Mark Isherwood: Wel, ar thema debyg, i gyfiawnhau ei gyhoeddiad y bydd unrhyw fusnes hunanarlwyo sy'n methu—[Torri ar draws.]
Mark Isherwood: Er mwyn cyfiawnhau ei gyhoeddiad y bydd unrhyw fusnes hunanarlwyo sy'n methu â bodloni ei gynnydd i 182 diwrnod o osod yn flynyddol yn cael ei ddileu o'r gofrestr ardrethi busnes ac efallai y bydd yn rhaid iddo dalu premiwm treth gyngor o hyd at 300 y cant, dywedodd eich Llywodraeth fod ymatebwyr i'r ymgynghoriad, ymatebwyr sy'n cynrychioli'r diwydiant twristiaeth ehangach, yn amlwg yn...
Mark Isherwood: Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector twristiaeth yng Nghymru?
Mark Isherwood: Bydd Colonel Phillips yn adrodd yn uniongyrchol i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn a Gweinidog y DU dros Bobl Amddiffyn a Chyn-filwyr. Fel y dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru: 'Mae gan y Lluoedd Arfog draddodiad hir a phwysig yng Nghymru ac rydym yn hynod falch o'n cyn-filwyr Cymreig. Mae ein cyn-filwyr a'u teuluoedd yn haeddu cydnabyddiaeth, cefnogaeth a pharch...
Mark Isherwood: A siarad yn bersonol, cefais fy magu gan y genhedlaeth stoicaidd honno. Hwy oedd ein athrawon ysgol a'n siopwyr, pobl fusnes leol a darparwyr gwasanaethau lleol, ffrindiau teuluol ac aelodau o'r teulu. O leiaf cawsant gefnogaeth a dealltwriaeth dawel y bobl yn eu cymunedau lleol, gyda'r rhan fwyaf ohonynt hwythau hefyd wedi profi rhyfel mewn rhyw ffordd. Wrth gwrs, nid oedd hyn yn wir am y...
Mark Isherwood: Un o'r anrhegion a roddodd fy ngwraig i mi y Nadolig diwethaf oedd llyfr yn adrodd hanes go iawn teulu a gafodd eu dal gan ddigwyddiadau'r ail ryfel byd. Roedd yn cynnwys y llinellau canlynol: 'Fel llawer o bersonél y lluoedd arfog sy'n dychwelyd, cafodd drafferth am flynyddoedd gydag anableddau ac ôl-effeithiau eraill na chafodd eu cydnabod na'u trin. Yn hytrach, cawsant eu hannog i...
Mark Isherwood: Byddant yn falch o glywed eich cynnig i gyfarfod oherwydd, fel y dywedant, mae cam-drin pobl hŷn yn parhau i fod yn faes nad yw’n cael ei gefnogi’n ddigonol ac nad adroddir yn ei gylch yn ddigonol. Fy nghwestiwn olaf. Mae eich cyfrifoldebau mewn perthynas â chydraddoldeb a hawliau dynol hefyd yn cynnwys tlodi mislif. Gan weithio gyda'u llysgenhadon actif, datblygodd Grŵp Llandrillo...
Mark Isherwood: Iawn. Mae Swyddfa Gartref y DU wedi cefnogi’r gwasanaeth hwn yn Lloegr, ac yng Nghymru, mae Hourglass yn defnyddio eu cronfeydd wrth gefn eu hunain i ariannu’r gwasanaeth. Pa ystyriaeth a roddwyd gennych felly i sicrhau’r un lefel o gymorth arbenigol i bobl hŷn sydd mewn perygl, ac a wnewch chi gyfarfod ag Hourglass Cymru i drafod y gwasanaeth hanfodol hwn ac ystyried darparu cymorth...
Mark Isherwood: Roeddech chi a minnau’n bresennol yn 2005 yn lansiad yr adroddiad ar anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr yn Llandrindod, os cofiaf yn iawn, a dilynwyd hynny gan y ddeddfwriaeth. Ond y pwynt yma yw bod aelodau’r gymuned eu hunain yn dweud nad yw eu llais wedi’i glywed yn yr asesiad a gyflwynwyd i chi, ac felly nad yw’n adlewyrchu gwir angen ac mae’n creu bom amser o broblemau ar...
Mark Isherwood: Diolch. Fel y gwyddoch o ohebiaeth, mae cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng ngogledd Cymru wedi mynegi pryderon difrifol nad yw asesiadau llety Sipsiwn/Teithwyr awdurdodau lleol wedi ymgysylltu â hwy, ac felly, mae'r asesiadau hynny wedi methu nodi eu hanghenion llety. Ysgrifennodd eiriolwr ar eu rhan at eich adran, gan nodi eu bod yn parhau i ymgyrchu am safleoedd newydd, hyd yn oed os...
