Canlyniadau 221–240 o 400 ar gyfer speaker:Sioned Williams

11. & 12. Legislative Consent Motion on the Police, Crime, Sentencing and Courts Bill — Motion 1, and Legislative Consent Motion on the Police, Crime, Sentencing and Courts Bill — Motion 2 ( 1 Maw 2022)

Sioned Williams: Er ymdrechion diflino rhai gwleidyddion o bob plaid yn Senedd y Deyrnas Gyfunol a'r dadleuon unwaith eto neithiwr, a aeth ymlaen tan yr oriau mân, mae'n amlwg na allwn ni ddibynnu ar fecanwaith methedig San Steffan i'n hamddiffyn ni yng Nghymru rhag eithafiaeth beryglus Llywodraeth y Torïaid, sy'n bygwth tanseilio hawliau sifil a hawliau sylfaenol. Rwyf wedi sôn o'r blaen, yn ein dadl...

5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Urddas yn ystod mislif ( 1 Maw 2022)

Sioned Williams: Ar hyn o bryd, mae'r diffyg addysg mislif a'r stigma yn ymwneud â'r mislif wedi arwain, yn anffodus, at lawer o bobl ifanc yn cael y mislif heb wybodaeth am beth y dylai'r mislif arferol fod. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni ddylai poen mislif fod yn gwbl wanychol nac annioddefol. Fodd bynnag, rydym ni wedi creu cymdeithas lle mae disgwyl i rai pobl ifanc sy'n cael y mislif ddioddef y boen a...

5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Urddas yn ystod mislif ( 1 Maw 2022)

Sioned Williams: Gwyddom mai pobl fwyaf bregus ein cymdeithas sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan ddiffyg urddas mislif a thlodi mislif, gan gynnwys pobl sydd eisoes yn wynebu digartrefedd, sydd ar incwm isel, ag anableddau, ac yn dioddef o gamwahaniaethu systemig am eu bod nhw'n aelodau o grwpiau ymylol. Y bobl yma sy'n gorfod mynd heb bethau elfennol eraill, tocio ar gyllidebau prin ar gyfer nwyddau ac...

5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Urddas yn ystod mislif ( 1 Maw 2022)

Sioned Williams: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am y datganiad.

5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Urddas yn ystod mislif ( 1 Maw 2022)

Sioned Williams: Roedd yr ymgyrch gyntaf i mi ei rhedeg erioed yn ymwneud ag urddas mislif. Yn yr un modd â Laura Anne Jones, rydym ni wedi bod yn yr un sefyllfa. Rwy'n cofio roedd gennym ni doiledau awyr agored yn yr ysgol gyfun yr es i iddi, a fyddai'n rhewi yn y gaeaf. Roedden nhw'n bethau ofnadwy, ofnadwy. Ac rwy'n cofio nad oedd biniau yn y ciwbiclau ar gyfer cynhyrchion y mislif, felly bu'n rhaid i...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Yr Argyfwng Costau Byw (16 Chw 2022)

Sioned Williams: Diolch, Weinidog. Mae incwm mwy na thri o bob 10 aelwyd ag incwm net o lai na £40,000 wedi gostwng ers mis Mai 2021, ac ar gyfer aelwydydd ag incwm net o fwy na £40,000, mae incwm mwy nag un o bob pump wedi cynyddu. Arhosodd twf cyflogau yn ei unfan ym mis Hydref, gostyngodd ym mis Tachwedd, ac mae'n annhebygol o ddechrau tyfu eto tan chwarter olaf eleni, gan effeithio'n anghymesur ar bobl...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Yr Argyfwng Costau Byw (16 Chw 2022)

Sioned Williams: 3. Beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i sicrhau fod polisi Llywodraeth Cymru ar yr economi yn cynnwys strategaeth i daclo'r argyfwng costau byw? OQ57644

12. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau (15 Chw 2022)

Sioned Williams: Ddoe, roeddwn gydag aelodau o Ddinas Noddfa Abertawe a'r bobl y maen nhw'n eu cynorthwyo sy'n ceisio lloches. Roedd mewn digwyddiad gwych ym mwyty Hoogah, sydd wedi addo cefnogi Dinas Noddfa Abertawe yn ddiweddar yn eu nod o hyrwyddo diwylliant o groeso i geiswyr lloches a ffoaduriaid, ac i fod yn lle diogel i'r rhai sy'n chwilio am gartref newydd yn y ddinas. Dyna'r union bobl y mae Dinas...

6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd) — Rheolaethau rhent ( 9 Chw 2022)

Sioned Williams: Yr angen am loches yw un o'r anghenion dynol mwyaf sylfaenol, ond gellir camfanteisio ar yr angen hwn. Mae llawer o’r problemau rydym yn eu trafod bob dydd gyda’n hetholwyr yn ymwneud â’r argyfwng tai sydd wedi anrheithio ein cymunedau. Oherwydd, yn ddiamau, mae hwn yn argyfwng, ac mae'n cael yr effaith galetaf ar y bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae'n rhaid inni...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Hawliau Disgyblion Ysgol Anabl ( 9 Chw 2022)

Sioned Williams: Diolch, Weinidog. Ysgrifennais at y Gweinidog addysg y llynedd i fynegi pryderon am y diffyg gweithredu o sylwedd i fynd i’r afael â’r tarfu ar addysg disgyblion anabl a disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn ystod y pandemig. Mae Mark Edwards yn un o lawer o etholwyr sydd wedi cysylltu â mi ynghylch y mater hwn. Mae'n teimlo bod ei fab, sy’n ddisgybl anghenion dysgu ychwanegol...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Hawliau Disgyblion Ysgol Anabl ( 9 Chw 2022)

