Baroness Mair Eluned Morgan: Mae pob plentyn yn cael ei warchod gan gyfuniad o sgrinio ac imiwneiddio, yn ogystal ag archwiliadau ar ôl geni ac ar ôl chwe wythnos, er mwyn hyrwyddo canfod abnormaleddau yn gynnar. Ar gyfer plant â phroblemau difrifol ar y galon, mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn comisiynu ystod gynhwysfawr o wasanaethau.
Baroness Mair Eluned Morgan: Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd o ansawdd uchel, sy’n ddiogel a chynaliadwy, i'w boblogaeth leol, a hynny ar sail y dystiolaeth a'r cyngor clinigol gorau a diweddaraf.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn, a diolch am eich dyfalbarhad ar y mater hwn. Rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn. Ond mae'n eithaf amlwg, er hynny, mai'r hyn rwyf fi wedi sylwi arno yw bod nifer y bobl sy'n cwyno wedi lleihau ychydig yn ddiweddar, a rhan o'r rheswm am hynny yw oherwydd bod y system diwygio contractau newydd yn dechrau cael effaith. Felly, y system diwygio contractau a gyflwynwyd gennym,...
Baroness Mair Eluned Morgan: Rwy'n deall cryfder y teimladau ar hyn, yn enwedig yn sir Drefaldwyn ac yng ngogledd Cymru, lle mae canolfannau'r ambiwlans awyr wedi'u lleoli ar hyn o bryd. Mae hon yn elusen annibynnol. Mae'n elusen annibynnol, a'r hyn rydych chi wedi gofyn i ni ei wneud yw sicrhau bod y data a'r cyflwyniad ar gael. Nawr, fy nealltwriaeth i yw bod y cyflwyniad hwnnw wedi'i gynnig i Aelodau'r Senedd ac mewn...
Baroness Mair Eluned Morgan: Bwrdd Iechyd Addysgu Powys sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i'w boblogaeth. Rydym yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd ar achosion busnes ar gyfer datblygiad llesiant gogledd Powys a gwaith adnewyddu yn ysbyty Llandrindod.
Baroness Mair Eluned Morgan: Rwy'n credu bod rhoi sylw i hyn yn bwysig iawn. Dyna un o'r ffyrdd i wneud yn siŵr fod meddygon teulu yn gwybod am yr adnoddau sydd ar gael fel eu bod yn gallu chwilio am y symptomau hynny a bod yn fwy ymwybodol. Felly, rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Ac fel y dywedwch, mae'n rhaid inni wahaniaethu rhwng y ddau gyflwr, ac mae'n bwysig iawn. Rwy'n meddwl ei bod yn werth dweud bod y math...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Sarah, a diolch am fynychu'r digwyddiad yr wythnos diwethaf, digwyddiad y credaf ei fod yn ddefnyddiol iawn. Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi ariannu prosiect sbotolau ar glefyd llid y coluddyn, a digwyddodd hynny rhwng 2017 a 2022. Cynhyrchodd adnoddau defnyddiol iawn ar gyfer pobl mewn gofal sylfaenol, ac mae'r adnoddau hynny ar gael o hyd ar wefan Coleg...
Baroness Mair Eluned Morgan: Mae sicrhau bod y prawf calprotectin ysgarthion sydd ar gael i holl feddygon teulu Cymru yn un o gamau allweddol rhaglen y clefyd llid y coluddyn. Mae cynnydd da yn cael ei wneud yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, yn ogystal â byrddau iechyd eraill ledled Cymru.
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, gallaf ddweud wrthych nad oes neb ei eisiau lai na minnau. Rwy'n poeni'n fawr am nyrsys yn mynd ar streic ynghanol gaeaf anodd iawn. Rwy'n deall eu safbwynt, ac rwyf mewn sefyllfa lle rwy'n ceisio ymwneud ag undebau llafur. Felly, cyfarfûm â Choleg Brenhinol y Bydwragedd y bore yma a thrafodwyd mater cyflog, yn amlwg. Cefais gyfarfodydd hefyd gyda chynrychiolwyr Unite ddydd Llun....
