Siân Gwenllian: 'Ymlaen tua'r dyfodol y mae edrych, nid am yn ôl' meddai'r Gweinidog yn ei rhagair i'w hadroddiad blynyddol ar strategaeth 'Cymraeg 2050'. A'n gwaith ni yn y Senedd heddiw ydy adolygu gweithgarwch y 12 mis o 1 Ebrill 2019 i 30 Mawrth eleni, sef yr hyn sy'n cael ei gofnodi a'i grisialu yn y ddau adroddiad sydd o'n blaenau ni heddiw—cyfnod bron yn gyfan gwbl cyn yr argyfwng COVID, wrth gwrs....
Siân Gwenllian: Mae Plaid Cymru yn croesawu'r bwriad i wella'r gefnogaeth i ddisgyblion gydag anghenion ychwanegol, ond dwi'n nodi, fodd bynnag, fod yna nifer o heriau yn codi efo cyflwyno'r newidiadau, yn enwedig yn sgil COVID ac o gofio'r diwygiadau cwricwlwm pellgyrhaeddol sydd ar y gorwel hefyd. Mae'r newidiadau i addysg disgyblion anghenion ychwanegol yn cario pris efo nhw, ond dydy hi ddim yn glir...
Siân Gwenllian: Hoffwn i wybod efo pwy yn union o fewn Llywodraeth Cymru mae'r sector theatrau angen bod yn trafod ynglŷn ag ailagor mewn ffordd ddiogel? Efo neuaddau bingo, sinemâu a chasinos ac yn y blaen yn cael ailagor, mae'r rhai sydd yn gweithio mewn theatrau, a'r rhai ohonom ni sydd yn hoffi mynychu theatrau, angen gwybod pryd gallan nhw ailagor yn ddiogel. Y broblem ydy nad ydyn nhw ddim yn gwybod...
Siân Gwenllian: Dwi'n deall hefyd bod yna uned hyfforddi deintyddion yn mynd i gael ei sefydlu yn y gogledd, ac mae hynny yn newyddion da, wrth gwrs, ond mae o ddwy neu dair blynedd i ffwrdd, ac yn y cyfamser, mae yna argyfwng gwirioneddol yn digwydd yn fy etholaeth i. Mae rhan o'r broblem yn codi o'r ffordd mae'r cytundebau yn gweithio rhwng deintyddion a'r byrddau iechyd, ac mae yna addewid wedi bod ers...
Siân Gwenllian: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau deintyddol yn Arfon? OQ55946
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr i'r pwyllgor am adroddiad arall ac am y cyfle i'w drafod o heddiw yma. Mae'r gyfres yma o adroddiadau wedi bod yn ddefnyddiol iawn i daflu goleuni ar effaith COVID ar wahanol rannau o’r sector celfyddydau a chreadigol, ac, yn bwysicach, yn cynnig argymhellion pendant am beth sydd angen ei wneud. Mae'r adroddiad yma, wrth gwrs, yn edrych yn benodol ar effaith COVID ar...
Siân Gwenllian: Dydw i ddim am ymddiheuro am godi'r pwnc yma eto. Dwi'n ddiolchgar ichi am y trafod diweddar sydd wedi bod rhwng ein plaid ni a'ch Llywodraeth chi, a dwi'n edrych ymlaen at ymuno mewn cyfarfod rhithiol rhwng y Prif Weinidog a chynrychiolwyr yr ymgyrch Hawl i Fyw Adra o Ben Llŷn yr wythnos nesaf. Ond un peth yw cynnal cyfarfodydd ac asesiadau, a gwneud synau o gydymdeimlad a dweud eich bod yn...
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr. Mae etholwyr yn y pedair ardal yna—yn Carmel, y Fron, Deiniolen a Dinorwig—wedi bod yn hynod amyneddgar, ond erbyn hyn, mae angen symud ymlaen i wneud y gwaith sydd wedi'i addo. Dwi wedi bod yn codi'r mater hwn efo chi ers haf 2017. Ar y cychwyn, roedd y cwmni'n gwadu bod yna broblemau, ond fe wnaethoch chi—a dwi'n ddiolchgar iawn am hynny—gynnal nid un, ond dau...
