Natasha Asghar: Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol y bu gostyngiad dramatig yn nifer y canghennau banc ar draws de-ddwyrain Cymru. Merthyr Tudful a Blaenau Gwent sydd â'r nifer leiaf o ganghennau banc, gyda thua phump yr un, tra bod Casnewydd wedi gweld y gostyngiad mwyaf yn nifer y canghennau ers 2010, gan ddechrau gyda 90, i lawr i oddeutu 10. O fis Chwefror y flwyddyn nesaf, mae Barclays yn cau...
Natasha Asghar: 5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella cynhwysiant ariannol yn ne-ddwyrain Cymru? OQ57225
Natasha Asghar: Prif Weinidog, yn yr haf cyhoeddwyd bod gwerth mwy na £3 miliwn o welliannau ar fin cael eu gwneud ar rwydwaith ffyrdd Blaenau Gwent. Byddai cyllid llywodraeth leol yn cael ei gyfuno â swm ychwanegol o gyllid gan Lywodraeth Cymru i ddod â chyfanswm y buddsoddiad i dros £3 miliwn i wella cyflwr y ffyrdd ym Mlaenau Gwent, gwelliannau a gafodd eu disgrifio, ac rwy'n dyfynnu, fel rhai...
Natasha Asghar: Diolch i fy nghyd-Aelod Jack Sargeant am ofyn y cwestiwn amserol hwn heddiw. Ddirprwy Weinidog, mae'r streic bresennol gan yrwyr a gyflogir gan Bysiau Arriva Cymru heb amheuaeth yn tarfu'n sylweddol ar fywydau pobl ledled gogledd Cymru, yn enwedig yr henoed a phobl agored i niwed nad oes ganddynt fathau eraill o drafnidiaeth at eu defnydd. Cytunaf â fy nghyd-Aelod, Jack, mai craidd y mater...
Natasha Asghar: Weinidog, wrth inni agosáu at y gaeaf, mae pwnc tlodi tanwydd ar ein meddyliau ac ar feddyliau llawer o fy etholwyr yn ne-ddwyrain Cymru. Yn ddiweddar, galwodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynlluniau diwygiedig i drechu tlodi tanwydd er mwyn sicrhau eu bod ar waith erbyn mis Ebrill 2022. Pa drafodaethau a gawsoch gyda’r Gweinidog...
Natasha Asghar: Sut y bydd y cynigion yng nghynllun lles anifeiliaid Llywodraeth Cymru yn gwella lles anifeiliaid yng Nghymru?
Natasha Asghar: Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd am bwysigrwydd y diwydiant logisteg yn ein bywydau bob dydd? Mae'r diwydiant logisteg werth dros £127 biliwn i economi'r DU, ond mae ei wir werth yn y rôl y mae'n ei chwarae wrth sicrhau ein bod ni'n cael popeth sydd ei angen arnom ni—o'r rholiau papur toiled hollbwysig hynny i dwrci ar ein byrddau, ac, yn enw...
Natasha Asghar: Weinidog, mewn egwyddor, nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad o gwbl i blant yng Nghymru ddysgu am hanes pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifol ethnig yn ysgolion Cymru. Llofnododd bron i 35,000 o bobl ddeiseb yn galw am wneud hyn yn orfodol, gan gydnabod gwaddol trefedigaethedd a chaethwasiaeth mewn cymunedau ledled Cymru. Fodd bynnag, mae gennyf un pryder. Mae perygl y gallai canolbwyntio ar...
Natasha Asghar: Diolch, Ddirprwy Weinidog. Gwn eich bod yn aml yn hoffi defnyddio Llywodraeth ganolog y DU fel rheswm a chyfiawnhad dros lawer o bethau, ac ar sawl achlysur, gwn nad ydych yn hoffi ateb fy nghwestiynau, felly weithiau, rwy'n meddwl tybed a fyddech yn hapusach i ddychwelyd at ITV Wales a gweithio ar ateb y cwestiynau rwy'n eu gofyn i chi, yn hytrach na dargyfeirio'r ateb i rywle arall. Fy...
Natasha Asghar: Diolch, Ddirprwy Weinidog, ond o'r cofnodion sydd gennyf, mae Llafur wedi bod mewn grym am y 22 mlynedd ddiwethaf yma yng Nghymru, felly gadewch inni ganolbwyntio ar hynny yn gyntaf. Yr ail gwestiwn sydd gennyf yw: yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynlluniau i hyrwyddo cerbydau trydan yng Nghymru, a oedd ymhell ar ei hôl hi ac yn brin o fanylion. Gwn fy mod wedi dweud hyn...
