Vaughan Gething: Diolch. Felly, mae cynnydd wedi bod yn y cyllid i ymchwil cysylltiedig ag ansawdd, a ddarparodd y Gweinidog addysg i sefydliadau addysg uwch. Rydych yn iawn fod gennym her wirioneddol gyda chael gwared ar gronfeydd strwythurol a dynodi cyllid yn ei le. Mae'n gwbl hanfodol i Gymru fod yn llawer mwy llwyddiannus wrth ennill arian UKRI. Mae hwnnw'n achos sy'n cael ei wneud yn uniongyrchol ac...
Vaughan Gething: Ie. Daeth yr ymgynghoriad i ben ddiwedd mis Medi eleni, gyda dros 150 o gyflwyniadau ysgrifenedig yn dod i law. Mae dadansoddiad o ymatebion i'r ymgynghoriad ar y gweill yn awr a byddwn yn parhau i weithio gydag Aelodau dynodedig Plaid Cymru, yn unol ag ymrwymiad y cytundeb cydweithio, i ddatblygu strategaeth arloesi newydd ar y cyd.
Vaughan Gething: Ie. Byddwn yn parhau i weithio gyda Cyfeillion Llong Casnewydd a'r cyngor hefyd, gan eu bod wedi ymrwymo i geisio dod o hyd i gartref parhaol i'r llong, ac mae'n fenter sylweddol i warchod pob un o'r 2,000 o brennau'r llong. Yr her fydd dynodi cyllideb ar gyfer cartref parhaol ar adeg pan fo heriau gwirioneddol iawn i'n cyllideb bresennol, a bydd yn rhaid i bawb ohonom ailasesu'r hyn y gallwn...
Vaughan Gething: Rwy'n cytuno'n llwyr, ac rwyf wedi bod yng Nghaerllion. Fe ymwelais â'r amffitheatr a'r barics gyda fy mab a fy mherthnasau-yng-nghyfraith a oedd yn ymweld o Iwerddon. Roeddent yn llawn edmygedd a byddent yn hapus i ddychwelyd ar ryw adeg yn y dyfodol. Rwy'n eithaf cyffrous am darganfyddiadau eraill ar y safle hwnnw yn ddiweddar, gan gynnwys yr hyn a edrychai fel olion porthladd yno hefyd....
Vaughan Gething: Diolch. Mae Casnewydd yn ymfalchïo fod ganddi safleoedd treftadaeth o bwysigrwydd rhyngwladol, o gyfnod y Rhufeiniaid hyd at ein gorffennol diwydiannol diweddar. Bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i hyrwyddo a gwella treftadaeth unigryw Casnewydd i'w thrigolion ac i ymwelwyr o bob cwr o'r byd.
Vaughan Gething: Rwyf am ddychwelyd at y pwynt olaf a wnaethoch am letygarwch. Rwy'n ymwybodol iawn fod yr haf wedi bod yn rhesymol ond heb fod yn doreithiog. Felly, mewn gwirionedd, ar draws lletygarwch, mae yna heriau gwirioneddol wrth gyrraedd yr hydref a'r gaeaf. Mae'n gwneud y gyllideb Calan Gaeaf hyd yn oed yn bwysicach iddynt o ran beth fydd hynny'n ei wneud i'n gallu i gynorthwyo'r sector hwn, ond...
Vaughan Gething: Yn ddiddorol, mae hwn yn faes lle rwyf eisoes wedi bod yn ystyried yr hyn y gallem ei wneud ers rhai wythnosau, felly nid yw'n cael ei arwain gan y cwestiwn, ond mae'n rhywbeth yr ydym wrthi'n edrych arno—ynglŷn â sut y gallwn helpu pobl i ddatgarboneiddio o bosibl, yn ogystal â'r potensial i gynhyrchu ynni nad yw'n ddarostyngedig i'r amrywiadau a'r cynnydd mewn prisiau ynni a welsom....
Vaughan Gething: Rwy'n meddwl bod un neu ddau o bethau y byddwn yn eu dweud mewn ymateb i'r Aelod. Mae ystod o'r datganiadau a wneuthum ar yr economi yn sicr wedi cael effaith uniongyrchol ar rai o'r dewisiadau y bwriadwn eu gwneud ar hyrwyddo'r economi ymwelwyr, sy'n sector cyflogaeth sylweddol ac yn sector sydd dan bwysau gwirioneddol. Mae lleihad pellach yng ngwariant dewisol pobl, fel sy'n debygol o...
Vaughan Gething: Wel, mewn gwirionedd, rydych wedi cael cyfleoedd i ofyn cwestiynau ar dwristiaeth, ac fe wnaethoch eu cyfeirio at y Dirprwy Weinidog. Rwy'n falch eich bod wedi ailddarganfod y ddalen cyfrifoldebau gweinidogol. [Chwerthin.] Edrychwch, ar ddatganiadau a gwaith, mae'r datganiadau a wnawn yn y Siambr yn ymwneud â gwaith wrth inni ei ddatblygu ac rwy'n gweithio'n agos gyda'r Gweinidog cyllid ar...
