Canlyniadau 2461–2480 o 3000 ar gyfer speaker:Ken Skates

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(13 Gor 2016)

Ken Skates: Wel, byddwn wedi meddwl y byddai’r Aelod yn derbyn bod cael atebion Cymreig i broblemau Cymreig yn rhywbeth y byddai pobl Cymru weithiau’n falch ohono. Y ffaith amdani yw bod allforion o Gymru, cyn gadael yr UE, yn rhywbeth y dylem fod yn falch ohonynt. Rydym wedi gallu cynorthwyo nifer o gwmnïau i fynd i mewn i farchnadoedd newydd. Rydym yn benderfynol o sicrhau bod hynny’n parhau....

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(13 Gor 2016)

Ken Skates: Wel, rwy’n bragmataidd o ran sut rydym yn datrys problemau trafnidiaeth yn ein cymunedau. Efallai y byddai o fudd pe bawn yn ymweld â’r safle gyda’r Aelod i drafod ac archwilio’r dewisiadau y mae’n eu cyflwyno heddiw. Os daw’n amlwg fod hwnnw’n ateb mwy costeffeithiol ac yn un y gellir ei gyflawni’n gyflym, yna byddwn yn hapus i’w ystyried.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(13 Gor 2016)

Ken Skates: A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei sylwadau caredig, didwyll a diffuant iawn a dweud llongyfarchiadau wrtho am gael ei ethol a’i benodi’n llefarydd? Nid oes gennyf fanylion wrth law heddiw ar y rhan benodol honno o’r seilwaith, ond byddai’n bleser gennyf allu cyflwyno gwybodaeth i’r holl Aelodau ar ffurf datganiad ysgrifenedig.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(13 Gor 2016)

Ken Skates: Bydd, bydd yn darparu’r cymorth busnes wedi’i deilwra y mae’r Aelod yn sôn amdano yn ogystal â chyllid. Ein dewis gorau yw model hybrid sy’n ceisio denu buddsoddiad ychwanegol ac sy’n gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid eraill. Rwy’n falch o allu dweud wrth yr Aelod heddiw fod Cyllid Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno cynllun busnes wedi’i gostio’n llawn ar gyfer y banc...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(13 Gor 2016)

Ken Skates: Mae hwn yn fater rwy’n gweithio arno yn bennaf gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, sy’n gyfrifol am drethi lleol. Mae’n bwysig ein bod yn parhau i gefnogi busnesau cynhenid ​​ym mhob ffordd bosibl, gan gynnwys drwy doriadau treth. Roedd gan fy mhlaid addewid i sicrhau toriadau treth i fusnesau bach yng Nghymru; rydym yn bwriadu gwireddu’r addewid hwnnw.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(13 Gor 2016)

Ken Skates: Os nad ydynt yn talu trethi ar hyn o bryd, ni fyddent yn elwa o gael toriad treth, felly ar gyfer y busnesau hynny sy’n talu treth ar hyn o bryd yn unig y mae—hwy fydd yn cael y cael toriad treth. Bydd y rhai nad ydynt yn talu treth ar hyn o bryd yn parhau i beidio â thalu treth.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Prosiectau Twristiaeth yng Nghanolbarth Cymru
(13 Gor 2016)

Ken Skates: Mae’r Aelod yn hollol gywir; mae camlesi yn hanfodol ar gyfer y diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Gwn hynny oherwydd bod y prysuraf o’r holl gamlesi ym Mhrydain yn llifo drwy fy etholaeth fy hun—camlas Llangollen. Ac maent yn arbennig o ddeniadol i ymwelwyr tramor, a bellach mae gennym y nifer uchaf erioed o ymwelwyr tramor yn dod i Gymru, gan wario’r swm mwyaf o arian erioed yma....

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Prosiectau Twristiaeth yng Nghanolbarth Cymru
(13 Gor 2016)

Ken Skates: Gallaf. Fel y soniais wrth Suzy Davies, bydd arian ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, a hynny yn ystod 2017. Mae’r prosiect y mae’r Aelod yn ei grybwyll heddiw yn swnio’n un arloesol iawn; mae’n rhywbeth rwy’n siŵr y bydd y rheolwr cyrchfannau—. Byddwn yn cynghori’r sefydliad y tu ôl i’r fenter i gysylltu â’u rheolwr cyrchfannau mewn gwirionedd, oherwydd byddant...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Prosiectau Twristiaeth yng Nghanolbarth Cymru
(13 Gor 2016)

Ken Skates: Mae’r Aelod yn tynnu sylw at brosiect ardderchog ac mae’n cyd-fynd yn dda gyda’r prosiect y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflawni drwy Croeso Cymru i hyrwyddo ein treftadaeth. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o’r safleoedd Cadw a gafodd eu goleuo’n goch yn ystod y bencampwriaeth Ewropeaidd yn ddiweddar, ac rydym yn awyddus i sicrhau bod treftadaeth wrth wraidd ein cynnig i ymwelwyr â...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Prosiectau Twristiaeth yng Nghanolbarth Cymru
(13 Gor 2016)