Natasha Asghar: Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod First Bus wedi cael gwared ar wasanaeth bws X10 rhwng Caerdydd ac Abertawe. Un o'r rhesymau a roddwyd gan First Bus dros ddiddymu'r gwasanaeth hwn yw, ac rwy'n dyfynnu, 'Mae'n cludo nifer anghymesur o gwsmeriaid sy'n cael consesiynau, yn hytrach na chwsmeriaid masnachol, sy'n ei gwneud yn amhosibl cynnal y costau.' Mae'r henoed a...
Natasha Asghar: Prif Weinidog, rwy'n gwerthfawrogi eich ymateb i fy nghyd-Aelod anrhydeddus. Mae Caerffili yn parhau i fod â'r nifer uchaf o achosion newydd o COVID yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru. Rydych chi'n berson dysgedig, ac rwy'n siŵr eich bod chi wedi gweld y straeon bod rheoleiddiwr meddyginiaethau'r DU wedi cymeradwyo yn ddiweddar y feddyginiaeth wrthfeirysol gyntaf ar gyfer COVID y gellir...
Natasha Asghar: Ddirprwy Weinidog, mae'r penderfyniad i ganslo cynllun ffordd fynediad Llanbedr wedi siomi trigolion yr ardal. Nid yw'n gyfrinach; gwn fod fy nghyd-Aelod o Blaid Cymru newydd ddweud yr un peth. Cysylltodd un o drigolion yr ardal â mi cyn imi ddod i'r Siambr, ac roeddent yn dweud pa mor ffiaidd oedd y penderfyniad a'u bod wedi'u tristáu'n arw ganddo. Ni roddwyd sêl bendith i'r penderfyniad...
Natasha Asghar: Weinidog, mae dadansoddiad o broffil oedran pobl â'r coronafeirws yn dangos bod 39 y cant o achosion o dan 19 oed a bod 27 y cant rhwng 10 a 19 oed. Mae etholwr wedi cysylltu â mi sydd ag aelod o'r teulu'n mynychu Ysgol Uwchradd Crughywel ac Ysgol Gyfun Trefynwy hefyd. Mae'r gofyniad i wisgo masgiau wyneb wedi'i gadw yn yr ystafelloedd dosbarth a'r coridorau yn Ysgol Uwchradd Crughywel, ond...
Natasha Asghar: Weinidog, hoffwn adleisio'r hyn y mae fy nghyd-Aelod anrhydeddus, John Griffiths, newydd ei ddweud, sef bod gan dde-ddwyrain Cymru gryn dipyn o botensial, yn enwedig ym maes technoleg. Yn ddiweddar, ymwelais â Forth yng Nghas-gwent, sy'n blatfform olrhain biofarcwyr arloesol, ac sy'n cynorthwyo pobl i wella eu hiechyd. Mae'r cwmni hwn yn un o nifer o fusnesau technoleg—mae Creo Medical yn...
Natasha Asghar: Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ar y trothwy ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus i achosion sy'n ymwneud â'r gofal a'r driniaeth y mae byrddau iechyd yn eu cynnig yng Nghymru? Rwy'n gwybod mai'r ateb, mae'n debyg, fydd, 'Ewch i chwilio ar Google, Natasha', ond mae'r rheswm pam yn rhywbeth gwahanol. Rwyf i wedi bod yn gohebu â'r Gweinidog iechyd a Bwrdd Iechyd Lleol...
Natasha Asghar: Weinidog, mae pryderon ynghylch prinder staff cronig yn ysbyty'r Faenor wedi bod yn cylchredeg ers i’r ysbyty agor ym mis Tachwedd 2020. Wrth gyhoeddi'r dyddiad agor cynnar, dywedodd y Gweinidog iechyd blaenorol y byddai’r cyfleuster yn darparu mwy o gapasiti a chydnerthedd yn y system. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, adran ddamweiniau ac achosion brys ysbyty'r Faenor sydd â'r amseroedd aros...
Natasha Asghar: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad heddiw. Hoffwn ddweud ar goedd fod y Ceidwadwyr Cymreig yn llwyr gefnogi'r prosiectau metro ledled Cymru, ond rwyf hefyd am ddweud nad ydym yn credu y bydd yn ateb cyflawn i'r argyfwng amgylcheddol. Rydym yn rhannu eich gobaith y bydd yn ei gwneud yn haws i bobl ddefnyddio llai ar eu ceir ac i...
Natasha Asghar: Diolch, Weinidog. Yn ystod un o gyfarfodydd diweddar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, datgelwyd mai 4.2 y cant yn unig o'r staff a gyflogir yn y Senedd sy'n nodi eu bod yn Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Nawr, o'r staff—a maddeuwch i mi am ddweud hyn, ond mae'n well gennyf y term 'ethnig leiafrifol', felly dyna rwyf am ei ddefnyddio yn fy nghwestiwn—ethnig...
Natasha Asghar: 2. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog amrywiaeth mewn cyflogaeth yn y sector cyhoeddus? OQ57042