Llyr Gruffydd: Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella seilwaith cymdeithasol canol trefi?
Llyr Gruffydd: Dwi jest eisiau cyfrannu i'r ddadl yma fel Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith, jest i roi gwybod i'r Senedd am y gwaith mae'r pwyllgor yn ei wneud yn y maes yma. Mae amlder gollyngiadau carthion a'u heffaith ar amgylchedd ac iechyd y cyhoedd wrth gwrs yn faes, fel rŷn ni'n clywed, sy'n peri pryder difrifol i'r cyhoedd. Ac mewn ymateb i'r pryder hwn, ac yn sgil...
Llyr Gruffydd: Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i ddod a phartneriaid at ei gilydd i wella rheoli maetholion yn afonydd Cymru?
Llyr Gruffydd: A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl hyd yma. Dwi'n meddwl ei bod hi yn ddadl werthfawr, a dwi'n siŵr bod Mike yn teimlo bod Nadolig wedi dod yn gynnar. Mae e'n cael dadl ar gynrychiolaeth gyfrannol, dadl ar ariannu awdurdodau lleol; dim ond dadl ar glwb pêl-droed Abertawe sydd ei heisiau nawr, ac mi fyddwch chi'n byw'r freuddwyd. [Chwerthin.] Ond, ar nodyn mwy difrifol, dwi...
Llyr Gruffydd: Mi basiwyd y Ddeddf, sy'n caniatáu symud i gynrychiolaeth gyfrannol, dwi'n deall hynny, ond y cwestiwn dwi'n ei ofyn, a beth dwi ddim wedi'i glywed gan y Gweinidog yn ei hymateb, yw: so beth sy'n mynd i yrru'r newid yna? Ble mae'r cymhelliad i gynghorau i fynd i'r afael â hyn go iawn? Mi glywyd y term 'twrcis a Nadolig', ac mae’n wir, ond yw e? Opsiwn yw e, a dwi'n ofni ei bod hi'n...
Llyr Gruffydd: Mi basiwyd Deddf Llywodraeth—
Llyr Gruffydd: Na, mae'n ddrwg gennyf, Mike—rwy'n brin o amser, mae arnaf ofn.
Llyr Gruffydd: Oes gen i'r amser i gymryd ymyriad, Llywydd?
Llyr Gruffydd: Wel, gallaf ddyfynnu Ysgol Economeg Llundain yn ôl atoch, ond fe rannaf y ddolen â chi, ac mae'n eithaf clir mai'r honiad cyntaf a wneir yn aml yw bod y defnydd o'r bleidlais sengl drosglwyddadwy wedi arwain at nifer isel o bleidleiswyr, ac mae hynny'n gwbl anghywir. Felly, mae'n debyg ei fod yn fater o gelwyddau, celwyddau melltigedig, ac ystadegau yn ein hachos ni'n dau, felly, onid yw?...
Llyr Gruffydd: Gaf i yn y lle cyntaf ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl yma? Dwi'n ymwybodol bod y cloc yn fy erbyn i, braidd, ond fe wnaf i drio ymateb i rai o'r pwyntiau sydd ddim wedi cael ymateb iddyn nhw. Mae'n dda gweld bod Gareth Davies wedi dod nôl i'r Siambr ar ôl gadael am y rhan fwyaf o'r drafodaeth ar ôl gwneud ei ymyriad. Mi fyddai wedi bod yn handi ichi fod yma i glywed y ffaith,...
Llyr Gruffydd: Yn hytrach na gofyn sut y mae atal ceir rhag segura, dylai'r Ceidwadwyr fod yn gofyn sut y mae atal ceir rhag mynd ar y ffordd yn y lle cyntaf. Ac mae'r Dirprwy Weinidog yn iawn. Y cwestiwn ehangach yma yw: a ydym o ddifrif ynglŷn â newid hinsawdd? Ac os ydym, a ydym o ddifrif ynghylch newid dulliau teithio a lleihau gorddibyniaeth pobl ar geir? A ydym o ddifrif fod hynny'n rhan o'r ateb?...
