Rhianon Passmore: 2. Pa gynlluniau wrth gefn sydd gan Lywodraeth Cymru yn eu lle os bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb? OQ55841
Rhianon Passmore: A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwelliannau sy'n cael eu gwneud i'r rhwydwaith rheilffyrdd yn Islwyn?
Rhianon Passmore: Diolch. Weinidog, gwyddom nad oes brechlyn ar gyfer COVID-19 ar hyn o bryd, ond ceir awgrymiadau cyson y gallem weld un neu fwy o frechlynnau COVID-19 cenhedlaeth gyntaf yn 2021. Mae Albert Bourla, prif weithredwr Pfizer, wedi dweud bod brechlyn yr Almaen ar y filltir olaf, a bod y cwmni fferyllol yn disgwyl canlyniadau o fewn ychydig wythnosau, a gwyddom fod cwmnïau fferyllol a chyffuriau...
Rhianon Passmore: 6. Pa gynllunio y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyflwyno rhaglen frechu COVID-19 ar draws Islwyn? OQ55806
Rhianon Passmore: Diolch, Dirprwy Lywydd. A ydych chi'n fy nghlywed i?
Rhianon Passmore: Diolch; nid yw'n dangos. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Senedd Cymru am fater hanfodol dyfodol y rheilffyrdd yng Nghymru. Croesawaf yr uned gyflawni ar y cyd a'r hyn a ddywedwyd am egwyddorion cydfuddiannol. Gŵyr pawb yn y Siambr hon a ledled Cymru y bu'r misoedd diwethaf yn heriol iawn i drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru a ledled y...
Rhianon Passmore: Prif Weinidog, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi lansio'r gronfa adferiad diwylliannol gwerth £53 miliwn a'r ffrwd cyllid â blaenoriaeth gwerth £18 miliwn. Ers mis Medi mae sefydliadau diwylliannol a threftadaeth wedi gallu gwneud cais am gyllid wrth i ni ddechrau'r adferiad hir ac araf o argyfwng iechyd cyhoeddus mwyaf y ganrif ddiwethaf, ac nid oes unrhyw sector o'n cymdeithas nad yw wedi...
Rhianon Passmore: Weinidog, diweddarwyd y canllawiau gweithredol ar gyfer ysgolion a lleoliadau ar gyfer tymor yr hydref—fersiwn 3, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru—ddeuddydd yn ôl. Mae'r canllawiau hyn yn nodi y dylai awdurdodau lleol gyfathrebu'r mesurau rheoli i ysgolion a lleoliadau, ac y dylai ysgolion a lleoliadau weithio gyda staff, rhieni, gofalwyr a dysgwyr er mwyn i'r trefniadau diwygiedig...
Rhianon Passmore: Weinidog, ar 17 Awst eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Lafur Cymru hwb ariannol o fwy na £216 miliwn i gynghorau lleol yng Nghymru i roi iddynt y sicrwydd y maent ei angen i gynllunio ar gyfer gweddill y flwyddyn, ac mae'n siomedig o ran yr adolygiad cynhwysfawr o wariant. Mae'r buddsoddiad ychwanegol hwnnw gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst yn golygu bod cyfanswm cymorth COVID-19 Llywodraeth...
Rhianon Passmore: Yng Nghymru, mae'r sefyllfa'n llwm. Mewn dim ond chwe wythnos fer iawn, rydym wedi symud o fod â lefelau isel iawn o'r coronafeirws i lefelau uchel o haint yn lledaenu'n gyflym yn ein gwlad, ac mae hyn er gwaethaf yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth y byddai'r sefyllfa a nifer yr achosion o feirysau wedi bod hyd yn oed yn waeth heb ardaloedd diogelu iechyd lleol, a mwy o farwolaethau, ac nid dim...
Rhianon Passmore: Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad i'r Senedd—yn gyntaf, datganiad cynhwysfawr yn amlinellu'r mesurau cymorth a gafodd eu rhoi ar waith ledled Cymru yn ystod pandemig COVID-19 i gefnogi cerddorion, gweithwyr llawrydd ac fel arall, a'u bywoliaeth, a'r mesurau i gefnogi cerddoriaeth gymunedol—craidd cymunedau Cymru—megis corau, cymdeithasau corawl, bandiau pres a cherddorfeydd cymunedol....
