Andrew RT Davies: Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynhyrchu bwyd cynaliadwy?
Andrew RT Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad, Gweinidog?
Andrew RT Davies: Rydym ni i gyd yn gweld y sefyllfa erchyll—yr hyn sy'n digwydd yn Wcráin. Mae nifer y ffoaduriaid sy'n gadael yn awr yn fwy na 2 filiwn, rwy'n credu, yn ôl yr adroddiadau heddiw. Cafwyd cyfarfod yr wythnos diwethaf gan Weinidogion y Llywodraeth gyda chydweithwyr mewn llywodraeth leol a'r byrddau iechyd. Fel y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, a ydych chi mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth...
Andrew RT Davies: Gweinidog, byddwch chi wedi clywed y trafodaethau a gafodd y Prif Weinidog a minnau ynglŷn â diogelwch bwyd. Rwyf i'n amlwg yn eich holi chi heddiw fel arweinydd y tŷ, ond, yn amlwg, rydych chi'n gwisgo het arall y Gweinidog materion gwledig, a chi yw'r Gweinidog sy'n noddi'r Bil amaethyddol y byddwch chi'n ei gyflwyno ym mis Ebrill, rwy'n credu. Ni allaf i orbwysleisio'r cyfyng-gyngor yr...
Andrew RT Davies: Prif Weinidog, mae digwyddiadau bythefnos yn ôl wedi symud diogelwch bwyd i fod yn ystyriaeth flaenllaw, byddwn yn awgrymu, ac mae holl gyfrifoldeb polisi amaethyddol yn perthyn i feinciau eich Llywodraeth. Rwy'n gobeithio y gwnewch chi ystyried yr elfennau newydd sy'n ein hwynebu a'r heriau a'r cyfleoedd newydd sy'n ein hwynebu pan gaiff y Bil hwnnw ei gyflwyno i ni yma ym mis Ebrill....
Andrew RT Davies: Prif Weinidog, dywedodd prif weithredwr Yara, sef cynhyrchydd gwrtaith mwyaf y byd, nad yw'n fater o ba un a fyddwn ni'n dioddef prinder bwyd, mae'n fwy o achos o faint y prinder bwyd hwnnw oherwydd digwyddiadau yn Wcráin. Mae gennym ni Fil amaethyddiaeth yn dod gerbron y Senedd, sy'n cael ei gyflwyno gan y Gweinidog ym mis Ebrill. Newidiodd y ddynameg yn sylfaenol bythefnos yn ôl pan...
Andrew RT Davies: Diolch, Prif Weinidog—Llywydd, mae'n ddrwg gen i. [Chwerthin.] Dydych chi ddim wedi cael y dyrchafiad eto. Prif Weinidog, mae Rwsia a Wcráin yn cynhyrchu tua thraean o allforion gwenith y byd. Mae Wcráin, yn hanesyddol, wedi cael ei hadnabod fel basged fara Ewrop, ond oherwydd y digwyddiadau ofnadwy yr ydym ni'n eu gweld yn datblygu yn y rhan hon o'r byd, mae cost gwenith, er enghraifft,...
Andrew RT Davies: Rydym i gyd eisiau gweld datrys yr anghydfod hwn, Weinidog, a deallaf, yn amlwg, fod addysg uwch yn gorff annibynnol a'u bod yn gyfrifol am y trafodaethau ar yr agwedd benodol hon. Mae llawer o darfu wedi bod ar addysg myfyrwyr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf gyda COVID a gweithredu diwydiannol yn awr. Rydym mewn cyfnod tyngedfennol i'r rhan fwyaf o fyfyrwyr, sy'n gorfod cwblhau eu...
Andrew RT Davies: Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. O ystyried y sefyllfa ansicr o ran heddwch yn nwyrain Ewrop heddiw, nid oes gennym ni unrhyw syniad beth fydd y gwallgofddyn yn y Kremlin yn ei wneud nesaf. Gallai ddewis ymosod ar wledydd y Baltig—aelodau NATO, dylwn i ychwanegu. A allech chi gadarnhau felly y byddech chi'n cefnogi penderfyniad Llywodraeth y DU i gadw at ei rhwymedigaethau NATO pe bai...
Andrew RT Davies: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rydym ni wedi cael llawer o enghreifftiau o ffoaduriaid yn ymgartrefu yng Nghymru a'r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi ar waith, a Llywodraeth y DU a chyrff cyhoeddus yn gyffredinol, yn ogystal ag unigolion preifat. Fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol i chi, mae maint yr hyn yr ydym ni'n edrych arno heddiw o Wcráin yn rhywbeth na fu'n...
Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, wrth i ni ddathlu ein diwrnod cenedlaethol yma yng Nghymru—ac mae'n wych gweld blodyn cenedlaethol Wcráin yn eistedd ochr yn ochr â blodyn Cymru, y genhinen Pedr—mae'n werth myfyrio, ar ochr arall cyfandir Ewrop, fod unben gwallgof yn ceisio dileu cenedl sofran arall drwy weithredoedd creulon yr ydym ni i gyd wedi bod yn dyst iddyn nhw dros y pump, chwe...