Llyr Gruffydd: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Llyr Gruffydd: Meddwl ydw i tybed a ydych chi o'r farn pe byddai'r heddlu'n cael ei ariannu'n briodol gan Lywodraeth y DU, yna ni fyddai angen i Lywodraeth Cymru ei roi arian i'w helpu a darparu hwnnw?
Llyr Gruffydd: Rhaid i ni beidio â'i ystyried ar ei ben ei hun. Mae angen i ni edrych, wrth gwrs, yn fwy eang y tu hwnt i'r setliad ar y swyddogaeth ehangach sydd gan Lywodraeth Cymru o ran ymdrin â rhai o achosion sylfaenol troseddu, ac mae gwir angen i'r cyllidebau craidd gan Lywodraeth Cymru sicrhau ein bod ni'n darparu'n ddigonol ar gyfer gwasanaethau ieuenctid, ar gyfer rhaglenni camddefnyddio...
Llyr Gruffydd: A gaf innau hefyd ategu diolch y Gweinidog i'r heddlu am y gwaith maen nhw wedi ei wneud ac yn ei wneud, yn enwedig o dan yr amgylchiadau heriol eithriadol dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf yma? Fyddwn ni ddim yn gwrthwynebu'r cynnig sydd o'n blaenau ni heddiw, ond mae yna ychydig sylwadau dwi'n awyddus i'w gwneud, yn bennaf, wrth gwrs, y ffaith ein bod ni'n teimlo nad yw'r fformiwla yn...
Llyr Gruffydd: Diolch, Lywydd. Wel, fe ddaeth y newyddion echrydus o drist am golli Aled fel sioc aruthrol, wrth gwrs, i nifer ohonom ni. Roeddwn i yn ymwybodol nad oedd e wedi mwynhau'r iechyd gorau yn y flwyddyn ddiwethaf, ond pan dorrodd y newyddion ddoe, fe'n siglwyd ni i gyd gan golli gŵr a oedd yn berson didwyll, cynnes, ffraeth ac angerddol iawn. Ond angerdd addfwyn oedd yn perthyn i Aled—rhywun a...
Llyr Gruffydd: Pa gamau ychwanegol mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau nad ydi pobl yn llwgu yn wyneb yr argyfwng costau byw?
Llyr Gruffydd: —sy’n gymesur â'i rôl a'i chyfrifoldebau. Dŷn ni ddim eisiau bod nôl yn trafod hwn eto flwyddyn nesaf. Diolch.
Llyr Gruffydd: Ac, wrth gwrs, rŷn ni'n gwybod hefyd—dyw e ddim yn rhywbeth newydd—petai cyllidebau Cymru wedi cadw lan â chwyddiant, yna, fel mae'r Gweinidog yn ein hatgoffa ni'n gyson, mi fyddai yna £3 biliwn ychwanegol yn y gyllideb rŷn ni'n ei thrafod heddiw, ond, na. Felly, peidied y Ceidwadwyr â dod fan hyn a dweud wrthym ni pa mor lwcus ŷn ni. Mae'r gwirionedd i'r gwrthwyneb yn llwyr. Ac,...
Llyr Gruffydd: Dwi am rannu, gyda'ch caniatâd chi, fy nghyfraniad i yn gyntaf yn fy nghapasiti fel llefarydd fy mhlaid ar gyllid, ac wedyn i fynd ymlaen i wneud rhai sylwadau fel Cadeirydd pwyllgor. Yn gyntaf, o safbwynt Plaid Cymru, wrth gwrs, rŷn ni yn croesawu, fel clywon ni gan y Cadeirydd, fod hon, o'r diwedd, yn gyllideb aml-flwyddyn. Dwi'n credu ein bod ni wedi aros rhyw bum mlynedd, dwi'n meddwl,...