Canlyniadau 221–240 o 8000 ar gyfer speaker:Jane Hutt OR speaker:Jane Hutt OR speaker:Jane Hutt OR speaker:Jane Hutt

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun y Tocyn Croesawu ( 9 Tach 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Natasha Asghar. Mae'n bwysig iawn inni geisio sicrhau bod y gweithgor hwn yn datrys llawer o'r problemau a nodwyd gennych. Fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru—a dim ond Llywodraeth Cymru; nid oes unrhyw gynllun arall o’i fath yn y DU—wedi darparu trafnidiaeth am ddim i geiswyr lloches mewn cynllun peilot byr, a reolwyd gan Gyngor Ffoaduriaid...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun y Tocyn Croesawu ( 9 Tach 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ymestyn cynllun y tocyn croeso i ffoaduriaid tan fis Mawrth 2023. Mae gweithgor wedi’i sefydlu i fwrw ymlaen â rhaglen waith ar gyfer y cynllun trafnidiaeth am ddim a’r gwaith y bydd angen ei wneud y tu hwnt i fis Ebrill 2023.

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ( 9 Tach 2022)

Jane Hutt: Our community cohesion programme enables the Western Bay regional cohesion team, funded by Welsh Government, to link up with partners, including the police and third sector, to promote cohesion in South Wales West. Their work includes direct engagement with communities, mitigation of community tensions, and delivery of training and events.

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ( 9 Tach 2022)

Jane Hutt: I welcome the recommendations in the children’s commissioner’s annual report. The publication of the report provides an important opportunity for us to focus on children’s rights. The First Minister will publish the Welsh Government response by 30 November, so I am not in a position to provide the details today.

7. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod — Bil Manteisio ar Fudd-daliadau (26 Hyd 2022)

Jane Hutt: Mae ymwybyddiaeth o'r cymorth ariannol sydd ar gael, boed wedi'i ddatganoli neu heb ei ddatganoli, yn cynyddu mewn cartrefi ar draws Cymru oherwydd llwyddiant ymgyrchoedd fel 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'. Mae dros 9,000 o bobl hyd yma yn cael cymorth i hawlio dros £2.6 miliwn o incwm ychwanegol yn yr adroddiadau diweddaraf, ac rwy'n diolch i'n partneriaid, gan gynnwys awdurdodau...

7. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod — Bil Manteisio ar Fudd-daliadau (26 Hyd 2022)

Jane Hutt: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon ar y cynnig ar gyfer Bil manteisio ar fudd-daliadau. Rwy'n croesawu'r cyfle y mae'r ddadl hon yn ei roi i adrodd ar y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau ac i adrodd ar y ffyrdd rydym yn gyrru hyn yn ei flaen, mewn cydweithrediad â'n hawdurdodau lleol, yn enwedig. Ni fu...

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (25 Hyd 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Jane Dodds. Hefyd, mae'n dda iawn clywed am gynnydd y ffoadures honno y gwnaethoch chi ei chyfarfod ar y stondin mor ddiweddar, a'r hyn a fu ei phrofiad—rhoi genedigaeth mewn lloches fomiau yn Kyiv—sy'n pwysleisio pa mor bwysig yw hi ein bod ni'n parhau gyda'n cefnogaeth fel uwch-noddwr ac fel cenedl noddfa. Ac mae cymaint ohonom ar draws y Siambr hon wedi cwrdd â phobl...

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (25 Hyd 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Sioned Williams, a diolch am y cwestiynau pwysig yna. Rwy'n credu, yr hyn rwy'n ceisio ei amlygu, am wn i, yw ein bod ni'n gweithio, nid yn unig gyda ein gwesteion Wcreinaidd ond ein partneriaid awdurdod lleol i ddod o hyd i ffordd y gallwn ni sicrhau y gallwn ddarparu'r gefnogaeth gychwynnol honno drwy ein cynllun arch-noddwr yn ein canolfannau croeso ledled Cymru, a hefyd,...

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (25 Hyd 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Mark, a diolch i chi hefyd am roi diweddariadau a mewnwelediadau i mi bob amser o'r gwaith sydd wedi'i wneud yn y gogledd, yn enwedig mewn cysylltiad â'r ymgysylltiadau trydydd sector a'r awdurdodau lleol. Rwy'n gobeithio y gallwn sefydlu perthynas waith newydd dda gyda'r Llywodraeth newydd, y Cabinet newydd a fydd yn cael ei gyhoeddi dros y dyddiau nesaf. Fe gyfeirioch...

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (25 Hyd 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch i chi am roi cyfle i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am ein gwaith parhaus i gefnogi pobl o Wcráin sy'n chwilio am noddfa yng Nghymru. Pan wnes i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ddiwethaf ym mis Medi, roedd Cymru wedi croesawu ychydig dros 5,600 o Wcreiniaid i Gymru o dan gynllun Cartrefi i Wcráin, gan gynnwys o dan ein llwybr uwch-noddwr. Mae rhai...

9. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2021-22 (18 Hyd 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch, bawb. Diolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu i'r ddadl hon ar adroddiad blynyddol y comisiynydd plant. Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth barhaus i gadw hawliau plant mor uchel ar agenda Llywodraeth Cymru. Felly, diolch i aelodau o bob rhan o'r Siambr am eich cydnabyddiaeth o waith yr Athro Sally Holland a'r rôl a'r dylanwad pwysig a gafodd...

9. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2021-22 (18 Hyd 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o gael y cyfle hwn i arwain y ddadl bwysig hon gyda'r Aelodau ar adroddiad blynyddol y comisiynydd plant ar gyfer 2021-22. Mae adroddiad blynyddol y comisiynydd yn rhoi sylw annibynnol blynyddol ar anghenion plant a'u hawliau, ac yn sicrhau ein bod ni’n cynnal pwyslais cyfunol arnyn nhw. Mae'r adroddiad hwn yn gyfle i ni fyfyrio ar y cynnydd...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol ( 5 Hyd 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Rhys ab Owen. Mae'n rhaid imi ddweud bod yna lawer sy'n cael ei wneud, nid yn unig yn fy mhortffolio i, ond yn sicr ym mhortffolio Dawn Bowden hefyd yng nghyd-destun treftadaeth, diwylliant, celf a chwaraeon. Nid wyf yn gwybod a lwyddoch chi i ymweld ag arddangosfa Ailfframio Picton yn yr amgueddfa genedlaethol, a ddydd Sadwrn, agorais ddigwyddiad lansio Hanes Pobl Dduon 365....

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol ( 5 Hyd 2022)

Jane Hutt: Diolch, Rhys ab Owen. Cafodd ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' ei lansio ym mis Mehefin. Rwyf wedi gofyn i'r cyhoedd a'r trydydd sector yng Nghymru weithio gyda ni i gyflawni'r cynllun ac rydym wedi sefydlu uned gwahaniaethau ar sail hil fel un o'n camau gweithredu cyntaf.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Troseddu ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ( 5 Hyd 2022)

Jane Hutt: Diolch, Sam Rowlands. Fel y dywedwch, mae swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn chwarae rhan mor hanfodol yn hyrwyddo diogelwch cymunedol a mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a gweithredu fel clustiau a llygaid ar lawr gwlad i heddluoedd. Ond mae hefyd yn ymwneud â chysylltiadau lleol ac mae cymaint o'r cysylltiadau lleol hynny gydag awdurdodau lleol, gyda'u gwasanaethau...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Troseddu ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ( 5 Hyd 2022)

Jane Hutt: Diolch am y cwestiwn. Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth i leihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yng ngogledd Cymru. Er bod plismona'n fater a gedwir yn ôl ar hyn o bryd, rydym yn gweithio'n agos â chydweithwyr plismona ar faterion strategol ac yn ariannu 600 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu i ddiogelu cymunedau ar draws Cymru.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Biliau Ynni ( 5 Hyd 2022)

Jane Hutt: Rwy'n rhyfeddu bod gennych wyneb i siarad yn y ffordd honno, Janet Finch-Saunders, pan fo gennym ni bobl yng Nghymru nawr nad ydynt yn gallu rhoi eu trydan ymlaen, nad ydynt yn gwybod o ble y byddant yn cael eu pryd nesaf, o ganlyniad i'ch Llywodraeth [Torri ar draws.] Nid wyf am ailadrodd popeth—rwy'n siŵr y bydd y Llywydd yn fy atal beth bynnag—ond ble y maent hwy am ddod o hyd i'r...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Biliau Ynni ( 5 Hyd 2022)

Jane Hutt: Wel, mae hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn, Carolyn Thomas, ac mae'n dilyn yr hyn yr oedd Russell George yn ei ddweud yn gynharach: sut y gallwn wneud yn siŵr fod y budd-daliadau sydd gennym yn cyrraedd y bobl sydd â hawl iddynt? Rydym yn gwybod bod llawer eisoes—rwyf wedi dweud, rwy'n credu, fod rhywfaint o'r grant cymorth tanwydd gwerth £200 yn mynd yn syth i gyfrifon, oherwydd bod pobl...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y Sector Wirfoddol ( 5 Hyd 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn. Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod wedi canolbwyntio ar y grant cydraddoldeb a chynhwysiant. Rydym wedi ymgynghori'n eang ynglŷn â hyn er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gallu cyrraedd y rheini. Wrth gwrs, mae yna lawer o sefydliadau a hoffai elwa o'r rhaglen cydraddoldeb a chynhwysiant, felly gallaf eich sicrhau ein bod yn bwrw ymlaen â hyn ac y bydd trefniadau ymgeisio...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Biliau Ynni ( 5 Hyd 2022)

Jane Hutt: Diolch am y cwestiwn. Mae'r mesurau a gyhoeddwyd yn natganiad y Canghellor yn annheg. Maent yn methu darparu cefnogaeth i'r bobl fwyaf agored i niwed, gan ddarparu budd sylweddol i'r bobl gyfoethocaf ar yr un pryd. Bydd hyn yn golygu y bydd mwy o gartrefi yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd talu costau ynni ac eitemau hanfodol eraill, gan arwain at lefelau uwch o dlodi.


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.