Lesley Griffiths: Diolch. Rydych yn codi pwynt pwysig iawn. Os meddyliwn ni amdano, parafeddygon yn aml, neu fel arfer, yw'r cyntaf ar y lleoliad ar ôl yr alwad 999 honno, ac rwy'n deall yn llwyr y pwynt rydych chi'n ei wneud. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn hapus iawn i edrych ar beth arall y gallwn ni ei wneud.
Lesley Griffiths: Rydyn ni'n cefnogi'r datblygiad hwn yng Nghaerdydd ac mae'n cyd-fynd â buddsoddiad Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, nid oedd Llywodraeth Cymru yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r gronfa ffyniant bro ac nid yw wedi cael unrhyw rôl yn ei strategaeth na'i chyflawniad.
Lesley Griffiths: Rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein gweithlu yn y GIG i wella profiad i gleifion a staff, gan gynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer lleoedd hyfforddi ychwanegol i barafeddygon ac ystod o broffesiynau iechyd eraill yn 2023-24. Dyma'r nawfed flwyddyn yn olynol i gyllidebau addysg a hyfforddiant proffesiynol iechyd gynyddu yng Nghymru.
Lesley Griffiths: Diolch. Hoffwn longyfarch Cwm Taf ar ennill eu gwobr. Mae nifer o wasanaethau digidol tebyg ar gael yn y farchnad, ac rwy'n gwybod bod byrddau iechyd yn gweithio gyda nifer o ddarparwyr i ddeall sut y gallant effeithio ar ddarparu gwasanaethau, ac mae hynny'n cynnwys teclyn sydd wedi ei dreialu o dan y fenter ymchwil busnesau bach, sy'n cael ei gynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi...
Lesley Griffiths: Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, yn yr un modd â byrddau iechyd eraill yng Nghymru, yn mabwysiadu ac yn defnyddio technoleg fodern ar draws ei holl safleoedd, gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, i weld a chefnogi cleifion yn y ffordd fwyaf priodol.
Lesley Griffiths: Diolch. Mae'n hyfryd gweld Lucy ac Elliot i fyny yn yr oriel gyhoeddus. Rwy'n gobeithio bod Elliot yn cael y gofal sydd ei angen arno a'n bod yn gweld cynnydd o ran datblygu triniaethau yn y maes hwn. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi penodi arweinydd arbenigol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer clefydau niwroleg a niwroddirywiol, ac mae hynny er mwyn gallu agor astudiaethau ar draws...
Lesley Griffiths: Yn bendant. Os gofynnwch chi i unrhyw un, 'Beth mae ffermwyr yn ei wneud?', dyna'r peth cyntaf y byddan nhw'n ei ddweud, 'Maen nhw'n cynhyrchu ein bwyd.' A bydd Jane Dodds yn gwybod wrth wraidd y Bil mae'r amcan i sicrhau cynaliadwyedd ein ffermydd ac mae'n cydnabod amcanion cydategol cefnogi ffermwyr wrth gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, a hynny ochr yn ochr â'r ymateb i'r argyfyngau hinsawdd...
Lesley Griffiths: Ie, mewn cysylltiad â rhan olaf eich cwestiwn, rwy'n cytuno'n llwyr, ac rwy'n credu ein bod ni wedi cael trafodaethau cynhyrchiol iawn ynghylch hynny i weld beth allwn ni ei wneud. Yn sicr, roedd y cyhoeddiad ynglŷn â chau—neu'r bwriad i gau—safle dofednod 2 Sisters yn Llangefni yn ddinistriol, ac mae'n ddinistriol i'ch etholaeth chi. Roedd yn gwbl annisgwyl. Doedd gennym ni ddim...
Lesley Griffiths: Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ei disgwyliadau mewn cyfres o ddatganiadau o safon sy'n disgrifio ffurf gwasanaethau clinigol da. Rydyn ni hefyd yn buddsoddi yng ngweithlu'r GIG yng Nghymru drwy gynyddu lleoedd hyfforddi ar gyfer nifer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Lesley Griffiths: Wel, mae'r strategaeth bwyd cymunedol yn ymrwymiad maniffesto yr oeddwn yn sefyll arno. Rydyn ni'n cyflwyno'r strategaeth bwyd cymunedol fel rhan o'r cytundeb cydweithredu gyda Phlaid Cymru, ac, yn amlwg, mae gennym bum mlynedd i gyflwyno'r strategaeth honno a bydd yn cael ei chyflwyno yn ystod tymor y Senedd hon. Fe wnaethoch chi sôn am Fil bwyd Peter Fox. Mae'n rhaid i mi ddweud bod Bil...
Lesley Griffiths: Diolch. Fel y dywedais i, mae cyflenwad bwyd wedi'i integreiddio'n llwyr ar draws y DU. Mae gennym gadwyni cyflenwi rhyngwladol amrywiol iawn hefyd ar gyfer mewnforion ac allforion. Nid wyf yn credu bod prinder cyffredinol o ffrwythau a llysiau. Maen nhw ar gael yn eang. Felly, nid wyf yn credu bod risg i naill ai'r polisi prydau ysgol am ddim nac i iechyd y cyhoedd. Rydym yn ceisio mynd i'r...
