Canlyniadau 221–240 o 3000 ar gyfer speaker:Bethan Sayed OR speaker:Bethan Sayed OR speaker:Bethan Sayed OR speaker:Bethan Sayed

5. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Prentisiaethau: Buddsoddi Mewn Sgiliau ar gyfer y Dyfodol (12 Maw 2019)

Bethan Sayed: Yn olaf, fe wnes i gyfarfod â Phrifysgolion Cymru ddoe ynglŷn â phrentisiaethau gradd. Roedden nhw'n dweud eu bod nhw'n rhwystredig iawn oherwydd y cyfyngiadau tynn iawn sydd ar bobl wrth geisio cael yr arian hwnnw o ystyried y flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i dechnoleg ddigidol, ac maen nhw'n dweud wrthyf i fod pobl yn heidio i Loegr i gael rhan yn y cyfleoedd...

5. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Prentisiaethau: Buddsoddi Mewn Sgiliau ar gyfer y Dyfodol (12 Maw 2019)

Bethan Sayed: Diolch am y datganiad yma. Mae wedi bod peth llwyddiant yn y maes yma, felly hoffwn groesawu'r prif ffigurau, ond mae'r datganiad yn darlunio llun delfrydol iawn sydd yn masgio rhai o'r problemau a'r penblethau sydd yn datblygu yn y maes yma. Y peth cyntaf sy'n rhaid imi ofyn yw: a allem ni gael system ddelifro gwell yn nhermau y ffordd i addysgu yn y gweithle? Yn bresennol, bydd arian yn...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (12 Maw 2019)

Bethan Sayed: Rydym ni wedi clywed ar y newyddion yn ddiweddar bod awgrymiadau cryfion, yn ystod streic y glowyr, bod yr heddlu, drwy’r heddlu protestiadau arbennig—yr un heddlu protestiadau arbennig a dreiddiodd fywydau llawer o fenywod sydd yma yng Nghymru mewn grwpiau ymgyrchu—mewn gwirionedd wedi treiddio i Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn ystod streic y glowyr, ac felly, roedden nhw’n torri'r...

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 5 Maw 2019)

Bethan Sayed: Mae fy etholwraig, Hannah Evans, wedi cael diagnosis o gyflwr genetig etifeddol prin, sef syndrom math 3 o Ehlers-Danlos—rwyf yn gobeithio fy mod i wedi dweud hynny'n gywir—ac mae hi wedi datblygu cymhlethdodau eilaidd o ganlyniad i glefyd ysgogi mastgelloedd ac anhwylder mastocytosis systemig. Mae’n rhaid i Hannah deithio i Lundain i weld arbenigwr preifat gan nad oes arbenigwr yng...

5. Dadl ar yr Adroddiad ar berthynas Cymru â Phwyllgor y Rhanbarthau yn y dyfodol (20 Chw 2019)

Bethan Sayed: Diolch yn fawr iawn. Gwn fod amser yn brin. Diolch i Mick Antoniw am gyflwyno ein hadroddiad ac am gyflwyno'r trafodaethau a gawsom yn huawdl a'r casgliadau y daethom iddynt o ran y gwaith yr ydym wedi ceisio ei wneud o fewn y gallu cyfyngedig a oedd gennym mewn perthynas â'n cynrychiolaeth ar Bwyllgor y Rhanbarthau. Croesawaf gyfraniadau pawb yma heddiw, yn enwedig y gydnabyddiaeth o'r...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (19 Chw 2019)

Bethan Sayed: Nid ydym yma yr wythnos nesaf, oherwydd y toriad, ond mae'n Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta ac mae yna ymgyrch, 'I'm socking it to eating disorders', lle maen nhw'n gofyn i bobl wisgo sanau smart, lliwgar a phostio hyn ar y cyfryngau cymdeithasol. Gan gymryd bod gan Aelodau'r Cynulliad sanau smart, lliwgar, byddwn yn annog pobl i gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta drwy...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (13 Chw 2019)

