Peredur Owen Griffiths: Dwi'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl hon y prynhawn yma. Mae gan Gymru hanes hir o ddarparu personél i luoedd arfog y Deyrnas Unedig. Mewn llawer o deuluoedd yng Nghymru, bydd rhywfaint o gysylltiad â'r lluoedd arfog, boed hynny drwy berthnasau neu ffrindiau, yn enwedig yn y Cymoedd yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru.
Peredur Owen Griffiths: Y rheswm am hynny yw bod Cymru’n darparu nifer anghymesur o uchel o bersonél i’r lluoedd arfog. Mae llawer yn gadael gwasanaeth gweithredol i ddychwelyd i Gymru bob blwyddyn mewn ymgais i bontio i fywyd sifil. Mae cyfuniad o ddisgyblaeth, sgiliau da ac ethig gwaith ardderchog yn golygu eu bod mewn sefyllfa dda i gyfrannu at yr economi. Yn anffodus, bydd llawer yn ei chael hi'n anodd o...
Peredur Owen Griffiths: Diolch am yr ateb yna. Mae colli golwg yn broblem gynyddol yn y wlad yma. Ddoe, gwnaeth RNIB Cymru gynnal digwyddiad—cyflwyniad i golled golwg—i annog Aelodau i feddwl am sut rydym ni'n cefnogi a chyfathrebu gyda'n hetholwyr dall neu â golwg rhannol. Mae RNIB Cymru yn dweud bod 13 yn fwy o bobl yn dechrau colli eu golwg bob dydd yng Nghymru. Maent hefyd yn rhagweld y bydd y niferoedd yn...
Peredur Owen Griffiths: 1. Pa gamau y mae'r Comisiwn wedi'u cymryd i sicrhau bod y Senedd yn hygyrch i bobl ddall a phobl â golwg rhannol? OQ57803
Peredur Owen Griffiths: Yn ogystal, nid yw’r asesiad effaith rheoleiddiol yn amlinellu’r costau i gyrff eraill sy’n deillio o’r Bil. Mae’n nodi eu bod yn 'anhysbys ar hyn o bryd.' Fodd bynnag, mae’r Bil yn debygol o’i gwneud yn ofynnol i’r sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol newid eu gweithgarwch mewn rhai meysydd. Mae’n hanfodol bod asesiad effaith rheoleiddiol yn asesu effaith deddfwriaeth...
Peredur Owen Griffiths: Ar hyn o bryd, mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn rheoleiddio ac yn darparu cyllid ar gyfer addysg uwch, tra bod Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny ar gyfer y sectorau addysg drydyddol eraill. Mae'r pwyllgor yn cydnabod y bydd y comisiwn newydd a grëwyd gan y ddeddfwriaeth yn cyfuno'r gweithgareddau hyn yn un corff i geisio sicrhau llwybr dysgu cydlynol, a gobeithiwn y bydd hyn yn...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Llywydd. Rwy’n falch o gael cyfrannu yn y ddadl yma heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Rydym wedi gwneud 10 argymhelliad ac, o ystyried yr amser sydd gennyf, byddaf i'n canolbwyntio ar ein prif bryderon. Hwn yw'r Bil cyntaf i gael ei gyflwyno yn y Senedd hon, felly rwy'n credu ei bod yn bwysig cyfleu barn y Pwyllgor Cyllid y dylai'r asesiad effaith rheoleiddiol sy'n cyd-fynd...
Peredur Owen Griffiths: Yn olaf, clywodd y pwyllgor y bydd cyllideb staff Llywodraeth Cymru yn cynyddu £20 miliwn ar sail reolaidd o eleni ymlaen. Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol ac, o ganlyniad, mae'r pwyllgor yn gofyn am ragor o fanylion ynghylch sut mae'r arian hwnnw'n cael ei wario, ac a fydd unrhyw newidiadau'n cael eu gwneud i fodel gweithredu Llywodraeth Cymru o ganlyniad iddo. Dirprwy Lywydd, rwy'n falch...
Peredur Owen Griffiths: Mae'r pwyllgor yn croesawu'r cynnydd i'r dyraniadau a ddarperir gan y gyllideb atodol hon, yn ogystal â'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i liniaru effeithiau'r heriau economaidd anodd yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Cafodd adroddiad y pwyllgor ei ddwyn gerbron y Senedd ddoe, ac, fel y clywsom gan y Gweinidog yn awr, fe wnaethom 11 o argymhellion. Hoffwn ddechrau drwy gefnogi...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael siarad yn y ddadl hon heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid, a diolch i fy nghyd-Aelodau am eu gwaith ar y pwyllgor. Cynhaliodd y pwyllgor waith craffu ar yr ail gyllideb atodol ar 2 Mawrth, a diolch i'r Gweinidog am fod yn bresennol.
