Carolyn Thomas: Pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar statws cyfreithiol fformiwla Barnett mewn perthynas ag ariannu'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru?
Carolyn Thomas: Diolch, Llywydd. Wnes i ddim datgan fy mod yn gynghorydd yn sir y Fflint mewn cyfeiriad at y ddadl ar y gyllideb ddrafft, eitem rhif 3 ar yr agenda. Rwy'n ymddiheuro, ac a gaf i wneud hynny'n ôl-weithredol?
Carolyn Thomas: Hoffwn i groesawu'r gyllideb ddrafft hon, sy'n amlinellu cefnogaeth barhaus i awdurdodau lleol wrth iddyn nhw barhau i ddarparu gwasanaethau ar reng flaen y pandemig. Rwyf i ar ddeall ei bod hi'n fwy hael na'r hyn sydd wedi ei ddyrannu i gynghorau Lloegr gan Lywodraeth y DU, ac mae'r ffaith nad yw hi'n cynnwys unrhyw neilltuo, fel y mae yn yr Alban, i'w groesawu yn fawr. Fodd bynnag, hoffwn i...
Carolyn Thomas: A gaf fi ddweud wrth fy nghyd-Aelod, Jack Sargeant, y byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn ymuno â'r grŵp trawsbleidiol hwnnw? Weinidog, os caf fynd yn ôl tua 10 mlynedd, rwy'n cofio Cadwyn Clwyd, asiantaeth ddatblygu ranbarthol, yn sicrhau £14 miliwn o gyllid yr UE i hybu'r economi wledig yn sir y Fflint a sir Ddinbych. Daeth mwy o gyllid i mewn i asiantaethau ar draws gogledd Cymru fel...
Carolyn Thomas: Weinidog, yn ystod 10 mlynedd o gyni Torïaidd yn torri cyllid gwasanaethau cyhoeddus, mae awdurdodau lleol wedi ad-drefnu, ailstrwythuro a gwneud yr holl arbedion effeithlonrwydd y gallent eu gwneud. Maent wedi dod mor effeithlon fel bod unrhyw bwysau newydd, er enghraifft oherwydd tywydd garw, dyfarniadau cyflog neu ddeddfwriaeth newydd, yn eu rhoi mewn perygl o fethu gallu darparu...
Carolyn Thomas: Diolch i'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r ddeiseb bwysig hon heddiw, a diolch i Jack Sargeant am agor y ddadl. Mae'r ddeiseb wedi tynnu sylw at gyfle pwysig i ni yma yng Nghymru i weithredu i ddiogelu ein bywyd gwyllt. Rydym yn wynebu argyfwng natur yn ogystal ag argyfwng hinsawdd, ac mae'n rhaid inni roi ystyriaeth ddifrifol i'r bioamrywiaeth a gollir os na roddir camau ar waith i ddiogelu...
Carolyn Thomas: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflog ac amodau pobl sy'n gweithio mewn addysg uwch?
Carolyn Thomas: Diolch, Prif Weinidog. Mae llawer o'r gogledd yn wledig, yn wahanol i ardaloedd dinesig mawr fel Caerdydd. Mae'n we gymhleth o ganolfannau trafnidiaeth sy'n cynnwys llawer o gymunedau gwledig ynysig, llawer iawn o ganol trefi hanesyddol, cyfleusterau iechyd, gorsafoedd rheilffordd, ac mae wedi ei gysylltu yn gynhenid ag addysg i'w gwneud yn ymarferol. Sut bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod...
Carolyn Thomas: 7. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau bysiau yng Ngogledd Cymru? OQ57332
Carolyn Thomas: Mae gwasanaethau a gwersi cerddoriaeth yng Nghymru a ddarperir gan awdurdodau wedi cael eu heffeithio'n ddifrifol o un flwyddyn i'r llall gan fesurau cyni a thoriadau i gyllid gwasanaethau cyhoeddus. Gwelais hyn fel cynghorydd a rhiant yn sir y Fflint y cymerodd ei mab ran mewn gwasanaeth cerddoriaeth. Ar ôl mynychu cyngerdd, gofynnais i fy mhlant a oedd yn ifanc ar y pryd a fyddent yn dysgu...
