Canlyniadau 221–240 o 10000 ar gyfer speaker:Ken Skates OR speaker:Ken Skates OR speaker:Ken Skates OR speaker:Ken Skates

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Gwaith Dur Trostre yn Llanelli ( 9 Rha 2020)

Ken Skates: A gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiwn? Rydym yn parhau i weithio'n agos iawn gyda Tata Steel, gyda Llywodraeth y DU a'r undebau ar ddyfodol y busnes yn y DU. Siaradodd y Prif Weinidog a minnau â Henrik Adam, prif swyddog gweithredol Tata Steel, ar 13 Tachwedd. Rwyf hefyd wedi cael nifer o gyfarfodydd gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ers hynny, a chynrychiolwyr undebau llafur...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Y Llwybr Coch yn Sir y Fflint ( 9 Rha 2020)

Ken Skates: A gaf fi ddiolch i Mark Isherwood am ei gwestiynau ynglŷn â'r cynllun penodol hwn? Dylwn nodi hefyd, Ddirprwy Lywydd, fod cynyddu'r gofod ffordd sydd ar gael yng ngogledd Cymru ar yr A55 yn nodwedd allweddol ym maniffesto Plaid Geidwadol y DU wrth gwrs, felly dylid cydnabod bod plaid Mark Isherwood ei hun yn cefnogi mesurau a fyddai'n gweld mwy o draffig yng ngogledd Cymru ar y briffordd...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Y Llwybr Coch yn Sir y Fflint ( 9 Rha 2020)

Ken Skates: A gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am ei gwestiwn a dim ond ychwanegu at y pwyntiau roeddwn yn eu gwneud yn sgil cwestiwn Mandy Jones fod y prif bryder ar hyn o bryd ynglŷn â'r effaith amgylcheddol yn ymwneud â'r effaith y gallai ei chael ar goed Leadbrook? Nawr, byddai'n llai na 5 y cant o effaith ofodol, ond wrth gwrs, rydym yn gweithio gyda grwpiau rhanddeiliaid. Rydym yn ceisio...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Y Llwybr Coch yn Sir y Fflint ( 9 Rha 2020)

Ken Skates: A gaf fi ddiolch i Mandy Jones am ei chwestiwn? Rwy'n cytuno bod yna bryderon rydym yn ceisio mynd i'r afael â hwy. Rydym yn ceisio mynd i'r afael â hwy drwy gynnal yr arolygon manwl hynny, drwy ymgysylltu â grwpiau rhanddeiliaid sydd wedi mynegi pryderon, ac wrth gwrs, rydym yn ymgysylltu â'r cymunedau yn yr ardal. Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at Aelodau o'r Senedd ac Aelodau Seneddol...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Y Llwybr Coch yn Sir y Fflint ( 9 Rha 2020)

Ken Skates: Gwnaf, wrth gwrs. Mae ymchwiliadau amgylcheddol ar y gweill ar hyd y llwybr ac rydym yn bwrw ymlaen â'r broses o gaffael cynllunydd i ddatblygu'r cynllun yn fanylach. Yn dibynnu ar y prosesau statudol, gallai'r gwaith cynllunio manwl a'r adeiladu ddigwydd o 2024 ymlaen.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 9 Rha 2020)

Ken Skates: A gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiynau eto a dweud ei bod yn siomedig iawn fod Ineos wedi penderfynu symud i Ffrainc gyda'u rhaglen Grenadier? Mae hwn, wrth gwrs, yn gerbyd eiconig i'r Deyrnas Unedig, ac mae'n ergyd ddinistriol yn fy marn i i gefnogwyr y Defender gwreiddiol, a oedd yn gobeithio y byddai'r Grenadier yn cael ei weithgynhyrchu ar yr ynysoedd hyn. Yn ôl yr hyn a...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 9 Rha 2020)

Ken Skates: Credaf fod llawer o rinwedd yn perthyn i awgrym Helen Mary Jones a byddwn yn sicr yn ystyried hynny ochr yn ochr â mathau eraill o gymorth a allai gynnig manteision strategol i fusnesau wrth inni edrych tuag at adferiad. Roeddwn wedi gobeithio erbyn hyn y byddwn yn gallu amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer adfer ac ailadeiladu'r economi. Fodd bynnag, o ystyried bod coronafeirws...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 9 Rha 2020)

Ken Skates: A gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiwn a dweud ar y dechrau fod gennyf bob cydymdeimlad â phobl sy'n dioddef ar hyn o bryd o ganlyniad i’r coronafeirws, nid yn unig y rhai sydd â'r coronafeirws ei hun, ond hefyd y bobl sy'n teimlo, oherwydd y cyfyngiadau, fod eu cadernid meddwl a'u gwytnwch emosiynol wedi’i wanhau? Mae'r anallu i gymdeithasu fel y gallem o’r blaen wedi...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 9 Rha 2020)

Ken Skates: Wel, gallaf sicrhau'r Aelod ein bod bob amser yn ystyried mesurau amgen y gellid eu gweithredu, ond wrth gwrs, mae'r dull cenedlaethol yn cynnwys ffordd syml iawn o gyfathrebu â'r cyhoedd ledled Cymru. Ond fel y dywedaf, rydym yn agored i ddulliau amgen o fynd i’r afael â chyfraddau heintio coronafeirws os ydynt yn wahanol iawn ledled y wlad. Nawr, ym mhedwerydd cam y gronfa cadernid...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 9 Rha 2020)

