Canlyniadau 221–240 o 2000 ar gyfer speaker:Suzy Davies

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (18 Maw 2020)

Suzy Davies: Wel, diolch am eich ateb. Byddaf i, ynghyd â llefarwyr eraill yma, rwy’n credu, yn cysylltu ag aelodau o'r sector addysg uwch i edrych ychydig ymhellach na hynny eto, yn enwedig ar sut y bydd rhai benthyciadau i fyfyrwyr yn cael eu heffeithio gan y ffaith y bydd rhai myfyrwyr yn colli o leiaf un tymor o'u rhaglen astudio yn y bôn, a chredaf fod cwestiwn o degwch yno hefyd. Ond i gloi, ac...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (18 Maw 2020)

Suzy Davies: Wel, diolch am hynny, ac am gadarnhau bod yr holl wledydd yn cydweithio ar hyn. Credaf fod hynny'n sicr yn gwneud synnwyr, yn enwedig wrth inni sôn am arholiadau sy’n cael eu sefyll—ym mlwyddyn 13, ynte—er mwyn camu ymlaen i addysg bellach neu addysg uwch lle mae mwy o gystadleuaeth, gan nad am Gymru'n unig rydym yn siarad. Fodd bynnag, ar y pwnc hwnnw, mae gennyf gryn ddiddordeb ym...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (18 Maw 2020)

Suzy Davies: Diolch yn fawr, Lywydd. Yn gyntaf, Weinidog, a gaf fi ddiolch i chi am y datganiad a wnaethoch cyn inni ddod i'r Cyfarfod Llawn heddiw? Rwy'n siŵr y byddwch yn cael cwestiynau ynglŷn â chau ysgolion, ond bydd fy nghwestiynau'n canolbwyntio ar addysg ôl-16. Fodd bynnag, mae'n anochel fod hynny'n golygu dechrau gyda chwestiwn am y rheini sy'n astudio ar gyfer arholiadau allweddol yn 16, 17...

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwybodaeth ddiweddaraf am Coronavirus (COVID-2019) (17 Maw 2020)

Suzy Davies: Dim ond dau gennyf i. Diolch i chi am gadarnhau y dylai plant sydd â chyflyrau sylfaenol aros gartref os yw hynny'n bosib. Nid wyf i eisiau eich holi chi am ysgolion yn gyffredinol, wrth gwrs, ond i rai ysgolion arbennig dyna'r unig fath o blant sydd ganddyn nhw, felly a oes unrhyw gyngor penodol i ysgolion arbennig lle mai dim ond plant ag anableddau dysgu neu gyflyrau sylfaenol sy'n...

10. Dadl Plaid Cymru: Gwasanaeth damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. (11 Maw 2020)

Suzy Davies: Diolch, Delyth. Nid oeddwn eisiau torri ar eich traws yno, ond mae'r ffigurau hynny hefyd yn dangos bod angen pob un o'r unedau damweiniau ac achosion brys hynny arnom. Os bydd rhaglen de Cymru yn cael ei dileu, ni all hynny fod yn esgus i ddechrau edrych ar gau unedau damweiniau ac achosion brys eraill.

9. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Diagnosis cynnar o ganser (11 Maw 2020)

Suzy Davies: Gwych. Diolch. Mae hyn yn darganfod clefydau eraill hefyd, sydd wedyn yn cael eu trin yn wahanol, ond gyda mwy o frys. Ond yr un peth roeddwn am ei bwysleisio i'r Dirprwy Weinidog yw bod y llwybr byr hwn at ddiagnosis yn rhatach o lawer na'r un hir. Mae'n costio £500 i gael y diagnosis chwe diwrnod hwn a chael eich atgyfeirio at driniaeth, a phum gwaith cymaint â hynny ar y llwybr 80...

9. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Diagnosis cynnar o ganser (11 Maw 2020)

Suzy Davies: Gwnaf. Rwy’n credu bod amser gennyf.

9. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Diagnosis cynnar o ganser (11 Maw 2020)

Suzy Davies: Wel, gallaf—. Rydych yn dewis un o'r enghreifftiau tristaf o bosibl o’r union bwynt hwnnw, Mike, gan y bydd pobl yn teimlo'n sâl ar brydiau amrywiol, a dim ond meddwl, 'O, mae’n rhaid mai feirws sy'n pasio yw hwn' neu beth bynnag, yn hytrach na manteisio ar y cyfle i fynd i mewn i system a allai achub eu bywydau. Un peth da hefyd am y system sydd ganddynt yng Nghastell-nedd Port...

9. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Diagnosis cynnar o ganser (11 Maw 2020)

Suzy Davies: Hoffwn sôn am y syniad o arloesedd yn hyn oll a chrybwyll y ganolfan ddiagnosteg gyflym yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, y bûm yn ymweld â hi ychydig wythnosau yn ôl—gwn fod David wedi bod yno hefyd—a diolch i Helen Gray a Dr Heather Wilkes am yr amser a roesant i ni yno. Maent yn fenywod ysbrydoledig iawn, mae'n rhaid imi ddweud. Mae'r cyfleuster hwn yn dangos beth y gallwch ei...

5. Cwestiynau Amserol: Tata Steel (11 Maw 2020)

Suzy Davies: Diolch, Weinidog. Credaf fod y ffaith—efallai mai memo wedi'i ddatgelu'n answyddogol yw hwn, ond yn amlwg, mae’r Prif Weinidog a chithau wedi bod yn cael sgyrsiau gyda Tata. Mae arwydd yma, onid oes, fod rhywfaint o fanylder wedi'i drafod yma, a bod yn rhaid cael rhywfaint o sicrwydd gan Tata bellach ynglŷn â pha rannau o'u gweithrediadau y maent yn eu hystyried fel y rhai mwyaf bregus...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Cyllideb Llywodraeth y DU (11 Maw 2020)

Suzy Davies: Weinidog, rwy'n gwybod y bydd y coronafeirws wedi effeithio ar unrhyw sgyrsiau rhag-gyllidebol rydych wedi'u cael gyda Gweinidogion y DU, ond pan oeddech yn cael y trafodaethau hynny, tybed beth oedd eich barn ar y cytundebau sector masnach amrywiol sy'n bwysig i Lywodraeth y DU, ac y gall Cymru elwa'n uniongyrchol ohonynt mewn rhai achosion, yn enwedig cytundeb y sector twristiaeth. Rwy'n...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (11 Maw 2020)

Suzy Davies: Diolch am yr ateb hwnnw. Clywsoch gan Rhun ap Iorwerth ychydig yn gynharach heddiw am y diffyg capasiti o fewn adrannau damweiniau ac achosion brys ledled Cymru ar gyfer ymdrin â symptomau tebyg i niwmonia a allai godi o coronafeirws—ystyriaeth arall efallai i'r rhai sy'n pendroni ynglŷn â dyfodol Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar hyn o bryd, sydd hefyd yn gwasanaethu fy etholwyr i. Ar...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (11 Maw 2020)

Suzy Davies: 5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am barodrwydd adrannau damweiniau ac achosion brys yng Ngorllewin De Cymru i fynd i'r afael â coronafeirws? OAQ55216

10. Dadl Fer: Ai clefyd yw gordewdra? ( 4 Maw 2020)

Suzy Davies: Diolch yn fawr. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

10. Dadl Fer: Ai clefyd yw gordewdra? ( 4 Maw 2020)

Suzy Davies: Diolch, Jenny. Galwaf nawr ar Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl—Lee Waters.

10. Dadl Fer: Ai clefyd yw gordewdra? ( 4 Maw 2020)

Suzy Davies: Yr eitem nesaf yw eitem 10—dadl fer gan Jenny Rathbone, os dwi'n iawn fan hyn. Galwaf arni hi i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi hi.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Plant sy'n Derbyn Gofal ( 4 Maw 2020)

Suzy Davies: Rwy'n derbyn y pwynt yn llwyr, ond os ydych mewn byd lle mae cymwysterau'n golygu cymaint, mae angen inni weithredu mewn ffordd nad yw'n atal plant sydd â phrofiad o ofal yn artiffisial rhag gallu gwneud hynny a manteisio i'r eithaf o'u cymwysterau os gallant. Felly, yn sicr nid yw'n wir fod yn rhaid i bawb gael 6,000 TGAU, waeth beth fo'u cefndir.   Serch hynny, credaf fod hwn yn bwynt...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Plant sy'n Derbyn Gofal ( 4 Maw 2020)

Suzy Davies: Diolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl hon. Credaf iddi fod yn ddiddorol iawn hyd yn hyn, ac rwy'n sylweddoli efallai mai prif fyrdwn y ddadl yw lleihau nifer y plant mewn gofal mewn ffordd ddiogel, ond wrth drafod cyfleoedd bywyd, sef pwynt 2 ein cynnig, rwy'n credu bod angen inni edrych ar y berthynas rhwng plant sy'n derbyn gofal a'r system addysg y maent ynddi a'r modd y diwellir...

5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Strategaeth Ryngwladol Ddrafft Llywodraeth Cymru ( 4 Maw 2020)

Suzy Davies: Roeddwn yn disgwyl ychydig mwy o drafferth na hynny, mewn gwirionedd. Darren Millar.

4. Datganiadau 90 Eiliad ( 4 Maw 2020)

Suzy Davies: Diolch yn fawr.


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.