Mike Hedges: Rwy'n falch iawn fod gennym, yn etholiad diwethaf y Senedd, nifer mawr o gynghorwyr a fu'n arweinwyr cynghorau, fel Sam Rowlands, dirprwy arweinwyr ac aelodau cabinet wedi eu hethol i'r Senedd—pobl sy'n gwybod yn uniongyrchol am bwysigrwydd gwasanaethau llywodraeth leol a'r arian sydd ei angen i'w rhedeg. Nid wyf bob amser yn cytuno â hwy, ond rwy'n parchu eu gwybodaeth a'u profiad o...
Mike Hedges: Mae'r system bresennol yn golygu wardiau cymharol fach ar y cyfan a mwy o gyswllt rhwng yr etholwyr a'r etholedig. Mae'n golygu, pan fyddwch yn mynd allan i brynu eich papur newydd, yn mynd i siopa, yn ymweld â chlwb chwaraeon lleol, neu'n cerdded ar hyd y stryd, eich bod yn rhyngweithio â phleidleiswyr. Mae'r bleidlais sengl drosglwyddadwy yn system etholiadol a hyrwyddir gan lawer sydd o...
Mike Hedges: Rwy'n croesawu'r datganiad a'r cyhoeddiad yn fawr iawn. Rwy'n dechrau o'r gred y dylai pawb yng Nghymru gael eu talu o leiaf y cyflog byw gwirioneddol, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen i ni fod yn ei wthio ym mhob ffordd bosibl. Yr ail beth yr hoffwn i ei ddweud yw fy mod yn croesawu'r ymrwymiad gwreiddiol i gyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol yn nhymor y Senedd hon, ac rwy'n...
Mike Hedges: Mae gennyf i gais am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth. Yn gyntaf, rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar ddarparu caeau chwaraeon 3G a 4G a chynlluniau i gynyddu'r nifer ledled Cymru. Ni allaf i bwysleisio gormod pa mor bwysig y mae caeau 3G a 4G, sy'n eich galluogi i chwarae am gyfnodau hir ar gae yn hytrach na chael dim ond dwy gêm mewn diwrnod, ac sydd hefyd yn caniatáu iddyn...
Mike Hedges: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen ysgolion a cholegau'r 21ain ganrif?
Mike Hedges: Rwy'n credu mewn rheolaethau rhent, ac nid wyf yn berchen ar unrhyw dai ar wahân i'r un rwy'n byw ynddo. Gyda phrinder eiddo rhent o gymharu â'r galw, heb reolaethau, bydd rhenti'n parhau i gynyddu. O ganlyniad i adeiladu tai cyngor ar raddfa fawr cyn 1979, dirywiodd y sector rhentu preifat. Dechreuodd y sector rhentu preifat dyfu eto ar ôl 1989 a dyma'r ddeiliadaeth fwyaf ond un yn y DU...
Mike Hedges: Wrth symud ymlaen, beth yw sefyllfa cyfraith achosion o Lys Ewrop, megis dyfarniad enwog Bosman? A fyddant yn dal i fod yn berthnasol a ninnau wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac os felly, am ba mor hir? Mae hwn yn fater o gryn ddiddordeb a chanddo sgil-effeithiau enfawr, ac nid yn unig i bêl-droed.
Mike Hedges: Diolch, Sam Rowlands. Y rheswm am hynny, wrth gwrs, yw bod ganddyn nhw fwy o allu i gael arian i mewn o'u treth gyngor. Mae dros hanner yr eiddo yn sir Fynwy yn uwch na band D; ym Mlaenau Gwent, mae ymhell dros hanner ym mand A.
Mike Hedges: Byddai'r ddadl hon yn cael ei gwella pe bai gennym ni gynigion amgen, hyd yn oed os dim ond ar lefel cyllidebau gweinidogol, gan y Ceidwadwyr, nad oedden nhw'n fodlon derbyn unrhyw ymyriadau, a Phlaid Cymru. Mae'n hawdd gwario arian ychwanegol. Efallai y dylech chi ddweud o le yr ydych am ei gymryd. Byddaf i'n cefnogi'r gyllideb, ond y cwestiwn allweddol yw: beth fydd yn cael ei gyflawni am y...
Mike Hedges: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y defnydd o faglau yng Nghymru?
