Rebecca Evans: Mae ardrethi annomestig wedi bod yn rhan bwysig o'r system cyllid llywodraeth leol ers dros 30 mlynedd, gan godi mwy na £1.1 biliwn yn flynyddol, ac nid yw hwn yn gyfraniad bach at y cyllid sydd ei angen i gynnal y gwasanaethau lleol y mae pawb ohonom yn dibynnu arnynt, ac nid yw'n gyfraniad bach i gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru yn wir. Ond mae'n rhaid cofio bod pob ceiniog yn mynd yn...
Rebecca Evans: Diolch, Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn sicr ar ochr busnesau Cymru, ac rydym yn llawn gydnabod yr heriau y mae busnesau a thalwyr ardrethi eraill yn eu hwynebu o dan yr amodau economaidd presennol, ac yn wir, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn agored i'r un pwysau cyllidebol.
Rebecca Evans: Yn ffurfiol.
Rebecca Evans: Diolch yn fawr iawn i chi am godi hyn a rhoi darlun gwirioneddol gignoeth hefyd o'r heriau sy'n wynebu awdurdodau lleol, yn enwedig y rhai yr oeddech chi'n cyfeirio atyn nhw yn y gogledd. Fe gefais i gyfle yn ddiweddar i gyfarfod ag is-grŵp cyllid Cyngor Partneriaeth Cymru, a gyda phwyllgor gweithredol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd, i siarad am y pwysau sydd ar y gyllideb. Erbyn...
Rebecca Evans: Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiynau hynny. Mae Alun Davies yn gwbl gywir fod yna ganlyniadau gwirioneddol ym mywydau a gweithgarwch pobl o ganlyniad i benderfyniadau Llywodraeth y DU a'r anrhefn yn eu sgil nhw'n ddiweddar, yn bennaf, er enghraifft, gyda'r codiadau yng nghyfraddau morgais y cyfeiriodd y Prif Weinidog atyn nhw yn ei ddatganiad yn gynharach heddiw. Rwy'n llwyr gydnabod yr hyn...
Rebecca Evans: Ond rwy'n credu bod y pwyntiau ehangach yn bwysig iawn o ran cael y sgwrs fwy eang honno am y pwerau sydd ar gael i ni yma yng Nghymru, a sut olwg fyddai ar gyfres well o bwerau. Rwy'n credu bod honno'n drafodaeth sy'n parhau. Mae hi'n gyfredol iawn. Mae'r Sefydliad Materion Cymreig yn gwneud gwaith hynod ddiddorol ar hyn o bryd mewn maes fel hwn, i geisio tynnu pobl eraill a lleisiau eraill...
Rebecca Evans: Rwy'n ddiolchgar iawn am yr holl sylwadau hynny. Rwyf i am ddechrau lle y dechreuom ni'r tro diwethaf pan oeddem ni'n trafod cyllideb fach Llywodraeth y DU, a'r ffaith mai fy marn i yw nad y DU yw'r broblem, Llywodraeth y DU yw'r broblem, ac mae gennym ni gyfle i newid hynny. Rwy'n credu bod sefyllfa'r Prif Weinidog presennol yn gwbl anghynaladwy, yn fy marn i, yn enwedig oherwydd bod y...
Rebecca Evans: Diolch i lefarydd y Ceidwadwyr am y sylwadau hynny y prynhawn yma, ac rwy'n cytuno ag ef, nid yw'r rhain wedi bod yn wythnosau da iawn, a dweud y lleiaf, ac mae hi'n sicr yn siomedig. Rwy'n credu ei fod wedi gwneud y gorau y gallai yn y fan honno i anfon neges bendant at ei gydweithwyr yn San Steffan o ran asesiad y Ceidwadwyr Cymreig o'r traed moch a welsom ni yn San Steffan yn ddiweddar....
Rebecca Evans: A hyn i gyd tra bod cyllidebau aelwydydd yn cael eu gwasgu fwy fyth hyd yn oed a thwll enfawr wedi'i greu mewn cyllid cyhoeddus. Efallai fod y Canghellor newydd wedi dadwneud y rhan fwyaf o'r mesurau i dorri trethi a gyflwynwyd ar 23 Medi, a gafodd eu cynllunio, fel y gwyddom ni, i fod o fantais i'r cyfoethocaf, ond ni all ddadwneud y niwed y mae'r gyllideb fach wedi'i achosi. Gadewch i mi...
Rebecca Evans: Diolch, Llywydd. Ddoe, fe wnaeth y Canghellor diweddaraf wyrdroi llawer o'r penderfyniadau diffygiol a di-hid a gafodd eu gwneud gan ei ragflaenydd a'r Prif Weinidog yn y gyllideb fach lai na mis yn ôl ac a oedd yn faes canolog o raglen dwf honedig y Prif Weinidog newydd. Cafodd datganiad y Canghellor newydd ddoe ei wneud cyn ei gynllun cyllidol tymor canolig ar 31 Hydref, lle y gwnaeth nodi...