Mark Isherwood: Diolch. Fel y gwyddoch, ym mis Rhagfyr 2018, nododd Sefydliad Joseph Rowntree mai Cymru, o bedair gwlad y DU, sydd wedi bod â'r gyfradd tlodi uchaf yn gyson dros yr 20 mlynedd diwethaf. Roeddent yn dweud ym mis Tachwedd 2020 fod bron i chwarter y bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi cyn y coronafeirws hyd yn oed. A fis Mai diwethaf, dywedodd cynghrair Dileu Tlodi Plant y DU mai Cymru sydd...
Mark Isherwood: 1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru? OQ57781
Mark Isherwood: Wel, wrth siarad yma bythefnos yn ôl, galwais arnoch i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i awdurdodau lleol i'w galluogi a'u hannog i gyflwyno gallu cyflymach i roi cymorth i ffoaduriaid sy'n ffoi o Wcráin. Ond wrth gwrs, er mwyn cael darpariaeth effeithiol bydd angen hefyd i awdurdodau lleol weithio gyda sefydliadau cymunedol, ac mae llawer o'r gwaith codi trwm ledled Cymru...
Mark Isherwood: Yn ddiweddar, deuthum o hyd i araith a roddais i gynulleidfa allanol ar dai—cefais wahoddiad fel rhywun a arferai weithio yn y sector, yn y sector cydfuddiannol a'r sector cymdeithasau tai, rwy'n pwysleisio. Ond dyfynnais lythyr a gefais gan Gymdeithas Adeiladu Principality, a oedd yn nodi bod prisiau tai uchel yn cael eu gyrru gan ddiffyg cyflenwad o dai preifat a thai cymdeithasol fel ei...
Mark Isherwood: Roeddwn am wneud sylw ar eich sylw agoriadol am y gyfraith, ac rydych yn llygad eich lle, roedd system y cyfrif refeniw tai yn union fel y dywedoch chi. Wrth gwrs, rhoddodd y Llywodraeth ar ôl 2010 y gorau i hynny wedyn yn Lloegr fel bod cynghorau'n gallu dod i drefniant ynghylch eu lefelau dyled a dechrau ailfuddsoddi'r enillion. Ond cymerodd Llywodraeth Cymru flynyddoedd i weithredu'r un...
Mark Isherwood: Rwy'n croesawu eich sylwadau. Rwyf newydd gael e-bost gan etholwr: 'A yw Llywodraeth Cymru yn mynd i sefydlu cynllun noddi teuluoedd ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin? Gwn y byddai llawer o bobl yn cefnogi ac yn noddi teulu o ffoaduriaid o Wcráin.' Tybed a allwch chi ateb fy etholwr.
Mark Isherwood: A ydych yn cydnabod mai pwerau'r comisiynwyr heddlu a throsedd yw'r datganoli y cyfeiriwch ato i Fanceinion, er enghraifft? Mae gennym y rheini yng Nghymru. Fodd bynnag, os ydych yn dal i sôn am uno'n un heddlu a chael pwerau yn y Llywodraeth, rydych yn sôn am wneud penderfyniadau gwleidyddol ynghylch cyflogi a diswyddo prif gwnstabliaid.
Mark Isherwood: A ydych yn cytuno, yn 1536, fod systemau cosbol pob man ar draws y byd yn trin menywod a dynion yn ofnadwy o fewn y system cyfiawnder troseddol?
Mark Isherwood: A ydych yn cydnabod, fel a drafodwyd yma, ac fel y nododd y Cwnsler Cyffredinol, fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi'r union bolisi hwnnw mewn perthynas â menywod—na ddylent fod yn y carchar, y dylent fod yn y gymuned—a'u bod yn ariannu cyfres o ganolfannau newydd i fenywod, gan gynnwys un yng Nghymru? Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrthym fis Tachwedd diwethaf yn y Siambr hon fod hynny'n...
Mark Isherwood: [Anghlywadwy.]—y pŵer i gyflogi a diswyddo prif gwnstabliaid. Rwy'n dod i ben. O ystyried hanes Llywodraeth Lafur Cymru o wleidyddoli gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yn gynyddol ac yn aml mewn modd bygythiol, mae hwn yn gynnig sy'n codi ofn. [Torri ar draws.] Gallaf eich cyflwyno i'r chwythwyr chwiban sy'n dioddef o ganlyniad i'r hyn rwyf newydd ei ddisgrifio.