Ken Skates: Mae iechyd y gadwyn gyflenwi yn hynod o bwysig i’r rhanbarth. Gan weithio ar y cyd gydag is-grŵp cadwyn gyflenwi’r tasglu, mae 55 o fusnesau sy’n gysylltiedig â chadwyn gyflenwi Tata wedi gofyn am gymorth ychwanegol; ymwelwyd â 44 o fusnesau, a gwnaed diagnosis pwrpasol o angen pob un. Fel y mae’r Aelod yn ymwybodol, rydym wedi darparu cymorth ardrethi busnes, sy’n werth hyd at...
Ken Skates: Byddwn yn hapus i adolygu effeithiolrwydd y cymorth a’r cyngor a ddarparwn ac i ysgrifennu at yr Aelod gyda chanlyniad yr adolygiad hwnnw.
Ken Skates: Gwnaf. Bydd ardal fenter glannau Port Talbot yn ein helpu i fanteisio ar gyfleoedd economaidd newydd a chefnogi busnesau sydd eisoes yn bodoli. Rydym eisoes wedi lansio cynllun ardrethi busnes, sydd, ynghyd â’n cefnogaeth ehangach, yn darparu cymhelliad gwell ar gyfer buddsoddiad newydd a thwf.
Ken Skates: Rydym wedi gwneud sefydliadau cynrychioli busnesau yn ymwybodol o’r dulliau amgen o ddatrys anghydfodau, yn ystod proses ymgynghori Llywodraeth y DU ac ers ei weithredu.
Ken Skates: Byddwn. Hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn ar fater pwysig iawn. Gall ffyrdd amgen o ddatrys anghydfodau gyflymu setliad, sy’n golygu llai o gostau, llai o amser a llai o straen nag a geid wrth fynd â materion i’r llys. Mae’n llwybr ychwanegol defnyddiol i ddefnyddwyr pan fo’n briodol. Mae’n bwysig i ddefnyddwyr gael hyder yn eu trafodiadau. Mae mwy o hyder defnyddwyr o...
Ken Skates: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn, ac rwy’n pwysleisio ein bod wedi bod yn ymgysylltu â chymunedau lleol drwy gydol y broses hon, a gyda thirfeddianwyr yn ystod y broses o ddylunio a datblygu, er mwyn deall effaith debygol y cynllun ar eiddo a busnesau yn yr ardal, ac rydym yn awyddus i barhau’r ymgysylltiad hwn yn y dyfodol.
Ken Skates: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn, ac a gaf fi ddweud mai’r bwriad gwreiddiol yn wir oedd cyhoeddi gorchmynion drafft yn ystod y gwanwyn eleni, ond oherwydd y trafodaethau parhaus a grybwyllodd yr Aelod gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i fynd i’r afael â mesurau lliniaru amgylcheddol, mae’r dyddiad cyhoeddi yn awr wedi’i gynllunio ar gyfer mis Awst, yn amodol ar fy nghymeradwyaeth? Ond...
Ken Skates: Caiff ein blaenoriaethau trafnidiaeth eu nodi yn y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, sy’n cynnwys nifer o welliannau ffyrdd ar gyfer gogledd Cymru.
Ken Skates: Gadewch i ni feddwl am ein sefyllfa ar hyn o bryd. Heb amheuaeth, yn fy marn i, ceir momentwm newydd yn economi Cymru. Rwyf eisoes wedi crybwyll ffigurau twristiaeth—maent ar gynnydd, mae cyflogaeth ar gynnydd, mae Buddsoddi Uniongyrchol o Dramor ar gynnydd, mae allforion ar gynnydd, mae cyfraddau busnesau newydd ar gynnydd, mae niferoedd teithwyr maes awyr ar gynnydd. Cyfraddau cwblhau...
Ken Skates: Mae’r Aelod yn honni nad yw Ewrop wedi cynnig gobaith—yr hyn y mae Ewrop wedi’i gynnig yw’r cyfnod hiraf o heddwch parhaus yn hanes y cyfandir. Mae wedi cynnig gobaith ac mae wedi sicrhau heddwch a ffyniant ledled y cyfandir. Byddai pleidleisio dros adael Ewrop yr wythnos nesaf yn sicr yn peryglu’r diwydiant dur yng Nghymru a’r DU. Efallai na fydd yr Aelod yn dymuno fy nghredu,...
Ken Skates: A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei sylwadau caredig am fy mhenodiad a dymuno’n dda iddo hefyd yn ei rôl yn y Cynulliad? Ni ellir gwarantu y byddai’r arian hwnnw’n dod i Gymru. Rwy’n ofni y bydd yn cael ei hel i lefydd fel Wiltshire yn hytrach na’n dod yma i Gymru. Rwy’n meddwl y byddai’n debygol o fynd i’r Cotswolds yn hytrach na Chymru. Nid oes unrhyw sicrwydd y byddai Cymru...
