Rhun ap Iorwerth: Alun Davies.
Rhun ap Iorwerth: Hyfryd. Diolch yn fawr iawn. Mike Hedges.
Rhun ap Iorwerth: Diolch am fod yn gryno. Llyr Gruffydd.
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn. Rydw innau'n falch iawn o weld Aelodau o'r Senedd Ieuenctid yma. Croeso mawr i chi, bob amser. Rŵan, mae yna nifer fawr o Aelodau wedi gofyn am gael siarad—mwy na fyddem ni'n gallu ei ganiatáu fel arfer mewn dadl awr o hyd, ond beth am drio gwasgu pawb i mewn? Anelwch am bedwar munud yn hytrach na phump, o bosib, ac mi gawn ni weld sut aiff hi. Jayne Bryant.
Rhun ap Iorwerth: Diolch am ddadl fywiog a pharchus, a finnau'n cymryd y Gadair am y tro cyntaf. Y cwestiwn ydy: a ddylid derbyn y cynnig? A oes yna unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi yn clywed gwrthwynebiad. Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.
Rhun ap Iorwerth: Mi symudwn ni ymlaen at eitem 8, dadl y Pwyllgor Cyllid, blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Peredur Owen Griffiths.
Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi gymryd ymyriad arall, gan Huw Irranca-Davies?
Rhun ap Iorwerth: Dwi'n galw ar Jane Dodds i ymateb i'r ddadl.
Rhun ap Iorwerth: Gaf i alw ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, os gwelwch yn dda?
Rhun ap Iorwerth: Na, mae arnaf ofn nad oes amser. Rydym wedi caniatáu ymyriadau, ond mae'r cloc yn ein herbyn. Janet Finch-Saunders.
Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi ddod â'ch sylwadau i ben, os gwelwch yn dda? Diolch yn fawr iawn.
Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi gymryd ymyriad?
Rhun ap Iorwerth: Os cawn wrando ar yr ymateb. Diolch yn fawr iawn.
Rhun ap Iorwerth: Dwi'n falch iawn o glywed hynny, a dwi'n gobeithio y bydd Aelodau yma, wrth gynrychioli eu hetholwyr nhw, yn atgoffa eu byrddau iechyd yn eu rhanbarthau a'u hetholaethau nhw fod y disgresiwn yna ganddyn nhw. Dwi'n falch o glywed y Gweinidog yn sôn am COVID hir, ac fel mae o'n effeithio plant yn arbennig. Dwi yn bryderus bod yna ddiffyg cefnogaeth i blant a phobl ifanc efo COVID hir. Rydw...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi am ganolbwyntio ar COVID hir. Mae'r ffigurau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu y gallai fod rhyw 60,000 o bobl yng Nghymru yn byw efo COVID hir, ac mae'r don dŷn ni ynddi rŵan, wrth gwrs, yn gwneud imi bryderu bod y niferoedd yn mynd i fod yn cynyddu. Mae llawer o'r rhai sydd yn dioddef yn bobl wnaeth gael y feirws tra'n gweithio...
Rhun ap Iorwerth: Mae mwy na phedair blynedd wedi bod bellach ers i storm Emma ddinistrio'r marina yng Nghaergybi. Aeth perchnogion y marina ati i lunio cynllun i ailadeiladu ar unwaith, ac er ei bod yn anochel y byddai hynny'n cymryd peth amser, mae'r cynlluniau'n cael eu rhwystro gan y ffaith bod datblygiad arall wedi'i fwriadu ers tro byd ar gyfer y glannau yng Nghaergybi sydd hefyd yn cynnwys cynlluniau ar...
Rhun ap Iorwerth: 8. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o bwysigrwydd ailsefydlu marina yng Nghaergybi i economi'r dref? OQ58343
Rhun ap Iorwerth: 'Mae'n ymddangos yn amlwg y gall gwneud pethau'n well o fewn y system bresennol nad yw wedi'i datganoli arwain at welliannau ymylol yn unig'.
Rhun ap Iorwerth: Er ein bod ni yn gwneud ein gorau dros bobl Cymru yn y Senedd yma, mae’r methiant i integreiddio penderfyniadau polisi a phenderfyniadau cyllid ar y lefel uchaf yn atal newid gwirioneddol drawsnewidiol. Yng nghyd-destun rheilffyrdd, efallai bod trafnidiaeth wedi’i datganoli i Gymru, ond tra y bydd San Steffan yn dal y pŵer dros seilwaith rheilffyrdd, mi fyddwn ni'n parhau i ddioddef...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae yna gymaint y gallwn i, ac yr ydw i yn aml, yn beirniadu’r Llywodraeth yn ei gylch. Dwi’n cymryd fy rôl o ddifri fel llefarydd iechyd a gofal fy mhlaid, yn dal Llywodraeth i gyfrif ar y gwasanaeth iechyd, ac mi barhaf i wneud hynny tan y byddaf i’n gweld bod pobl Cymru yn cael y gwasanaeth iechyd a gofal y maen nhw’n ei haeddu. Ond, yn ysbryd diwedd...