Ken Skates: Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am ei chwestiynau. Rydym yn dal i fod yn hyderus na fydd llithriant ac y bydd pontio di-dor o’r fasnachfraint bresennol i'r un newydd. Mae'r ymgynghoriad sydd wedi ei gynnal wedi bod yn un cyhoeddus, ond byddwn hefyd yn dilyn hynny ag ymgynghoriad arall ar ôl inni allu dyfarnu statws gweithredwr a phartner datblygu. A byddaf yn cwrdd â nifer o arweinwyr...
Ken Skates: Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Nodaf yr amserlen yn gyflym. Byddwn yn dechrau’r broses gaffael yn yr haf; byddwn yn dyfarnu'r gweithredwr a’r partner datblygu ar gyfer y fasnachfraint a'r metro erbyn diwedd y flwyddyn hon; byddwn yn dyfarnu'r contractau seilwaith yn ystod gwanwyn 2018; bydd y fasnachfraint newydd yn dechrau ym mis Hydref 2018 a'r metro’n cael ei gynllunio...
Ken Skates: Hoffwn ddiolch i Mark Reckless am ei gwestiynau. Yn gyntaf oll, un o'r rhesymau—neu ddau o'r rhesymau—y mae hi wedi cymryd 18 mis yw oherwydd ein bod wedi cael dau etholiad cyffredinol, un ledled y DU, ac un yng Nghymru. Mae hyn hefyd yn ymwneud â gweithrediad sy'n croesi ffin sylweddol. Felly, ac ystyried y ddau ffactor hynny, nid yw’n syndod fod trafodaethau wedi eu cynnal dros...
Ken Skates: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a diolch iddo, unwaith eto, am groesawu'r datganiad heddiw? Mae yn llygad ei le fod metro de Cymru yn hanfodol o ran lliniaru rhai o'r tagfeydd—llawer o'r tagfeydd a welwn yn y rhanbarth. Yn fy marn i hefyd, bydd menter y metro yn sbardun mawr i symudedd cymdeithasol. O ran cynllunio wrth gefn yn ystod y refferendwm, cawsom ein sicrhau yn ystod y...
Ken Skates: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau heddiw, a hefyd am y ffaith ei fod yn croesawu'r datganiad hwn a'r cynnydd sy'n cael ei wneud ar y fasnachfraint? Fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol, rydym yn gobeithio datrys cwestiynau ynglŷn â gwasanaethau trawsffiniol a fydd yn sicrhau'r canlyniad gorau i Gymru yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf. O ran cyllid gan yr UE, mae’r swm...
Ken Skates: Diolch yn fawr iawn. Fel rhan o system drafnidiaeth gyhoeddus integredig, mae gan wasanaethau rheilffordd ran bwysig i’w chwarae er mwyn gweddnewid rhagolygon economaidd-gymdeithasol ein cymunedau, ac mae'n hanfodol eu bod o safon uchel a’u bod yn effeithiol, yn fforddiadwy ac yn hygyrch i bawb. Rhaid i wasanaethau gael eu cynllunio i fodloni anghenion teithwyr yn yr unfed ganrif ar...
Ken Skates: Mae’r Aelod, Russell George, yn gwneud cyfraniad gwerthfawr, a gallaf ddweud ein bod yn mynd ati i werthuso nifer o fesurau i gynorthwyo’r sector dur gydag ardrethi busnes, ac rydym ni’n profi’r rhain yn erbyn cyfraith cymorth gwladwriaethol bresennol. Ond, wrth gwrs, rydym ni’n cymryd sylw o'r hyn a ddigwyddodd yn refferendwm yr UE ac rydym ni hefyd yn trafod, gyda Llywodraeth y DU...
Ken Skates: Gwnaf. Ac a gaf i ddiolch i John Griffiths am ei gwestiynau? Mae tynged unrhyw un gwaith yng Nghymru yn amodol, os mynnwch chi, ar dynged teulu dur cyfan Cymru. Ac rwy'n credu bod dur Cymru mewn sefyllfa gref ar hyn o bryd; mae ganddo ddyfodol disglair, cyn belled â’i fod yn parhau i gael cefnogaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae'r buddsoddiad y mae’r Aelod yn sôn amdano,...
Ken Skates: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau, a dweud, gyda'r dewis arall yn dal ar y bwrdd ac yn cael ei ystyried, fy mod i’n dymuno parhau i siarad gyda rhai o'r darpar brynwyr hynny? A dyna pam y byddaf yn siarad ag un heddiw, a pham yr wyf yn dymuno siarad ar frys gyda Tata Steel eu hunain hefyd. Bydd cymorth, unrhyw gymorth, yn amodol ar sicrhau swyddi yn yr hirdymor, a, chyn belled ag...
