Peter Fox: Er bod mwy i'w wneud i gynorthwyo pobl dros y misoedd nesaf, rwy'n croesawu'r camau y mae'r Canghellor wedi eu cymryd a fydd yn helpu i leddfu'r baich ar deuluoedd ledled y DU. Yn wir, fe wnaeth Martin Lewis gydnabod manteision codi'r trothwy yswiriant gwladol. Dirprwy Lywydd, bydd dyblu'r gronfa cymorth i aelwydydd yn Lloegr, a amlinellwyd yr wythnos diwethaf, yn arwain at symiau canlyniadol...
Peter Fox: —a nhw sydd yn y sefyllfa orau i ddefnyddio eu gwybodaeth leol i helpu'r rhai mewn angen. Yn wir, maen nhw eisoes yn darparu amrywiaeth o wasanaethau dewisol. Prif Weinidog, pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael ynghylch sut i ddyrannu'r cyllid hwn, y £25 miliwn ychwanegol hwn, i gynghorau yng ngoleuni'r pwysau presennol? A wnewch chi ystyried llacio meini prawf cymhwyso rhai...
Peter Fox: Nid oeddwn i'n disgwyl i'r Aelodau yn y Siambr hon groesawu datganiad y gwanwyn, ond roedd llawer o bethau cadarnhaol dros ben, er nad oes gen i gyfle i'w codi nhw yma. [Torri ar draws.] Mae'r cyfuniad o argyfyngau digynsail—pandemig COVID-19, ac ymosodiad Rwsia ar Wcráin—wedi arwain at bwysau chwyddiant sylweddol sydd wedi eu teimlo ar draws cymdeithas—[Torri ar draws.]
Peter Fox: Diolch, Lywydd dros dro. Ac er mwyn y cofnod, hoffwn ddatgan fy mod yn ffermwr gweithredol—a dweud y gwir, rwy'n edrych ar wartheg y tu allan i'r ffenestr wrth imi eistedd yma. A gaf fi ddiolch i fy nghyd-Aelod, Sam Kurtz, am gyflwyno'r ddadl bwysig ac amserol hon? A bod yn onest, mae diogelwch y cyflenwad bwyd yn rhywbeth y mae llawer ohonom wedi'i gymryd yn ganiataol. Fel cymdeithas,...
Peter Fox: Cyn imi ddechrau, hoffwn ddweud fy mod yn siarad fel aelod o'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, ond nid ar ran y pwyllgor hwnnw. Rwyf wirioneddol eisiau adeiladu ar y pwynt a wnaeth Rhys yn gynharach am asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb. Mae'n fwy o bwynt gweithdrefnol. Ond, Llywydd, hoffwn ofyn i'r Gweinidog am y diffyg asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb ym...
Peter Fox: Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, os gwelwch yn dda? Yn gyntaf, hoffwn i ofyn am ddatganiad ynglŷn â mynediad at wasanaethau meddygon teulu. Yn ddiweddar, cysylltodd etholwr â mi ar ôl i'w deulu geisio cael apwyntiad mewn meddygfa, dim ond i gael gwybod y byddai nyrs yn eu galw'n ôl gydag apwyntiad ffôn wedi'i drefnu am dair...
Peter Fox: Diolch am eich ymateb, Gomisiynydd. Rwy'n credu ei fod yn ddefnyddiol iawn i'r Aelodau ac i eraill sy'n gwylio. Fel y gŵyr pob un ohonom, mae llawer o bobl ledled y DU a'r byd yn awyddus i ddadfuddsoddi o fusnesau yn Rwsia yn ogystal â stociau a chyfranddaliadau. Wrth gwrs, ar adegau normal, mae’n arferol defnyddio pethau fel cynlluniau pensiwn i fuddsoddi mewn stociau a chyfranddaliadau...
Peter Fox: 5. Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o effaith y sancsiynau economaidd ar Rwsia ar gronfeydd pensiwn staff ac Aelodau? OQ57807
Peter Fox: A gaf i ddiolch unwaith eto i'r Gweinidog am y datganiad hwn? A hoffwn i ddweud y bydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig ar yr agenda. Rydw i'n croesawu'n gyffredinol y cyhoeddiad y bydd cynghorau'n cael £60 miliwn yn ychwanegol yn eu grant cynnal refeniw ar gyfer 2021-22. Fel y dywedodd y Gweinidog yn ei llythyr at arweinwyr cynghorau, mae cynghorau'n wynebu pwysau cyllidebol...
Peter Fox: A gaf i ddiolch hefyd i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw ac i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid am ei sylwadau ar y gyllideb? Bydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn ymatal ar y cynnig sydd ger ein bron. Wrth gwrs, mae'n diwygio cyllideb 2021-22, yr ydym ni wedi nodi ein safbwynt arni o'r blaen. Cafodd llawer o'r dyraniadau a nodir yn y gyllideb atodol hon eu gwneud yng nghyd-destun ein hymateb...
