Hannah Blythyn: Diolch i Dawn Bowden am ei chwestiynau. Mae hi'n gywir yn crybwyll y buddsoddiad sy'n mynd i Ferthyr Tudful, a bydd yn parhau, a hefyd pwysigrwydd y cymunedau hynny sy'n gwasanaethu—y cymunedau llai sy'n hanfodol i'r bobl sy'n byw ynddynt ac o'u hamgylch hefyd. O ran pwy sy'n gymwys i'w gael a sut y dyrennir yr arian hwnnw, o ran blaenoriaethu canol trefi, yn draddodiadol mae penderfyniadau...
Hannah Blythyn: Mae'r Aelod yn crybwyll yr angen am arallgyfeirio, ac mae'n llygad ei le—nid oes ateb sy'n addas i bawb i ailfywiogi ac adfywio canol ein trefi. Er bod manwerthu'n parhau i fod yn bwysig, ni all ein trefi oroesi drwy ddibynnu ar y sector manwerthu yn unig. Felly, fel y dywedais yn y datganiad, mae'n ymwneud â siopa, mae'n ymwneud â byw, mae'n ymwneud â hamdden ac mae'n ymwneud â gwaith...
Hannah Blythyn: Cytunaf yn llwyr â sylwadau'r Aelod ynglŷn â sut y mae pwysigrwydd a swyddogaeth cymunedau lleol wedi'u dwyn i'r amlwg mewn gwirionedd yn ystod y chwe mis diwethaf, fwy neu lai, a faint o bobl sydd wedi mynd y tu hwnt i hynny, boed yn wirfoddolwyr neu'n fusnesau bach, gan arallgyfeirio nid yn unig i gefnogi eu busnesau, ond i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed yn y gymuned leol hefyd. O...
Hannah Blythyn: A gaf i ddiolch i'r Aelod am y nifer o gwestiynau a phwyntiau a wnaeth mewn ymateb i'r datganiad yna? Byddaf yn gwneud fy ngorau i geisio ymdrin â nhw mor llawn ag y gallaf. O ran unrhyw symiau canlyniadol, roedd yr Aelod yn iawn, ni chawsom ni unrhyw arian ychwanegol, ond mae'r £90 miliwn yr ydym ni wedi'i roi i'n cynllun trawsnewid trefi yn llawer mwy na'r symiau canlyniadol a gawn ni gan...
Hannah Blythyn: Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Roeddwn i eisiau manteisio ar y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y pecyn trawsnewid trefi gwerth £90 miliwn a gyhoeddwyd ym mis Ionawr a'r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ychydig cyn toriad yr haf ar gymorth i ganol ein trefi ymdopi â phandemig y coronafeirws. Mae ymdeimlad o falchder wrth wraidd cymunedau ledled y wlad. Lleoedd...
Hannah Blythyn: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau, y pwyllgor a'r Senedd ehangach, am eu cyfraniadau, ac rwy'n croesawu'r cyfle o'r diwedd i allu ymateb i'r ddadl hon ac i adroddiad ymchwiliad y pwyllgor heddiw. Fel y clywsoch yma heddiw yn ystod y ddadl, mae pob un ohonom yma'n gwybod yn iawn sut y mae'r pandemig COVID-19 wedi arwain at gyfnod anodd i'n cymunedau ac i'n...
Hannah Blythyn: Gallem fynd ar daith, Julie. Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn, ac fel y dywed yn gwbl gywir, ceir nifer o gynghorau tref a chymuned gweithgar ac effeithiol iawn sydd nid yn unig wedi mynd y tu hwnt i’r galw dros y chwe mis diwethaf, ond sy’n rhan annatod o’r cymunedau o ran y gwaith a wnânt i wneud gwahaniaeth o ddydd i ddydd yn y cymunedau hynny. Y peth cyntaf i'w ddweud—ac rwy'n...
Hannah Blythyn: Mae cynghorau tref wedi bod, ac yn parhau i fod, yn rhan bwysig o’r ymateb i COVID-19 a’r gwaith adfer. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynghorau tref i arfer eu pwerau cyfredol i wneud gwahaniaeth i'w cymunedau lleol, ac mae'n cyflwyno deddfwriaeth i roi ystod ehangach o bwerau i'r sector, cyhyd â bod rhai amodau'n cael eu bodloni. Rydym hefyd yn ceisio grymuso cynghorau tref ymhellach...
Hannah Blythyn: A gaf fi ddiolch i Nick Ramsay am ei gwestiwn? Fe fydd yr Aelod yn ymwybodol na allaf wneud sylwadau ar geisiadau unigol ond yn fwy cyffredinol, mae cefnogaeth i seilwaith gwyrdd wedi'i chynnwys yn 'Polisi Cynllunio Cymru'. Mae fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn ysgwyd ei ben i ategu sut y mae hwn yn rhywbeth rydym yn awyddus iawn i'w ddatblygu fel Llywodraeth, ond...