Carolyn Thomas: Diolch, Ddirprwy Weinidog. Yn ddiweddar, ymwelais â Phlas y Brenin, cyfleuster gwych ar gyfer chwaraeon antur a hyfforddiant yng nghanol Eryri, ac mae'n cael ei redeg gan elusen Gymreig, yr Ymddiriedolaeth Hyfforddiant Mynydd. Maent yn edrych am gyllid i wneud eu hadeilad a'u cyfleusterau awyr agored i fod yn gwbl hygyrch i bobl anabl er mwyn cynyddu cynhwysiant ac ehangu'r cynnig. Beth y...
Carolyn Thomas: 2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r sector gweithgareddau hamdden egnïol yng ngogledd Cymru? OQ57289
Carolyn Thomas: Mae sefydliadau lles anifeiliaid yng Nghymru yn darparu gwasanaeth hanfodol ac angenrheidiol, fel y gallwn weld yn ôl pa mor brysur ydynt. Fodd bynnag, mae eu hygrededd wedi'i niweidio gan rai sefydliadau ofnadwy. Hoffwn ddod â rhai enghreifftiau i'r amlwg i ddangos pam y mae angen i ni reoleiddio sefydliadau lles anifeiliaid. Ers 2016, bûm yn gwylio camau gweithredu yn erbyn elusen leol...
Carolyn Thomas: Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog, a chroesawaf y camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru. Mae'r diffyg tai fforddiadwy ledled y DU yn broblem y mae cenedlaethau iau yn ei theimlo'n ddifrifol. Nid yw llawer yn gallu cael morgais ac maen nhw'n teimlo eu bod wedi'u dal o fewn y sector rhentu preifat, gan dalu morgais y landlord yn hytrach na chael talu eu morgeisi ei hunain. Yn...
Carolyn Thomas: Fel y gwyddoch chi, Prif Weinidog, mae pont bibell Dolgarrog, sy'n cysylltu'r gymuned leol â'r orsaf drenau, wedi bod ar gau i gerddwyr a defnyddwyr lleol oherwydd pryderon diogelwch sylweddol, gan gynnwys dirywiad y byrddau dec pren a'r angen am fesurau ychwanegol i ddiogelu'r prif gyflenwad dŵr i dros 3,000 o gartrefi yn y gogledd. O ganlyniad i gyllid gan Lywodraeth Cymru, bydd y llwybr...
Carolyn Thomas: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfwng natur yng Nghymru?
Carolyn Thomas: A gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am gyflwyno'r cwestiwn amserol hwn ar fater mor bwysig? Fel Jack, rwy’n aelod balch o undeb Unite, ac ymunais innau â'r llinell biced ddydd Sul i gefnogi'r gyrwyr, sy’n cyflawni rôl mor bwysig yn ein cymunedau lleol ledled gogledd Cymru. Ni all fod yn deg fod gweithwyr yng Nghymru yn cael llai o dâl a'u gorfodi i weithio oriau hirach na'u...
Carolyn Thomas: Rwyf wedi cael ymateb ynglŷn â hynny hefyd a dywedwyd wrthyf ei fod yn cael sylw, gyda swyddogion yn cyfarfod â swyddogion Wrecsam hefyd. Diolch. Cafodd gwelliannau ar hyd yr A55 yng Ngwynedd 50 y cant o gyllid yr UE i wneud y gwaith. Un enghraifft yn unig yw hon o sut roedd seilwaith gogledd Cymru yn elwa o fod yn fuddiolwr net o gyllid Ewropeaidd. Cawsom addewid na fyddem yn waeth ein...
Carolyn Thomas: Diolch. Yn ystod wythnos gyntaf COP26, cefais wahoddiad i gynhadledd gyda chyflwyniadau gan ysgolion ledled y gogledd, ac roedd gan y myfyrwyr ddealltwriaeth wirioneddol bod gan bob un o'n partneriaid ran i'w chwarae wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd. Roedd eu hawgrymiadau a luniwyd ganddyn nhw yn cynnwys torri milltiroedd bwyd, dydd Llun di-gig, defnyddio ynni adnewyddadwy, ailddefnyddio...
Carolyn Thomas: Rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yn cytuno y dylai etholiadau fod yn deg, yn agored ac yn hygyrch. Dylem fod yn annog cynifer o etholwyr i gymryd rhan yn ein democratiaeth â phosibl, a theimlo'n rymus i gael eu lleisiau wedi'u clywed y tu hwnt i'r cyfnod pleidleisio. Rwyf yn croesawu'r chwe egwyddor a nodwyd gan y Cwnsler Cyffredinol, sydd i'w defnyddio fel meincnod ar gyfer yr agenda diwygio...