Ken Skates: Iawn, fe ymrwymaf i wneud hynny. Mewn gwirionedd, mae awdurdod y parc cenedlaethol ar fy mhwyllgor llywio ar gyfer y Flwyddyn Antur, felly byddaf yn gallu ei drafod gyda phobl wyneb yn wyneb hefyd, a hoffwn ymrwymo hefyd i ddarparu datganiad ynglŷn â Rali Cymru GB a dyfodol chwaraeon modur yng Nghymru.
Ken Skates: Hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn atodol a dweud bod hyn yn rhan o drafodaeth sy’n digwydd—o ran y trafodaethau masnachol sy’n digwydd—yn y fath fodd fel na allaf roi sylwadau ar y manylion. Fodd bynnag, rwyf bellach wedi cael cyfarfod â’m cyd-Aelod, Lesley Griffiths, i drafod hyn, ac o ganlyniad i hynny, rwy’n falch o ddweud bod Cyfoeth Naturiol Cymru a Motor Sports...
Ken Skates: A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn a’i longyfarch ar ei benodiad hefyd? Rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag ef yn y blynyddoedd i ddod er mwyn sicrhau bod gennym economi gryfach, fwy diogel yng Nghymru. Mae’r sector modurol yn sector hollbwysig ledled Cymru. Yn benodol, o ran twristiaeth, mae’n cyfrannu’n aruthrol at lwyddiant ein portffolio digwyddiadau mawr, sydd, yn ei...
Ken Skates: Plaid Cymru sydd am fynd yn ôl i’r 1980au i greu Awdurdod Datblygu Cymru a dychwelyd i nefoedd y cwangos: na, mae’n well gennym ni atebolrwydd yn Llywodraeth Cymru. O ran allforion, un ffactor arall sy’n werth ei chofio yw ein bod wedi gweld rhai categorïau yn esgyn i’r entrychion yn ddiweddar—gwelsom gynnydd o 30 y cant mewn allforion peiriannau wedi’u harbenigo ar gyfer...
Ken Skates: Wel, wel, wel, ni ddylem synnu bod yr Aelod yn dymuno bychanu economi Cymru, ond y gwir amdani yw, pan anwybyddwn y ffigurau detholus y mae’n dewis eu mabwysiadu a phan edrychwn ar yr hyn sydd wedi digwydd ers 1999, sy’n ddangosydd teg i ddechrau, bu cynnydd o 89 y cant mewn allforion o Gymru, o’i gymharu â chynnydd o 69 y cant yn unig ar gyfer y DU gyfan. Rydych yn siarad am Brydain...
Ken Skates: A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn a’i longyfarch hefyd ar ei benodiad? Yn wir, a gaf fi longyfarch y ddau Aelod arall o Blaid Cymru sydd wedi’u penodi i fy nghysgodi? Mae cael tri chysgod yn gwneud i mi deimlo fel dyn â nod ar ei dalcen, mae’n rhaid i mi ddweud. O ran y cwestiynau penodol y mae’r Aelod yn eu crybwyll, byddwn yn datblygu strategaeth economaidd newydd a...
Ken Skates: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn, ac a gaf fi ddweud ein bod wedi datgan yn gyhoeddus iawn ein bod yn credu y dylai’r tollau fod yn nwylo Llywodraeth Cymru? Nawr, amcangyfrifir y byddai cael gwared ar y tollau yn hybu cynhyrchiant yng Nghymru rywle oddeutu £100 miliwn neu fwy bob blwyddyn, ac ni allaf weld unrhyw gyfiawnhad dros barhau i beri anfantais i fusnesau Cymru pan ddaw’r...
Ken Skates: Yn gyntaf oll, a gaf fi groesawu’r Aelod yn ôl i’r Siambr, a dweud bod trydaneiddio’r rheilffyrdd yn hanfodol bwysig i economi de Cymru, ac i economi Cymru gyfan yn wir, a byddaf yn falch o allu cyflwyno diweddariad ysgrifenedig i’r Aelodau ar y mater hwn?
Ken Skates: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn, ac a gaf fi ddweud bod gan economi gogledd Cymru botensial rhyfeddol? Dyna yw ein porth i’r byd a hoffem ei weld yn llwyddo. Rydym wedi dechrau gweithio i hybu datblygiad system metro ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru. Mae’n bwysig fod gennym gysylltedd ar draws y rhanbarth i gyd i wneud y gorau o’r cyfleoedd ymhellach i’r gorllewin ac i ddarparu...