Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, cefais fy synnu wrth glywed, o bron i 0.5 miliwn o alwadau 999 y llynedd, nad oedd oddeutu chwarter y galwadau yn rhai difrifol. Roedd staff gwasanaeth ambiwlans Cymru yn brysur yn ymdrin â galwadau a oedd yn amrywio o bobl wedi taro bys eu troed i igian, yn hytrach na helpu pobl mewn gwir angen. Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi...
Caroline Jones: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella llesiant staff sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol?
Caroline Jones: Bydd fy mhlaid yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru), gan fod angen dirfawr am agweddau ar y ddeddfwriaeth arfaethedig. Fodd bynnag, bydd angen llawer o ddiwygio ar y Bil cyn iddo fod yn gwbl dderbyniol. Mae angen dyletswyddau gonestrwydd ac ansawdd, ac mae'n hen bryd eu cael. Bydd y dyletswyddau hyn yn meithrin diwylliant gonest...
Caroline Jones: Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Mae hawliau dynol fy etholwyr yn cael eu herydu gan Heddlu De Cymru, eu hawliau erthygl 8 yn bennaf. Mae Liberty a'r Electronic Frontier Foundation yn dadlau bod y defnydd eang o dechnoleg adnabod wynebau, a ddefnyddir gan Heddlu De Cymru, yn amlwg yn groes i'r hawl i breifatrwydd a roddir gan erthygl 8 o Ddeddf Hawliau Dynol 1998. Mae'r Llys Apêl wedi...
Caroline Jones: 2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu hawliau dynol dinasyddion Cymru? OAQ54770
Caroline Jones: Diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon, ac rwy'n falch o gymryd rhan. Ni allwn roi diwedd ar farwolaeth a marw, ond un o'r pethau pwysicaf y gall y wladwriaeth ei wneud yw sicrhau y gall ein dinasyddion farw gydag urddas, heb boen a chyda pharch. Yn anffodus, mae gofal diwedd oes yng Nghymru yn ddiffygiol. Mae oddeutu 33,000 o bobl yn marw yng Nghymru bob blwyddyn, ac...
Caroline Jones: Weinidog, y rhwystr mwyaf i wella ffyniant economaidd Cwm Tawe a Chwm Nedd yw diffyg seilwaith. Er gwaethaf dau ddegawd o gronfeydd strwythurol yr UE, nid oes trafnidiaeth ddibynadwy gan bobl yn fy rhanbarth o hyd. Beth fydd eich Llywodraeth yn ei wneud yn ystod y 12 mis nesaf i wella cysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd yn fy rhanbarth fel y gall fy etholwyr gyrraedd eu gwaith ar amser? A fydd...
Caroline Jones: Rwy'n croesawu cyflwyno Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru). Y ffaith bod sicrwydd indemniad ar gyfer meddygon teulu wedi bod yn cynyddu'n barhaus, a bod hyn wedi cael effaith ar y proffesiwn, yw'r rheswm pam y cefnogais gyflwyno'r cynllun rhwymedigaethau'r dyfodol. Mae'n drist bod y DU yn mynd yn fwy cyfreithgar, ac yn ddiau mae'r cynnydd sylweddol mewn nifer y cwmnïau...
Caroline Jones: Ydy—, ffeithiau ydyn nhw. Felly, Gweinidog, pa obaith sydd gan ddur Cymru os cewch chi eich dymuniad a'ch bod yn cael gwared ar Brexit? Sut bydd eich Llywodraeth yn lliniaru rheolau mwyaf niweidiol yr UE er mwyn achub ein dur? Yn olaf, Gweinidog, rydych yn ymgyrchu i weld, yn amlwg, eich arweinydd chi yn Rhif 10 a John McDonnell yn Rhif 11, ac maen nhw wedi amlinellu llwyth o bolisïau a...
Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Gweinidog, ac wrth gwrs byddwn yn gweithio'n drawsbleidiol dros ein hetholwyr, oherwydd bu hwn yn gyfnod pryderus iddyn nhw, gan fod hanner gweithlu Tata yn y DU yn gweithio yng ngwaith dur Port Talbot lle rwyf i'n byw ac yn ei gynrychioli. Bydd y ffaith bod llawer mwy o swyddi'n cael eu colli yn cael effaith iasol ar dref Port Talbot ychydig wythnosau cyn y Nadolig....