Mike Hedges: Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog ar y gronfa integreiddio rhanbarthol gofal cymdeithasol yn fawr iawn. Mae'n rhaid i integreiddio gofal cymdeithasol ac iechyd, gyda chleifion wrth galon y ddarpariaeth, fod yn rhywbeth i ni i gyd anelu ato. Rwy'n cofio pan lansiodd Jane Hutt y cyd-gynllun gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd cyntaf dros 20 mlynedd yn ôl. Rwyf i wedi galw ers tro am...
Mike Hedges: Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad gan y Gweinidog iechyd. Mae'r cyntaf yn ymwneud â pheidio â dadebru mewn ysbytai. Mae'r grŵp perthnasau mewn profedigaeth yn sgil COVID wedi dweud wrthyf fod peidio â dadebru wedi ei ddefnyddio heb unrhyw drafodaeth gyda pherthnasau. Ni waeth beth yw eich barn ar ewthanasia gwirfoddol, mae'n rhaid i ewthanasia anwirfoddol fod yn destun pryder. A gaf i ofyn...
Mike Hedges: Rwy'n siarad fel rhywun sydd wedi cefnogi prydau ysgol am ddim ers amser maith mewn ysgolion cynradd gwladol, nid yn unig i gefnogi ffermwyr lleol, ond yn bwysicach i mi, i wella iechyd plant a gwella cyrhaeddiad addysgol. Nid yw plant llwglyd yn perfformio'n dda iawn. Ond fy nghwestiwn yw: beth yw'r gwariant cyfalaf amcangyfrifedig sy'n angenrheidiol i gynyddu capasiti ceginau ysgol a...
Mike Hedges: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn Abertawe?
Mike Hedges: Rwy'n croesawu'r datganiad hwn ac yn gobeithio y gallwn ni gael dadl gan y Llywodraeth ar gaffael yn nes ymlaen eleni. Mae caffael yn un o'r ysgogiadau pwysicaf a mwyaf pwerus y gall Llywodraeth Cymru ei ddefnyddio i helpu i sicrhau twf economaidd. Fe all twf economaidd cynaliadwy, gwaith teg, datgarboneiddio a chefnogi'r economi leol i gyd elwa ar strategaeth gaffael flaengar. Mae sector...
Mike Hedges: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ateb? Mae llygredd difrifol yn Afon Tawe, yn enwedig lle mae'n teithio drwy Abertawe. Rydym wedi cael cwestiynau am lygredd yn Afon Gwy yn y gorffennol, ond mae Afon Tawe hefyd wedi dioddef gollyngiadau, fel y soniodd y Prif Weinidog, o waith trin Trebannws, ac mae deunyddiau gwastraff, fel darnau o goed a phlastig, yn achosi llygredd. Dywedir wrthyf...
Mike Hedges: 6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â llygredd yn afon Tawe? OQ57488
Mike Hedges: Rwy'n croesawu'r datganiad yn fawr iawn. Mae pedwar rhanbarth Cymru, yn ogystal â bod yn debyg i'r teyrnasoedd hynafol, yn cael cyfle i ddatblygu polisi rhanbarthol yng Nghymru. Rwy'n cefnogi blaenoriaethau'r fframwaith a'r bargeinion dinesig a thwf, y cytundebau buddsoddi tair ffordd, a gynlluniwyd i sicrhau twf economaidd rhanbarthol parhaol, gan gynnwys y rhanbarth yr wyf i'n byw ynddo....
Mike Hedges: Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth. Y cyntaf yw i'r Gweinidog cyllid roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddefnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol, ac i'r wybodaeth ddiweddaraf gynnwys faint sydd wedi dod i law, ble y mae wedi ei wario, faint sydd wedi ei dalu'n ôl i Lywodraeth Cymru, a chymhwystra cwmnïau cydweithredol i allu manteisio arno. Mae'r ail ddatganiad yr wyf i'n gofyn...
Mike Hedges: Mae anghydraddoldeb iechyd wedi bod yn ffenomen hysbys ers dros 50 mlynedd, pan ysgrifennodd Dr Julian Tudor Hart erthygl yn The Lancet ar y ddeddf gofal gwrthgyfartal. Y ddeddf gofal gwrthgyfartal yw'r egwyddor fod argaeledd gofal meddygol neu gymdeithasol da yn tueddu i amrywio'n wrthgyfartal ag angen y boblogaeth a wasanaethir. Dywedodd: 'Yn yr ardaloedd sydd â'r lefel fwyaf o salwch a...