Canlyniadau 221–240 o 700 ar gyfer speaker:Neil McEvoy

11. Dadl Fer: Gwasanaethau plant: Amser am newid (27 Maw 2019)

Neil McEvoy: Ceir diffyg adnoddau yn y rheng flaen, ond nid mater o arian yn unig ydyw; mae'n ymwneud â sut y caiff yr arian ei wario. Gadewch inni edrych ar blant mewn gofal. Ceir tua 6,000 o blant mewn gofal yng Nghymru. Yn y naw mlynedd diwethaf, mae nifer y plant mewn gofal wedi codi 36 y cant. Felly, ceir 1,700 yn fwy o blant mewn gofal. Mae cyfradd y plant mewn gofal yng Nghymru ar hyn o bryd yn...

11. Dadl Fer: Gwasanaethau plant: Amser am newid (27 Maw 2019)

Neil McEvoy: Iawn. Diolch. Gwasanaethau plant: amser am newid. Mae hwn yn gyfraniad cadarnhaol a negyddol i ddadl sydd angen inni ei chael. Yn Julie Morgan, rwy'n credu bod gennym Weinidog sy'n malio. Felly, credaf fod hwnnw'n fan cychwyn da. Mae pob un manylyn o'r araith hon yn ymwneud ag unigolyn go iawn, sefyllfa mewn bywyd go iawn. Nid oes dim ohono'n haniaethol neu'n academaidd. Weinidog, nid yw'r...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Llosgydd y Barri (27 Maw 2019)

Neil McEvoy: Mae llosgydd y Barri'n drychineb. Nid yw'n syniad da o gwbl. Mae'r Barri yn lle hyfryd i fyw. Mae ganddo arfordir hardd. Mae pobl yn dymuno byw yno, ac mae pobl o bob cwr o'r byd yn mynd i'r Barri gan ei fod yn lle mor wych. Felly, pam ar y ddaear y byddech yn dymuno gosod llosgydd enfawr ar y glannau, dod â sbwriel i mewn o bob man a'i losgi ar arfordir y Barri? A ydych yn cytuno â mi y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Bargen Ddinesig Prifddinas-ranbarth Caerdydd (26 Maw 2019)

Neil McEvoy: Pa gynnydd sydd wedi ei wneud yn rhan o'r fargen ddinesig ar wella seilwaith trafnidiaeth o gwmpas coridor Heol Llantrisant?

5. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) (20 Maw 2019)

Neil McEvoy: Rwy'n datgan buddiant fel cynghorydd sir. Ni fyddaf yn cefnogi'r ddeddfwriaeth hon. Yng Nghatalwnia, maent yn gwleidydda drwy farnwriaeth—yr unoliaethwyr, hynny yw. Ac yn Llafur Cymru, rydym yn gwleidydda drwy dribiwnlys. Mewn gwirionedd, mae'r modd y camddefnyddir y system yn debyg iawn mewn egwyddor. Teimlaf fod gennym system ombwdsmon sy'n brin o uniondeb, yn brin o atebolrwydd ar ran yr...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (19 Maw 2019)

Neil McEvoy: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at Weinidogion Cymru?

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyfoeth Naturiol Cymru (13 Maw 2019)

Neil McEvoy: Byddaf yn cefnogi'r cynnig. I amlinellu fy mhrofiad o ymdrin â Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ôl ym mis Medi 2017—y cyfarfod cyntaf un am y mwd niwclear. I fod yn onest, roedd gennyf hyder llwyr y byddai swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn gallu lleddfu fy mhryderon am y mwd a'r drefn cynnal profion, ac yn y blaen. Nid oeddent yn gwybod dim am y profion, er mai hwy oedd y corff a oedd yn...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru ( 5 Maw 2019)

Neil McEvoy: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu cynlluniau datblygu lleol yng Nghanol De Cymru?

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: 'Busnes Pawb: Adroddiad ar atal hunanladdiad yng Nghymru' (20 Chw 2019)

Neil McEvoy: Mewn cyd-destun, yn yr ychydig fisoedd diwethaf, mae dau o bobl wedi cysylltu â fy swyddfa i ddweud bod ein hymyrraeth wedi eu rhwystro rhag lladd eu hunain. Roedd un yn dad. Roedd un yn fam. Rhaid gwneud rhywbeth. Diolch yn fawr.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: 'Busnes Pawb: Adroddiad ar atal hunanladdiad yng Nghymru' (20 Chw 2019)

Neil McEvoy: Ysgrifennodd etholwr ataf, at bump o ACau eraill ac at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn mynegi pryderon go ddifrifol ynglŷn â chynhadledd genedlaethol Beth am Siarad â Fi? Cefais negeseuon y bore yma gan etholwyr, negeseuon y prynhawn yma, galwad ffôn am tua 8:00 y bore yma i drafod yr adroddiad. Mae etholwyr wedi'u siomi gan yr adroddiad. Nid oeddent yn teimlo bod...