Caroline Jones: Diolch yn fawr, Weinidog. Ers ichi gyhoeddi'r argyfwng hinsawdd yma yng Nghymru, pa gamau penodol a gymerwyd gennych i liniaru effeithiau newid hinsawdd ar y sector bwyd-amaeth? Oherwydd rwy'n pryderu'n benodol am y posibilrwydd y bydd prisiau'n codi, a byddai hynny'n effeithio ar ffermwyr a theuluoedd fel ei gilydd.
Caroline Jones: 7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o sut y gall sector bwyd-amaeth Cymru helpu i liniaru newid yn yr hinsawdd? OAQ54674
Caroline Jones: Diolch am yr ateb hwnnw, Gweinidog. Fel y dywedasoch, unwaith eto, mae ein gweithwyr iechyd proffesiynol yn paratoi eu hunain ar gyfer pwysau'r gaeaf. Felly, pa gamau yr ydych chi wedi'u cymryd i sicrhau bod pob maes a nodwyd dros y blynyddoedd, lle y ceir arfer da, wedi'i wreiddio yn y cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf hon?
Caroline Jones: 8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella cydnerthedd yn y sector iechyd? OAQ54675
Caroline Jones: Yn ffurfiol. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. I'r rhai nad oeddent yn bresennol yn sesiwn friffio Cymdeithas Feddygol Prydain ar gyflwr practisau meddygon teulu yng Nghymru, gadewch i ni ddweud bod y neges yn un enbyd. Fel y crybwyllwyd yn fy ngwelliant i'r cynnig hwn, mae bron 120,000 o gleifion meddygon teulu yn cael gofal mewn practisau sydd...
Caroline Jones: Rwy'n falch o gael siarad yn y ddadl hon heddiw, a diolch i'r Pwyllgor Deisebau am ei chyflwyno, a diolch hefyd i deulu a chyfeillion Paul Ridd am gyflwyno'r ddeiseb. Roedd marwolaeth drasig Mr Ridd yn warth ac amlygodd yn glir fethiannau difrifol yn ein GIG mewn perthynas â chleifion ag anabledd dysgu. Amlygwyd diffyg hyfforddiant ac ymwybyddiaeth o anableddau dysgu fel ffactor a gyfrannodd...
Caroline Jones: Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am ei adroddiad ar ddileu hepatitis C yng Nghymru. Fel y mae'r adroddiad yn nodi, mae tua 14,000 o bobl yng Nghymru wedi'u heintio'n gronig gan y feirws hwn a gludir yn y gwaed ac mae'n gallu arwain at fethiant yr afu a chanser yr afu. Amcangyfrifir hefyd fod y clefyd ar oddeutu 12,000 o bobl yng Nghymru ond nad ydynt yn...
Caroline Jones: Weinidog, er fy mod yn derbyn na ddaeth yr ymchwiliad o hyd i unrhyw dystiolaeth o niwed clinigol ac er nad oedd unrhyw arwydd bod Cwm Taf wedi bod yn ceisio ystumio'r ffigurau'n fwriadol, mae hyn yn codi cwestiynau difrifol ynghylch y ffordd y caiff rhestrau aros eu rheoli, yng Nghwm Taf ac ar draws yr holl fyrddau iechyd. Rwy'n siŵr y gall pob un ohonom yn y fan hon restru enghreifftiau o...
Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Weinidog. Er efallai y gellir cyfiawnhau llawer o'r sylw i dagfeydd ar yr M4 ger Casnewydd a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar economi coridor yr M4 yn gyffredinol, mae fy rhanbarth i hefyd yn dioddef o dagfeydd ar y draffordd. Mae cynnydd o bron i 50 y cant wedi bod mewn traffig ar gyffordd 48 yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae bron i 80,000 o gerbydau y dydd yn...
Caroline Jones: 6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cysylltiadau trafnidiaeth yng Ngorllewin De Cymru? OAQ54625