Jack Sargeant: Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog. Fel y mae'r Prif Weinidog yn sôn yn y fan yna, mae'r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol wedi chwarae rhan allweddol, ac mae wedi'i gynnwys yn y bwrdd adolygu diogelu unedig sengl, a chwaraeodd fy nhad fy hun, fel y gŵyr y Prif Weinidog, ran bwysig yn y gwaith o'i sefydlu. Prif Weinidog, bedair blynedd i ddoe cefais fy ethol i'r Senedd hon yn dilyn...
Jack Sargeant: 6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru? OQ57584
Jack Sargeant: Diolch i’r Aelod, Sam Rowlands. Fe sonioch chi, Sam, am y gwasanaeth cyhoeddus a’ch profiad o weld y Frenhines yn yr ysgol. Gwelais innau'r Frenhines yn agor canolfan rhagoriaeth peirianneg Coleg Glannau Dyfrdwy yn 2003 ac euthum ymlaen i astudio prentisiaeth yno. Felly, ar ran gogledd Cymru a fy nhrigolion yn Alun a Glannau Dyfrdwy, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch y Frenhines ym...
Jack Sargeant: Gwnaf.
Jack Sargeant: Diolch i'r Aelod, Jenny Rathbone, am yr ymyriad hwnnw. Mae hi'n llygad ei lle; rwy'n cytuno â Platfform a'u hymgyrch i arwain dull a gaiff ei lywio gan ymwybyddiaeth o effaith trawma, am mai dyna sy'n iawn. Pan edrychwn ar y system les, er enghraifft, mae honno'n system sydd wedi'i sefydlu i wneud cam â phobl gyffredin. Felly, rwyf eisiau i'r sgwrs honno ddigwydd. Ond rwy'n credu bod yn...
Jack Sargeant: Fel y gŵyr llawer o'r Aelodau, mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a dull sy'n cael ei lywio gan ymwybyddiaeth o effaith trawma yn faes ac yn bwnc rwy'n angerddol yn ei gylch. Y llynedd, ysgrifennais ddarn wedi'i gyd-ysgrifennu gyda Charlotte o Platfform, elusen iechyd meddwl, am yr angen am ddull mwy caredig wedi'i lywio gan ymwybyddiaeth o effaith trawma ym mhob un o'n gwasanaethau...
Jack Sargeant: Mae adeiladu cysylltedd yn ymwneud â llunio ac adeiladu rhwydweithiau trafnidiaeth sy'n ymateb i anghenion ein cymunedau. Golyga hynny fod angen inni reoleiddio'r diwydiant bysiau mewn ffordd sy'n rhoi rhwydweithiau ac angen cymunedol wrth wraidd ein penderfyniadau. Ond Weinidog, gwyddom fod y rheoliadau presennol a gyflwynwyd o dan Lywodraeth Thatcher wedi'u seilio ar elw yn unig. Maent yn...
Jack Sargeant: Diolch i'r Gweinidog am y datganiad pwysig hwn. Llywydd, os caf i, hoffwn ddechrau drwy groesawu penodiad Derek Vaughan i'r swydd hon. Bydd Derek yn dod â chyfoeth o brofiad i'r swydd, ac rwy'n credu ei fod yn benodiad gwych. Gweinidog, un cwestiwn gennyf i. A ydych chi'n cytuno ac a wnewch chi gadarnhau heddiw mai un o'r blaenoriaethau i'r rhai sy'n ceisio cryfhau ein perthynas â'r Undeb...
Jack Sargeant: Rwy'n ddiolchgar iawn i fy nghyfaill ar yr ochr arall i'r Siambr, James Evans, am gyflwyno'r ddadl heddiw, a chredaf yn wirioneddol fod gwasanaethau bws a thrafnidiaeth gyhoeddus yn rhan o biler allweddol ehangach y fenter ehangach i greu'r fargen newydd werdd y mae angen inni ei gweld a'i chyflawni a'i gweithredu yma yng Nghymru, ac mae'r cynnig ei hun yn gynnig da, ond credaf y byddai...
Jack Sargeant: Ar ran y pwyllgor, hoffwn hefyd ddiolch i Joanne Stroud a phawb sydd wedi cefnogi'r ddeiseb hon, a diolch i'r Gweinidog ac i'r holl Aelodau am eich cyfraniadau heddiw. Diolch yn fawr.