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: 'Busnes Pawb: Adroddiad ar atal hunanladdiad yng Nghymru' (20 Chw 2019)

Neil McEvoy: Rwy'n falch fod yr adroddiad wedi'i wneud, ac rwy'n falch o glywed y byddwch yn dychwelyd at y mater, ond mae bylchau yn yr adroddiad. Hoffwn dalu teyrnged i'r holl waith a wnaed yn y maes hwn. Cyfarfûm â Sefydliad Jacob Abraham, ac maent yn gwneud gwaith gwych yng Nghaerdydd.

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (20 Chw 2019)

Neil McEvoy: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y nifer o eiddo gwag hirdymor yng Nghymru?

QNR: Cwestiynau i Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig (20 Chw 2019)

Neil McEvoy: Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ddyfodol cynhyrchu ynni niwclear yng Nghymru?

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (19 Chw 2019)

Neil McEvoy: Yr wythnos diwethaf, adroddwyd bod Lucy Bagnall wedi cael ei thynnu oddi ar y rhestr o weithiwr cymdeithasol a hynny ar unwaith. Cafwyd hi'n euog ar bob cyfrif gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Daeth i'r amlwg fod Bagnall wedi dweud celwydd am fy etholwyr a honnir hefyd y dywedwyd wrth drydydd parti y byddai gorchymyn gofal sy'n destun dadl yn parhau a bydd y teulu byth yn gweld eu plant eto....

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (12 Chw 2019)

Neil McEvoy: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd llwybrau bysiau i drigolion yng Nghanol De Cymru?

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau: P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb ( 6 Chw 2019)

Neil McEvoy: Diolch i Deffo! ac i'r rhai a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor ac i Stuart Parkinson yn ogystal am e-bostio. Diolch hefyd i Dwylo Creadigol Byddar Caerdydd. Ymwelais â hwy unwaith ac roedd yn brofiad hynod addysgiadol a phleserus. Nid wyf yn credu bod y gymuned fyddar yn cael chwarae teg. Credaf eu bod yn cael eu heithrio i raddau helaeth. Pan lansiais grŵp Propel yn yr hydref—neu yn yr...

1. Teyrngedau i Steffan Lewis AC (15 Ion 2019)

Neil McEvoy: Cofiaf glywed Steffan ar y radio ar gyfer is-etholiad 2006 ym Mlaenau Gwent—ei araith am y datganiad. Roeddwn i yn fy ngwely ac eisteddais i fyny yn y gwely oherwydd bod ei eiriau'n wefreiddiol—yn hynod, hynod ysbrydoledig. Gweithiais gyda Steffan yn 2008, yn etholiadau cyngor Caerffili, a daethon ni i adnabod ein gilydd yn well pan gawson ni ein hethol am y tro cyntaf yn 2016. Ac, ambell...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Tai ( 9 Ion 2019)

Neil McEvoy: A wnewch chi dderbyn ymyriad?

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Tai ( 9 Ion 2019)

Neil McEvoy: Rwy'n derbyn eich pwynt, ac mae'n bwynt dilys iawn, ond a fyddech yn cyfaddef, gyda gwerthiant, y gellir gosod amodau fel nad yw hynny'n digwydd yn y dyfodol? Gellid gwneud hynny'n hawdd.

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Y Cynllun Brecwast am Ddim mewn Ysgolion Cynradd ( 9 Ion 2019)

Neil McEvoy: Diolch, Weinidog. Mae'r ethos wrth wraidd y cynllun yn wych, ond mae rhai o fy etholwyr wedi ysgrifennu ataf yn mynegi pryderon am ei bod hi'n bosibl nad yw rhai plant o gefndiroedd difreintiedig yn gallu elwa ohono, a hynny oherwydd y gallai eu bywydau anodd gartref ei gwneud yn anodd iddynt fynd i'r ysgol ar amser yn gyson i fanteisio ar y bwyd am ddim, a gallai hynny effeithio ar eu dysgu....


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.