Lesley Griffiths: Mae'r system fwyd yn gweithredu ar sail y DU gyfan. Felly mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig i nodi risgiau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i'w rheoli. Yng Nghymru, rydym ni'n hyrwyddo diogelwch bwyd trwy fuddsoddi yn y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd, cefnogi amaethyddiaeth, a darparu cefnogaeth sylweddol i amrywiaeth eang o brosiectau cymunedol.
Lesley Griffiths: Diolch i chi, ac yn sicr fe fyddwn i'n cytuno â'r Aelod ei fod yn bryderus iawn, a dedfrydu'r person ifanc o Gaerdydd y cyfeirioch chi ato—roedd yn ystod o droseddau, gan gynnwys troseddau o dan ddeddfwriaeth derfysgol. Beth mae hynny'n ei wneud mewn gwirionedd yw ein hatgoffa bod eithafiaeth yn fater real iawn, iawn ar draws y DU. Yn amlwg, mae ein sector addysg yn chwarae rhan hynod...
Lesley Griffiths: Gan weithio mewn partneriaeth â phlismona gwrthderfysgaeth, rydym wedi cynhyrchu fideos ac adnoddau ar atal radicaleiddio ac eithafiaeth, a gyflwynir mewn ysgolion gan ein swyddogion SchoolBeat. Mae ein bwrdd Prevent yn dod â phartneriaid at ei gilydd i oruchwylio gweithgareddau yng Nghymru sydd wedi'u cynllunio i amddiffyn y rhai sydd fwyaf agored i radicaleiddio.
Lesley Griffiths: Wel, yn ôl y ffigurau sydd gen i o fy mlaen ynghylch ystadegau gweithlu'r GIG—ac mae hyn yn ymwneud â staff sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol—mae'r gweithlu bellach ar y lefelau uchaf erioed. Mae gennym fwy na 105,000 o bobl, 90,943 cyfwerth ag amser llawn, yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan sefydliadau GIG Cymru. Mae'r holl staff—rydych chi'n sôn am nyrsys, rydych chi'n sôn am...
Lesley Griffiths: Wel, yn anffodus, byddai hyd yn oed cynnydd o 1 y cant dim ond yn rhoi—rwy'n credu ei fod tua £55 miliwn, sydd, yn amlwg, ddim yn agos at fod yn ddigon o arian ar gyfer yr hyn sydd ei angen arnom. Yr hyn sydd ei angen arnom yw cynnydd yn ein cyllideb. Byddwch chi'n gwybod beth yw'r holl anawsterau—o fod yn y cytundeb cydweithredu, byddwch chi'n gwybod yr holl ffeithiau a'r ffigurau sy'n...
Lesley Griffiths: Diolch. Fel y gwyddoch chi, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i ymgysylltu ag undebau llafur. Rwy'n gwybod bod ei swyddogion hi wedi cwrdd â'r undebau llafur heddiw ac rwy'n credu eu bod nhw'n bwriadu cwrdd eto'r wythnos nesaf. Rydyn ni eisiau cadw ein drws ar agor; rydyn ni eisiau parhau i gael trafodaethau, yn amlwg, i gefnogi ein staff GIG. Fel y dywedoch chi,...
Lesley Griffiths: Wel, wrth gwrs, mae'n ddrwg iawn gennym fod unrhyw un yn gorfod byw gyda'r pryderon hynny. Ond, fel rwy'n dweud, roedd hi'n bwysig iawn ein bod ni wedi cymryd cam yn ôl ac edrych ar ba waith y gellid ei wneud, ac, fel rwy’n dweud, mae gan y Gweinidog raglen waith i gynorthwyo'r bobl yma.
Lesley Griffiths: Felly, mewn cysylltiad â rhan gyntaf eich cwestiwn ynghylch cyweirio, rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi bod yn gweithio'n galed iawn i sicrhau rhaglen waith y gellir ei hamlinellu, fel bod pobl yn ffyddiog, oherwydd ni allaf ddychmygu dim byd gwaeth na bod yn berchen ar gartref a gwybod am y drychineb posibl a allai ddod i'w ran. Ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog hefyd yn gweithio'n agos iawn,...
Lesley Griffiths: Diolch. Wel, fel sy'n digwydd yn Lloegr, mae'r Gweinidog yn gweithio'n agos iawn gyda datblygwyr, er enghraifft, ac rwy'n gwybod, ynghylch cytundeb y datblygwyr, mae'r Gweinidog wedi bod yn gwneud hynny. Mae hi hefyd wedi sicrhau bod Aelodau'n cael yr wybodaeth ddiweddaraf, felly rwy'n gwerthfawrogi y bydd gennych yr wybodaeth honno eisoes hefyd. Mae'n amlwg bod y Gweinidog yn cydweithio'n...