Mick Antoniw: Wel, gwrandewch, diolch am y sylwadau hynny, ac efallai gan gymryd o'r rhan olaf a godwyd gennych, wrth gwrs bu trafodaethau fframwaith, felly doedd y Ddeddf marchnad fewnol byth yn angenrheidiol. Holl amcan y fframweithiau oedd, yn y bôn, cael cytundeb cydweithredol arno, a Deddf y farchnad fewnol wnaeth luchio'r egwyddorion sylfaenol hynny o'r neilltu. Bu ymgysylltu â swyddogion ar lefel...
Mick Antoniw: Diolch i chi am y cwestiwn. O ran y materion yn ymwneud â'r drosedd a'r pŵer ar gyfer cosbau sifil, wel, wrth gwrs, trosedd yw pan fo rhywun wedi creu trosedd ac rydych chi yn y bôn yn cosbi neu'n eu herlyn am dorri'r gyfraith. Mae cosbau sifil yn rhoi pŵer ychwanegol i chi, yn yr ystyr, os ydych chi'n gwybod bod rhywbeth yn digwydd neu os cynigir gwneud rhywbeth a fyddai'n ei dorri,...
Mick Antoniw: Diolch am y cwestiynau hynny, ac efallai dim ond un ystadegyn i'w ychwanegu at y rhai hynny: wrth gwrs, o fewn Cymru yn unig, mewn un flwyddyn—neu, rwy'n credu, yn y ddwy flynedd ddiwethaf—mae amcangyfrif o 100 miliwn o gaeadau cwpanau plastig wedi'u cynhyrchu. Felly, mae hynny'n arwydd, rwy'n credu, o'r raddfa. Ac wrth gwrs fe gyfeirioch chi at lygru'r moroedd, ac wrth gwrs dyna pam mae...
Mick Antoniw: Gaf i ddiolch yn gyntaf i'r Aelod am y sylwadau cynharach? Y pwynt yr wyf, rwy'n credu, yn cytuno â hi yw bod mater plastig untro, halogi ein hamgylchedd, yr angen i fynd i'r afael â'r her honno, yn un byd-eang, ond mae'n un lle mae'n rhaid i ni wneud yr hyn a allwn o fewn Cymru o ran ein cyfrifoldebau ein hunain, a bod hynny, yn gyffredinol, yn fater trawsbleidiol; dydy e ddim yn fater...
Mick Antoniw: Mae pobl a busnesau yng Nghymru eisoes yn gwneud newidiadau. Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i'w cefnogi nhw, gan adeiladu ar eu brwdfrydedd dros newid. Mae pobl yn mynnu bod y Llywodraeth hon a'u Senedd yn adeiladu ar eu hymdrechion, a dyna mae'r Bil hwn yn ei wneud heddiw. Mae'n anfon neges glir at bawb sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Bydd yn annog mwy ohonon ni i newid ein...
Mick Antoniw: Mae cynhyrchion plastig wedi cefnogi datblygiad technolegol mewn meysydd fel gofal iechyd, diogelwch yn y gweithle ac effeithlonrwydd ynni. Eto i gyd, mae'r manteision hyn wedi dod gyda chost amgylcheddol gynyddol nad yw'n gynaliadwy. Fel rhan o ddatblygu dull mwy cyfrifol o ddefnyddio plastigion, y cam cyntaf gofynnol yw dileu ei ddefnydd diangen, yn enwedig ar gyfer eitemau sydd wedi'u...
Mick Antoniw: Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, gosododd y Gweinidog Newid Hinsawdd Fil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) gerbron y Senedd, ynghyd â'r memorandwm esboniadol. Rwy'n gwneud yr anerchiad hwn oherwydd nad yw'n gallu bod yma i wneud hynny ei hun. Mae gwastraff plastig yn hollbresennol, yn barhaus ac yn llygru, ac mae'n hanfodol cymryd camau ar fyrder i'w atal rhag llifo i...
Mick Antoniw: Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelod am amserlenni'r ddadl fer heddiw ar bleidleisiau yn 16 oed.
Mick Antoniw: Mae darparu'r arfau i'n pobl ifanc sylweddoli beth y mae'n ei olygu i fod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus yng Nghymru a'r byd yn rhan sylfaenol o addysg ddinesig. Mae'n cynnwys addysgu am ddemocratiaeth, ein cymdeithas a sut y gall pawb ohonom gymryd rhan, ac mae hefyd yn ymwneud â grymuso a rhyddfreinio. Rwy'n gadarn fy nghefnogaeth i alluogi ein pobl ifanc i ddod yn gyfranogwyr...
Mick Antoniw: Rwyf wedi gwneud y pwynt droeon fod hygyrchedd y gyfraith yn bwysig tu hwnt, oherwydd yn y bôn mae'n ymwneud â hawliau unigolion a chymunedau; mae'n ymwneud â grymuso'r rheini yn ogystal. Wrth gwrs, rwyf bob amser wedi canmol yr elfennau hynny o'r proffesiwn cyfreithiol—y bar, cyfreithwyr, a'r paragyfreithwyr sy'n gweithio gyda Cyngor ar Bopeth—sy'n gweithio yn y maes ac sy'n gwneud eu...
Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn. Mae'n gwestiwn ymarferol iawn, ac mae'n un pwysig. Rydym wedi tynnu sylw yn ein cyhoeddiad 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru' ym mis Mai at rai o'r mesurau yr ydym yn eu cymryd i gefnogi'r sector cyfreithiol. Er enghraifft, drwy Busnes Cymru, rydym yn darparu cymorth wedi'i dargedu i gwmnïau cyfreithiol i'w helpu i ddod yn fwy gwydn, i arloesi a thyfu. Mewn partneriaeth â...
Mick Antoniw: Yr ateb yw y byddwn yn sicr yn gwneud hynny. Yn wir, roeddwn i a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi mynychu nifer o gyfarfodydd gyda sefydliadau dinesig a oedd yn bryderus iawn am oblygiadau'r bil hawliau a'r cyfeiriad yr oedd yn ei ddilyn. Buom mewn cyfarfod yn fwy diweddar ar hynny, ac mae cyfarfodydd pellach i fod i gael eu cynnal. Ar yr ymgynghoriad ei hun, wel, wrth gwrs, fe...
Mick Antoniw: Rydym wedi ceisio ymgysylltu'n ystyrlon ers i Lywodraeth y DU lansio eu hymgynghoriad ym mis Rhagfyr. Cyfarfu'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau â'r Dirprwy Brif Weinidog ym mis Chwefror. Er gwaethaf ein hymateb llawn i'r ymgynghoriad, ychydig iawn o arwydd a gafwyd bod y pryderon hynny wedi cael sylw.
Mick Antoniw: Diolch am y pwyntiau cadarn hynny. A gaf fi ddechrau drwy ddweud fy mod yn credu bod rhai o fewn y Blaid Geidwadol, a hyd yn oed o fewn Plaid Geidwadol Cymru o bosibl, yn cefnogi undebau llafur a'r rôl y maent yn ei chwarae, ac sy'n cefnogi ymgysylltu pragmatig ac ymarferol? Ceir rhai sy'n dal i gredu yn y cysyniad o geidwadaeth un genedl, ac mae hynny wedi bod yn sylfaen i lawer iawn o...
Mick Antoniw: Diolch am eich cwestiwn. Mae bwriad honedig Llywodraeth y DU i gyflwyno deddfwriaeth mewn un ddeddfwrfa i ddiystyru'r ddeddfwriaeth a basiwyd gan un arall nid yn unig yn anghyfansoddiadol, mae hefyd yn dangos amarch i'r Senedd a etholwyd yn ddemocrataidd. Mae'n enghraifft arall o ddirmyg tuag at y setliad datganoli a hawliau pobl Cymru.
Mick Antoniw: Diolch ichi am y pwyntiau atodol hynny, ac wrth gwrs, rydym yn bachu ar bob cyfle i godi'r materion hyn, ac rydym wedi'u gwneud yn y cyfarfodydd rhyngweinidogol hefyd. Mae'r pwynt a wnewch am y gwahanol ddeddfwriaeth sydd wedi'i phasio wedi bod yn rhywbeth a drafodwyd gennym droeon wrth gwrs. Fe gofiwch Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd wrth gwrs. Roedd nifer o elfennau yn...
Mick Antoniw: Yn rheolaidd, mae Llywodraeth y DU yn methu ymgynghori'n ddigonol â ni cyn cyflwyno deddfwriaeth newydd, a'r Bil Hawliau yw'r enghraifft ddiweddaraf. Nid ydym eto wedi cynnal asesiad penodol o effeithiau cronnol yr enghreifftiau diweddaraf hyn o sut y mae Llywodraeth y DU yn cyfyngu ar fynediad at gyfiawnder ac yn tanseilio rheolaeth y gyfraith.
Mick Antoniw: Diolch ichi am hynny, a diolch am eich cefnogaeth. Fe wnaf ddau sylw sy'n dilyn rhai o'r pethau a ddywedwch. Wrth gwrs, o fewn y Bil Hawliau a gynigir, mae'n hepgor adran 3 o'r Ddeddf Hawliau Dynol, sy'n ei gwneud yn ofynnol i lysoedd ddehongli deddfwriaeth ddomestig i gyd-fynd â hawliau'r confensiwn, ac nid oes adran ychwaith i gymryd lle adran 2 o'r Ddeddf Hawliau Dynol, sy'n ei gwneud yn...
Mick Antoniw: Yn gyntaf, diolch am y sylwadau a'r pwyntiau adeiladol iawn a wnaed, ac wrth gwrs, mae llawer o ystyriaeth yn cael ei rhoi i fater bil hawliau ac mae fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, wedi gwneud sylwadau ar hynny eisoes wrth gwrs. Gwneuthum y pwynt hefyd mewn cwestiynau cynharach fod y Bil, fel y mae wedi'i ddrafftio, yn ymwneud â throsglwyddo hawliau dinasyddion ar...
Mick Antoniw: Diolch yn fawr iawn, unwaith eto, am y cwestiwn hwnnw. Ni welodd Llywodraeth Cymru y Bil cyn iddo gael ei gyflwyno. Mae'n galw am, ac mae bellach yn cael ystyriaeth ofalus. Yn sicr, rydym yn parhau i fod â phryderon sylfaenol am ei effaith anflaengar bosibl ar hawliau dynol yn y DU ac ar ein hagenda gadarnhaol yng Nghymru.