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roedd adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig a ryddhawyd yr wythnos hon yn peri gofid. Daeth i'r casgliad mai cymunedau Cymru yw'r rhai sydd wedi'u grymuso leiaf yn y DU. Adleisiwyd hyn yn ystod sgwrs a gefais yr wythnos hon gyda rhywun a oedd yn rhan o'r ymdrechion i adfer sefydliad y glowyr yn Abertyleri, adeilad a oedd unwaith yn wych ac sydd wedi gweld dyddiau...
Peredur Owen Griffiths: Gwrandewais ar eich ateb ac rwy'n gobeithio eich bod wedi edrych ar adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig ar rymuso cymunedau a oedd ac a ddylai fod wedi bod yn agoriad llygad i'r Llywodraeth, gan i'r adroddiad hwnnw ganfod mai cymunedau yng Nghymru yw'r rhai sydd wedi'u grymuso leiaf yn y DU. Mae hyn yn cyd-fynd â sgyrsiau a gefais yr wythnos hon, mewn gwirionedd, gyda rhywun sy'n ymwneud...
Peredur Owen Griffiths: Yn olaf, o ystyried difrifoldeb datblygiadau yn Wcráin a'r argyfwng dyngarol sy'n datblygu, hoffwn ofyn i'r Gweinidog pa gyfle sydd i roi mwy o gymorth a chyllid ychwanegol i ffoaduriaid. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud mai nod Cymru yw bod yn genedl noddfa, ac mae wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud mwy i helpu ffoaduriaid o Wcráin. Yn amlwg, mae terfyn ar yr hyn y gall...
Peredur Owen Griffiths: Mae'r pwyllgor yn croesawu'r £162.4 miliwn a ddyrannwyd yn y gyllideb derfynol i helpu'r rheini y mae'r argyfwng costau byw yn effeithio arnyn nhw, gyda £1.6 miliwn o hwnnw wedi'i ddyrannu ar gyfer y gronfa gynghori sengl i gynnig cyngor a chymorth ar gynyddu incwm i'r eithaf. Gwnaethom argymell bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i godi proffiliau grantiau a chynlluniau a gynlluniwyd i...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o allu cyfrannu yn y ddadl yma ar gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru yn rhinwedd fy rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Roedd adroddiad y pwyllgor ar graffu ar gyllideb ddrafft 2022-23 Llywodraeth Cymru yn cynnwys 41 o argymhellion. Rwy'n falch bod y Gweinidog wedi derbyn, neu wedi derbyn mewn egwyddor, ein holl argymhellion ac eithrio un. Er bod hwn...
Peredur Owen Griffiths: Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar ddarpariaeth gofal dydd i bobl anabl yn ystod y pandemig. Rwy'n codi hyn gyda chi eto oherwydd mae'n ymddangos bod gwrthgyferbyniad mawr rhwng yr hyn sy'n cael ei ddarparu, gyda rhai awdurdodau lleol, megis Gwynedd a Blaenau Gwent, yn cadw darpariaeth canolfannau gofal dydd ar gyfer y rhai mwyaf anabl, ac mae awdurdodau lleol eraill, megis...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Cadeirydd, a diolch, Dirprwy Weinidog, am y datganiad.
Peredur Owen Griffiths: Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw yn fras, gyda'r cynnydd tuag at gyflog byw gwirioneddol i bob gweithiwr gofal cymdeithasol. Mae Plaid Cymru wedi galw ers tro am gynnydd sylweddol mewn cyflogau yn y sector hwn. Gall swyddi gofal cymdeithasol roi boddhad, ond maen nhw'n swyddi heriol a chyfrifol iawn. Dylid gwobrwyo'r swyddi hyn yn unol â hynny. Mae Plaid Cymru am gael cydraddoldeb cyflog a...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Weinidog. Fe sonioch chi am raglen Cartrefi Clyd. Er gwaethaf targed gan Lywodraeth Cymru yn 2010 i ddileu tlodi tanwydd cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol ym mhob cartref erbyn 2018, gostyngiad o 6 y cant yn unig a gafwyd mewn tlodi tanwydd ym mhob cartref rhwng 2012 a 2016. Mae’r Llywodraeth hon yn ymgynghori ar iteriad nesaf rhaglen Cartrefi Clyd, a lansiwyd gyntaf yn...
Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr, Lywydd. Mae pobl hŷn wedi dioddef cyfnod arbennig o anodd yn ystod y pandemig, ac mae hynny wedi golygu bod llawer ohonynt yn pryderu am y dyfodol. Bydd yr argyfwng costau byw yn ychwanegu’n sylweddol at y pryderon hyn, yn enwedig gan fod biliau tanwydd eisoes yn debygol o fod yn uwch oherwydd y gofynion ynysu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Cyfrifodd cyhoeddiad y...