Mr Neil Hamilton: Yn wahanol i Darren Millar, rwy'n croesawu'r cyfleoedd hyn, oherwydd mae'n rhoi inni enghraifft arall o ba mor ddi-glem yw'r sefydliad hwn—fel yn wir y mae'r Tŷ'r Cyffredin—o ran y farn boblogaidd. Y broblem sylfaenol a greodd yr anhrefn a'r dryswch hwn yw bod Prif Weinidog y DU o blaid aros, gyda Chabinet sy'n gryf o blaid aros, a Phlaid Seneddol—y Blaid Geidwadol—yn Nhŷ'r...
Mr Neil Hamilton: Dywedwyd wrthym ninnau hefyd fod yr ymgyrch o blaid Brexit yn seiliedig ar gelwyddau. Wel, mae sawl ochr i wirionedd, fel y gwyddom, a nodweddir pob ymgyrch etholiadol ar y ddwy ochr neu bob ochr gan gamystumiadau, gorliwio, camliwio ac ie, gan gelwydd llwyr. Beth am y 3 miliwn o swyddi y byddwn yn eu colli hyd yn oed pe baem yn ystyried y posibilrwydd o adael yr UE, neu ragfynegiad y...
Mr Neil Hamilton: Diolch yn fawr, Lywydd. Wel, rydym wedi cael dadl fywiog ac egnïol. Rydym wedi clywed cwynion ynghylch faint o gam-drin geiriol a luchir o gwmpas yn hyn, ac mae'n ymddangos bod yr achwynwyr uchaf eu cloch yn go fedrus yn y grefft o arfer cam-drin geiriol eu hunain—yr Aelod dros Flaenau Gwent, un o fy ffefrynnau yn y lle hwn, ac arweinydd Plaid Cymru, sydd yn ddiweddar, wrth gwrs, wedi mynd...
Mr Neil Hamilton: A wnaiff y Gweinidog ildio ar y pwynt hwnnw?
Mr Neil Hamilton: A wnaiff hi dderbyn hefyd bod Churchill wedi dweud yn yr un araith na ddylai Prydain fod yn rhan o hynny?
Mr Neil Hamilton: Nid wyf yn gwneud cyhuddiadau yn erbyn unrhyw weithredwyr lladd-dai yng Nghymru, ond rwy'n dweud, fel mesur rhagofalus, y byddai'n ddoeth symud tuag at sefyllfa lle mae gennym systemau teledu cylch cyfyng ac felly, fod tystiolaeth ddiymwad os yw anifeiliaid yn cael eu cam-drin, a dyna fesur rhagofal elfennol. Dywed y Gweinidog wrthyf yn aml pan fyddaf yn gofyn iddi ynglŷn â materion yn...
Mr Neil Hamilton: Rwy'n derbyn y pwynt y mae'r Gweinidog newydd ei wneud, ond yn ddiweddar cefais brofiad annifyr o wylio ffilm o ladd-dy nad oedd yn stynio cyn lladd yn Lloegr, gyda lluniau erchyll o anifeiliaid yn cael eu cam-drin—eu cicio, eu trywanu, eu bygwth—cyn cael eu lladd yn y pen draw yn y ffordd fwyaf barbaraidd heb eu stynio. Nawr, cafodd hynny ei ddal ar deledu cylch cyfyng, felly roeddem yn...
Mr Neil Hamilton: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Fis Gorffennaf diwethaf, deuthum â mater lladd heb stynio i sylw'r Gweinidog ac yn arbennig, sylwadau a wnaed iddi gan Gymdeithas Milfeddygon Prydain, a dywedodd ei bod wedi cael trafodaeth â hwy ychydig wythnosau'n ôl a'i bod wedi gofyn i swyddogion edrych ar y wybodaeth yr oeddent wedi'i chyflwyno yn fanwl. Mae naw mis ers y cyfarfodydd hynny. Tybed a allai'r...
Mr Neil Hamilton: A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi ein bod yn awr mewn argyfwng o ran democratiaeth? Dywedodd ar ddechrau'r cwestiwn hwn heddiw ei bod yn ddyletswydd ar y Llywodraeth erbyn hyn i gyflawni ewyllys y Senedd. Ond onid y broblem yn y fan yma yw bod y Senedd yn anfodlon i gyflawni ewyllys y bobl? Pleidleisiodd 17.4 miliwn o bobl dros adael yr UE yn y refferendwm, ond mae gennym fwyafrif...