Rebecca Evans: Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn hwnnw. Gallaf glywed y Ceidwadwyr yn parablu y tu ôl i mi; rwy'n edmygu'r ffordd y mae arweinydd yr wrthblaid yn cryfhau ei gefnogaeth i Lywodraeth y DU, er bod y marchnadoedd—a phawb—yn amlwg yn ymateb iddo mewn ffordd wahanol iawn i arweinydd y Ceidwadwyr. Mae'n rhaid imi ddweud, fe'i clywais yn dweud mai dim ond dau ragolwg y flwyddyn sydd angen i'r...
Rebecca Evans: Mae'r newidiadau treth a gyhoeddwyd yn y datganiad cyllidol yn ffafrio'r cyfoethog a byddant yn gwaethygu anghydraddoldeb. Nid yw'r datganiad yn rhoi unrhyw gymorth ychwanegol i ariannu gwasanaethau cyhoeddus ar adeg pan fo costau'n codi'n sydyn.
Rebecca Evans: Diolch am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n credu bod yr £1 filiwn sydd wedi'i gyhoeddi yn bwysig iawn ar gyfer helpu i gefnogi rhai o'r canolfannau cynnes hyn, gyda phethau y bydd awdurdodau lleol yn ceisio eu gwneud, a sefydliadau eraill hefyd—eglwysi, sefydliadau trydydd sector, lleoliadau ffydd eraill ac yn y blaen. Yn amlwg, byddwn yn monitro defnydd o'r gronfa honno i ddeall pwy fydd yn...
Rebecca Evans: Fe wneuthum flaenoriaethu cyllid ar gyfer llywodraeth leol yng nghyllideb Cymru fel bod pob awdurdod yng Nghymru yn derbyn cynnydd o fwy na 8.2 y cant yn eu cyllid. Mae ein mesurau costau byw, dros £1.5 biliwn eleni yn unig, yn cefnogi pobl ym mhob rhan o Gymru'n uniongyrchol a thrwy awdurdodau lleol a phartneriaid eraill.
Rebecca Evans: Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn, ac rwyf wedi bod yn hapus iawn gyda gwaith y panel, a barhaodd drwy gydol y pandemig mewn gwirionedd ac a lwyddodd i barhau i gyflawni, oherwydd yn amlwg rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod sefydliadau'r sector cyhoeddus yn cyflawni uchelgais sero net 2030, ac rydym yn gwneud hynny drwy'r panel drwy ddarparu cymorth technegol ac ariannol ar gyfer ynni...
Rebecca Evans: Cafodd y panel ei sefydlu gan gyngor partneriaeth Cymru er mwyn llywio gwaith llywodraeth leol ar newid hinsawdd. Mae ein perthynas yn seiliedig ar bartneriaeth.
Rebecca Evans: Nid wyf yn siŵr o ble mae arweinydd y Ceidwadwyr yn credu bod yr arian hwn yn dod. Nid yw Llywodraeth y DU yn rhoi £50 biliwn i unrhyw un. Mae'n £50 biliwn y mae Llywodraeth y DU yn ei wrthbwyso o ran darparu cyllid ychwanegol i'r cwmnïau ynni, nad ydynt ei angen, ac a fydd yn cael ei fenthyg a bydd gweithwyr ar incwm isel yn talu am hynny am amser hir. Felly, ni fydd awdurdodau lleol yn...
Rebecca Evans: Yn sicr. [Anghlywadwy.]—mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd yn gwneud gwaith ardderchog yn ceisio cyfleu'r heriau sylweddol a real iawn y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu i Lywodraeth y DU ac mae'r heriau hynny'n bwydo i mewn wedyn wrth gwrs i'w cymunedau a bywydau bob dydd y bobl y maent yn eu gwasanaethu yn y cymunedau hynny. Roedd y gyllideb yn gwbl ddinistriol i bobl gyffredin...
Rebecca Evans: Os hoffai'r Aelod rannu'r ohebiaeth honno gyda mi, efallai y gallaf edrych arni'n fwy manwl ac ymateb i chi'n ysgrifenedig pan fyddwn wedi cael cyfle i archwilio'r pryderon ymhellach.
Rebecca Evans: Rwyf wedi ysgrifennu at y Canghellor a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yn nodi bod rhaid rhoi'r flaenoriaeth bennaf i'r argyfwng costau byw a'r argyfwng ynni. Nid oedd cyllideb fach yr wythnos diwethaf yn cynnwys unrhyw beth ar gyfer cymorth costau byw i awdurdodau lleol.