Altaf Hussain: Rydych yn codi pwynt pwysig iawn yr oeddwn yn mynd i'w ddweud mewn gwirionedd. Rydym bob amser wedi sôn am ambiwlansys ac rydym wedi siarad bob amser am y cleifion. Ond nid oes yr un bwrdd iechyd hyd yma wedi codi—. Faint o bobl sy'n gweithio yn yr adran damweiniau ac achosion brys ar adeg benodol? Nid yw'n fwy nag un neu ddau o bobl, a phobl llai profiadol ydynt, nid ydynt yn gyfarwydd...
Altaf Hussain: Dylai ambiwlansys fod yn y gymuned, yn gofalu am bobl. Nid ciwbiclau adrannau damweiniau ac achosion brys ysbytai yw ambiwlansys, ond dyna'r defnydd a wneir ohonynt gan y Llywodraeth yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.
Altaf Hussain: Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl heddiw. Mae gennym wasanaethau ambiwlans rhagorol yma yn y DU. Mae gennyf lawer i'w ddweud, ond nid oes gennyf amser. Mae amseroedd ymateb ambiwlansys yn arwydd o fethiant y system, ac mae ein staff, sy'n eithriadol o alluog, bellach yn cael eu siomi gan system iechyd a gofal sydd wedi'i chyflunio'n wael, lle mae gofal cleifion yn cael ei...
Altaf Hussain: Mae mynd i'r afael â hiliaeth yn fusnes i bawb ac mae'n rhaid iddo fod yn fusnes i bawb. Ceir sectorau yng Nghymru sy'n cael eu cefnogi'n ariannol gan Lywodraeth Cymru, er nad ydynt yn gyrff cyhoeddus ac felly ni fydd yn ofynnol iddynt gadw at ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. A wnaiff y Gweinidog ystyried deddfwriaeth i orfodi hynny lle mae cyrff yn cael cymorth ariannol gan y...
Altaf Hussain: Roedd y terfysgoedd ym Mayhill yn Abertawe ym mis Mai yn frawychus. Gwn i pa mor galed y mae'r heddlu wedi gweithio i nodi ac arestio'r rhai sy'n gyfrifol. A gaf i ofyn am ddatganiad sy'n nodi'r hyn y cafodd ei ddysgu o'r digwyddiadau hynny, ac a allai fod angen unrhyw gymorth cymunedol arall?
Altaf Hussain: Hoffwn i ddatgan buddiant gan fy mod i'n gynghorydd etholedig ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Prif Weinidog, adroddwyd ym mis Gorffennaf fod yr heddlu yn bwriadu defnyddio pwerau i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Aberogwr drwy ddefnyddio gorchymyn gwasgaru. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa mor llwyddiannus fu'r mesur hwn, ac a yw wedi gweithio, a yw'n...
Altaf Hussain: Mae’n bosibl fod y ffigurau hyn wedi newid yn y tair blynedd ddiwethaf, ond maent yn dangos maint yr her, hyd yn oed pe bai gennym y nifer cywir o ddiffibrilwyr yn eu lle. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cefnogi’r cynnig hwn y prynhawn yma. Diolch.
Altaf Hussain: Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon. Mae'r ystadegau'n amlwg yn peri pryder, a dylai cyfraddau goroesi ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty fod yn ddigon, ar eu pen eu hunain, i'n cael ni i weithredu. Mae yna ychydig o heriau, fodd bynnag. Yn gyntaf, nid wyf yn credu bod ein gwlad yn gweithio'n ddigon cyflym i adeiladu mwy o gapasiti yn ein rhwydwaith o ddiffibrilwyr. Yn...
Altaf Hussain: Gwyddom fod cynnydd wedi bod mewn dwyn cŵn, er enghraifft, dros y flwyddyn ddiwethaf. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r heddlu am y wybodaeth i berchnogion anifeiliaid anwes newydd am y camau y gallent eu cymryd i ddiogelu eu hanifeiliaid anwes?
Altaf Hussain: Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am waith rhagorol. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ymuno â mi i gydnabod cyfraniad enfawr ein lluoedd arfog ni wrth gludo 15,000 o bobl o Affganistan i'r Deyrnas Unedig. Fe wn i fod y modd y gwnaeth yr Unol Daleithiau a'r DU ymdrin â'r cilio wedi bod yn destun llawer o ddadleuon, ond i mi, sy'n rhywun sydd wedi ymgartrefu yn...
