Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei datganiad wrth agor y ddadl hon. Sylwais i ei bod yn ymddangos bod y Gweinidog yn gwneud llawer iawn o nodiadau yn ystod y ddadl hon. Mae croeso iddi bob tro, wrth gwrs, pryd bynnag yr ydym ni'n trafod y pethau hyn, ond rwy'n siŵr ei bod hi wedi cael cymaint o sioc ag yr wyf i yn ystod y ddadl hon, ar ôl treulio 10 mlynedd yn gwrando ar y Torïaid yn ein...
Alun Davies: Hoffwn i ofyn am ddatganiad, os caf i, gan y Gweinidog iechyd ar effaith COVID ar weithlu'r GIG, yn benodol sut y bydd y gwasanaeth iechyd gwladol yn gofalu am bobl sydd wedi'u heintio gan COVID ac sydd â phroblemau parhaus gyda'u hiechyd, sy'n golygu na allan nhw weithio. Rwy'n meddwl yn arbennig am un o fy etholwyr, Steve Bell, a oedd yn gweithio yn y gwasanaeth ambiwlans, ac wedi dal...
Alun Davies: Os edrychwch ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar ddiogelwch adeiladau, gellid bod wedi mynd â Bil drwy'r lle hwn mewn amser tebyg i'r hyn y mae'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol wedi'i gymryd, a chyda chraffu ac opsiwn i bobl yma bleidleisio arno. Felly, rwy'n ddiolchgar ichi, Ddirprwy Lywydd, am eich amser y prynhawn yma, ac rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y...
Alun Davies: Gallaf ddeall eich bod am wneud araith arall yn achub eich sefyllfa, ond nid dyma'r cyfle i wneud hynny, mae arnaf ofn. O ran ble rydym, yr hyn a wnewch wrth gwrs pan fyddwch yn craffu ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol yw eich bod yn craffu ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, y memorandwm; nid ydych yn craffu ar y ddeddfwriaeth, a dyna fethiant allweddol y system hon. Nid yw mewn...
Alun Davies: Wrth gwrs, ydw.
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar i bawb a gymerodd ran yn y ddadl y prynhawn yma, ac eithrio cyfraniad braidd yn rhyfedd Darren Millar o bosibl. Ddirprwy Lywydd, rôl y gwrthbleidiau yw gwrthwynebu Llywodraethau, fel arfer, a defnyddio cynifer o wahanol dechnegau seneddol â phosibl i rwystro'r Llywodraeth rhag cael ei ffordd. Rhaid mai dyma'r tro cyntaf i mi gofio...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. Byddwch chi'n ymwybodol, Gweinidog, imi gyfarfod â Banc Cambria yn Abertyleri rai wythnosau'n ôl i drafod y posibilrwydd o leoli cangen yn y dref. Mae llawer o'n cymunedau yn y Cymoedd wedi gweld gwasanaethau ariannol yn cael eu tynnu'n ôl ac wedi gweld caledi gwirioneddol, i fusnesau lleol a phobl leol, o ganlyniad i hynny....
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei hatebion. Un o'r materion sydd wedi bod yn fy mhoeni ers peth amser, wrth inni ddod drwy'r pandemig, yw plant yn diflannu o addysg, a'r cynnydd sylweddol yn nifer y plant sy'n derbyn eu haddysg gartref. O drychinebau yn y gorffennol, gwyddom y gallwn golli cysylltiad â phlant sy'n cael eu haddysg gartref ac y gall pethau ofnadwy ddigwydd i blant yn yr...
Alun Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr wybodaeth ddiweddaraf y mae wedi'i rhoi i ni y prynhawn yma. Efallai y bydd yr Aelodau'n cofio i'r pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar 21 Hydref ac ar femorandwm Rhif 2 yn dilyn ein cyfarfod pwyllgor ddoe. Yn ein hadroddiad cyntaf, gwnaethom nodi'r pwyntiau y mae'r Gweinidog eisoes wedi cyfeirio...
Alun Davies: Cefais gyfarfod yn ddiweddar â Mark Hooper o Fanc Cambria yn Abertyleri i drafod y cyfleusterau bancio sydd ar gael mewn gwahanol rannau o'n cymunedau. Mae Llywodraeth Cymru wedi ailddatgan heddiw, yn ei datganiad ar y rhaglen lywodraethu, ei hymrwymiad i fancio cymunedol. A fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai'r flaenoriaeth ar gyfer bancio cymunedol a bwrw ymlaen â lansiad Banc...
