Ken Skates: Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad a hoffwn hefyd gydnabod llwyddiant anhygoel ein tîm pêl-droed cenedlaethol yr haf hwn hefyd. Rwy’n meddwl rhwng y Gemau Paralympaidd, y Gemau Olympaidd a'r Euros, ein bod fwy na thebyg wedi cael yr haf gorau o ran chwaraeon i athletwyr Cymru yn ystod oes unrhyw un ohonom. Efallai, pe byddai gennym hinsawdd gaeaf alpaidd, y gallem fod yn disgwyl...
Ken Skates: Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau ac, yn anad dim, rwy’n cydnabod y llongyfarchiadau y mae wedi’u rhoi i’r oes aur, yn ei eiriau ef, sydd yn ddyledus, i raddau helaeth, i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru wrth gwrs, yn ogystal ag UK Sport ac, yn wir, Chwaraeon Cymru. Ond canlyniad canolbwyntio di-baid gan Lywodraeth Cymru ar godi safonau chwaraeon ysgolion, trwy 5x60 a Champau'r...
Ken Skates: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu'r cyfle hwn i longyfarch ein hathletwyr Olympaidd a Pharalympaidd a gynrychiolodd Dîm GB a Pharalympaidd GB yn gemau Rio 2016. Rwy'n arbennig o falch y bydd Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal digwyddiad cyhoeddus y tu allan i'r Senedd yn ddiweddarach yr wythnos hon, gan roi cyfle i bobl o bob rhan o Gymru dalu teyrnged i'w...
Ken Skates: Ond ‘does bosibl na fyddai’r Aelod hefyd yn cydnabod mai’r hyn y mae busnesau yn ei ddweud wrthym, yr hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym, yw y dylai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gydweithio er budd pobl gogledd Cymru, a byddai’n llawer gwell integreiddio ein polisïau â pholisïau Llywodraeth y DU o ran twf economaidd. Mae hynny’n golygu y dylem geisio plethu ein dull o...
Ken Skates: Iawn, fe ildiaf.
Ken Skates: Ie, yn hollol. Efallai fod yr Aelod yn ymwybodol ein bod wedi ei roi yn ein maniffesto, maniffesto Llafur Cymru. Mewn gwirionedd fe ddywedon ni y byddem yn ystyried ac yn sicrhau bod cyfrifoldeb yn cael ei ddatganoli i ranbarthau megis gogledd Cymru, ond yr hyn y mae angen i ni ei gael yw penderfyniad clir i fwrw ymlaen â’r cytundeb twf, oherwydd os nad oes cytundeb twf yn mynd i fod, yna...
Ken Skates: Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Rwy’n sylweddoli bod peth sinigiaeth i’w deimlo gan rai o Aelodau’r gwrthbleidiau; rwy’n maddau iddynt am hynny a dweud, yn gyffredinol, fy mod yn credu ein bod i gyd yn gytûn i’r graddau fod angen tyfu ein heconomi yng ngogledd Cymru. Nid yw creu economi fewnol gref yng Nghymru a thyfu economi...
Ken Skates: Ni allaf siarad ar ran Owen Smith, ond y pwynt rydych yn ei wneud yw y byddech yn dymuno i Gymru, yn erbyn ewyllys y bobl, i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, pan oedd y canlyniad yn glir iawn ar 23 Mehefin. Ni allwch fod yn aelod o’r farchnad sengl heb fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.
Ken Skates: Gwnaf.
Ken Skates: Dof at y pwynt ynglŷn â phobl, ond os caf eich atgoffa o’r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog wrthych yn uniongyrchol mewn ymateb i gwestiwn ddoe, pan ofynnoch yr un cwestiwn iddo am symudiad pobl, fe ddywedodd: ‘Mynediad at y farchnad sengl ar gyfer nwyddau a gwasanaethau yw’r llinell goch; mae’r mater o symudiad rhydd pobl yn rhywbeth y bydd angen ei archwilio a’i drafod yn rhan...
Ken Skates: Yn bendant.
Ken Skates: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw a dechrau drwy ddweud ein bod, fel Llywodraeth, wedi bod yn hollol glir am bwysigrwydd mynediad llawn a dilyffethair i farchnad sengl yr UE? Mae hon yn flaenoriaeth sylfaenol. Mae’n rhaid i ni gael mynediad di-dariff i nwyddau a gwasanaethau i farchnad sengl yr UE heb unrhyw rwystrau technegol. Rydym hefyd...