Peter Fox: 'Nid ydym eisiau i'n plant gael eu lladd, ond mae ein plant yn cael eu lladd. Mae ein hysbytai'n cael eu bomio, mae popeth yn cael ei ddinistrio. Mae awyrennau'n hedfan ac yn gollwng bomiau ym mhobman; nid ydym yn gwybod ble fydd y roced nesaf yn glanio.' Dyma eiriau enbyd mam drallodus wrth i Rwsia ollwng bom ar ôl bom yn ddiwahân ar Wcráin. Mae'n amhosibl peidio â chael eich cyffwrdd...
Peter Fox: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Hoffwn atgoffa'r Aelodau hefyd fy mod yn ffermwr, fel y nodwyd yn fy nghofrestr buddiannau, ac nid oes gennyf TB ar hyn o bryd. Weinidog, roedd eich ymgynghoriad diweddar ar y cynllun adnewyddedig i ddileu TB yn argymell newidiadau i'r system bresennol ar gyfer prisio anifeiliaid a laddwyd yn orfodol gan Lywodraeth Cymru o ganlyniad i TB mewn gwartheg. Fodd...
Peter Fox: Mae hynny'n ddefnyddiol iawn. Diolch am hynny, Weinidog. Weinidog, mae’r gymuned ryngwladol wedi dod at ei gilydd, yn gwbl briodol, i osod sancsiynau eang ar Putin a’i gyfeillion. Wrth gwrs, mae’r rhain yn gwbl angenrheidiol, ac mae’r rhain yn debygol o gael eu cynyddu. Fodd bynnag, bydd pawb yn teimlo effaith y sancsiynau hyn—o deuluoedd sy’n gweithio’n galed i fusnesau bach a...
Peter Fox: Diolch am eich ymateb, Weinidog; mae hynny'n galonogol, a bydd y rheini ohonom ar y meinciau hyn yn gwneud popeth a allwn i helpu'r ymdrech i sicrhau'r canlyniadau cadarnhaol hynny. Nawr, Weinidog, yr wythnos diwethaf, adroddodd y BBC fod oddeutu £200 miliwn o gynlluniau pensiwn llywodraeth leol Cymru wedi'u clymu mewn cronfeydd a chwmnïau Rwsiaidd ar hyn o bryd. Mewn cyfnodau mwy arferol,...
Peter Fox: Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Weinidog. Mae Ewrop, ac yn wir, y byd i gyd, wedi’u syfrdanu gan y digwyddiadau yn Wcráin. Bydd rhyfel cwbl ddiangen ac anwaraidd, a achoswyd gan unigolyn a ddallwyd gan ei olwg wrthnysig ei hun ar y byd, yn arwain at ganlyniadau ymhell y tu hwnt i ffiniau dwyrain Ewrop. Rwy'n hyderus y byddai pob Aelod sy'n eistedd yn y Siambr hon yn cytuno â hynny. Mae...
Peter Fox: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raglen ddiwygiedig Llywodraeth Cymru ar gyfer dileu TB? OQ57742
Peter Fox: A gaf i ddatgan buddiant hefyd, fel cynghorydd ar Gyngor Sir Fynwy am gyfnod byr eto? Ac rwy'n rhannu'n llwyr y teimladau ynglŷn â'n cynghorau a phopeth y maen nhw'n ei wneud. Rwyf wedi dweud droeon mai'r adnodd mwyaf sydd gan gyngor yw ei staff, ac mae eu staff wedi gwneud yn wych, ac maen nhw'n parhau i wneud hynny, ac rwy'n diolch iddyn nhw am hynny. Bydd Aelodau'n cofio i ni drafod y...
Peter Fox: Mae'n ddrwg gen i. Ydw, mi ydw i. Ydw. A byddwn ni yn yr wrthblaid yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i wneud i bob punt o fuddsoddiad gyfrif, nid yn unig i gefnogi'r adferiad ond i gyflenwi gobaith a dyhead ledled y wlad, oherwydd bod angen ar ein cymunedau i'r gyllideb hon gyflawni. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Peter Fox: Rwy'n credu, yn anffodus, fod llawer o gamarwain ynghylch hawliadau cyllid yn y lle hwn, ac mae—[Torri ar draws.] Mae gwrthddweud cyson o ran safbwyntiau gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Y ffeithiau yw y cafwyd £2.5 biliwn yn ychwanegol eleni, neu fwy, sydd wedi ei roi i Lywodraeth Cymru, i alluogi Llywodraeth Cymru i wneud y pethau y mae wedi gobeithio eu gwneud. Fel y rhannais yn...
Peter Fox: O mae'n ddrwg gennyf i. Mae'n ddrwg gennyf, Mike. Os gwelwch yn dda, gwnaf