehangu'r sector drwy ganiatáu i ddarpariaeth frys gael ei sefydlu'n gyflym dan nawdd comisiynwyr statudol gofal cymdeithasol mewn amrywiaeth o leoliadau. Yn ail, maen nhw'n...

10. Dadl Plaid Cymru: Gwasanaeth damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. (11 Maw 2020)

Julie Morgan: Am welliant 5? Rwy'n mynd ymlaen at welliant 5 yn awr. Felly, rwy'n deall, fel y dywedais, fod y bwrdd iechyd yn ystyried canlyniad y rhaglen, ac maent yn edrych ar y boblogaeth yn yr ardal ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, ac wrth gwrs, realiti recriwtio staff. Bydd Aelodau ar draws y Siambr yn gwybod nad yw galw'n syml am roi diwedd ar raglen de Cymru yn ateb y broblem mewn gwirionedd—mae'n...

10. Dadl Plaid Cymru: Gwasanaeth damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. (11 Maw 2020)

Julie Morgan: Ar y pwynt hwn, nid yw'r bwrdd iechyd wedi gwneud penderfyniad eto ynglŷn â beth fydd ei gynlluniau. [Torri ar draws.] Fe drof at raglen de Cymru yn awr, pan fyddaf yn siarad. Ond nid oes penderfyniad wedi'i wneud eto. Credaf mai dyna'r pwynt pwysig. Mae'n rhaid ei wneud yn lleol, ond nid oes penderfyniad wedi'i wneud eto. Felly, i droi at y pwyntiau am ymgysylltu sy'n cael eu gwneud yn y...

10. Dadl Plaid Cymru: Gwasanaeth damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. (11 Maw 2020)

Julie Morgan: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Yn anffodus, ni all y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod yma'n bersonol y prynhawn yma, gan fod ei angen yng nghyfarfod COBRA y DU gyfan mewn perthynas â'n hymateb i coronafeirws, ond rwy'n falch o fod yma i drafod hyn yma heddiw. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod y Gweinidog wedi siarad yn nadl y Ceidwadwyr ar y mater hwn ar 12 Chwefror, ac yn yr...

9. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Diagnosis cynnar o ganser (11 Maw 2020)

Julie Morgan: Diolch i Mark Isherwood am godi'r pwynt pwysig hwnnw ac yn sicr, byddaf yn mynd oddi yma ac yn edrych ar yr hyn sy'n achosi'r oedi yn y byrddau iechyd hynny. Felly, diolch am godi hynny. Hoffwn gyfeirio, fel y dywedodd David Rees rwy'n credu, at y ffaith mai'r llwybr canser sengl yw'r cyflawniad sy'n sefyll allan, llwyfan ar gyfer gwella sy'n unigryw yn y DU. Ond hoffwn gyfeirio hefyd at...

9. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Diagnosis cynnar o ganser (11 Maw 2020)

Julie Morgan: Bydd mwy o bwyslais ar ganfod canser yn gynharach. Mae hynny'n mynd i fod yn rhan o'r cynllun newydd.   Rydym hefyd yn awyddus i sicrhau bod ein rhaglenni sgrinio yn cael eu hoptimeiddio. Mae llawer o bobl wedi sôn am y rhaglenni sgrinio yma heddiw. Rwy'n derbyn bod angen gwneud mwy i annog y rheini sy'n gymwys i gael eu sgrinio i fanteisio ar y cyfle. Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru dîm...

9. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Diagnosis cynnar o ganser (11 Maw 2020)

Julie Morgan: Diolch, a diolch i'r Aelodau am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Credaf mai un peth y gall pob un ohonom gytuno arno yw bod angen i ganser fod yn flaenoriaeth i unrhyw Lywodraeth, o ystyried nifer y bobl yr effeithir arnynt gan ganser, fel y dywedodd David Rees yn ei gyflwyniad, ac wrth gwrs, effaith ddinistriol diagnosis yn aml, a'r effaith ehangach ar ein GIG. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Sgandal Gwaed Halogedig (11 Maw 2020)

Julie Morgan: Wel, diolch i Hefin David am y cwestiwn pwysig hwnnw. Roeddwn yn falch o gyfarfod ag aelodau'r grŵp trawsbleidiol yn gynharach heddiw ar ddechrau eu cyfarfod, a gwn pa mor gryf yw eu teimladau am y mater hwn. Mae pedwar cynllun gwahanol ym mhedair gwlad y DU, ac mae'n anodd eu cymharu am eu bod mor wahanol. Fodd bynnag, gwn ei bod yn berffaith wir fod buddiolwyr yng Nghymru yn cael £12,000...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Sgandal Gwaed Halogedig (11 Maw 2020)

Julie Morgan: Drwy gynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn cynhwysfawr o daliadau ex gratia yn ogystal â chymorth cofleidiol helaeth, sy'n cynnwys cymorth seicolegol, cyngor ar fudd-daliadau a chefnogaeth a chyfeirio at wasanaethau cyhoeddus eraill y gallwn eu darparu ledled Cymru.

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (11 Maw 2020)

Julie Morgan: Wel, rwy'n credu bod y Gweinidog iechyd, yn ei ymateb yn gynharach, wedi dweud bod y rhain yn mynd i gael eu darparu. Ac yn sicr mae hwn yn fater rydym wedi'i drafod yn y Llywodraeth, ond mae'n amlwg yn bwynt pwysig iawn ac rydym yn gyfan gwbl o ddifrif yn ei gylch.

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (11 Maw 2020)

Julie Morgan: Rwy'n credu eu bod, i ateb y cwestiwn olaf hwnnw. Os edrychwch ar y sector gofal cymdeithasol, mae amrywiaeth eang o faterion yn codi: mae yna bobl sy'n byw mewn gofal preswyl neu mewn cartrefi nyrsio; mae yna bobl sy'n cael gofal yn y cartref, ac yna ceir staff sy'n mynd i mewn, fel y nododd Janet Finch-Saunders. Ac mae'n amlwg yn hanfodol ein bod yn mynd i'r afael â'r holl faterion hynny,...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (11 Maw 2020)

Julie Morgan: Diolch i Janet Finch-Saunders am y cwestiwn hwnnw ac mae'n llygad ei lle fod pobl hŷn, a phobl hŷn sydd ag anghenion iechyd cymhleth, mewn mwy o berygl o lawer. Ac felly rydym am wneud popeth yn ein gallu i'w diogelu cymaint â phosibl, ac rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud hynny. Mae'r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol ac integreiddio yn arwain y blaen yn Llywodraeth Cymru. Rydym...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.