Adam Price: Diolch, Llywydd. Mae rhywfaint o newyddion optimistaidd yn y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg y cyfeiriodd Andrew R.T. Davies ati, ond mae hefyd yn canfod bod dau ddos o frechlyn AstraZeneca yn cynnig dim amddiffyniad rhag amrywiolyn omicron, er bod yr un cafeatau yn berthnasol i'r dystiolaeth honno—sampl fach, canfyddiadau rhagarweiniol, ac yn y blaen. Mae yn canfod, hyd yn oed yn achos...
Adam Price: Mae'r ddadl hon ynglŷn â swyddogaeth y Llywodraeth a'r wrthblaid yn un ddiddorol yn fy marn i. Mae'n fy atgoffa o ymadrodd enwog gan y gwyddonydd gwleidyddol Americanaidd Robert Dahl, a ddywedodd unwaith: 'Mae dweud lle mae'r llywodraeth yn gorffen a'r wrthblaid yn dechrau yn ymarfer mewn metaffiseg.' Roedd yn ddamcaniaethwr mawr o ran plwraliaeth mewn democratiaeth; bod pŵer, mewn...
Adam Price: Diolch, Llywydd. Roeddwn i'n gwybod y byddai'r ymadrodd yna, 'blaendal ar annibyniaeth', yn corddi'r Torïaid; mae'n rhywbeth hawdd iawn i'w wneud y dyddiau hyn. Ond beth roeddwn i'n golygu wrth hwnna, beth oedd yn fy meddwl i, a dweud y gwir, oedd ymadrodd arall yr oedd Raymond Williams wedi'i fathu lle'r oedd e'n sôn am annibyniaeth real. Nid annibyniaeth haniaethol, ond annibyniaeth real...
Adam Price: Fel y gwyddoch chi, Prif Weinidog, roedd eich rhagflaenydd Rhodri Morgan yn feirniadol iawn o ffigyrau arweinyddiaeth uwch yn Awdurdod Datblygu Cymru a oedd â buddiannau busnes allanol a arweiniodd at dybiaethau negyddol. Dywedodd, ac rwy'n dyfynnu: 'Nid yn unig y mae'n rhaid i fusnes gael ei gyflawni, mae'n rhaid iddo gael ei weld yn cael ei gyflawni. Mae hynny fwy neu lai yn amhosibl pan...
Adam Price: Wel, fe wnaeth Mr Thorley ofyn am gymeradwyaeth y bwrdd ac ysgrifennodd hefyd at Weinidog yr economi ar y pryd cyn dechrau ei swydd gyflogedig fel cadeirydd Zip World. Efallai y gallai'r Prif Weinidog gadarnhau a oedd buddsoddiad personol Mr Thorley yn Zip World hefyd yn destun cymeradwyaeth y bwrdd ymlaen llaw, fel sydd wedi ei adrodd yn y wasg. Nawr, os oedd, a'r rheswm yr wyf i'n codi...
Adam Price: Diolch, Llywydd. A gaf i ddechrau drwy ddweud pa mor falch yr wyf i o weld arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ôl yn ei le yma? Rydym ni wedi anghytuno droeon yn y Siambr hon, Andrew, ac rwy'n siŵr y byddwn ni'n anghytuno droeon eto, ac weithiau'n angerddol, ond a gaf i ddweud ein bod ni bob amser wedi bod â'r berthynas bersonol orau posibl? A gaf i hefyd dalu teyrnged i'r ffordd y...
Adam Price: Diolch yn fawr, Lywydd. Hoffwn wneud datganiad cyflym heddiw ar SUDEP, sef marwolaeth annisgwyl sydyn oherwydd epilepsi. Yng Nghymru, amcangyfrifir bod 32,000 o bobl yn byw gydag epilepsi. Mae 21 o bobl yr wythnos neu dri o bobl bob dydd yn y Deyrnas Unedig yn marw o SUDEP, gyda chanran fawr ohonynt yn ddynion ifanc rhwng 20 a 40 oed. Fel grŵp, mae risg pobl sy'n byw gydag epilepsi o SUDEP...
Adam Price: Dwi'n ddiolchgar i'r Gweinidog. Mae'r polisi cenedlaethol yn nodi ni ddylai cleifion ganfod triniaeth feddygol mewn bwrdd iechyd arall heblaw i bob opsiwn lleol methu â darparu'r driniaeth honno. Mae e'n effeithio'n drwm iawn ar gymunedau sydd ar y ffiniau. Dwi'n meddwl am Frynaman Uchaf, er enghraifft, yn fy etholaeth i, lle mae pentref wedi'i rhannu'n ddwy—Brynaman Isaf ym mwrdd iechyd...
Adam Price: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y polisi cymeradwyo ymlaen llaw Cymru gyfan ar gymunedau sydd wedi'u lleoli ger ffiniau byrddau iechyd? OQ57268
Adam Price: Rydym ni hyd yn oed wedi clywed yn ddiweddar rhai Ceidwadwyr yn y Senedd hon yn codi eu lleisiau yn erbyn corfforaethau rhyngwladol yn prynu tir amaethyddol Cymru. Mae'n wych gweld y Torïaid yn cael tröedigaeth hwyr yn erbyn gweithrediad anghyfyngedig y farchnad rydd, ac rwy'n credu bod angen ychydig o undod ar fyd amaeth Cymru, sydd o dan yr holl bwysau hyn ar hyn o bryd. Ond mae'r ymgais...
