Mr Neil Hamilton: Rwy'n cydnabod bwriadau gorau'r Gweinidog, ei meddwl agored a'i pharodrwydd i ystyried gwneud pethau sy'n wleidyddol anodd iddi yn ei phlaid a'i pharodrwydd cyffredinol i ymgysylltu â ffermwyr a'r gymuned ffermio yn gyffredinol ar y mater eithriadol o anodd hwn. Ond, er gwaethaf hynny i gyd a 18 mis ar ôl cyflwyno'r rhaglen ddileu ar ei newydd wedd, mae'n amlwg nad yw'r Llywodraeth, yn...
Mr Neil Hamilton: Wel, nid oedd unrhyw beth newydd yn y datganiad heddiw, ond rwy'n dal i groesawu'r cyfle i gael dadl ar y mater hwn, gan ei fod yn tynnu sylw at ffolineb llwyr safbwynt y Blaid Lafur ar y cytundeb y mae arni ei eisiau gyda'r UE, wedi'i chrynhoi mewn un frawddeg yn y datganiad, sy'n dweud eu bod eisiau cyfaddawd sydd angen cynnwys ymrwymiad o leiaf i Undeb Tollau parhaol yn ychwanegol at ac yn...
Mr Neil Hamilton: Ni allwn ddod o hyd i'r un—[Torri ar draws.]
Mr Neil Hamilton: Mae'r Cambridge English Dictionary yn dweud bod 'cael un cyflym' yn golygu 'cael diod, diod alcoholig fel arfer, ychydig cyn mynd i rywle'. Nid oes unrhyw—
Mr Neil Hamilton: Wel, mae'n ddrwg gennyf eich bod yn rhoi taw arnaf yn y mater difrifol hwn—
Mr Neil Hamilton: —sy'n effeithio ar ryddid Aelodau'r lle hwn i lefaru—
Mr Neil Hamilton: Byddwch wedi clywed ymdrechion yr Aelodau yma i roi taw ar yr araith hon ac i dorri ar ei thraws.
Mr Neil Hamilton: Prin fod diwrnod yn mynd heibio yn y lle hwn pan na chaiff Aelodau UKIP eu bychanu neu eu tramgwyddo gan rai o'r sylwadau y mae Aelodau eraill o'r tŷ hwn—[Torri ar draws.] Mewn cymdeithas rydd, credaf y dylai aelodau cynulliad democrataidd fod yn barod i oddef beirniadaeth ac yn wir, i gael eu bychanu a'u tramgwyddo o bryd i'w gilydd. Mae hynny'n rhan annatod o'r peth, a Joyce Watson—
Mr Neil Hamilton: —gwrando ar bethau nad ydych eisiau clywed.
Mr Neil Hamilton: Na, ni allaf, Ddirprwy Lywydd—
Mr Neil Hamilton: —oherwydd rwyf wedi dioddef ymyriadau sydd wedi tarfu ar lif yr hyn rwy'n ceisio'i ddweud. Rwy'n ceisio gwneud pwynt difrifol ynglŷn ag ystyr yr ymadrodd, 'un cyflym yn y dafarn leol'. Mr Bain—
Mr Neil Hamilton: Honnodd Mr Bain fod hwnnw'n sylw rhywiaethol. I mi mae 'galw i mewn am un cyflym yn y dafarn leol'—
Mr Neil Hamilton: I bron bawb, buaswn yn meddwl fod 'galw i mewn am un cyflym' yn golygu—
Mr Neil Hamilton: —galw i mewn am ddiod.
Mr Neil Hamilton: Fe wnes chwiliad cyflym ar y we—
Mr Neil Hamilton: Felly—dyma'r frawddeg bwysig— Nid wyf yn siŵr y byddai gennyf awydd galw i mewn am un cyflym yn y dafarn leol pe bawn i'n ei gweld yn tynnu peint wrth y bar. [Torri ar draws.] Hoffwn pe bai'r Aelodau'n gwrando. Rwy'n ceisio gwneud—[Torri ar draws.] Gwn nad yw'r Aelodau eisiau gwrando—
Mr Neil Hamilton: Nid wyf yn ei wneud yn llai nag ydyw. Nid wyf wedi gorffen fy araith eto. Gallwch wneud eich araith chi maes o law. Fe ddarllenaf o'r adroddiad. Mr Gething, ei gŵyn oedd bod y fideo yn amlwg yn rhywiaethol. Mae'n amlwg mai bwriad y llun o'r farforwyn lond ei chroen oedd bychanu a pheri loes. Y cyfeiriad at— Mae'n ddrwg gennyf, rwy'n anghywir. Mae'n ddrwg gennyf, nid dyna'r paragraff cywir....
Mr Neil Hamilton: Wel, nid yn gymaint ei fod yn hir, ond heb fy sbectol mae'n anodd. Ie, ym mharagraff 6.1 yn ei adroddiad, dywed Mr Bain ei fod yn cydnabod bod: dyfarnu ar gwynion o'r natur hon yn fater y gall personau yn gyfreithlon wneud penderfyniadau gwahanol yn eu cylch. Yna aiff ymlaen i ddweud: Gwn fod y Comisiynydd Safonau, wrth gwrs, heb y fantais o'r holl ffeithiau sydd ger fy mron yn awr, wedi...
Mr Neil Hamilton: Rwy'n sylweddoli bod yr hyn rwyf am ei ddweud yn mynd i syrthio ar glustiau byddar, ond fe wnaf fy araith beth bynnag. Nid yw'n ymwneud â'r unigolyn sy'n destun yr adroddiad hwn. Mae'r rhain yn ystyriaethau cyffredinol ynghylch y ffordd y mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn gweithredu er mwyn rhoi effaith i'r polisi urddas a pharch a Rheolau Sefydlog y Cynulliad hwn. Rwy'n pryderu yn gyntaf...
Mr Neil Hamilton: Penderfynodd y Senedd yn San Steffan, pan wnaethpwyd y penderfyniad gyda'r refferendwm, na allent wneud y penderfyniad hwnnw yn San Steffan, am resymau sydd wedi eu dangos yn amlwg ddigon yn yr hyn a welsom ni yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, ac, felly, y bobl fyddai'n penderfynu. A dywedodd y Llywodraeth yn ddiamwys, 'byddwn yn gweithredu'r hyn y byddwch yn penderfynu arno', ac...