Ken Skates: A gaf fi ddiolch i Russell am ei gwestiynau pellach? Roedd nifer o elfennau i'w gyfraniad. Yn bennaf oll, o ran y cyfyngiadau a'r cyfnod y byddant yn weithredol, dylwn ddweud bod pob cyfyngiad a roddwyd ar waith yn helpu i achub bywydau pobl, ond rydym yn ymwybodol iawn hefyd o'r angen i achub bywoliaeth pobl, a dyna pam rydym yn darparu symiau mor sylweddol o gymorth ariannol. Rydym yn...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 9 Rha 2020)

Ken Skates: A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiwn cyntaf a manteisio ar y cyfle hwn, gan mai dyma fy sesiwn gwestiynau'r llefarwyr olaf eleni, i ddymuno'r gorau i Russell a phob Aelod yn y Siambr am Nadolig a blwyddyn newydd heddychlon? Ac o ran lletygarwch, rydym yn llwyr gydnabod y sefyllfa hynod o anodd y mae llawer o fusnesau ledled Cymru yn ei hwynebu o ganlyniad i'r niferoedd cynyddol o...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Datblygu Busnesau ( 9 Rha 2020)

Ken Skates: Wel, a gaf fi ddiolch i Angela Burns am ei chwestiwn atodol? Rwy’n cytuno’n llwyr y dylid rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen i fusnesau nad yw COVID wedi effeithio arnynt, er mwyn iddynt allu ymadfer yn gryf wedi’r pandemig, ac i dyfu, er gwaethaf yr hyn rydym wedi’i wynebu gyda’n gilydd fel gwlad. Mae cefnogaeth 'busnes fel arfer' ar gael i fusnesau gan Busnes Cymru, gan gynnwys y...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Datblygu Busnesau ( 9 Rha 2020)

Ken Skates: Prynhawn da, Angela. Diolch am y cwestiwn. Roedd cam 3 o'n cronfa cadernid economaidd ar gyfer Cymru yn unig yn cynnwys £100 miliwn o grantiau datblygu busnes gyda'r nod penodol o helpu busnesau i addasu i fywyd ôl-COVID y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, ac wrth gwrs, mae £20 miliwn o'r gronfa hon wedi'i glustnodi’n benodol ar gyfer twristiaeth a lletygarwch. Ac rydym hefyd wedi sicrhau...

QNR: Cwestiynau i Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ( 9 Rha 2020)

Ken Skates: Our chief regional officers are working with stakeholders in each of our regions to establish clear and shared priorities for economic development. The economic recovery group for the north Wales region will be considering how we can collectively address the economic challenges facing businesses, communities and individuals across the region. 

QNR: Cwestiynau i Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ( 9 Rha 2020)

Ken Skates: Our economic priority across Wales is jobs and to help businesses to prepare for long-term challenges associated with life post COVID and life outside the EU—and without frictionless trade in goods or services with the UK’s largest trading partner.

QNR: Cwestiynau i Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ( 9 Rha 2020)

Ken Skates: We launched Transforming Towns in January with a £90 million package of support to address the decline in town centres. In addition, we have provided a further £24.4 million—£9million for adaptations to town centres and a £15.4 million local sustainable transport fund—to support our town centres during the pandemic.

3. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Argymhellion Burns — Y Camau Nesaf ( 8 Rha 2020)

Ken Skates: A gaf i ddiolch i Alun Davies am ei sylwadau ac am y cwestiynau a holodd? Os caf i, fe roddaf grynodeb o rai o feysydd gwario Llywodraeth Cymru ers 2001 o ran seilwaith rheilffyrdd. Mae rheilffordd Bro Morgannwg yn ailagor, rheilffordd cwm Ebwy yn ailagor, ac mae gorsafoedd newydd yn cael eu datblygu neu eu hadeiladu ar hyn o bryd yn cynnwys Bow Street, tref Ebwy a Pye Corner—mae rhai...

3. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Argymhellion Burns — Y Camau Nesaf ( 8 Rha 2020)

Ken Skates: A gaf i ddiolch i Mark Reckless a dweud mai'r olaf sy'n gywir? Mae'r gwasanaethau ychwanegol hynny wedi'u cynllunio i fynd i'r afael â'r anghenion a'r galw presennol yn ardal dinas Casnewydd. Ond hefyd, fel y mae'r adroddiad yn ei wneud yn glir, o ran y crynodeb, hoffem weld mwy o wasanaethau dros y ffin. Mae llawer o'r adroddiad wedi'i neilltuo mewn gwirionedd i drafnidiaeth drawsffiniol ac...

3. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Argymhellion Burns — Y Camau Nesaf ( 8 Rha 2020)

Ken Skates: Diolch i John Griffiths am ei gwestiynau. Bydd yr uned gyflawni honno'n hanfodol bwysig, fel yr amlinellodd John Griffiths, ac mae costau llywodraethu a rhaglenni'n cael eu hystyried ar hyn o bryd. O ran gwasanaethau bysiau yng Nghasnewydd a thu hwnt, mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnal ymarfer mapio ledled Cymru, a bydd hynny'n hysbysu Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru ynghylch lle y...

3. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Argymhellion Burns — Y Camau Nesaf ( 8 Rha 2020)

Ken Skates: A gaf i ddiolch i Nick Ramsay am ei gyfraniad ac am y cwestiynau a gododd? Byddwn yn cytuno â'i sylw olaf na allwn ni ystyried yr ateb trafnidiaeth gyhoeddus ar ei ben ei hun, ond rhaid i ni hefyd gydnabod bod angen ymyraethau ar yr M4 ei hun. A dyna pam, yn y gyfres gyntaf o argymhellion, yr argymhellodd yr Arglwydd Burns nifer fach o'r hyn a ddisgrifiwyd fel 'enillion cyflym', i geisio...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.