Alun Davies: Efallai nad yw'n glymblaid, ond mae'n edrych fel un. Rwy'n croesawu'r cytundeb. Rwy'n croesawu cyhoeddi'r dogfennau heddiw sy'n sail i'r cytundeb; credaf fod hynny'n bwysig o ran tryloywder. Rwy'n croesawu wleidyddiaeth y cytundeb; rwy'n credu ei fod yn beth da i'w wneud. Ac rwy'n croesawu'r datganiad gan y Llywydd y bore yma ar y cyngor y mae wedi'i gael. Ond mae hyn yn codi cwestiynau i...
Alun Davies: A gaf fi ddweud fy mod yn croesawu hynny gan y Gweinidog? Bydd y Gweinidog wedi gweld yr un adroddiadau â minnau ac wedi gwrando ar yr un profiadau gan yr etholwyr rwy'n eu cynrychioli ac y mae hithau'n eu cynrychioli mewn gwahanol rannau o'r wlad. Gwyddom fod argyfwng gwirioneddol ar hyn o bryd ar y rhyngwyneb rhwng y gwasanaeth iechyd gwladol a'r bobl y mae'n eu gwasanaethu, a gwyddom fod...
Alun Davies: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amser ymateb gwasanaethau ambiwlans ym Mlaenau Gwent? OQ57272
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Byddwch chi'n cofio i mi ei holi yr wythnos diwethaf am y gwasanaethau trafnidiaeth sy'n gwasanaethu bwrdeistref Blaenau Gwent, a hoffwn i ddychwelyd at hynny y prynhawn yma. Rwy'n siŵr y bydd wedi rhannu trallod ein cyd-Aelodau Ceidwadol o ddarganfod bod yr 'Adolygiad o Gysylltedd yr Undeb', a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth y Deyrnas...
Alun Davies: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ym Mlaenau Gwent? OQ57273
Alun Davies: Roeddwn am ddweud gair byr yn y ddadl hon y prynhawn yma. Os edrychaf yn ôl dros y blynyddoedd y bûm yn gwasanaethu yn y lle hwn, mae pryderon am rai llochesau anifeiliaid a sefydliadau achub yn un peth a welais yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, ac fe'i gwelaf heddiw ym Mlaenau Gwent. Gwelaf bobl sy'n wirioneddol ofidus am y pethau y maent wedi'u gweld. Rwy'n gweld pobl sydd wedi gwneud...
Alun Davies: —normau Ewropeaidd. Felly, Prif Weinidog, fy nghwestiwn i yw: sut ydych chi'n gweld fframweithiau cyffredin yn cael eu gweithredu, os oes penderfyniad ym mholisi'r DU—a gwnaethom ni weld yr Arglwydd Frost yn dweud hyn eto—eu bod nhw eisiau newid cyfeiriad mawr oddi wrth reoliadau'r UE, oherwydd bydd hynny yn cael effaith uniongyrchol ar y ffordd y mae fframweithiau cyffredin yn...
Alun Davies: Fel eraill, rwy'n croesawu'r datganiad llafar y prynhawn yma. Rwy'n croesawu'r cyfle i drin a thrafod y materion sydd wedi codi, o'r cyfarfodydd yr wythnos diwethaf ond hefyd y materion ehangach sy'n ymwneud â chysylltiadau yn yr ynysoedd hyn. Fel eraill sydd wedi siarad y prynhawn yma, rwyf i hefyd yn cytuno bod y cyngor yn gyfle da, nid yn unig i ni wreiddio a dyfnhau heddwch yn ynysoedd...
Alun Davies: Gweinidog, yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym ni wedi gweld dirywiad llwyr polisi'r DU tuag at yr Undeb Ewropeaidd, a dirywiad llawer o'r cytundebau a gafodd eu gwneud yn y cytundeb ymadael y llynedd. Mae'n ddigon posibl mai canlyniad hynny yw bod erthygl 16 yn cael ei gweithredu. Gallai hyn achosi niwed enfawr i economi Cymru ac i gymdeithas yng Nghymru. Byddwn i'n ddiolchgar felly...
Alun Davies: Prif Weinidog, fe wnaeth pobl gogledd Lloegr ddarganfod yr wythnos diwethaf yr hyn yr ydym ni yng Nghymru wedi ei wybod ers rhai blynyddoedd—na allwch chi ymddiried yn addewidion y Torïaid wrth sôn am fuddsoddiad mewn seilwaith a threnau a dyfodol cysylltedd yn ein cymunedau. Fe wnaeth pobl Lloegr ddarganfod neithiwr yn Nhŷ'r Cyffredin mai Llywodraeth yn Llundain ar gyfer Llundain yw...