Rhianon Passmore: Diolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip am ei datganiad am Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, ac rwyf innau'n cytuno fod yna wahanol ystadegau a fydd yn cynnig gwahanol fesurau. Ond mae rhagwelediad o'r datganiad hwn i'w weld yn yr ystadegau troseddau casineb cenedlaethol 2019-20 ar gyfer Cymru a Lloegr a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref heddiw. Mae'n dangos y cynnydd...
Rhianon Passmore: Diolch, Prif Weinidog. Diolch am hynna. Disgwylir i labordy COVID-19 arbenigol cyntaf Cymru agor yng Ngwent y mis hwn, a hoffwn iddo ymuno â mi i ddiolch i'n holl staff ymroddedig sy'n gweithio eu gorau glas ynddyn nhw ledled Cymru. Y gobaith yw y bydd y cyfleuster goleudy newydd yn prosesu 20,000 o brofion y dydd, ac fel y mae'r Prif Weinidog eisoes wedi cyfeirio ato, rheolir y labordai...
Rhianon Passmore: 3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am alluoedd profi COVID-19 Cymru? OQ55715
Rhianon Passmore: Ddoe gofynnwyd i Ganghellor Torïaidd y DU, Rishi Sunak, beth oedd ei neges i gerddorion, actorion a gweithwyr llawrydd yn y celfyddydau, a dywedodd y Canghellor yn y diwedd wrth ITN fod pawb yn gorfod addasu. A bod yn onest, nid yw hynny'n ddigon da. Lywydd, mae cerddorion, actorion a gweithwyr llawrydd yn y celfyddydau yn rhan annatod o enaid diwylliannol ac economaidd ein cenedl wych....
Rhianon Passmore: Sut y mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu sicrhau bod Islwyn yn adeiladu'n ôl yn well yn dilyn pandemig COVID-19?
Rhianon Passmore: Diolch, Gweinidog, ac i Lywodraeth Cymru, am ddod â'r ddadl bwysig iawn hon i Siambr y Senedd. Llywydd, mae bywydau du o bwys. Bydd 2020 yn flwyddyn a fydd wedi treiddio i'r ymwybyddiaeth gyfunol gyda phandemig COVID-19; fodd bynnag, gallwn ni yma yn y lle hwn sicrhau bod 2020 hefyd yn cael ei chofio fel y flwyddyn pryd y gwnaethom ddweud gyda'n gilydd, pob un ohonom, mai digon yw digon o...
Rhianon Passmore: Diolch, Prif Weinidog. Fel yr Aelod Senedd dros Islwyn, croesawaf yn fawr y cyhoeddiad hwn gan Lywodraeth Cymru o'i phapur polisi a strategaeth. Yn y papur 'Ail-greu ar ôl Covid 19: Heriau a Blaenoriaethau', dywed y Gweinidog 'Mae Llywodraeth Cymru am fod yn agored i syniadau newydd ac i her adeiladol, felly mae'n rhaid i ran o’r gwaith hwn fod yn sgwrs genedlaethol. Rydym am wybod beth...
Rhianon Passmore: 8. Sut y mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu sicrhau bod Islwyn yn ailgodi’n gryfach yn dilyn pandemig COVID-19? OQ55665
Rhianon Passmore: Siaradaf yn y ddadl hon i gefnogi gwelliant 1, a gyflwynwyd gan Rebecca Evans, ac yn benodol am bwynt 1, sy'n nodi'r gwerth gwael am arian a gynigir gan economeg cyni, fel yr amlygwyd ym meirniadaeth y Cenhedloedd Unedig o dlodi'r DU. Byddai angen sgiliau Jackanory, nid rhai Job, ar Angela Burns a'i chyd-Aelodau Ceidwadol i egluro sut y mae prosiect cyni dinistriol Cameron ac Osborne, ochr...