Mark Reckless: Rwy'n llongyfarch yr Aelod am gael y ddadl ac yn diolch iddo am roi munud o'i amser i mi, a dymunaf ben-blwydd hapus iddo hefyd. Mae'r pwyslais, hyd y gwelaf, wedi esblygu a chlywsom ei fod yn barc modurol, ac yn fenter y Cymoedd Technoleg ac yn ddiweddar, rwy'n credu bod mwy o bwyslais ar seiberddiogelwch. A chytunaf ag Alun Davies fod angen i'r Llywodraeth hon fod yn chwim a bod angen i'r...
Mark Reckless: A yw'r Gweinidog yn credu bod manteision cydgrynhoi addysg ôl-16 yng Ngholeg Merthyr Tudful yn bwysicach nag unrhyw leihad yn y dewis neu gynnydd yn yr amseroedd teithio ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd, yn y gorffennol, wedi mynychu'r chweched dosbarth mewn ysgolion?
Mark Reckless: Clywaf yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei ddweud mewn ymateb, ond o ran y newid yn yr hinsawdd, mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi dweud Nid yw'n ymddangos bod y camau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd ar hyn o bryd yn cyfateb i ddatganiad o argyfwng hinsawdd. Efallai y bydd rhai trethdalwyr yn croesawu hynny o ystyried faint o arian yr ydych chi wedi ei roi i faes awyr Caerdydd; os...
Mark Reckless: Prif Weinidog, neithiwr, ychydig filltiroedd i'r de-ddwyrain o'r fan hon, pleidleisiodd cynghorwyr o 18 i 17 i atal maes awyr Bryste rhag ehangu ymhellach gan eu bod nhw'n dweud y byddai'n gwaethygu'r argyfwng hinsawdd. Gyda maes awyr Bryste ar fin cyrraedd ei derfyn o 10 miliwn o deithwyr y flwyddyn nesaf, a yw'r Prif Weinidog yn croesawu'r cyfle hwn i faes awyr Caerdydd ehangu ei deithiau...
Mark Reckless: Gerry Adams.
Mark Reckless: O ran y ffordd y mae'r broses yn gweithio, gyda chyllideb ddrafft a chyfnod wedyn o sawl wythnos o leiaf o ymgynghori ymddangosiadol ac ystyried cynnwys y gyllideb ddrafft honno cyn i ni gyflwyno cyllideb derfynol wedyn i'w hystyried, tybed a yw'r broses honno'n rhoi'r argraff i bobl y tu allan i Lywodraeth Cymru yn arbennig a allai dderbyn neu elwa o gyllid fod mwy o gyfle i newid y gyllideb...
Mark Reckless: Diolch, Lywydd. Gan gamu'n ôl o fanylion y gyllideb hon, a'r anawsterau penodol rydym wedi'u cael gydag amseriad cyllideb y DU mewn perthynas â'n cyllideb ein hunain, beth yw barn y Gweinidog Cyllid ynglŷn â sut y mae ein proses gyllidebol yn gweithio yn gyffredinol? Pa mor dda, neu fel arall, y mae'n cymharu â'r hyn y gallem ei ystyried yn arfer gorau gan ddeddfwrfeydd eraill, boed...
Mark Reckless: A wnaiff y Gweinidog ildio?
Mark Reckless: A yw'n credu ei bod yn rhesymol i rywun sydd dim ond wedi dangos hyfedredd drwy arholiad yn y Gymraeg gael ymarfer ar draws Lloegr, yn Saesneg?
Mark Reckless: Wel, mae hynny'n gwbl briodol os oes gennym ni system ar gyfer Cymru. Ond byddwn yn cwestiynu a yw'n rhesymol gofyn am reoleiddiwr Cymru a Lloegr. Er, byddwn yn cefnogi mwy o ymgysylltu â'r Cynulliad ar y materion hyn fel y cynigir, ac efallai y gellir trafod y rhain. Rwy'n parhau i fod yn siomedig â'r Goruchaf Lys a'r trefniadau yn y fan yna ynglŷn â phenodiadau. Mae'r adroddiad yn...
Mark Reckless: Rwy'n cytuno bod yr Aelod, mewn llawer o amgylchiadau, yn gywir yn ei ddiagnosis. Yn yr adroddiad hwn, wrth ddarllen pennod 11 ar y Gymraeg ac yna pennod 12 ar lywodraethu proffesiynau, nid wyf yn argyhoeddedig eu bod wedi'u cysylltu'n ddigonol. Ar hyn o bryd, nid oes arholiadau cyfreithiol ar gael, ar lefel gradd o leiaf, yn y Gymraeg. Mae hwn yn cynnig y dylen nhw fod ar gael ac y dylai...
