Rhys ab Owen: 2. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cael gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a chomisiynwyr yr heddlu a throseddu i fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail hil yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru? OQ57734
Rhys ab Owen: —llais unfrydol y Cynulliad a’r Senedd. Mawr obeithiaf, gyfeillion, na fyddwn yn ôl mewn 22 o flynyddoedd yn cael yr un ddadl. Diolch yn fawr.
Rhys ab Owen: Rwy'n dirwyn i ben yn awr, Ddirprwy Lywydd.
Rhys ab Owen: Yn y cyfnod yna, mae fy nhad i wedi colli'r gallu i siarad yn llwyr, ond mae ei eiriau, a thrwy hynny ei lais, yn parhau. Terfynodd ei araith drwy ddyfynnu geiriau anfarwol ein nawddsant, 'Frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a chedwch eich ffydd a'ch cred, a gwnewch y pethau bychain.' Aeth fy nhad, Ddirprwy Lywydd, ymlaen yn bellach i ddweud: 'Sylwch ar y geiriau "byddwch lawen", sydd yn golygu...
Rhys ab Owen: Wrth gwrs.
Rhys ab Owen: Rhyfedd ichi ddweud hynny, Alun, oherwydd fy mrawddeg nesaf oedd, 'Mae angen i Gymru allu penderfynu pryd y cawn ein gwyliau banc ein hunain.' [Chwerthin.]
Rhys ab Owen: Yn lle hynny, rydym fel Oliver Twist, onid ydym ni, yn ysgwyd, yn mynd gyda'n powlen gardota yn gobeithio am ryw friwsionyn. Wel, dylem ni ddim mynd ar gardod ar Lywodraeth arall i sicrhau bod gŵyl ein nawddsant yn ŵyl y banc. Hyfryd oedd clywed Tom Giffard yn siarad Cymraeg ar Radio Cymru ddoe, hyfryd clywed ti'n siarad Cymraeg heddiw—dal ati, gyfaill, gwna fe eto—ond roeddwn i'n...
Rhys ab Owen: Os yw'r Deyrnas Unedig yn undeb o genhedloedd cydradd, fel y mae'r unoliaethwyr cyhyrog a'r unoliaethwyr nad ydynt mor gyhyrog yn hoff o'i ddweud, byddai cydraddoldeb rhwng y cenhedloedd—cyfle cyfartal i ni ddathlu, dawnsio, canu a gorffwys ar ddiwrnod ein nawddsant. Ac fel y dywedodd Tom Giffard, yn ystod y 22 mlynedd diwethaf, mae'r Alban a Gogledd Iwerddon wedi creu gwyliau banc...
Rhys ab Owen: 'Mae San Steffan wedi gwrthod cais y Cynulliad, ond mae'r trafodaethau'n parhau.' Wel, nid wyf yn gwybod a ydynt yn parhau—
Rhys ab Owen: —nawr, ond dŷn nhw ddim wedi bod yn llwyddiannus iawn hyd yn hyn, ydyn nhw? Ac yn 2021, wedi cais gan Gyngor Gwynedd, gwrthodwyd rhoi gŵyl y banc i Gymru gan Lywodraeth San Steffan. Déjà vu, groundhog day—galwch e beth y mynnwch chi—but we've been here before. Er llais unedig y Cynulliad a'r Senedd ar y mater yma, nid ydym wedi symud ymlaen o gwbl mewn 22 o flynyddoedd....
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr i'r Torïaid am ddod â'r ddadl yma ger bron, ond hoffwn i ddechrau heddiw trwy eich hebrwng yn ôl ar daith hanesyddol—nid nôl i oes Dewi a'r seintiau cynnar, ond yn ddigon pell yn ôl i gyfnod pan oedd Tom Giffard yn gwisgo trywser byrion yr ysgol gynradd, i Gareth Davies yn bwyta'r Denbigh plum ar lin ei fam, i Jack Sargeant heb farf ac i fi gyda mwy o wallt ar dop fy...
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Braint oedd cyfarfod â rhai o’r streicwyr heddiw ar risiau’r Senedd ac roedden nhw'n canmol fy nghyfeillion i Sioned Williams a Mike Hedges am y gefnogaeth y maent wedi’i rhoi iddyn nhw. Dylai pensiwn teg fod yn hawl sylfaenol i bob gweithiwr yng Nghymru, ac mae’r ffaith eu bod nhw'n torri pensiynau diwedd cyflogaeth gan 35 y cant yn hollol warthus, a...
Rhys ab Owen: Cwestiwn da. [Chwerthin.]
Rhys ab Owen: 2. Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cael i ddatrys yr anghydfod pensiwn mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru? OQ57697
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. 0.6 y cant y flwyddyn oedd rhagfynegiad diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer twf poblogaeth Caerdydd, fodd bynnag, mae'r tri opsiwn a roddwyd gan Gyngor Caerdydd yn y cynllun datblygu lleol newydd yn llawer uwch na hynny. Yr opsiwn cyntaf yw 19,000 o gartrefi ychwanegol ar 0.8 y cant y flwyddyn, 24,000 gyda thwf rhagamcanol o 1 y cant yw'r ail, a 30,500 gydag...
Rhys ab Owen: 2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun datblygu lleol newydd Caerdydd? OQ57696
Rhys ab Owen: Fel ymyriad yno, ar y pwynt a wnewch, cyfarfu Darren Millar, Samuel Kurtz a minnau ag Undeb Bedyddwyr Cymru yr wythnos diwethaf, a'r problemau y mae capeli'n eu cael gyda Cadw, o ran methu adnewyddu'r adeiladau o gwbl ac yna mae'r capel yn cau ac mae popeth yn mynd a'r adeilad yn cael ei ddymchwel. Nid yw'r system yn addas i'r diben ar hyn o bryd.
Rhys ab Owen: A yw honno'n risg gyda'ch sedd chi, Sam—yn rhanbarth Gogledd Cymru?
Rhys ab Owen: Nid oes gan y ffaith bod y bleidlais sengl drosglwyddadwy wedi'i chyflwyno yn yr Alban unrhyw beth i'w wneud â'r ffaith bod nifer y bobl sydd wedi pleidleisio wedi gostwng. Nid oes cysylltiad rhyngddynt o gwbl.
Rhys ab Owen: Fe wnaf ei egluro yn awr, os hoffwch chi.