Mr Neil Hamilton: Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ateb nad yw'n cynnig unrhyw oleuni, wrth gwrs. Ond os caf ddychwelyd at y cwestiwn a ofynnodd Lynne Neagle yn gynharach am effaith 'dim bargen' ar y diwydiant modurol yn ei hetholaeth hi, fel yr honnodd hi beth bynnag, a yw'r Cwnsler Cyffredinol wedi gweld heddiw, yn wir, fod Toyota wedi cyhoeddi eu bod yn mynd i ddechrau cynhyrchu cenhedlaeth newydd o geir...
Mr Neil Hamilton: Pa gyngor a roddodd i Lywodraeth Cymru ar y pwynt hwn? Ai ei farn gyfreithiol os yw aelodaeth Prydain yn ymestyn y tu hwnt i 22 neu 23 Mai, yw y bydd rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i gymryd rhan yn etholiadau Senedd Ewrop a fydd yn digwydd ym mhob un o aelod-wladwriaethau eraill yr UE ledled Ewrop?
Mr Neil Hamilton: Diolch yn fawr, Lywydd. Fel y gŵyr y Prif Weinidog, bellach mae Prif Weinidog y DU wedi gwneud cais ffurfiol i'r UE i ymestyn aelodaeth Prydain o'r UE tan 30 Mehefin, ond a fyddai'n cytuno nad penderfyniad gwleidyddol yn unig yw'r penderfyniad sydd i'w wneud, ond bod iddo oblygiadau cyfreithiol hefyd, ac mai'r cyngor a dderbyniodd y Comisiwn Ewropeaidd, os caniateir y DU i ymestyn ei...
Mr Neil Hamilton: Wel, mwynheais glywed Prif Weinidog Cymru yn diberfeddu Prif Weinidog y DU a'r traed moch gwleidyddol y mae hi a'r Blaid Geidwadol wedi ei greu, ond rwy'n credu bod mwy o draed moch yn y gwrthbleidiau, oherwydd, er gwaethaf bod gennym yr hyn y credaf yw'r Prif Weinidog mwyaf anfedrus mewn 250 o flynyddoedd, nid yw arweinydd yr wrthblaid wedi elwa mewn unrhyw ffordd ar yr hyn sydd wedi digwydd...
Mr Neil Hamilton: Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. A yw'r Prif Weinidog yn ymwybodol, yn ystod y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Rhagfyr 2018, bod ambiwlans yn aros y tu allan i ysbytai yn y Fenni ac yng Nghasnewydd am dros 5,000 o oriau ac, felly, nid oeddent yn gallu ymateb i achosion brys. O gofio mai dau yw'r criw ambiwlans cyfartalog ar yr achlysuron hyn, mae hynny'n 10,000 o oriau criw a...
Mr Neil Hamilton: 2. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael er mwyn gwella amseroedd aros ysbytai? OAQ53637
Mr Neil Hamilton: A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi fod sarhad gwleidyddol yn dod ar sawl ffurf, a sarhad llawer mwy difrifol nag unrhyw ddifenwad a allai ddod o geg arweinydd Plaid Cymru yw'r sarhad ar bobl Prydain gan Dŷ'r Cyffredin yr wythnos hon? Mae pobl Prydain a phobl Cymru, ar ôl iddynt bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd mewn pleidlais ddiamod ddwy flynedd a hanner yn ôl, bellach yn cael...
Mr Neil Hamilton: Gwrthwynebu.
Mr Neil Hamilton: Wel, byddai hynny wedi bod yn fater i'r Cynulliad i benderfynu neilltuo swyddogaeth y Cadeirydd iddi hi. Nid dyna'r mater yr ydym ni'n ei drafod ar hyn o bryd y prynhawn yma. Mae hyn ynghylch neilltuo Cadeiryddion i grwpiau. Nid oes gan hynny ddim i'w wneud â deiliad unigol swyddogaeth y Cadeirydd. Byddaf yn dod at David Rowlands mewn eiliad. Os ydym ni wir yn credu mewn parchu hawliau...
Mr Neil Hamilton: Rwyf yn ildio.
Mr Neil Hamilton: Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n ddiwrnod trist, yn fy marn i, i'r Cynulliad Cenedlaethol, bod y cynnig hwn yn cael ei ddwyn ger ei fron, oherwydd cawsom ni i gyd ein hethol ar yr un sail dwy flynedd a hanner yn ôl, ac rydym ni i gyd yn ddirprwyon ar ran y bobl sydd yma, ac roedd y Rheol Sefydlog sy'n sefydlu dosbarthiad Cadeiryddion pwyllgorau, ar ôl yr etholiad diwethaf, yn fy marn i, yn...