Canlyniadau 221–240 o 500 ar gyfer speaker:Mabon ap Gwynfor

10. Dadl Plaid Cymru: Ailymuno â'r farchnad sengl ( 6 Gor 2022)

Mabon ap Gwynfor: A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?

9. Dadl Plaid Cymru: Cynllun cymorth tanwydd y gaeaf ( 6 Gor 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. 

9. Dadl Plaid Cymru: Cynllun cymorth tanwydd y gaeaf ( 6 Gor 2022)

Mabon ap Gwynfor: Felly, mae prisiau ynni wedi codi i lefelau digynsail dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn sgil y cynnydd yn y cap ar brisiau ym mis Ebrill, gwelwyd cynnydd cyfartalog yn y bil nwy a thrydan i dros £2,000 y flwyddyn, cynnydd o £700. Yn ystod y 18 mis diwethaf yn unig, mae cost gwresogi cartref wedi dyblu. Bydd hyn yn taro'r aelwydydd tlotaf a mwyaf bregus galetaf, gyda llawer yn gorfod mynd heb...

6. Cynnig i ddirymu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 ( 6 Gor 2022)

Mabon ap Gwynfor: Onid ydych yn derbyn y bydd y cynllun trwyddedu yn helpu'r sector mewn gwirionedd, y sector cynhenid sydd wedi bod yn gweithio ers degawdau yn ein cymunedau, a hefyd mai'r broblem fwyaf sy'n wynebu'r sector hwnnw yw'r cynnydd enfawr mewn Airbnbs, a dyna'r bobl sy'n effeithio ar nifer y nosweithiau y bydd pobl yn aros yn y llety yng Nghymru ar hyn o bryd?

6. Cynnig i ddirymu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 ( 6 Gor 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch am y cyfraniad yna. Na, dydw i ddim yn derbyn hynny. Mae'r polisi yma ar gyfer cau'r loophole; dyna ydy'r pwynt. Bwriad y Gorchymyn hwn yr ydych chi fel Ceidwadwyr yn ceisio ei ddiddymu heddiw ydy cau'r bwlch, neu'r loophole, fel rydw i'n sôn, sydd yn y gyfraith. Dwi'n meddwl y byddai'r rhan fwyaf o bobl resymol yn cytuno bod yna rywbeth sylfaenol anghywir am sefyllfa lle mae miloedd...

6. Cynnig i ddirymu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 ( 6 Gor 2022)

Mabon ap Gwynfor: Mae'n siomedig, ond nid yn annisgwyl, hwyrach, gweld y Ceidwadwyr yn neidio ar y cyfle cyntaf sydd ganddyn nhw i geisio datgymalu un o'r camau cyntaf o'r pecyn o fesurau sydd wedi eu cyhoeddi i fynd i'r afael â'r argyfwng tai—yn benodol, yr argyfwng ail dai. Rydyn ni eisoes ar flaen y gad yma yng Nghymru, gan gymryd camau i ganiatáu codi premiwm treth cyngor ar ail gartrefi a chartrefi...

4. Cwestiynau Amserol: Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ( 6 Gor 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch i Sam Kurtz am gyflwyno'r cwestiwn yma heddiw. Ac ystyriwch lle roedden ni ryw bedair mlynedd yn ôl efo 'Brexit a'n tir'; mae yna sifft sylweddol wedi bod fan yma efo'r ieithwedd a'r dôn, ac mae hwnna i'w groesawu. Dwi'n falch hefyd o weld bod y bartneriaeth cydweithredu efo Plaid Cymru a'r Llywodraeth wedi arwain at sicrhau bod yna daliadau sefydlogrwydd am barhau yn ystod y cyfnod...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Dyfodol Cyfansoddiadol Cymru ( 6 Gor 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ymateb. Does yna ddim amheuaeth fod yna gynnydd yn y niferoedd sydd yn cefnogi annibyniaeth i Gymru, ac mae llanast San Steffan yn amlygu'n ddyddiol pam na allwn ni barhau i fod yn yr undeb llwgr yma sy'n dangos cymaint o ddirmyg tuag at ein pobl. Pe byddech chi wedi bod yn Wrecsam ar ddydd Sadwrn, yna mi fyddech chi wedi teimlo gwefr ryfeddol...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017 ( 6 Gor 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb. Mae'r ddeddfwrfa hon i fod yn sofran mewn meysydd penodol. Hynny ydy, boed yn gywir neu'n anghywir, ein dewis ni yn ein Senedd genedlaethol ni ydy i ddeddfu a gosod rhai rheolau. Dwi'n falch bod ein Senedd wedi penderfynu pasio Deddf i amddiffyn ein hundebwyr llafur, ond wrth gwrs, fel efo unrhyw ddeddfwriaeth Gymreig arall, mae parhad y...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017 ( 6 Gor 2022)

