Baroness Mair Eluned Morgan: Rwy'n gyfrifol, ond gadewch imi ddweud, nid yw wedi helpu fod gennyf bobl bellach yn gweithio yn y GIG sydd, o ganlyniad uniongyrchol—canlyniad uniongyrchol—i Lywodraeth Liz Truss, na wnaeth bara'n hir iawn, yn gweld eu morgeisi'n codi—[Torri ar draws.] Mae eu morgeisi'n codi, a'ch bai chi a'ch problem chi yw hynny, ac mae'n rhaid ichi gymryd cyfrifoldeb am hynny.
Baroness Mair Eluned Morgan: Ie, diolch. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod pobl yn deall holl gefndir hyn. Felly, beth na allwch ei wneud yw dweud wrthyf, wythnos ar ôl wythnos, 'Mae angen i chi wneud hyn, llall ac arall i wella arbedion effeithlonrwydd'. Mae gennym grŵp annibynnol i edrych yn iawn ar arbedion effeithlonrwydd—sut mae cael mwy allan o'r system? Mae'r adolygiad annibynnol yn edrych ar y...
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, gallaf eich sicrhau nad eich etholwr yn unig sy'n gofyn cwestiynau; rwy'n gofyn cwestiynau yn gyson iawn i'r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru. Fe gyfarfûm â hwy ddydd Llun, neu ddoe, i fynd drwy eu perfformiad yn fanwl. Yr eironi yw eu bod hwy mewn gwirionedd yn cyrraedd mwy o bobl nag y gwnaethant erioed o'r blaen. Felly, mae eu perfformiad yn gwella mewn gwirionedd. Y broblem yw bod...
Baroness Mair Eluned Morgan: Dyw amseroedd ymateb ambiwlansys ar draws Cymru ddim ble ddylen nhw fod, ond ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan oedd â’r perfformiad gorau yng Nghymru ym mis Medi yn erbyn y targed cenedlaethol ar gyfer galwadau coch. Mae cynllun cenedlaethol yn ei le i sbarduno gwelliant ambiwlansys gyda chefnogaeth £3 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Altaf. Mae'n debyg fy mod yn treulio cymaint o amser ar oedi wrth drosglwyddo gofal, fel rydych wedi nodi, ag ar unrhyw beth arall. Mae tagfeydd drwy'r system, rydym yn gwybod hynny, ond mae hon yn dagfa benodol. Rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd gydag awdurdodau lleol—cefais un ddoe—i edrych ar yr hyn y gallwn ei gyflawni yn y maes hwn. Mae'n anodd nawr, ond mae'r gaeaf yn...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, a diolch am eich diddordeb yn y rhaglen wirioneddol bwysig hon. Oherwydd ein bod yng nghanol argyfwng costau byw, dyma'r adeg pan fo angen inni roi ein breichiau o amgylch pobl a allai fod o dan lawer o bwysau. Mae gennym gyfle yn y gwasanaeth iechyd i wneud i bob cyswllt gyfrif, ac mae hynny'n rhan o'r hyn rydym yn ei wneud yma gyda'r rhaglen arbennig hon. Mae'n eithaf...
Baroness Mair Eluned Morgan: Mae'r gwasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cefnogi canlyniadau positif ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth. Mae wedi helpu i leihau nifer y dyddiau gwely a ddefnyddir yn Ysbyty Tywysoges Cymru drwy gefnogi rhyddhau amserol, ac mae wedi cefnogi pobl sy'n agored i niwed i gynyddu eu hincwm i'r eithaf drwy fynediad at fudd-daliadau perthnasol.
Baroness Mair Eluned Morgan: NHS staffing levels in North Wales are now at record levels, but we recognise that there are workforce challenges alongside significant demand pressures on services.
Baroness Mair Eluned Morgan: Roedd gennyf £170 miliwn i dalu am yr ôl-groniad, a bellach rwyf wedi cael bil ychwanegol o £207 miliwn ar gyfer cost ynni. Rwyf wedi cael rhywfaint o arian gan Lywodraeth y DU i dalu am hynny, ond heb fod hanner digon. Felly, golyga hynny fod yn rhaid inni ddod o hyd i doriadau yn y GIG. Chi sy'n gyfrifol am hynny. Chi sy'n gyfrifol am hynny, ac nid ydych wedi camu i'r adwy. Ewch i siarad...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn. Mae'r argyfwng costau byw, fel y mae Joyce wedi'i nodi, yn cael effaith ar bawb, ond mae'n taro nyrsys yn ogystal â phobl eraill, ac mae'n wirioneddol ddigalon clywed am nyrsys yn mynd i fanciau bwyd a lleoedd eraill. Mae honno'n sefyllfa anodd tu hwnt. A’r hyn rydym wedi’i weld, fel y dywedoch chi, yw cynnydd enfawr mewn costau ynni, cynnydd enfawr mewn costau bwyd,...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Jenny. Yn sicr, rydym bob amser yn awyddus i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol. Yn amlwg, nid wyf wedi cael cyfle i ystyried yr hyn sy'n digwydd yn Aneurin Bevan a pham, efallai, eu bod wedi mynd ar drywydd ychydig yn wahanol. Fy nealltwriaeth i yw na wnaethant gyrraedd y trothwy ar gyfer y niferoedd o bobl i gymryd rhan, ond nid wyf wedi gweld yr union ffigurau, felly...
