Darren Millar: Diolch yn fawr, Lywydd dros dro. A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb hael i'r ddadl ac i bawb sydd wedi cyfrannu mor huawdl at y drafodaeth hon? Rwy'n falch iawn o glywed y bydd y Gweinidog yn ystyried ein cynnig. Rwy'n gobeithio, wrth hynny, ei bod yn golygu y bydd y Llywodraeth yn cefnogi ein cynnig. Credaf ein bod ni fel sefydliad yn y Senedd hon ac yma yng Nghymru yn haeddu clod...
Darren Millar: Wel, fel y gwyddoch, mae ein safbwynt yn glir iawn, sef bod gan 99 y cant o bobl o grwpiau anodd eu cyrraedd ryw fath o ddull adnabod ffotograffig a fyddai'n eu galluogi i bleidleisio mewn etholiadau, a 98 y cant o'r boblogaeth gyfan. Gall y 2 y cant sy'n weddill, nad oes ganddynt ddull adnabod ffotograffig o'r fath, gael cardiau adnabod ffotograffig am ddim. Nid ydym yn gweld problem gyda...
Darren Millar: Rwy'n ddiolchgar am yr wybodaeth ddiweddaraf ac rwy'n ddiolchgar eich bod wedi dweud i'r trafodaethau fod yn adeiladol. Yn amlwg, gwn mai un o'r materion y mae Llywodraeth Cymru yn bryderus yn ei gylch yw dulliau adnabod pleidleiswyr. A byddem ni ar feinciau'r Ceidwadwyr yma yn eich annog yn gryf iawn i fabwysiadu dulliau adnabod pleidleiswyr ar gyfer pob etholiad yma yng Nghymru fel bod...
Darren Millar: Diolch yn fawr, ac a gaf fi gysylltu fy hun â'r undod a ddangoswyd yn y Siambr heddiw mewn perthynas â phobl Wcráin? Weinidog, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y trafodaethau a gynhaliwyd gennych gyda Llywodraeth y DU a'ch swyddogion ynglŷn â mabwysiadu darpariaethau Bil Etholiadau Llywodraeth y DU?
Darren Millar: Fel gŵyr y Dirprwy Weinidog, mae gennyf i brofiad personol o lifogydd, ar ôl byw drwy lifogydd Tywyn yr holl flynyddoedd hynny'n ôl, ac maen nhw'n dod â dinistr llwyr. Mae'n rhaid i ni wneud yr hyn a allwn ni i atal cartrefi pobl rhag effeithiau llifogydd. Roeddwn i'n falch iawn o weld llawer o gyfeiriadau at ardaloedd yn fy etholaeth i yn y rhestr o ymrwymiadau ariannol, yn cynnwys ardal...
Darren Millar: Rwy'n ddiolchgar i chi am gymryd yr ymyriad. Rydych chi newydd restru llu o bryderon—
Darren Millar: Rwy'n siŵr bod gennych chi gatalog o fwy. Ond gaf i ofyn i chi: gallai'r holl bryderon hynny fod wedi cael eu gwneud yr un fath i drefn cymhorthdal flaenorol yr UE; wnaethoch chi erioed godi un o'r pryderon hynny gyda'r Comisiwn Ewropeaidd mewn perthynas â'r gyfundrefn flaenorol, y bu'n rhaid i ni ei dioddef am gynifer o flynyddoedd?
Darren Millar: Rydw i wedi cydnabod na fu ymateb i'r pwyllgor, sydd, yn fy marn i, yn destun gofid mawr, ac mae hynny'n annerbyniol. Rydw i eisoes wedi nodi fy marn am hynny. Gan ddychwelyd at yr hyn yr oeddwn i'n ei ddweud, mae angen cyfundrefn rheoli cymhorthdal ledled y DU i sicrhau nad yw cymorthdaliadau'n ystumio cystadleuaeth yn ormodol o fewn marchnad fewnol y DU. Nawr yn fwy nag erioed, yn enwedig...
Darren Millar: Dydw i ddim yn credu ei fod wedi anwybyddu'r sylwadau sydd wedi'u gwneud.