Mabon ap Gwynfor: 3. Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o oblygiadau cyfansoddiadol cynlluniau Llywodraeth y DU i ddiddymu Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017? OQ58310

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Dyfodol Cyfansoddiadol Cymru ( 6 Gor 2022)

Mabon ap Gwynfor: 4. Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o oblygiadau datganiad Llywodraeth yr Alban ei bod am gynnal refferendwm annibyniaeth ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru? OQ58311

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (29 Meh 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr i chi am yr ateb hynny. Os caf fynd ymlaen i'r pwynt nesaf, un peth sy'n wych am y swydd yma, wrth gwrs, yw bod rhywun yn dysgu rhywbeth newydd bob dydd, a dwi wedi dysgu yn ddiweddar iawn mai 'y clafr' ydy'r term am sheep scab. Felly, dwi am ofyn cwestiwn ar y clafr. Fel dŷn ni'n gwybod, y clafr ydy un o'r clefydau mwyaf heintus mewn defaid yng Nghymru, ac fe'i nodwyd fel...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (29 Meh 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi am godi mater dwi wedi codi o'r blaen, os caf i. Mae'r cynnydd aruthrol mewn prisiau porthiant, tanwydd a gwrtaith yn taro'n ffermwyr ni yn galed iawn ar hyn o bryd. Mae yna ddiffyg calch mewn rhai ardaloedd. Mae prinder disel coch, sydd wedi cynyddu 50 y cant mewn blwyddyn, ac mae pris gwrtaith wedi mwy na threblu ers y llynedd. Mae yna ddiffyg argaeledd...

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Grymuso cymunedau (22 Meh 2022)

Mabon ap Gwynfor: Dwi ddim am dreulio gormod o amser yn lladd ar y Llywodraeth. Mae hynny'n beth hawdd iawn i wneud, o ran gwleidyddiaeth y peth, ond y gwir ydy fy mod i wirioneddol am weld hyn yn cael ei weithredu mor fuan â phosib, a dim ond y Llywodraeth all wneud hynny. Felly, dwi ddim yn meddwl y caf i lawer o lwyddiant drwy fwrw sen arnyn nhw am funudau olaf y drafodaeth. Ond mae'n rhaid nodi, cyn mynd...

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Grymuso cymunedau (22 Meh 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr, Llywydd dros dro. 

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Grymuso cymunedau (22 Meh 2022)

Mabon ap Gwynfor: A gaf fi ddweud ar ddechrau fy nghyfraniad fod gennym nifer o ddinasyddion ifanc Cymru yma? Croeso i bawb; efallai'n wir y byddwch chi'n eistedd yma rywbryd yn y dyfodol.

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Grymuso cymunedau (22 Meh 2022)

Mabon ap Gwynfor: Mae'n bleser cael cloi y ddadl yma heddiw, a dwi eisiau diolch i Luke Fletcher am agor y ddadl mor huawdl, ac i bawb arall sydd wedi cyfrannu. Dwi am ddweud, cyn mynd ymlaen i sylwedd y pwnc, y byddai Buffy Williams wedi hoffi bod yma heddiw, ac mae Buffy yn ganolog i'r cynnig. Mae hithau yn gyforiog o brofiad yn y maes, ac mi fuasai wedi cyfoethogi'r ddadl yma. Felly, diolch iddi am ei...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (21 Meh 2022)

Mabon ap Gwynfor: Ganol mis Mai, gofynnodd James Evans gwestiwn amserol am y ffaith bod y Llywodraeth wedi prynu Fferm Gilestone yn ei etholaeth. Mewn ymateb, pwysleisiodd Gweinidog yr economi bwysigrwydd diogelu brand y Dyn Gwyrdd, a phwysleisiodd fod a wnelo'r pryniant â chadw gŵyl y Dyn Gwyrdd yng Nghymru. Tanlinellodd y Gweinidog bwysigrwydd y brand a'r ŵyl. Fodd bynnag, yn ei ymateb wythnos yn...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Llwyddiant Cwmni Egino (15 Meh 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr i'r Gweinidog am yr ateb. Mae unrhyw un sy'n dilyn hynt a helynt y sector niwclear yn y wladwriaeth hon—a dwi'n gwneud yn fanwl iawn—yn gwybod mai Rolls-Royce ydy'r unig opsiwn sy'n cael ei hystyried gan Lywodraeth San Steffan i ddatblygu atomfeydd niwclear modwlar bach, SMRs. Wrth gwrs, mae'r berthynas agos yma rhwng Rolls-Royce a Llywodraeth San Steffan yn dod yn sgil y...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.