Hannah Blythyn: Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn cynhwysfawr hwnnw, sy'n ymdrin ag amrywiaeth o faterion pwysig, ac mae'n bosibl fod llawer ohonynt yn y cefndir cyn y pandemig, ond yn sicr mae'r angen i fynd i'r afael â hwy wedi cynyddu o ganlyniad. O ran rhagweld rhai o'r heriau sydd o'n blaenau a sut y mae angen inni wneud pethau'n wahanol, cyhoeddwyd 'Adeiladu Lleoedd Gwell' cyn yr haf, ac mae'n...
Hannah Blythyn: Mae polisi cynllunio cenedlaethol yn datgan bod ein targedau carbon yn berthnasol yn y broses gynllunio. Maent hefyd yn cymhwyso'r dull canol trefi yn gyntaf sy'n pennu y dylid lleoli datblygiadau manwerthu a masnachol yng nghanol ein trefi a'n dinasoedd. Mae creu cymunedau gwyrddach a glanach yn rhan annatod o'n gwaith trawsnewid trefi.
Hannah Blythyn: Yn bendant. Rwy'n gwybod bod y banc cymunedol ym Mwcle yn fater y mae'r Aelod wedi bod yn ymgyrchu'n frwd arno ers nifer o fisoedd bellach. Gallwn weld yr effaith y byddai’n ei chael nid yn unig o ran lliniaru yn erbyn yr heriau economaidd y gallem eu hwynebu ar ôl COVID-19, ond o ran sut rydym yn adfywio ac yn dod ag ymwelwyr yn ôl i ganol ein trefi. Wrth inni fwrw ymlaen ag egwyddor...
Hannah Blythyn: Diolch. Mae trawsnewid trefi ledled Cymru a'u helpu i ffynnu, nid goroesi yn unig, yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae hyn, wrth gwrs, yn fwy perthnasol nag erioed yn yr amgylchiadau presennol. Bydd grŵp gweithredu gweinidogol ar ganol trefi, wedi'i ategu gan grwpiau rhanbarthol, yn mynd i'r afael ag effaith COVID-19 ac yn llywio camau gweithredu i gefnogi’r gwaith o adfer trefi, gan...
Hannah Blythyn: Ap Y Cerddwyr, ie? [Chwerthin.] Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â Cerddwyr Cymru yn genedlaethol, fel Gweinidog, yn ystod yr wythnosau diwethaf, a chyfarfûm â fy ngrŵp Cerddwyr lleol ddydd Gwener diwethaf mewn gwirionedd. Yn anffodus, roedd y tywydd garw'n golygu nad oeddem allan am dro, ond cawsom eistedd mewn caffi hyfryd ar gornel stryd yng Nghaerwys. Felly, er nad oedd gennym yr ap...
Hannah Blythyn: Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n cyflawni rhaglen diwygio mynediad. Mae'n cynnwys ymdrin â darpariaethau diangen yn Neddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, fel y rheini sy'n ymwneud â'r dyddiad terfyn yn 2026 ar gyfer llwybrau hanesyddol a nodwyd gan ymgyrch Y Cerddwyr, 'Don't Lose Your Way'.
Hannah Blythyn: Mae'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy yn iawn, rwy'n adnabod stryd fawr Bwcle yn dda, yn enwedig gan fod Bwcle yn ffinio â fy etholaeth, er, mae'n rhaid i mi ddweud, mae blynyddoedd ers fy ymweliadau rheolaidd â'r Tiv ym Mwcle. Rydych yn siarad yn dda am y ffordd y mae Bwcle wedi colli banciau—mae'r stryd fawr wedi newid, fel y mae llawer o'n strydoedd mawr ledled y wlad wedi newid, ac...
Hannah Blythyn: Mae trawsnewid trefi ledled Cymru a sicrhau eu bod yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rydym wedi parhau i gefnogi'r gwaith o adfywio canol trefi ar draws gogledd-ddwyrain Cymru, yn enwedig gyda phrosiectau gwerth £60 miliwn sy'n canolbwyntio ar y Rhyl, Wrecsam a Threffynnon.
Hannah Blythyn: Our commitment to promoting financial inclusion is reflected through the £19 million funding in place this financial year. This provides access to appropriate and affordable financial services and quality-assured information and advice, enabling people to make more informed financial decisions and better manage their finances.
Hannah Blythyn: Welsh Government has provided a firm commitment to support all local authorities in managing their empty properties through the transforming towns announcement. We are providing a comprehensive upskilling and support programme across Wales, which includes those authorities within south-west Wales.
Hannah Blythyn: As set out in our current consultation towards a circular economy, 'Beyond Recycling', our aim is to be the world leader in recycling. To achieve this, our actions include investing in new infrastructure, bringing forward new regulations to improve business recycling and later this monthm, I will launch a new recycling campaign to encourage greater take-up.