Andrew RT Davies: Prif Weinidog, dywedodd eich datganiad i'r wasg ar y cyd a aeth allan pan wnaed y cyhoeddiad nad oedden nhw'n manteisio ar y cynnig o gyfleuster Sain Tathan mai'r rheswm am hynny oedd, a dyma'r dyfyniad o'r datganiad i'r wasg ar y cyd, 'nid oedd modd cyflawni'r amserlenni uchelgeisiol yr oedd y cwmni yn gweithio yn unol â nhw'. Hyd y gwn i, nid yw amserlenni cynllunio ac adeiladu yn...
Andrew RT Davies: Mae'n ddiddorol eich bod chi'n dweud hynna, Prif Weinidog, am lunio'r pecynnau, oherwydd yn 2020, dywedodd Britishvolt eu bod nhw eisiau sefydlu gigaffatri celloedd batri yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg, gan greu 3,000 o swyddi a 4,000 o swyddi cysylltiedig—cyfanswm o 7,000 o swyddi, yr ail brosiect buddsoddi diwydiannol mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Mae hynny'n werth ei ailadrodd: yr ail...
Andrew RT Davies: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Prif Weinidog, a gaf i anfon fy nymuniadau gorau atoch chi? Mae'n dda eich gweld chi yn edrych yn dda a gobeithio y byddwch chi'n dod allan o'ch caethiwed cyn gynted â phosibl. Mae'n dda eich gweld chi ar y sgrin heddiw yn edrych mor dda. Prif Weinidog, mae mewnfuddsoddiad yn mynd i fod yn hanfodol i adeiladu economi gref a gwydn ar ôl COVID. Beth sydd gan...
Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Dyma'r mathau o adegau nad ydych chi byth yn dymuno y bydd yn rhaid i chi eu gwneud, neu os byddwch chi'n eu gwneud, mae rhywun wedi cael bywyd da, llawn a gweithgar ac wedi byw i oedran da. Fe wnaeth Aled fyw bywyd da a gweithgar iawn, ond mae wedi cael ei gymryd oddi wrthym ni yn llawer rhy fuan yn 59 mlwydd oed. Mae'n wir bod Aled yn hwylusydd mewn bywyd, boed y proffesiwn...
Andrew RT Davies: A gaf fi uniaethu â theimladau'r Aelod dros Ogwr a hefyd sylwadau'r Gweinidog y prynhawn yma? A gaf fi hefyd holi'r Gweinidog ynglŷn â'r adroddiadau heddiw ar raglen BBC Wales Live am eiriau sarhaus ac ymosodiadau homoffobig o fewn y system addysg? Yn anffodus, maent yn nodi cynnydd yn hynny drwy adroddiadau Estyn sy'n deillio o'r arolygiadau a gynhaliwyd. Gallwn siarad cymaint ag y...
Andrew RT Davies: Wel, gofynnais i chi am yr eildro i ymddiheuro ac fe ddywedoch chi eich bod yn cael anhawster wrth ymddiheuro. Rwy'n siŵr y bydd y wraig a oedd yn cario ei gŵr i'r toiled yn gresynu at y ffaith eich bod yn cael anhawster wrth ymddiheuro am y diffyg cynllun gofal a roddwyd ar waith. Rwy'n siŵr y byddwch yn ei chael yn wir—[Torri ar draws.] Rwy'n siŵr bod y cleifion—22 sydd wedi'u rhifo...
Andrew RT Davies: Yn anffodus, Prif Weinidog, ni chlywais ymddiheuriad gennych yn y fan yna, a gofynnais i chi ei roi i bobl Cymru, ac yn arbennig y bobl sydd â'r bwrdd iechyd hwnnw'n diwallu eu hanghenion, a'r staff hefyd, sy'n teimlo eu bod wedi eu siomi, oherwydd, yn amlwg, yr oeddech chi—y Prif Weinidog a'r Gweinidog iechyd—wedi rhoi'r bwrdd iechyd hwn mewn mesurau arbennig am saith mlynedd. Hefyd,...
Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, os caf i dynnu eich sylw at rywbeth yr ydych yn gyfrifol amdano, sef y bwrdd iechyd yn y gogledd ac adroddiad Coleg Brenhinol y Llawfeddygon ar wasanaethau fasgwlaidd yr wythnos diwethaf a ddatgelodd fod y rhan fwyaf o ddogfennau clinigol yn annarllenadwy neu'n absennol, nad oedd cyfathrebu a chynllunio gofal yn bodoli mewn rhai achosion, ac, mewn un achos,...
Andrew RT Davies: Rydych chi'n gwybod yn iawn fod Llywodraeth y DU wedi sicrhau bod arian ar gael ar gyfer adfer tomenni glo, Prif Weinidog, felly rydych chi wedi camarwain y Cynulliad yn y fan yna drwy ddweud bod 'dim darn ceiniog' ar gael. Ond byddwn yn dweud wrthych chi, Prif Weinidog, pan fyddwch chi'n sôn am achosion busnes, nad oedd yr achos busnes dros gymryd y maes awyr drosodd yn gadarn iawn, oedd...