Ken Skates: Gwnaf. Rydym yn gweithredu tri phrif gynllun i gefnogi prosiectau twristiaeth: y cynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth, a elwir hefyd yn TISS; y gronfa ymgysylltu twristiaeth ranbarthol; a chronfa arloesedd cynnyrch twristiaeth. Mae’r rhain yn gynlluniau ar gyfer Cymru gyfan. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu ceisio cael mynediad at wahanol ffrydiau cyllid sydd ar gael gan yr UE i...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cymru Greadigol
(13 Gor 2016)

Ken Skates: Gellid, yn hollol, ac roedd maniffesto Llafur Cymru yn cynnwys addewid i wneud yn union hynny, drwy gyfrwng presgripsiwn cymdeithasol, ochr yn ochr â sefydlu bond lles Cymru sy’n ceisio sicrhau cyllid i’r gweithgareddau sy’n atal afiechyd ac yn helpu i drin pobl sy’n dioddef o fathau arbennig o ysgafn o afiechyd meddwl. Nawr, o ran y prosiectau arloesi a’r gwaith y mae’r Aelod yn...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cymru Greadigol
(13 Gor 2016)

Ken Skates: Gwnaf, byddaf yn sicr yn gwneud hynny. Ac ni fydd ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i’r gronfa fuddsoddi yn y cyfryngau, ac i Pinewood, rwy’n falch o ddweud, yn cael eu heffeithio gan ganlyniad refferendwm yr UE. Nawr, mae fy nhîm Ewrop Greadigol eisoes mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU a’r cwmnïau cynhyrchu mawr i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd a lleihau’r heriau y mae...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cymru Greadigol
(13 Gor 2016)

Ken Skates: Gwnaf. Diolch. Mae gwaith ar y gweill i sefydlu Cymru Greadigol, corff a fydd yn cefnogi talent cartref yn y diwydiannau creadigol. Mae stori lwyddiant y diwydiannau creadigol yng Nghymru yn un yr ydym am ei datblygu, ac rydym yn sefydlu’r corff newydd hwn i hyrwyddo twf pellach yn y sector.

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith (13 Gor 2016)

Ken Skates: The National Transport Finance Plan sets out the measures we are taking to ensure that the Swansea bay region is connected via reliable modern and integrated transport network to other key agglomerations across Wales and beyond.

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith (13 Gor 2016)

Ken Skates: Rydym yn parhau i gydnabod pwysigrwydd y diwydiannau trwm i economi Cymru gyfan ac mae datblygu ac atgyfnerthu eu dyfodol yn flaenoriaeth i ni o hyd.

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith (13 Gor 2016)

Ken Skates: Inclusiveness is at the heart of our approach to City Regions. Their purpose is not just to ensure that our major cities become drivers of growth and opportunity, but that we also deliver the alignment, collaboration and joined-up thinking that allows growth and opportunity to be spread across Wales.

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith (13 Gor 2016)

Ken Skates: Our actions supported over 40,000 jobs last year and nearly 150,000 jobs in the last Assembly term. Our increasing employment rate is outperforming all other parts of the UK and we have seen major employers like Aston Martin and TVR announce the creation of high quality jobs in Wales.

8. 7. Datganiad: Moderneiddio Trafnidiaeth: y Wybodaeth Ddiweddaraf am Fasnachfraint Cymru a'r Gororau a'r Rhaglenni Metro (12 Gor 2016)

Ken Skates: Hoffwn ddiolch i Vikki Howells am ei chwestiynau. Rwyf yn falch o allu dweud wrth yr Aelod a’r Siambr heddiw mai fy mwriad yw sefydlu pencadlys Trafnidiaeth Cymru yn y Cymoedd, yn anad dim i amlygu ein cred y dylai'r metro yn ne Cymru wasanaethu’r cymunedau hynny sy’n aml yn teimlo'n ynysig. O ran Beeching, defnyddiwyd bwyell Beeching yn eang, ond fy ngobaith i yw y gallem weld, yn...

8. 7. Datganiad: Moderneiddio Trafnidiaeth: y Wybodaeth Ddiweddaraf am Fasnachfraint Cymru a'r Gororau a'r Rhaglenni Metro (12 Gor 2016)

Ken Skates: Hoffwn ddiolch i Hannah Blythyn am ei chwestiwn ac, yn arbennig, y diddordeb y mae wedi ei ddangos mewn cysylltedd trawsffiniol, ynghyd ag Aelodau eraill sydd wedi siarad heddiw. Rydym yn benderfynol o sicrhau bod pawb yn cael cyfle i fynd i’w man gweithio neu i allu ymweld â ffrindiau a theulu ar drafnidiaeth gyhoeddus, p'un a ydynt yn byw yng ngogledd Cymru ac yn manteisio ar y...

8. 7. Datganiad: Moderneiddio Trafnidiaeth: y Wybodaeth Ddiweddaraf am Fasnachfraint Cymru a'r Gororau a'r Rhaglenni Metro (12 Gor 2016)

Ken Skates: Hoffwn ddiolch i Mark Isherwood am ei gwestiynau a gallaf ei sicrhau, fel y dywedais wrth ymateb i gwestiynau Julie Morgan, y bydd gwell mynediad a gwasanaethau yn rhan o’r gofynion ar y gweithredwr a’r partner datblygu, ac wedi’u nodi yn yr allbynnau lefel uchel sy'n cynnwys gwasanaethau a hefyd welliannau o ran hygyrchedd i bobl ddall a rhannol ddall, a phobl ag anghenion synhwyraidd...

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.