Jeremy Miles: Mae'r cyrsiau newydd hyn wedi bod o fudd i dros 27,000 o bobl ers eu cyflwyno yn 2017, ac rydym wedi buddsoddi dros £55 miliwn i ddatblygu'r ddarpariaeth. Dros y tair blynedd nesaf, rydym yn dyrannu £52 miliwn arall yn y rhaglen i helpu pobl gyflogedig i uwchsgilio ac ailsgilio i feysydd blaenoriaeth. Y llynedd, darparais bron i £6 miliwn i wella capasiti digidol ac i fynd i'r afael â...
Jeremy Miles: Bydd creu cenedl o ail gyfle yn gofyn i ni oresgyn rhwystrau a gwyrdroi rhai tueddiadau diweddar. Mae nifer yr oedolion sy'n cymryd rhan mewn dysgu wedi gostwng ledled y DU dros y degawd blaenorol. Mae ymchwil yn dangos mai'r rhai hynny sydd fwyaf tebygol o elwa ar ail-gydio mewn addysg fel oedolion, yn enwedig y rhai sydd fwyaf difreintiedig ac sydd â'r lleiaf o gymwysterau, yw'r rhai...
Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd, ac mae'n bleser gen i roi datganiad ichi am ein cynlluniau ni i wneud Cymru yn genedl ail gyfle, lle nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu, sy'n cynnwys rhoi gwybod lle rydym ni arni o ran diwygio ac adnewyddu maes dysgu oedolion, rhoi dyletswydd gyfreithiol newydd ar waith i ariannu'r maes, a datblygu ein cynllun peilot ar gyfer cwricwlwm dinasyddion. Rwyf wedi dweud...
Jeremy Miles: Wrth gwrs, nid drwy ymchwil ac arloesi'n unig y mae prifysgolion yn cael effaith economaidd. Maent yn sefydliadau angori ac yn gyflogwyr sylweddol. Yn 2019-20, roedd un ym mhob 20 swydd yng Nghymru yn gysylltiedig â gweithgarwch prifysgol. Câi dros 21,700 o swyddi eu darparu gan brifysgolion Cymru, gyda 19,600 yn rhagor o swyddi wedi'u creu mewn diwydiannau eraill drwy effaith ganlyniadol...
Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae prifysgolion yn elfen hanfodol o'n economi ni, gan gynhyrchu dros £5 miliwn o allbwn bob blwyddyn. Maen nhw'n sefydliadau angori ac yn chwarae rhan hollbwysig yn eu hardal leol drwy gynnig cyfleoedd am swyddi a chadwyni cyflenwi, a phoblogaethau amrywiol o fyfyrwyr a staff. Mae eu cyfraniad hefyd yn cael ei deimlo ar draws Cymru a thu hwnt drwy eu gwaith blaengar...
Jeremy Miles: Mae technolegau digidol wedi newid y ffordd y mae pawb ohonom yn cyfathrebu, ac mae hyn yn arbennig o wir am bobl ifanc, fel rydym newydd glywed yng nghyfraniad Jenny Rathbone. Mae aflonyddu rhywiol ar-lein yn cwmpasu ystod eang o ymddygiadau, ac rwy'n cydnabod yr her y mae hyn yn ei chreu i ysgolion. Fe ymwelais ag ysgol yn ddiweddar sydd wedi bod yn gweithio gyda bechgyn, yn yr achos hwnnw,...
Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf am ddiolch, os caf i, i aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am eu hadroddiad nhw. Mae ymchwiliadau fel hyn yn helpu i gadw'r sgyrsiau pwysig yma ar frig yr agenda, a hoffwn i sôn heddiw am rai o'r camau rŷn ni'n eu cymryd. Yn gyntaf, mae'n bwysig nad ydyn ni'n diystyru pŵer lleisiau plant a phobl ifanc sy'n herio'r arfer o'r normaleiddio rŷn ni wedi...
Jeremy Miles: Wrth gwrs, mae'n bwysig pwysleisio, Ddirprwy Lywydd, fod gan wahanol ddysgwyr anghenion gwahanol. Rydym yn awyddus i rymuso ysgolion i ddewis y profiadau dysgu awyr agored sy'n cefnogi eu dysgwyr hwy orau yn eu cyd-destun penodol. Bydd hynny—ac yn gwbl briodol—yn edrych yn wahanol ar gyfer gwahanol ddysgwyr, gyda chyd-destunau gwahanol i wahanol oedrannau. Er mwyn bod yn llwyddiannus,...
Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae dysgu yn yr awyr agored yn elfen sylfaenol o ran lles ein plant a'n pobl ifanc. Mae'n ffordd o'u helpu nhw i gadw'n iach yn gorfforol ac yn gallu helpu gyda'u lles meddyliol ac emosiynol hefyd. Mae'n caniatáu iddyn nhw ymwneud â'r byd o'u cwmpas, gan roi cyfle iddyn nhw brofi rhyfeddodau natur. Dyna pam mae ein cwricwlwm newydd yn pwysleisio rôl dysgu yn yr awyr...
Jeremy Miles: Diolch i Alun Davies am y gyfres bwysig honno o gwestiynau. Rwy'n rhannu'r uchelgais gydag ef i wneud yn siŵr bod pob rhan o'n system addysg a'r holl gymunedau yn gallu elwa o'r cynllun uchelgeisiol iawn yma. Un o'r elfennau mwyaf cyffrous ynddo, rwy'n credu, fu'r berthynas sydd wedi ei datblygu a'i sefydlu rhwng ysgolion ac ysgolion mewn gwledydd eraill. Dirprwy Lywydd, a gaf i ofyn a...
Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd—[Torri ar draws.]
Jeremy Miles: Felly, mae ysgolion yng Nghymru wedi bod yn sefydlu symudedd i Wlad Belg, i Bangladesh, i Ganada ac i Golombia a chreu'r rhwydwaith hwnnw ar lefel ysgol, lle byddai'r pwyslais, yn flaenorol, wedi bod ar lefel addysg uwch yn bennaf. Gofynnodd i mi gadarnhau bod hyn ar gael i bob rhan o'r sector addysg. Rwy'n credu bod llai o geisiadau gan y sector addysg bellach nag efallai y byddwn i wedi...
Jeremy Miles: Wel, diolch i'r Aelod am gwestiynau pwysig iawn. Felly, ar y pwynt cyntaf y gwnaeth hi wneud o ran y buddsoddiad, rwy'n credu, pan ŷch chi'n gweld y pwysau sydd ar deuluoedd nawr, mae'r cyfleoedd sy'n gallu newid a darparu gorwelion newydd i bobl ifanc yn dod yn sgil y buddsoddiad yma, hyd yn oed yn fwy pwysig nawr nag yr oedden nhw hyd yn oed yn y cyfnod cyn hynny. O ran y pwyslais ar...
Jeremy Miles: Mae'r rhaglen yn hyblyg, ni fydd yn wastraffus, ac mae'n sylweddol well na Turing.
Jeremy Miles: Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yr un mor frwdfrydig â fi ynghylch cynnydd Taith a'i llwyddiant cynnar yn y flwyddyn gyntaf. Bydd hyn yn annog darparwyr addysg yn ein hardaloedd lleol i gymryd rhan yn y rhaglen os nad ydyn nhw wedi gwneud hynny eto. Rydyn ni'n datblygu rhaglen gyfnewid ryngwladol i bob dysgwr yng Nghymru. Mae gwaith gwych wedi ei wneud yn barod, ac mae mwy i ddod. Rwy'n...
Jeremy Miles: Newydd ddechrau ydym ni, ac mae e eisoes yn agor drysau dramor.
Jeremy Miles: Rwy'n edrych ymlaen at drafod sut all Taith helpu i agor hyd yn oed mwy o ddrysau yn Ewrop pan fyddaf yn ymweld â Brwsel i siarad ag ASEau ac eraill yr wythnos nesaf. Ac er bod gan Taith neges wych i'n partneriaid rhyngwladol, dim ond un rhan o'n cynnig addysg ryngwladol uchelgeisiol ydyw. Mae ein rhaglen addysg ryngwladol, sy'n cael ei chyflwyno gan British Council Cymru, yn parhau i...
Jeremy Miles: Rwy'n credu yn sicr bod gan addysg rôl allweddol yn ein hymateb i'r heriau hynny.
Jeremy Miles: Gan fod ganddi agwedd uchelgeisiol at brosiectau rhyngwladol a phwyslais strategol, bydd Taith yn hwyluso dysgwyr ac addysgwyr i gymryd rôl weithredol wrth weithio gyda phartneriaid rhyngwladol a dysgu oddi wrthynt ar faterion sy'n effeithio arnom ni i gyd, fel newid hinsawdd. I ddatrys problemau byd-eang, mae angen dull byd-eang arnom, a bydd Taith yn ein helpu i gyflawni hynny. Mae Taith...
Jeremy Miles: Yn sôn am y dyfodol, gwnes i ddatgan ar 5 Hydref fod llwybr 2 Taith ar agor nawr i ymgeiswyr.