Ken Skates: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig. Rwy'n falch o allu cyflwyno’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn o ran Bil Eiddo Diwylliannol (Gwrthdaro Arfog) Llywodraeth y DU. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Diwylliant, Y Gymraeg a Chyfathrebu am ei waith craffu ar y memorandwm a hefyd am nodi ei fod yn fodlon ag ef. Cymeradwyaf y cynnig i'r Siambr.
Ken Skates: Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, a dweud y gwir, yng nghyd-destun Gemau'r Gymanwlad, hefyd, oherwydd, mewn llawer o achosion, pan fyddwn yn denu digwyddiadau mawr i Gymru, nid ydym yn berchen ar y digwyddiadau hynny. Felly, perchnogion y digwyddiad fydd yn pennu pwy sy'n cymryd rhan o ran trefnu'r atebion logistaidd i'r problemau y mae’r digwyddiadau’n aml yn gallu eu cyflwyno....
Ken Skates: Mae’r Aelod yn iawn—mewn gwirionedd, mae gorgyffwrdd mawr rhwng digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol, ac mae digwyddiad diwylliannol ynghlwm â llawer o'n digwyddiadau chwaraeon mwyaf hefyd. Er enghraifft, mewn cysylltiad â rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr, caiff llawer o weithgareddau o natur ddiwylliannol eu hyrwyddo o amgylch y ddinas y flwyddyn nesaf. O ran rhai o'r...
Ken Skates: Hoffwn ddiolch i Julie Morgan am ei chwestiynau, ac, o safbwynt chwaraeon menywod, a dweud y gwir mae'n ffaith, o ran pêl-droed menywod, bod mwy na dwy o ferched dan 18 wedi cofrestru fel chwaraewyr pêl-droed gydag Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru am bob un chwaraewr benywaidd sy'n oedolion. O ran dynion, mae'n un i un. Y gwir yw bod mwy o ferched yn chwarae pêl-droed—dwbl nifer y...
Ken Skates: Hoffwn i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau. Yn gyntaf oll, o ran Cynghrair y Pencampwyr, wrth gwrs, un o'r heriau mawr yno yw na fyddwn yn gwybod pa ddau dîm fydd yn y rownd derfynol tan tua thair wythnos cyn i’r rownd derfynol ddigwydd. Felly, gan ddibynnu ar ba dimau sydd yn y rownd derfynol, bydd yna ddeinameg wahanol iawn o ran y bobl sy'n dod i Gaerdydd, a hefyd o ran am ba mor hir y...
Ken Skates: Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad gwybodus a byddwn yn cytuno’n llwyr ag ef. Rwy’n meddwl, o ran triongl symudiad y gemau, mae'n hollol gywir; mae angen rhoi sylw i hynny. Yn fy marn i, fel yr wyf eisoes wedi’i ddweud, ond byddaf yn ailadrodd, yn fy marn i, mae uchelgais mawr yn fater o fod yn benderfynol i arloesi. Dyna pam yr hoffwn weld newid yn digwydd, nid dim ond fel y...
Ken Skates: Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dweud, yn gyntaf oll, o ran Balchder Cymru, mae hwn yn ddigwyddiad gwych a noddir gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn falch iawn o'r digwyddiad hwnnw. Mae'n denu nifer enfawr o bobl i Gaerdydd o bob cwr o Gymru a'r DU hefyd. Hoffem ei weld yn parhau ac yn tyfu. O ran ei safle ar Gaeau Cooper, rwyf eisoes wedi sôn am y mater hwn ar ôl cael llythyr gan...
Ken Skates: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu'r cyfle hwn i fyfyrio ar flwyddyn sydd wedi bod yn un anhygoel i chwaraeon yng Nghymru. Yn benodol, hoffwn sôn am berfformiad anhygoel tîm pêl-droed dynion Cymru ym mhencampwriaeth Ewrop, a’r presenoldeb Cymreig cryf yn sgwad Olympaidd Team GB a dorrodd record. Mae nawr yn wych gweld ein hathletwyr Paralympaidd yn parhau â'n llwyddiant o ennill...