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, nid wyf am wrando ar bregeth gan Dori ar sut i ymdrin â'r GIG. Nid wyf am wrando ar bregeth gan Dori. A chysgod Nye Bevan—yn sicr, rwy’n teimlo cyfrifoldeb gwirioneddol i sicrhau ein bod yn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i bobl Cymru. Ac mae hynny'n golygu cadw ein ffrindiau a'n cydweithwyr ym maes nyrsio yn ddiogel yn y GIG, a sicrhau eu bod yn hapus yn eu gweithle. A byddwn...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn. A gaf fi ddweud yn glir ein bod wedi bod yn recriwtio i’r gweithlu yng Nghymru, o ran nyrsys, ers sawl blwyddyn? Rydym wedi gweld cynnydd o 69 y cant yn nifer y lleoedd hyfforddi nyrsys yng Nghymru ers 2016. Yr her, fel y dywedoch chi, yw eu cadw, ac rydym yn deall hynny. Mae'r nyrsys hyn wedi bod dan bwysau aruthrol, yn enwedig yn ystod COVID. Rydym yn deall bod y...
Baroness Mair Eluned Morgan: —toriadau anodd iawn y byddai’n rhaid eu gwneud mewn mannau eraill yn y gyllideb iechyd. Ac mae hynny'n hynod o anodd—. Os hoffai roi rhai syniadau i mi o ble yn union y mae'n credu y dylem wneud toriadau i dalu am hyn, rwy'n glustiau i gyd. Nawr, hoffwn ddweud yn glir ein bod, yng Nghymru, yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd iawn â'r Coleg Nyrsio...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn. A gaf fi ddweud yn gwbl glir, heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Dorïaidd y DU, y bydd yn amhosibl, o fewn y gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol bresennol, i ddarparu’r math o godiad cyflog yn unol â chwyddiant i’r GIG heb wynebu—
Baroness Mair Eluned Morgan: Rwyf newydd glywed bod y trothwy gofynnol o ran y ganran a bleidleisiodd wedi'i gyrraedd ar gyfer aelodau'r Coleg Nyrsio Brenhinol ym mhob un o sefydliadau cyflogwyr y GIG yng Nghymru, ac eithrio bwrdd iechyd Aneurin Bevan, ac ym mhob un o'r rhain, llwyddwyd i gael mandad mwyafrif syml ar gyfer streicio. Felly, i fod yn glir, yng Nghymru, mae nyrsys sy'n aelodau o'r Coleg Nyrsio Brenhinol...
Baroness Mair Eluned Morgan: Dwi am sôn nawr am yr elfennau eraill gwnes i grybwyll. Cafodd y datganiad ansawdd ar gyfer strôc ei gyhoeddi ym mis Medi 2021. Mae'n nodi 20 o nodweddion ansawdd ar gyfer gwasanaethau strôc. Ym mis Mehefin 2022, fe wnaeth prif weithredwyr y byrddau iechyd gefnogi sefydlu bwrdd rhaglen strôc genedlaethol, ac fe fydd y bwrdd yn ategu ac adeiladu ar waith y grŵp gweithredu ar gyfer strôc....
Baroness Mair Eluned Morgan: Gwnaf.
Baroness Mair Eluned Morgan: Felly, mae fy mhwynt yn sefyll, sef nad oes un reol bendant mewn perthynas â strôc yn Lloegr nac yng Nghymru. Felly, mae adolygiad McClelland, a ysgogodd y newid i'r model ymateb clinigol, wedi nodi bod gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi bod yn destun mwy o adolygiadau nag unrhyw ran arall o'r GIG yng Nghymru a bod y craffu hwn yn cyfrannu at y problemau sy'n wynebu'r sefydliad. Daeth i'r...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Lywydd. Yn gyntaf, rwyf eisiau diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r mater pwysig hwn i'r Siambr heddiw, a'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Rwyf wedi gwrando'n astud ar bob siaradwr, ac mae llawer o bwyntiau pwysig wedi cael eu gwneud. Strôc, fel y dywedodd Mark Isherwood, yw'r pedwerydd prif achos marwolaeth yng Nghymru, ac mae'n cael effaith hirdymor sylweddol ar...