Darren Millar: Rwyf yn dymuno siarad i gefnogi'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol sydd ger ein bron heddiw. Er gwaethaf y gefnogaeth honno, rwy'n credu ei bod hi'n amharchus iawn i lythyrau fod yn mynd gan bwyllgorau'r Senedd hon ac nad yw'r ohebiaeth honno yn cael ymateb. Mae hynny'n annerbyniol ac mae angen ymdrin â hynny. Rwy'n credu mai'r realiti yw fod Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, bob amser wedi...
Darren Millar: Diolch, Trefnydd, am eich datganiad. A gaf i alw am ddau ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, os gwelwch yn dda, yn ystod yr wythnosau nesaf? Rwy'n siomedig iawn bod y Gweinidog wedi gwneud cyhoeddiad i ymestyn yr hyn yr oeddem ni i gyd yn gobeithio y byddai trefniadau dros dro ar gyfer erthyliadau heb fod angen gweld gweithiwr meddygol proffesiynol yn y cnawd....
Darren Millar: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd o ran dynodi Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn barc cenedlaethol?
Darren Millar: Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am gymryd yr ymyriad. Onid yw'r ffaith bod llawer o'r adeiladau hyn yn cael eu rhestru ar Coflein, y gronfa ddata genedlaethol o henebion hanesyddol, yn dweud wrthym fod lle arbennig i'r adeiladau hyn yn ein gwlad a'u bod yn haeddu lefel o warchodaeth sy'n gwneud inni feddwl ddwywaith, dair gwaith, bedair gwaith cyn inni benderfynu eu dymchwel? Dyna pam y mae gosod...
Darren Millar: Nid yw'n addas i'r diben, a gwn y bydd y Gweinidog, mae'n debyg, yn cyfeirio at y ffaith y gall rhestru lleol ddigwydd drwy awdurdodau lleol, ond nid oes gan lawer o awdurdodau lleol amser, egni na chapasiti, yn anffodus, i ddatblygu eu rhestrau lleol. Felly, credaf mai'r hyn y gallem wneud ag ef mewn gwirionedd yw cael Cadw i gyflwyno categori rhestru arall, rhestr gradd III efallai, sy'n...
Darren Millar: Rwy'n codi i siarad yn y ddadl hon nid am fod gennyf ddiddordeb arbennig yn yr adeilad pwysig yn y Bont-faen y cyfeiriwyd ato, ond oherwydd fy mod am wneud rhai pwyntiau mwy cyffredinol am yr effaith sylweddol y mae peidio â rhestru adeiladau sy'n bwysig o ran treftadaeth leol a chenedlaethol yn ei chael mewn rhannau eraill o'r wlad. Yn fy etholaeth i, mae eiddo art déco amlwg iawn ar lan...
Darren Millar: Rwy'n cytuno'n llwyr â'r dyheadau yr ydych newydd eu lleisio, Weinidog, ond rwy'n bryderus iawn ar ôl gweld eich datganiad heddiw mai tri mis yn unig y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi'i gael cyn y gallai fod yn destun mesurau arbennig unwaith eto. Mae'r rheini ohonom sy'n cynrychioli etholaethau yn y gogledd yn siomedig. Teimlwn ein bod wedi cael ein siomi, ie, gan...
Darren Millar: Ydw, yn sicr.
Darren Millar: Gwn eich bod eisiau trosglwyddo'r baich i awdurdodau lleol mewn perthynas â'r dreth hon, ond y gwir amdani yw mai'r Llywodraeth Lafur yng Nghymru sy'n gosod y ffordd ymlaen ac yn hwyluso cyflwyno treth a allai ddinistrio economi gogledd Cymru. Mae twristiaeth yn werth biliynau i'n gwlad, ac mae degau o filoedd o bobl ar draws rhanbarth y gogledd yn cael eu cyflogi mewn swyddi twristiaeth ac...
Darren Millar: 6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith treth twristiaeth ar economi Gogledd Cymru? OQ57634
Darren Millar: 7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo rhagoriaeth yn GIG Cymru? OQ57633