Bethan Sayed: Nid wyf yn dweud bod hyn yn seiliedig ar doriadau Llywodraeth Cymru; rwy'n dweud ei fod yn seiliedig ar ba ddadansoddiad rydych yn ei wneud o'r posibilrwydd y bydd y toriadau hynny'n digwydd, yma yng Nghymru, lle bydd swyddi'n cael eu colli. Rydym yn clywed hynny o'r cyfarfodydd y mae pob un o fy nghyd-Aelodau wedi bod yn eu trefnu ledled Cymru. Felly, yn hytrach na chladdu'ch pen yn y tywod,...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (13 Chw 2019)

Bethan Sayed: Credaf fod honno'n agwedd ddi-hid, mae'n ddrwg gennyf, Weinidog, gan y bydd hyn yn effeithio ar bobl ar lawr gwlad—eu bywoliaeth, lle maent yn gwario eu harian, sut y maent yn gwario eu harian, y swyddi y bydd modd iddynt fynd iddynt a'r sgiliau a fydd gennym yn ein cymunedau. Felly, gofynnaf ichi unwaith eto: pa ddadansoddiad economaidd a wnewch ar sail Cymru gyfan ynghylch effaith y...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (13 Chw 2019)

Bethan Sayed: Diolch. Roeddwn am ofyn y cwestiwn cyntaf ynglŷn ag a ydych wedi gwneud dadansoddiad economaidd o'r toriadau posibl i addysg uwch. Rwy'n sylweddoli bod hyn yn ymwneud yn bennaf â'r portffolio addysg, ond os edrychwn ar hyn mewn ffordd gyfannol, mae colli unrhyw swyddi—boed y swyddi hynny ym Mangor, yng Nghaerfyrddin, neu yng Nghaerdydd, gyda chyhoeddiad diweddar ynghylch diffyg o £21...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (12 Chw 2019)

Bethan Sayed: Trefnydd, rwyf eisiau gofyn am ddadl ar ddiffiniad Llywodraeth Cymru o ‘lleol’ mewn cysylltiad â datblygiad tai. Gwn na allwch roi sylwadau ar achosion lleol, ond rwyf yn siŵr eich bod yn ymwybodol o'r mater ynghylch datblygu tai ym Mhennard, ac mae Cyngor Abertawe wedi diffinio ‘lleol’ fel y Mwmbwls. Nawr, gwn am enghraifft lle mae menyw ifanc wedi symud cartref gan ei bod hi wedi...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cymorth i Ysgolion Cynradd (12 Chw 2019)

Bethan Sayed: Diolch am yr ymateb hynny. Cwpwl o wythnosau nôl, gwnes i gwrdd â nifer o brifathrawon yn ardal Abertawe, ac yn eu geiriau nhw, roedden nhw'n dweud bod y sefyllfa'n wynebu creisis o ran yr hyn sydd yn digwydd mewn ysgolion cynradd yn yr ardal benodol hynny. Mae morâl yn isel iawn—nid fy ngeiriau i yw hynny, ond eu geiriau nhw ataf i. Beth ydych chi'n ei wneud i weithio gydag ysgolion,...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cymorth i Ysgolion Cynradd (12 Chw 2019)

Bethan Sayed: 7. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i ysgolion cynradd? OAQ53414

10. Dadl Fer: Newid Lluniau, Niweidio Bywydau (30 Ion 2019)

Bethan Sayed: A wnewch chi ildio? Mae ychydig  ar ei hôl hi ond fe sonioch chi am yr ymchwil ar ddelwedd corff mewn oes ddigidol, ac roeddwn yn meddwl tybed a ellid rhannu hwnnw ag Aelodau'r Cynulliad. Nid wyf yn siŵr pwy a wnaeth hwnnw, ond yn sicr buaswn yn falch o'i rannu gyda'r grŵp trawsbleidiol ar anhwylderau bwyta fel y gallwn weld sut y gallwn gymryd rhan yn hynny yn y dyfodol.

