Mark Drakeford: Wel, Llywydd, diolch i Sam Kurtz am y cwestiwn yna, ac rwy'n ei longyfarch ar gynnal y digwyddiad clwstwr ynni'r dyfodol heddiw; rwy'n meddwl ei fod yn ddigwyddiad gwych i'w gael yma yn y Senedd. Ac rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd yr Aelod am y posibiliadau aruthrol sydd gan ynni adnewyddadwy, gan gynnwys gwynt arnofiol ar y môr a phrosiectau eraill yn y môr Celtaidd, i'w ran ef o...
Mark Drakeford: Llywydd, mae buddsoddi mewn seilwaith ffisegol, a gweithlu sy'n fedrus ar gyfer y dyfodol, ymhlith y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi technolegau ynni yn y môr Celtaidd.
Mark Drakeford: In the six months following publication of the planned care recovery programme, long waits in the Welsh NHS have fallen by 23 per cent. That is the result of significant additional investment, expanded facilities, service reform and, most of all, the enormous effort of NHS staff themselves.
Mark Drakeford: Public transport connects people to one another, binds communities together and enables businesses to grow and expand. Llwybr Newydd – the Wales Transport Strategy, sets our plans for an accessible, sustainable and efficient transport system; not just in South-East Wales, but across the nation.
Mark Drakeford: People are experiencing the biggest fall in living standards since records began and the economy is in recession as a result of the UK Government’s mishandling of our economy. Our ongoing analysis of the crisis is helping to prioritise spending and target action to support the most vulnerable households.
Mark Drakeford: Tackling child poverty is a key priority for the Welsh Government. We fund a range of programmes which support better outcomes, such as financial help with the cost of the school day, our childcare offer and initiatives helping young people across Wales reach their potential including our Young Person’s Guarantee.
Mark Drakeford: Mae yna bethau pwysig sydd angen eu gwneud yn y gogledd. Nid ydw i'n anghytuno â hynny. Nid ydw i'n anghytuno y gallai hynny olygu bod mwy o gyfrifoldebau'n cael eu cyflawni ar y gwahanol lefelau bro yn y gogledd. Ond y syniad mai ad-drefnu llwyr yw'r hyn sydd ei angen ar wasanaethau iechyd yn y gogledd, ac y byddai hynny'n arwain at ddatrys y problemau yr amlinellodd yr Aelod yn ei gwestiwn...
Mark Drakeford: Wel, dwi'n clywed beth mae'r Aelod yn ei ddweud, wrth gwrs. Yr unig bwynt sydd gyda fi i’w ddweud yw’r unig bwynt rydw i wedi’i wneud pan dwi wedi ymateb i’r awgrym yn ôl yn y flwyddyn ddiwethaf. I ailystyried popeth yn y gogledd, i roi y gogledd i mewn i gyfnod o amser pan fydd ansicrwydd am bopeth sydd y tu ôl i’r gwasanaeth iechyd—dydw i ddim yn meddwl bod hynny’n mynd i...
Mark Drakeford: Ar 19 Rhagfyr, cafodd digwyddiad mewnol difrifol ei ddatgan yn y bwrdd. Roedd hyn oherwydd pwysau cynyddol COVID, cynnydd mewn achosion o ffliw, pryder y cyhoedd am strep A, streic nyrsys ar 20 Rhagfyr a streic ambiwlans ar 21 Rhagfyr. Mae datgan digwyddiad fel hyn yn arwain at gamau i leihau'r pwysau ar y system, fel y gwelwyd mewn mannau eraill yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig.
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, rwy'n llongyfarch Mike Hedges ar lwyddiant ei ymdrechion lobïo ar ran ei etholwyr yn Llansamlet. Rwy'n gwybod bod Trafnidiaeth Cymru, sy'n gyfrifol am y gwasanaeth rheilffyrdd, wrth gwrs, yn gweithio'n galed i geisio sicrhau bod yna ystod uwch a mwy o docynnau integredig ar gael i'w gwneud hi'n haws i bobl deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Yn y pen draw,...
Mark Drakeford: Diolch i Mike Hedges, Llywydd. Mae creu Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin yn allweddol er mwyn gwella cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus rhwng Abertawe a'i hawdurdodau partner. Mae'r pwyllgor hwnnw wedi cwrdd yn rheolaidd yn 2022, a bydd swyddogion Llywodraeth Cymru'n cwrdd ag arweinwyr y pwyllgor yr wythnos nesaf i fwrw ymlaen â datblygu cynllun trafnidiaeth rhanbarthol.