Ken Skates: Ie, byddwn yn cytuno â'r Aelod. Mae'r cymorth sydd ar y bwrdd yn amodol ar nifer o ffactorau. Mae'r cymorth yn cynnwys rhaglenni gwella amgylcheddol, ac rydym ni’n gwbl, gwbl ymroddedig i sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei wella. O ran y cymorth yr ydym ni’n ei gynnig, byddem yn disgwyl i hynny ddigwydd, a bydd hynny’n wir yn y dyfodol.
Ken Skates: Rwy’n credu bod cyfraniad yr Aelod yn eithaf echrydus. Ar adeg pryd y dylem ni fod yn rhoi’r oportiwnistiaeth wleidyddol o’r neilltu, a sicrhau bod ateb hirdymor i ddur Cymru, mae’r Aelod bob amser yn mynd yn ôl at y sefyllfa ddiofyn o naill ai beio popeth ar Ewrop neu groesawu’r syniad y gall y farchnad rydd ddatrys pryderon pawb. Y ffaith amdani yw, o ran dyletswyddau, yn 2016,...
Ken Skates: Hoffwn ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau a dweud ein bod wedi bod yn eglur o’r cychwyn gyda Tata y byddai unrhyw gymorth a gynigir yn amodol ar ddiogelu swyddi a chynhyrchu dur cynaliadwy yma yng Nghymru, nid yn unig ar gyfer y byrdymor, ond ar gyfer y tymor hwy hefyd? Mae’r cymorth hwnnw ar y bwrdd, fel yr wyf eisoes wedi'i ddweud. Rydym ni’n barod i weithio gydag unrhyw un...
Ken Skates: Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, ac rwy’n derbyn llawer o'r hyn a ddywed, ond rwy'n synnu nad yw wedi gweld o ddatganiad newyddion Tata Steel o’r wythnos diwethaf, mewn gwirionedd, eu bod yn datgan yno, yn bendant, eu bod hwythau’n ystyried menter ar y cyd hefyd, nid eu bod yn ei ystyried yn hytrach na gwerthiant posibl. Nawr, rydym ni wedi dweud y byddwn ni’n gweithio gydag...
Ken Skates: Yn gyntaf oll, a gaf i ddiolch i'r Aelod am ei amddiffyniad angerddol parhaus o’r diwydiant dur yng Nghymru? Rwy’n llwyr gydnabod y pryder a’r ansicrwydd y mae llawer iawn o deuluoedd yn eu dioddef. Cefais i, fy hun, fy magu mewn teulu a oedd yn dibynnu ar ddur am gyflogaeth yn ôl yn y 1980au. Rwy’n gwybod yn iawn faint o bryder ac ansicrwydd a gofid y gellir eu hachosi pan nad...
Ken Skates: Gwnaf. A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Rydym ni’n parhau â'n trafodaethau helaeth â Tata ac yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU o ran nifer o bwyntiau gan gynnwys rhyddhad priodol o gostau ynni uchel, sy'n fwy hanfodol nag erioed i sicrhau bod ein diwydiannau yn gystadleuol, yn ogystal â'r angen am ddatrysiad ar bensiynau.
Ken Skates: Gwnaf, wrth gwrs y gwnaf.
Ken Skates: Mae’r Aelod wedi anwybyddu dro ar ôl tro y ffaith fod deunyddiau crai a fewnforir o dramor hyd yn oed yn fwy drud yn awr a bydd yn mygu twf yn y sector hwn. Nid oes unrhyw amheuaeth am hynny; nid oes unrhyw fudd net. Mae yna hefyd, fel y nododd yr Aelodau eisoes—Bethan Jenkins, Dai Lloyd ac eraill—eironi Shakespearaidd trasig yn yr hyn y mae Aelodau UKIP wedi ei ddweud heddiw a’r hyn...
Ken Skates: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw? Rwy’n gwybod y bydd pawb yn pryderu am yr effaith y mae’r refferendwm wedi ei chael ar y diwydiant dur yn y DU, ac nid oes amheuaeth fod canlyniad y refferendwm wedi creu cryn ansicrwydd ac ymdeimlad dwfn o bryder hefyd. Ategaf gyfraniad Lee Waters, a ddisgrifiodd faint y pryder y mae gweithwyr dur a’u...
Ken Skates: Cynnig, yn ffurfiol.
Ken Skates: Hoffwn ddiolch i'r Aelod a dweud fy mod yn cytuno’n llwyr â hi. O ran sicrhau bod pobl yn cael cyfle i gyfrannu at yr ymchwiliad, rwy’n meddwl yn ôl pob tebyg bod llawer o bobl wedi blino braidd o glywed gwleidyddion mewn unrhyw amgylchedd yn dadlau am rinweddau unrhyw brosiect penodol, ac yr hoffent allu cyfrannu at y drafodaeth eu hunain, gan wybod bod arolygydd annibynnol yn...