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Diolch, Weinidog, am eich ymateb i'r ddadl heddiw, yn arbennig am nodi peth o'r wyddoniaeth y tu ôl i benderfyniad Iechyd Cyhoeddus Cymru ac am ateb rhai o'r cwestiynau gan yr Aelodau. Ac wrth gwrs, diolch i'r Aelodau. Credaf ei bod yn iawn dweud, yn anffodus, na fydd canlyniad heddiw bob amser yn foddhaol i rai pobl. Bydd miloedd o fenywod ledled Cymru wedi...
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Llywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl ar y ddeiseb bwysig hon heddiw.
Jack Sargeant: Fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r newid diweddar yn y trefniadau sgrinio serfigol yng Nghymru wedi bod o gryn ddiddordeb i'r cyhoedd. Mae'r ddeiseb hon i'r Senedd, 'Adfer sgrinio serfigol i bob tair blynedd' wedi casglu 30,133 o lofnodion mewn tri diwrnod yn unig, ac mae deiseb debyg ar blatfform change.org wedi derbyn dros 1.2 miliwn o lofnodion hyd yn hyn. Lywydd, i roi hyn mewn persbectif, mae...
Jack Sargeant: Rwy'n ddiolchgar iawn am eich ateb, Weinidog, ac fel rydym wedi'i drafod y prynhawn yma, mae cynllun peilot pedwar diwrnod yn cael ei lansio yn y DU, mewn partneriaeth â'r felin drafod Autonomy a 4 Day Week Global. A gaf fi bwysleisio pwysigrwydd y treialon hyn ar gyfer dysgu, ac a gaf fi ofyn i chi, Weinidog, pa sgyrsiau rydych chi a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi'u cael gyda'r...
Jack Sargeant: 4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch cefnogi cyflogwyr sy'n ystyried treialu wythnos waith pedwar diwrnod? OQ57469
Jack Sargeant: Rwy'n croesawu'n fawr y datganiad heddiw gan y Cwnsler Cyffredinol a'r gwaith y tu ôl i'r datganiad hwn, gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Rwy'n credu y dylai Aelodau'r Senedd hon, ni waeth pa gartref gwleidyddol yr ydym yn ein cael ein hunain ynddo, gydnabod a chroesawu Llywodraeth sy'n ceisio ail-droi mantol cyfiawnder tuag at bobl gyffredin, ac mae hyn yn...
Jack Sargeant: Rwy'n ddiolchgar iawn am gael siarad yn y ddadl heddiw, a diolch i Rhun ap Iorwerth am gyflwyno hyn, ac rwy'n rhoi fy sylwadau i gyd-fynd â Chadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd. Os caf, hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau ar drafodaeth ddiweddar gyda Choleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol. Lansiodd Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol adroddiad yn ddiweddar,...
Jack Sargeant: Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw. Gwnsler Cyffredinol, rwy'n siŵr eich bod yn cytuno â mi, a chyda Syr Christopher Bellamy, fod angen buddsoddiad enfawr ar y system cymorth cyfreithiol i'w hadfer i ryw lefel o iechyd ar ôl blynyddoedd o'i hesgeuluso gan wahanol Lywodraethau yn San Steffan. Ond os edrychwn y tu hwnt i gwmpas adolygiad Syr Christopher Bellamy, rydym wedi gweld...
Jack Sargeant: 1. Pa ystyriaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i rhoi i'r argymhellion a wnaed gan adolygiad annibynnol Syr Christopher Bellamy o gymorth cyfreithiol troseddol? OQ57418
Jack Sargeant: Rwy'n ddiolchgar iawn i fy nghyd-Aelod, Sam Rowlands, am ofyn y cwestiwn pwysig hwn heddiw. A gaf fi gytuno ag ef a'r Gweinidog, am yr hyn y mae hi wedi'i ddweud hefyd? Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol iawn fy mod yn hynod o angerddol am y cyfraniad cadarnhaol y gall bragwyr a thafarndai lleol ei wneud i'n heconomi leol, a bragdai rhagorol fel y rhai yn sir y Fflint, Hafod a Polly's, neu'r...