Baroness Mair Eluned Morgan: Nid wyf yn gwrthod cymryd rhan. Yn wir—
Baroness Mair Eluned Morgan: Na. Fe atebaf y cwestiwn os gadewch imi wneud hynny. Nid wyf yn gwrthod cymryd rhan, mae gennyf gyfarfod wedi'i drefnu ar gyfer diwedd y mis hwn gyda'r holl undebau llafur ac maent i gyd eisiau siarad am gyflogau. Felly, nid oes gennyf broblem gyda hynny ac nid wyf yn gwybod o ble y cawsoch chi'r wybodaeth honno.
Baroness Mair Eluned Morgan: Iawn, gadewch inni—. A gawn ni geisio—[Torri ar draws.]
Baroness Mair Eluned Morgan: A gawn ni geisio parhau? Rwy'n hapus i barhau.
Baroness Mair Eluned Morgan: Iawn, gadewch inni barhau. Gadewch inni barhau. Gallwn fynd ar drywydd hyn wedyn. Gallwn fynd ar ei drywydd wedyn. Gwrandewch, gadewch i mi ddweud wrthych—[Torri ar draws.]
Baroness Mair Eluned Morgan: Nid wyf yn gwybod—. Mae'n wir i mi gwestiynu cyn imi gerdded i mewn yma pam fy mod yn ateb cwestiynau gan lefarydd sy'n llefarydd ar ofal ynghylch materion sy'n gysylltiedig ag iechyd. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y gallai'r Llywydd edrych arno o bosibl.
Baroness Mair Eluned Morgan: Felly, yn sydyn iawn, fi sy'n gyfrifol am gynnwys cyfryngau cymdeithasol pawb o fewn y grŵp Llafur. Mae'n ddrwg gennyf, bobl, nid wyf am gymryd hynny. Mae gennyf ddigon o gyfrifoldeb fel y mae. Nid oedd Ann yn y Llywodraeth, ac rwy'n meddwl bod yn rhaid i chi ddeall hynny. Os yw hynny'n wir, rwy'n mynd i'ch gwneud chi'n gyfrifol am yr hyn a ddywedodd Liz Truss. A ydych chi eisiau gwneud...
Baroness Mair Eluned Morgan: Siaradwch â'ch penaethiaid yn Llundain, dywedwch wrthynt am roi mwy o gyfalaf i mi ac fe wnaf ystyried beth y gallwn ei wneud yng ngogledd Cymru.
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, nid oeddwn yn y Senedd 10 mlynedd yn ôl hyd yn oed, felly ni allaf ddweud wrthych, ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw bod gwneud—. Mae'n rhaid i chi ystyried bod bil o £22 miliwn yn wahanol iawn i'r hyn fyddai'r bil heddiw, sef £80 miliwn—a yw'n £80 miliwn, tua £80 miliwn; £74 miliwn neu oddeutu hynny—sy'n wahaniaeth sylweddol. A gadewch inni gofio bod hyn pan nad yw'r...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Peter. Ac rydych chi'n hollol iawn—mae'r heriau mewn perthynas â throsglwyddo cleifion mewn byrddau iechyd yn rhywbeth rwyf fi, fel y Gweinidog iechyd, yn cadw'r pwysau arno. Beth sy'n ddiddorol—. Felly, rydym wedi gofyn i bob bwrdd iechyd nawr i ddangos i ni beth yw eu cynllun. Ac mae'n ddiddorol iawn, achos mae'r cynlluniau yn dra gwahanol o un bwrdd iechyd i'r llall....
Baroness Mair Eluned Morgan: Wyddoch chi, nid wyf yn mynd i oddef mwy o hyn mwyach; rwy'n dechrau cael llond bol arno. Yr holl waith a wnaethom ar hyn, y gwahaniaeth y mae'r £25 miliwn a roesom tuag at y chwe nod gofal brys ac argyfwng—rwy'n effro'r nos, nid yn unig yn poeni am y dyfodol, ond yn poeni sut y gallai'r dyfodol fod wedi bod pe na baem wedi darparu'r holl fuddsoddiad hwnnw. Felly, i roi ychydig o...