Mandy Jones: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol y stryd fawr yng Nghymru?
Mandy Jones: Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ganlyniadau iechyd yng Ngogledd Cymru?
Mandy Jones: Pa gynllunio ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i baratoi ar gyfer Brexit?
Mandy Jones: Mae llawer ohonoch chi'n gofyn am bleidlais y bobl er eich bod yn gwybod bod pobl Cymru wedi pleidleisio dros adael. Sut gallwch chi fynd am ail bleidlais—pleidlais y bobl—pan nad yw'r bleidlais gyntaf wedi'i gweithredu eto? Yn ail, pe byddech chi'n cael ail refferendwm—pleidlais y bobl—gyda Chymru'n pleidleisio dros adael unwaith eto, a fyddech chi'n anrhydeddu'r canlyniad hwnnw?
Mandy Jones: Diolch am yr ateb hwnnw. Arweinydd y Tŷ, ym mis Mawrth, cynigiodd Llywodraeth Cymru dri dewis ar gyfer uno awdurdodau lleol. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet bryd hynny bod angen newid radical. Eto i gyd, mae wedi methu â bwrw ymlaen gyda hyn oherwydd pwysau gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Arweinydd y Tŷ, a ydych chi'n credu bod angen newid radical, ac os felly, pryd?
Mandy Jones: 9. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddyfodol llywodraeth leol yng Nghymru? OAQ53027
Mandy Jones: Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf wedi gwrando'n astud ar ddatganiad y Llywodraeth ar Trafnidiaeth Cymru ac yn cydnabod anawsterau'r pontio. Ddoe, dywedodd Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip fod Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu cyflwyno rhywbeth tebyg i gerdyn Oyster Transport for London—rhywbeth rwy'n ei groesawu. Mae'n swnio fel rhywbeth a fydd o fudd go iawn i gymudwyr. Beth fydd yr...
Mandy Jones: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am berfformiad Trafnidiaeth Cymru? OAQ52986
Mandy Jones: Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw canser yn gwahaniaethu. Nid yw canser yn gwahaniaethu ar sail rhyw, hil neu rywioldeb. Rydym yn gweld, yn gynyddol, nad yw canser yn gwahaniaethu ar sail oedran ychwaith, ac eto mae profion canser ceg y groth yn dechrau pan fydd menywod yn 25 oed. Drwy ostwng yr oedran ar gyfer gwneud profion ceg y groth a sgrinio serfigol, gallwn achub bywydau. Gallwn...
Mandy Jones: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ganlyniadau canser yng Ngogledd Cymru? OAQ52938
Mandy Jones: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector addysg bellach yng Ngogledd Cymru?
Mandy Jones: Diolch am eich ateb. Ysgrifennydd y Cabinet, mae bwrdd iechyd gogledd Cymru wedi bod yn destun mesurau arbennig ers mis Mehefin 2015. Ar y pryd, dywedwyd wrthym fod y camau a gymerwyd yn adlewyrchu pryderon difrifol a pharhaus ynghylch arweinyddiaeth, llywodraethiant a chynnydd y bwrdd iechyd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n ddiolchgar am y newyddion diweddaraf a ddarparwyd gennych wedi tair...
Mandy Jones: 1. Beth yw cynllun Llywodraeth Cymru i ddod â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig? OAQ52790
Mandy Jones: Pa gamau y mae'r gwasanaeth iechyd yng Ngogledd Cymru yn eu cymryd i baratoi ar gyfer y gaeaf?
Mandy Jones: Na wnaf. Mae'r modd y gall Aelodau gyfiawnhau paratoi'r ffordd i gynyddu nifer Aelodau'r sefydliad hwn heddiw, a dadlau ar yr un pryd yn erbyn lleihau nifer yr Aelodau Seneddol, yn dangos sut y mae'r diwylliant swyddi i'r hogiau yn fyw ac yn iach mewn gwleidyddiaeth heddiw. Mae'r trethdalwr yng Nghymru eisoes yn talu am ormod o wleidyddion. Yr Alban—[Torri ar draws.] Mae gan yr Alban...
Mandy Jones: Diolch, Lywydd. Rwy'n sefyll heddiw, fel yr wythnos diwethaf, i fynegi fy rwystredigaeth a fy siom. Unwaith eto, teimlaf yr angen i bwysleisio y gellid treulio ein hamser—amser pobl Cymru yn wir—yn well o lawer. Nid oes gennyf amheuaeth y bydd y teimladau hyn yn cael eu hadleisio ar draws fy rhanbarth. Gadewch inni wynebu'r gwirionedd am eiliad. Mae'r gaeaf ar ddod. Bydd rhai pobl yng...
Mandy Jones: Diolch am eich ateb. Nodaf o bennawd yr wythnos diwethaf fod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu cyngor ar y broses o gyflwyno 5G yng Nghymru. Clywaf dermau fel 'cyflym iawn' a 'gwibgyswllt', ac a dweud y gwir, nid yw'r signal ffôn symudol a chyflymder y band eang yn fy rhanbarth yn cyfiawnhau defnyddio unrhyw un o'r geiriau hynny. A allwch ddweud wrthyf pa un a fydd 5G yn sicrhau cysondeb o...
Mandy Jones: Diolch am eich ateb. Ysgrifennydd y Cabinet, dychwelaf at fater cysgu allan; nid yw'n rhywbeth sy'n diflannu. Yn wir, clywsom ddoe fod 65 o bobl sy'n cysgu allan wedi marw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn y DU. Gwn fod adroddiadau eisoes wedi bod mai yn Wrecsam y mae'r nifer uchaf o bobl sy'n cysgu allan yng Nghymru. Yr wythnos diwethaf, mynychodd fy staff lansiad prototeip pod cysgu yng...
Mandy Jones: 7. Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei rhoi i gynorthwyo'r gwaith o ddileu digartrefedd wrth ddyrannu arian i'r portffolio llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus? OAQ52726
Mandy Jones: 2. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ddatblygu 5G yng Ngogledd Cymru? OAQ52727