Vaughan Gething: Rwyf am ddechrau drwy gydnabod fy mod, wrth gwrs, yn edrych ymlaen at weld tîm y dynion yn cymryd rhan yn rowndiau terfynol cwpan pêl-droed y byd. Serch hynny, rwyf am ddechrau drwy gydnabod cyflawniad tîm y menywod. Er nad ydynt wedi cyrraedd y rowndiau terfynol, mae'r cynnydd sylweddol y maent wedi'i wneud wedi gwneud pawb ar draws y Siambr hon a'r tu allan iddi yn hynod o falch a dylai...
Vaughan Gething: Wel, yn sicr fe edrychaf ar y mater gyda'r Dirprwy Weinidog, sydd fel arfer yn arwain yn y maes hwn. Wrth gwrs, mae hi'n ymwybodol iawn o'r dreftadaeth Iddewig, o ystyried y gwaith a wnaed yn ei hetholaeth ei hun. Ac mae gennyf ddiddordeb arbennig yn nhreftadaeth Iddewig dinas Caerdydd, y cynrychiolaf ran dda ohoni, a hefyd yn y realiti ei bod yn dal i chwarae rhan bwysig ym mywydau llawer o...
Vaughan Gething: Mae gan ein treftadaeth grefyddol le pwysig ynghanol ein cymunedau. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid a chefnogaeth i brosiectau treftadaeth ffydd mewn amryw o ffyrdd. Rydym yn mynd ati i gynorthwyo adeiladau a sefydliadau yn y sector hwn i warchod a hyrwyddo'r agwedd hon ar ein hanes cyffredin.
Vaughan Gething: Wel, rydych yn iawn, mae'n gyfnod anodd i deuluoedd ac i fusnesau sy'n ei chael hi'n anodd goroesi, gyda'r ansicrwydd a'r darlun ansefydlog ar lefel y DU. Mae'n cael effaith wirioneddol ar bob un ohonom. Mae cost cyllid busnes wedi cynyddu, yn ogystal â chostau unigol i berchnogion cartrefi hefyd. Wrth gwrs, rwyf wedi sylwi bod chwyddiant ychydig dros 10 y cant yn y ffigurau diweddaraf...
Vaughan Gething: Rydym mewn trafodaethau cychwynnol gyda Gweinidog presennol Llywodraeth y DU i ddeall cynigion y parthau buddsoddi a'r goblygiadau posibl i Gymru mewn mwy o fanylder. Byddai angen i unrhyw fenter i Gymru gyd-fynd â'n polisïau ar waith teg a'r amgylchedd, er enghraifft, yn ogystal â chynhyrchu twf gwirioneddol ychwanegol, yn hytrach na dim ond symud gweithgarwch busnes.
Vaughan Gething: We will continue to support businesses to grow throughout Wales with our partners and stakeholders as set out in our Regional Economic Frameworks.
Vaughan Gething: In Wales, “Levelling-Up” means the Welsh budget being £4 billion less over this three-year spending round, a £1.1bn loss in un-replaced EU funds, and an assault on our devolution settlement. This is already costing us significant investment and jobs, and having a major impact on employers and communities across Wales.
Vaughan Gething: We have progressed our analysis on apprenticeships at Level 3 and 5. From September employers have been able to enrol employees with training providers to qualify as a paralegal or advanced paralegal. My officials continue to work with stakeholders to critically assess the need for a solicitor apprenticeship.
Vaughan Gething: The levers to tackle cost increases on businesses, interest rates for borrowing, taxation of windfall profits and regulation of the energy market, lie squarely with UK Government. Our priority is to support businesses to decarbonise and save. We continue to identify opportunities to redirect resources to reduce burdens on business.
Vaughan Gething: Dyna pam ein bod yn buddsoddi £24 miliwn o gyfalaf mewn cyfleusterau llawr gwlad. Dyna pam ei bod yn gymaint o drueni fod yr adolygiad o wariant wedi torri ein cyllideb gyfalaf. Hoffem wneud mwy, wrth gwrs, ond golyga hynny fod angen yr adnoddau arnom i wneud mwy, yn hytrach na bod Llywodraeth y DU yn mynd â'n hadnoddau oddi wrthym. Roedd diddordeb gennyf yn y modd y tynnodd Huw...
Vaughan Gething: Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r ddadl hon heddiw, gan ei bod yn rhoi cyfle imi dynnu sylw at bwysigrwydd digwyddiadau i Gymru, a'r ffordd yr ydym yn cefnogi ein gweledigaeth fel y’i hamlinellir yn y strategaeth digwyddiadau cenedlaethol newydd. Ein huchelgais yw bod Cymru’n cynnal digwyddiadau ardderchog sy’n cefnogi llesiant ein pobl, ein lle a’r...