Adam Price: Un o'r heriau penodol sy'n wynebu'r gymuned amaethyddol ar hyn o bryd yw bod cwmnïau ariannol byd eang yn dod i mewn i gymunedau gwledig ar hyn o bryd ac yn prynu tir amaethyddol i blannu coed er mwyn prynu credydau carbon. Fe gefais i ar ddeall y bore yma gan un o'r undebau amaethyddol fod gwerthwyr tir nawr yn galw ffermwyr o ddim unman, fel petai—cold calling—mewn ymgais i'w cymell...
Adam Price: Diolch yn fawr, Llywydd. Fel y gwyddoch, Brif Weinidog, mae'r ffair aeaf yn digwydd yn Llanelwedd ar hyn o bryd. Y bore yma, fe fûm yno yn gynnar iawn. Roedd e'n gyfle gwych i gael cyfarfod yn uniongyrchol gydag amaethwyr a gyda chynrychiolwyr y gymuned. Y neges yn glir roeddwn i'n gael o sector sydd yn wynebu cymaint o bwysau o wahanol gyfeiriadau oedd bod angen sefydlogrwydd ar y diwydiant...
Adam Price: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu, yn eich datganiad ysgrifenedig, wrth ymateb i'r uwchgynhadledd ddiwethaf, roeddech chi wedi cyfeirio at y ffaith bryd hynny nad oedd y Prif Weinidog Prydeinig wedi mynychu. Doedd e ddim wedi mynychu eto, ac, a dweud y gwir, dwi ddim yn credu ei fod e byth wedi mynychu. Doedd Theresa May byth wedi mynychu, David Cameron byth wedi mynychu. Mae'n rhaid ichi...
Adam Price: Beth bynnag fo barn rhywun am gynnwys y cytundeb cydweithio, does dim dwywaith bod hwn yn gytundeb radical a fydd yn delifro ar rai o'r pethau y mae ymgyrchwyr wedi bod yn brwydro arnyn nhw ers degawdau, fel rheoli'r farchnad dai. Ond does bosib na fyddai unrhyw un yn anghytuno y dylai ein dinasyddion ni allu cael y wybodaeth gywir i'n dal ni i gyd i gyfrif, ac mae'n gwbl amlwg i bawb nad yw...
Adam Price: Fel yr ydym ni'n ei ddweud yn y rhagair i'n cytundeb, trwy bleidleisio i greu ein democratiaeth, roedd pobl Cymru hefyd yn dymuno gweld math newydd o wleidyddiaeth. Nawr efallai y gallwn ni faddau, ac yn wir dosturio wrth y Ceidwadwyr am gael eu dal yn eu meddylfryd San Steffan; byddai'n well gan lawer ohonyn nhw fod yno nag yma wedi'r cyfan. Maen nhw'n gweld y byd mewn gwrthwynebau deuaidd;...
Adam Price: Diolch, Llywydd. Roeddwn i'n meddwl bod Darren Millar yn hynod dawedog heddiw am y cytundeb cydweithredu. Efallai, wn i ddim, ei fod yn gresynu at rai o'i linellau ymosod dros nos. Ond fe wnaethon nhw ddweud—ac fe wnaethoch chi ddweud—nad yw'r cytundeb yn gwneud dim i helpu pobl Cymru: dywedwch hynny wrth y 200,000 o blant a fydd yn cael prydau ysgol am ddim yn awr o ganlyniad i hynny;...
Adam Price: Mewn cyfweliad gyda'r BBC ychydig dros wythnos yn ôl, dywedodd eich swyddog cyfatebol yn San Steffan, Syr Keir Starmer, ei fod yn dymuno gwneud i Brexit weithio. Prif Weinidog, a gaf i ofyn i chi beth yw eich dealltwriaeth chi o'r ymadrodd hwnnw neu sut yr ydych chi'n ei ddehongli? A fyddwch chi'n ei gynghori, er budd pennaf Cymru, yn ogystal â'r DU, y dylai olygu, o leiaf, ailymuno ag...
Adam Price: Prif Weinidog, fe wnaethoch chi sôn am Gaergybi yn y fan yna ac, wrth gwrs, rhagwelir y bydd dimensiwn Gogledd Iwerddon anhyblygrwydd Llywodraeth y DU wrth fynd ar drywydd y Brexit caletaf posibl yn gwneud pethau yn llawer iawn gwaeth. Mae Llywodraeth San Steffan bellach yn bygwth, fel yr ydym ni'n gwybod, atal rhannau o gytundeb Gogledd Iwerddon sy'n diogelu marchnad sengl yr UE, erthygl 16...
Adam Price: Prif Weinidog, hoffwn godi gyda chi y canlyniadau ofnadwy y mae ymgais Llywodraeth San Steffan i sicrhau Brexit caled yn dechrau eu cael ar ein safonau byw ni yma yng Nghymru ac ar draws yr ynysoedd hyn, a gofyn beth allai eich Llywodraeth chi, mewn cydweithrediad â'r gweinyddiaethau datganoledig eraill, ei wneud i berswadio'r Llywodraeth druenus hon yn Llundain i newid trywydd. Yn ei...
Adam Price: Mae'n dweud rhywbeth—Geoffrey Cox yw'r cyn-Dwrnai Cyffredinol, onid yw? Pa mor isel maen nhw wedi mynd? Wrth i San Steffan suddo'n ddyfnach i'w lygriad ei hun, beth allwn ni ei wneud yma yn y Senedd hon i gynnal y lefelau uchaf o uniondeb cyhoeddus yn ein democratiaeth ein hunain? Y mis hwn, cyhoeddodd y pwyllgor Nolan, yn dilyn adolygiad Boardman, argymhellion newydd i gryfhau uniondeb...