10. Dadl Fer: Newid Lluniau, Niweidio Bywydau (30 Ion 2019)

Bethan Sayed: Felly, gallwn ysgwyd ein pennau a gwenu ar rywfaint o hyn, ond gwyddom pa mor hawdd yw hi i gael ein tynnu i mewn i hyn a chael ein sugno i mewn i sut y dylem, a sut na ddylem edrych neu ba chwiw y dylem neu na ddylem ei dilyn. Nawr, dewch, faint ohonom sydd wedi teimlo boddhad ar ôl cael nifer penodol o 'likes' neu gadarnhad ar ôl postio hun-lun neu lun proffil newydd ar-lein? Gadewch inni...

10. Dadl Fer: Newid Lluniau, Niweidio Bywydau (30 Ion 2019)

Bethan Sayed: Diolch, ac rwyf wedi rhoi munud i Jack Sargeant a Lynne Neagle. Roeddwn am gyflwyno'r ddadl hon i archwilio sut—[Torri ar draws.]

10. Dadl Fer: Newid Lluniau, Niweidio Bywydau (30 Ion 2019)

Bethan Sayed: Roeddwn am gyflwyno'r ddadl i archwilio pa mor driw rydym ni i'n bywydau ein hunain yn y modd y gweithredwn ar-lein, ac a yw yn ein niweidio o gwbl. Nawr, wrth dyfu fyny yng Nghymoedd de Cymru—a chredwch neu beidio, roedd hynny cyn i'r rhyngrwyd ddechrau magu gwraidd—nid oeddwn yn wynebu'r mathau hyn o ddylanwadau ar-lein, ond yn sicr roeddent yno mewn cylchgronau. Ynghanol fy ugeiniau,...

7. Dadl Plaid Cymru: Carchardai a Chyfiawnder Troseddol (30 Ion 2019)

Bethan Sayed: Yn fy marn i, yr hyn roedd a wnelo'r carchar arfaethedig ym Mhort Talbot mewn gwirionedd oedd Llywodraeth yn San Steffan a oedd wedi methu buddsoddi yng Nghymru, a oedd wedi canslo prosiectau seilwaith mawr neu wedi methu cefnogi rhai eraill. Roedd yn enghraifft arall o Lywodraeth San Steffan yn credu y byddai Cymru, gyda'i heconomi wastad, yn bachu'r cyfle i gael y gobaith lleiaf o...

7. Dadl Plaid Cymru: Carchardai a Chyfiawnder Troseddol (30 Ion 2019)

Bethan Sayed: Diolch. Mae'n bwysig iawn inni gadw'r mater hwn ar frig yr agenda wleidyddol a cheisio ei drafod mewn ffordd adeiladol, os oes modd—gan nad dyna a glywais o rai o'r cyfraniadau heddiw. Un o'r pethau roeddwn yn fwyaf awyddus i siarad amdano, a'i roi ar yr agenda pan gawsom yr ymgyrch ym Mhort Talbot yn erbyn carchar mawr newydd ym Maglan oedd y dylai'r ymgyrch ymwneud â mwy na 'Nid yn fy...

7. Dadl Plaid Cymru: Carchardai a Chyfiawnder Troseddol (30 Ion 2019)

Bethan Sayed: A wnewch chi dderbyn ymyriad?

4. Cwestiynau Amserol: Ymdriniaeth Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg â Honiadau ynghylch Ymosodiadau Rhyw (30 Ion 2019)

Bethan Sayed: Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Dyma'r trydydd adroddiad, wrth gwrs, os ydym yn cynnwys yr adolygiad bwrdd gwaith o ddiogelu yn y bwrdd iechyd, ac mae'r adroddiad yn dangos bod yna ddiffyg eglurder o hyd o ran sut y mae rhai argymhellion, sy'n mynd yn ôl cyn y sgandal benodol hon, wedi cael eu rhoi ar waith neu sut y byddant yn cael eu rhoi ar waith. Pan fyddwn yn trafod yr adroddiad hwn,...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.