Altaf Hussain: Weinidog, mae'r rhaglen lywodraethu yn glir yn ei bwriad i fynd i'r afael â'r her amgylcheddol a llawer o feysydd polisi'r Llywodraeth y mae angen ymateb arnynt. Gwn y byddwch yn ymwneud yn helaeth â'r trafodaethau ynglŷn â sut rydym yn cyflawni'r targedau datgarboneiddio hynny, sydd, wrth gwrs, yn gymhleth iawn. Bydd llawer o sefydliadau eisoes yn asesu eu hallbwn carbon, ac mae'r...
Altaf Hussain: 8. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o allbwn carbon Llywodraeth Cymru? OQ56763
Altaf Hussain: Ar 11 Gorffennaf 2021 bydd hi'n chwe mlynedd ar hugain ers hil-laddiad Srebrenica, lle cafodd dros 8,000 o ddynion a bechgyn Mwslimaidd Bosniaidd eu llofruddio yn yr erchyllter gwaethaf ar bridd Ewrop ers yr ail ryfel byd. Heddiw, rwy'n ymuno â channoedd o bobl eraill ledled y wlad i addunedu i sicrhau na fyddwn byth yn anghofio am yr hil-laddiad hwnnw. Thema Diwrnod Cofio Srebrenica eleni...
Altaf Hussain: Weinidog, mae Clinig Pen-y-bont ar Ogwr yn glinig preifat sydd wedi'i leoli yn Ysbyty Tywysoges Cymru. Mae'n unigryw i Gymru, ac am y 24 mlynedd diwethaf mae wedi gweithio mewn partneriaeth â'r GIG, gyda mwy na 50 o feddygon ymgynghorol yn gweithio yn y clinig ac yn Ysbyty Tywysoges Cymru, tra bod elw'n cael ei roi yn ôl i'r GIG lleol. Gwyddom i gyd fod y GIG yn sefydliad rhyfeddol, ond ni...
Altaf Hussain: Gweinidog, mae gennyf i ddau awgrym. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y brechlyn atgyfnerthu COVID—dyna'r trydydd dos—yn dechrau ym mis Medi, ac y bydd gweinyddu hyn yn digwydd mewn dau gam. Fodd bynnag, nid yw athrawon yn y cam cyntaf ac, yn fy marn i, fe ddylen nhw fod. Rwy'n derbyn bod hon yn her, ond mae arnom ddyled fawr i'r staff yn ein hysgolion ni sydd wedi gwneud...
Altaf Hussain: Gweinidog, mae llawer o bobl yn aros nid yn unig am driniaeth ond am apwyntiad gyda chlinigydd i asesu difrifoldeb eu cyflwr. Wrth gyflwyno rhaglen frechu COVID, daethpwyd a llawer o glinigwyr a oedd wedi ymddeol i mewn i ychwanegu capasiti pellach yr oedd wir ei angen i helpu i frechu pobl. A yw'r Llywodraeth wedi ystyried pa un a ellid dod â chlinigwyr sydd wedi ymddeol i mewn dros dro...
Altaf Hussain: Weinidog, nid yw profi mai ni yw pwy a ddywedwn ydym ni mor anarferol â hynny, boed er mwyn profi ein hoedran i brynu diod neu dân gwyllt o siop, neu brawf i agor cyfrif banc, neu drwydded yrru i logi car, mae'n rhan o fywyd modern ac yn rhywbeth y mae pob un ohonom yn gyfarwydd â'i wneud. Os yw'n ddigon da ar gyfer y gweithgareddau hynny, pam ddim ar gyfer rhywbeth mor bwysig â...
Altaf Hussain: Diolch yn fawr iawn. Weinidog, fel un o nifer fach iawn o'r Aelodau o'r Senedd hon o'r gymuned ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, rwy'n ymwybodol iawn o'r heriau y mae llawer o bobl yn eu hwynebu yn y gweithle hwn, oherwydd eu hethnigrwydd, eu rhywedd a'u cyfeiriadedd rhywiol. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Cymdeithas Feddygol Prydain siarter i ysgolion meddygol er mwyn atal a mynd i'r afael ag...
Altaf Hussain: 2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu hyrwyddo cydraddoldeb o fewn gweithlu'r sector cyhoeddus yng Nghymru? OQ56675
Altaf Hussain: Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad y prynhawn yma a dweud cymaint yr ydym yn croesawu'r camau y mae hi wedi eu cymryd i gefnogi'r gymuned LHDTC+. Mae angen i ni wneud mwy i sicrhau nad dim ond lle diogel i fyw ynddo yw Cymru, ond lle yr ydym yn dathlu amrywiaeth o bob math, felly rwy'n croesawu'r cymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gyhoeddi heddiw, yn enwedig ar...