Mark Reckless: Diolch, Llywydd. Cynigiaf y gwelliannau yn enw Caroline Jones. Rydym yn gwrthwynebu datganoli cyfiawnder a phlismona. Roeddwn i'n falch o gymryd yr amser i ystyried yr adroddiad hynod drawiadol hwn yn fanwl cyn dweud hynny. Rwy'n credu bod cyfatebiaeth rhwng yr UE a datganoli. Mae i'w gweld pan fo rhyng-gysylltiad, yma, rhwng gwasanaethau sydd wedi'u datganoli a rhai nad ydyn nhw wedi eu...
Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio?
Mark Reckless: A gaf i ofyn iddo, gyda'i brofiad hir, pam mae ef yn credu bod pethau wedi newid cymaint fel bod gennym erbyn hyn bresenoldeb a chyfranogiad da mewn dadleuon fel hon, ond nad oedd llawer yn mynychu yn y gorffennol?
Mark Reckless: Mae'n dibynnu at ba gyngor yr ydych yn cyfeirio ato. Byddai rhai o'r gweithgareddau a wneir gan gynghorau unedol yma yn cael eu cyflawni gan daleithiau yn yr Unol Daleithiau, sydd wrth gwrs yn llawer mwy. Ond yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw: rwy'n credu bod 22 yn ormod, ac rwy'n credu y dylem ni fynnu bod cynghorau lleol yn uno ag o leiaf un arall. Rwy'n credu y dylai Caerdydd a Phowys fod...
Mark Reckless: Felly, er ein bod yn credu bod £52 miliwn yn gryn dipyn i Lywodraeth Cymru ei wario ar Faes Awyr Caerdydd, o'i gymharu ag amcangyfrif KPMG o brisiad o rhwng £25 miliwn a £35 miliwn, mae'n awgrymu, mewn gwirionedd, bod y £52 miliwn yn cymharu'n weddol dda â'r £40 miliwn, pan oedd gan Gaerdydd 1 filiwn o deithwyr o'i gymharu â'r 130,000 yn y fan honno, ond ai dyna'r prisiad cywir, wn i...
Mark Reckless: Diolch i Rhun am ei gyfraniad yna ac am ei wasanaeth ar y Pwyllgor Cyllid. Mae'n ddrwg gennym ein bod wedi ei golli. Ac rwyf hefyd yn croesawu Nick Ramsay yn ôl i'r Siambr ac yn diolch iddo am ei gyfraniad. Soniodd am y maes awyr, ac yr oedd y Ceidwadwyr yn beirniadu'r gwariant ychwanegol ar hwnnw, a daeth Carwyn Jones, y cyn Brif Weinidog, nad yw yn ei le mwyach, yn ôl drwy ddweud: 'Wel,...
Mark Reckless: Roeddwn i yn credu ein bod ni wedi bod yma o'r blaen, ond diolchaf i'r Gweinidog, sydd wedi ymddiheuro'n ormodol ac efallai, rwy'n credu, wedi mynd ymhellach na'r angen o ran derbyn neu ymddiheuro am gamgymeriad. Ac rwy'n credu y byddwn i'n dweud hefyd fy mod i'n credu mai mater i ni fel Cynulliad yw hwn. Buom yn trafod hyn o'r blaen, siaradais i ac ni sylwais i fy hun ar y gwall hwn na...
Mark Reckless: Diolch. Wrth gwrs, nid fi sy'n dweud y pethau hyn, ond y cwmnïau ceir, fel yr adroddwyd yn y Financial Times. Ond ni ddylai fod yn syndod, pan fo'r UE yn gwerthu gwerth £265 biliwn o nwyddau i ni, a'n bod ni ddim ond yn gwerthu gwerth £170 biliwn o nwyddau iddyn nhw, os byddwch chi'n gwneud masnach yn ddrytach trwy dariffau, y byddai'r broses gynhyrchu yn adleoli ar sail net o'r UE i'r DU...
Mark Reckless: Nawr ein bod ni wedi gadael yr UE, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, sut y dylid ymgynghori â Llywodraeth Cymru ar gytundebau masnach yn y dyfodol a beth yw eich blaenoriaethau? Wrth gwrs, pe byddai Llywodraeth y DU wedi gwrando arnoch chi o'r blaen, pan ddywedasoch y byddai tariffau'n dinistrio diwydiant ceir y DU drwy beri iddo adleoli i'r UE, efallai y bydden nhw'n synnu o glywed y...