Sioned Williams: 1. Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ynghylch hawliau disgyblion ysgol anabl? OQ57596

6. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2022-2023 ( 8 Chw 2022)

Sioned Williams: Mae ein trafodaeth heddiw ar y gyllideb ddrafft yn digwydd o dan amgylchiadau eithriadol iawn, amgylchiadau sy'n galw am weithredu radical ac uchelgais nas gwelwyd ei thebyg, os ydym fel cenedl am sicrhau adferiad sy'n deg ac yn effeithiol. Ydy, mae'r pandemig wedi rhoi pwysau digynsail ar wariant cyhoeddus yng Nghymru, ac mae'r argyfwng costau byw sy'n taro ein cymunedau yn dwysáu'r pwysau...

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: COVID Hir ( 8 Chw 2022)

Sioned Williams: Diolch am y datganiad, Weinidog. Heb os, mae llawer o gleifion sy’n dioddef y symptomau ofnadwy yma yn gallu cael cefnogaeth gan eu meddygon teulu, ac mae rôl meddygon teulu wrth gwrs yn hanfodol yn hyn, ond rŷn ni yn gwybod dyw rhai ddim yn gallu cael eu cyfeirio; maen nhw'n dod nôl at eu meddygon dro ar ôl tro a dydyn nhw ddim yn cael y gefnogaeth arbenigol sydd ei angen arnyn nhw....

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru ( 8 Chw 2022)

Sioned Williams: Pa gamau mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i helpu rhieni gyda chost y diwrnod ysgol?

8. Dadl Plaid Cymru: Stelcio ( 2 Chw 2022)

Sioned Williams: Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb am eu cyfraniadau i’r ddadl y prynhawn yma ac i’r Gweinidog am ei hymateb cadarn i'r ddadl, a dwi'n cytuno â hi: yn waelodol i’n cynnig ni y prynhawn yma mae’r angen yma i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, sy’n brofiad annerbyniol o gyffredin yn ein cymdeithas. Mae stelcio yn effeithio yn bennaf ar fenywod a...

4. Datganiadau 90 Eiliad ( 2 Chw 2022)

Sioned Williams: Diolch, Lywydd. Ar ddydd Sadwrn olaf mis Ionawr 1872, cyfarfu Clwb Rygbi Castell-nedd ag Abertawe i gystadlu yn y gêm glwb gyntaf i'w chofnodi yn hanes rygbi Cymru. Ddydd Gwener, bydd y gêm hanesyddol hon yn cael ei choffáu wrth i Gastell-nedd ac Abertawe fynd benben â'i gilydd unwaith eto. Mae Clwb Rygbi Castell-nedd, clwb hynaf Cymru, yn dathlu cant a hanner o flynyddoedd ers ei...

3. Cwestiynau Amserol: Y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf ( 2 Chw 2022)

Sioned Williams: Mae miloedd o gartrefi yng Nghymru, nifer sy'n cyfateb i Abertawe gyfan, eisoes yn cael trafferth i dalu am eitemau bob dydd. Fel rŷn ni wedi clywed, mae'r costau ynni cynyddol yna a'r codiadau treth yn agosáu, ac felly bydd y costau ychwanegol o dros £1,000 yn gam yn rhy bell i'r rhai sydd eisoes dan anfantais economaidd-gymdeithasol. Rwy'n croesawu mesurau'r Llywodraeth i fynd i'r afael...

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Mis Hanes LHDTC+ ( 1 Chw 2022)

Sioned Williams: Thema Mis Hanes LHDTC+ eleni yw celf. Mae grym celf i herio normau cymdeithasol y mae artistiaid o Gymru wedi gwneud cyfraniad nodedig tuag atyn nhw, wrth gwrs, yn cael ei gydnabod yn eang. Ac mae syniadau a delweddau hoyw, lesbiaidd, traws, cwiar a syniadau a delweddau nad ydyn nhw'n cydymffurfio wedi bod yn rhan o ddiwylliant artistig dros fileniwm, ond mae hanes hir rhagfarn yn aml wedi...

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Mis Hanes LHDTC+ ( 1 Chw 2022)

Sioned Williams: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar i’r Dirprwy Weinidog am ei datganiad ac rwy’n falch iawn ar ran Plaid Cymru i nodi ein cefnogaeth ni i Fis Hanes LHDTC+ a’n hymrwymiad parhaus fel plaid i sicrhau bod lleisiau pobl LHDTC+ yn cael eu clywed, eu profiadau yn cael eu cydnabod, a’u cyfraniad i’n cymunedau a’n cenedl yn cael eu dathlu. Rwy'n falch hefyd, drwy ein cytundeb...

8. Dadl Plaid Cymru: Bil Etholiadau Llywodraeth y DU (26 Ion 2022)

Sioned Williams: Mae pobl ddall a rhannol ddall yn profi cyfres unigryw o heriau wrth bleidleisio. Mae'r weithred ymarferol o bleidleisio, rhoi croes mewn lle penodol ar ddarn o bapur, yn ymarfer gweledol yn y bôn. Mae'n galw am allu i leoli'r blychau, darllen enwau'r ymgeiswyr a gwneud marc ar y papur. Mae'r darpariaethau presennol a ddarperir ym mhob gorsaf bleidleisio i ganiatáu i bobl ddall a rhannol...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.