Mark Drakeford: Llywydd, a gaf i ddechrau drwy groesawu'r adroddiadau a welwyd heddiw o gynnydd mewn trafodaethau rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r Comisiwn Ewropeaidd ar fater protocol Gogledd Iwerddon? Wrth wraidd hynny bydd mater aliniad rheoleiddiol, y mae Joyce Watson wedi cyfeirio ato. Er mwyn gallu gwneud yn siŵr bod allforion Cymru'n cael mynediad dilyffethair i farchnad yr Undeb Ewropeaidd,...
Mark Drakeford: Diolch i Joyce Watson, Llywydd. Mae amodau masnachu byd-eang yn parhau i fod yn anrhagweladwy wrth i ni fynd i mewn i 2023. Yn ogystal â'r cythrwfl a grëwyd gan ymosodiad Rwsia ar Wcráin, mae allforwyr o Gymru yn wynebu rhwystrau newydd rhag masnachu gyda'n marchnad agosaf a phwysicaf. Rydym yn cynnig cymorth ymarferol i bartneriaid i addasu i amgylcheddau masnachu newydd a dod o hyd i...
Mark Drakeford: Rwyf eisoes wedi nodi y prynhawn yma gyfres o bethau mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod y gwasanaeth iechyd mewn sefyllfa i drin pobl yn amserol. Dyna ein huchelgais, ac rwy'n siŵr mai dyna uchelgais Aelodau ar draws y Siambr. Fel yr wyf wedi dweud, roedd arosiadau dwy flynedd ym mwrdd iechyd Bae Abertawe 26 y cant yn is ar ddiwedd mis Hydref nag yr oedden nhw ddiwedd Mawrth y...
Mark Drakeford: Rydym wedi ymrwymo i leihau amseroedd aros ledled Cymru gyfan, gan fuddsoddi £170 miliwn yn rheolaidd i gefnogi gwelliant, a £15 miliwn i gefnogi trawsnewid gwasanaethau. Mae data mis Hydref yn dangos bod nifer yr arosiadau dros ddwy flynedd wedi gostwng 26 y cant ers mis Mawrth 2022, ym mwrdd iechyd Bae Abertawe.
Mark Drakeford: Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn mae Ken Skates wedi ei ddweud. Mae hon wedi bod yn ddadl sydd wedi polareiddio tu hwnt. Y swyddogaeth briodol i wleidyddion etholedig, rwy'n credu, yw annog deialog, yn hytrach na cheisio dwysáu gwrthdaro. Cefais fy synnu gan ymateb Llywodraeth y DU. Maen nhw'n bygwth defnyddio grym sydd erioed wedi cael ei ddefnyddio yn holl hanes datganoli. Mae'n ymddangos eu...
Mark Drakeford: Wel, yn sicr ni fyddaf yn diystyru unrhyw ddeddfwriaeth o'r fath, Llywydd, nac ychwaith yn derbyn bod Bil yr Alban wedi'i ruthro drwy Senedd yr Alban. Rwy'n wir wedi cael cyfle i glywed yn uniongyrchol gan Brif Weinidog yr Alban am hynt y Bil hwnnw, ac fe'i trafodwyd yn drylwyr iawn ac yn ofalus iawn trwy weithdrefnau Senedd yr Alban ei hun. Cafodd ei gefnogi, yn y diwedd, gan Aelodau o bob...
Mark Drakeford: Nid yw'r pwerau sydd ar gael yn Yr Alban wedi'u datganoli i Gymru ar hyn o bryd. Byddwn ni'n ceisio'r pwerau hynny, fel y nodir yn y rhaglen lywodraethu. Wrth gwrs, bydd defnydd deddfwriaethol o unrhyw gymhwysedd newydd yn rhywbeth i'r Senedd ei hun ei bennu.
Mark Drakeford: Diolch i Joyce Watson am y pwynt pwysig yna, Llywydd. Rydym wedi ymrwymo, ochr yn ochr â'n partneriaid, i sicrhau bod mwy o wybodaeth ar gael i drigolion yng Nghymru fel eu bod, os yw pobl yn bryderus am gyflwr yr afonydd neu'r perygl o lifogydd, yn gwybod ble i fynd i gael yr wybodaeth honno. Mae llawer ohoni, yn anochel, y dyddiau hyn, Llywydd, yn wybodaeth ar-lein ac fe wyddom nad yw...
Mark Drakeford: Llywydd, Diolch i Russell George am y nifer o gwestiynau pwysig y mae wedi'u codi. Mae'n iawn i dynnu sylw at y ffaith, ar draws Cymru heddiw, gyda maint y glaw yr ydym ni wedi'i gael yn ystod yr wythnosau diwethaf a gyda maint y glaw sy'n cael ei ragweld ar gyfer heddiw ac ar gyfer dydd Iau ac i mewn i'r penwythnos hefyd, bydd cymunedau'n bryderus ynghylch beth fydd hyn yn ei olygu iddyn...