Siân Gwenllian: 3. A wnaiff y Gweindiog roi diweddariad am y cynllun Arbed yn Arfon? OQ55852
Siân Gwenllian: 3. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag ail gartrefi ar draws Cymru? OQ55860
Siân Gwenllian: Rydyn ni'n croesawu casgliadau ac argymhellion yr adroddiad yma, ac yn ddiolchgar bod Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhellion, er bod yna lawer iawn o waith i'w wneud o hyd, wrth gwrs. Does dim amheuaeth bod y diwydiannau creadigol wedi cael eu taro'n galed iawn gan COVID-19 a bod yn rhaid i'r Llywodraeth helpu'r sector i ailadeiladu. Dwi, felly, yn croesawu'r datganiad gawson ni yn...
Siân Gwenllian: Dwi yn croesawu'r newyddion yma. Fel y gwyddoch chi, mae Plaid Cymru wedi bod yn gwneud yr achos dros ddileu arholiadau'r haf ers misoedd bellach. Mi fydd y cyhoeddiad yma yn rhyddhad i bobl ifanc, i rieni ac i ysgolion ledled Cymru. Mi fyddai hi wedi bod yn amhosib cynnal arholiadau allanol mewn modd fyddai'n rhoi tegwch i ddisgyblion dan yr amgylchiadau presennol. Mae'r penderfyniad yn...
Siân Gwenllian: Wedi dweud hynny, dwi yn ymwybodol iawn, iawn fod yna nifer o heriau sylweddol ynghlwm â hyn, a dwi ddim yn mynd i osgoi'r heriau yna, a dwi'n meddwl ei bod hi yn bwysig inni eu gwyntyllu nhw a'u trafod nhw. Mae deiseb Elfed Wyn Jones yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am hanes Cymru. Rŵan, dwi am herio Elfed ychydig yn y fan hyn. Pwy sy'n mynd i benderfynu beth...
Siân Gwenllian: Yn gyntaf, hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am ddod â'r ddwy ddeiseb yma i sylw'r Senedd, a diolch am eu gosod nhw efo'i gilydd, sef y peth iawn a'r peth priodol i'w wneud. A diolch i drefnwyr y ddwy ddeiseb, Elfed Wyn Jones ac Angharad Owen, am fwrw ati mor ddygn i gasglu cymaint o enwau. Dwi'n gwybod yr oedd Elfed Wyn Jones wedi bwriadu cerdded o'r fferm lle mae o'n byw ym...
Siân Gwenllian: Wedi gorffen, wedi gorffen. Diolch.
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr am yr adroddiad. Hoffwn innau, hefyd, ddiolch i staff y Comisiwn am ymateb yn hollol gadarnhaol i'r her o barhau efo gwasanaethau dwyieithog o'r ansawdd flaenaf yn ystod yr argyfwng yma. Mae'r Comisiwn wedi manteisio i'r eithaf ar dechnoleg er mwyn bod ar flaen y gad yn ein gwaith, a dwi'n credu y dylwn ni gyd, yn y Senedd yma, fod yn falch iawn o hynny. Fel rydych chi'n nodi,...
Siân Gwenllian: Dwi'n cynnig yn ffurfiol.
Siân Gwenllian: Yn ffurfiol.
Siân Gwenllian: Cynnig yn ffurfiol.
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr. Mae'n cynnig ni y prynhawn yma'n canolbwyntio ar agweddau pwysig ac amserol o'r byd addysg yng Nghymru. Yn gyntaf, arholiadau ac asesu a'r angen am newid sydd wedi'i danlinellu gan COVID a gan ofynion y cwricwlwm newydd, ac mi fyddaf i'n ymhelaethu ar hyn yn fy nghyfraniad i. Agwedd bwysig arall ydy hunaniaeth ac amrywiaeth Cymru. Mae cynnwys hanes Cymru, gan gynnwys hanes yr...