Canlyniadau 241–260 o 8000 ar gyfer speaker:Mike Hedges OR speaker:Mike Hedges OR speaker:Mike Hedges OR speaker:Mike Hedges OR speaker:Mike Hedges OR speaker:Mike Hedges

3. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2022-23 (11 Ion 2022)

Mike Hedges: Sefydlodd ein hadolygiad o wariant grant bloc heb ei addasu i Gymru o'r Trysorlys hyd at 2024-25. Mae'r gyllideb tair blynedd hon yn rhywbeth y mae llawer ohonom ni wedi bod yn galw amdani ers tro byd, ac mae'n caniatáu cynllunio tymor hwy. Mae Dadansoddiad Cyllidol Cymru yn amcangyfrif, ac eithrio cyllid COVID, y bydd y gyllideb graidd ar gyfer gwariant blynyddol o ddydd i ddydd gan...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (11 Ion 2022)

Mike Hedges: Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad. Fel rhywun sydd wedi gofyn yn barhaus am y ddarpariaeth o athrawon cyflenwi yn y sector cyhoeddus, rwyf i wedi credu ers tro byd fod athrawon cyflenwi yn cael eu trin yn wael. Roeddwn i'n falch iawn o weld y camau arfaethedig yng nghytundeb Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth ar ble a sut y bydd y dewis ar gyfer model...

1. Datganiad gan y Prif Weinidog: Diweddariad ar COVID-19 (22 Rha 2021)

Mike Hedges: Y ffordd arferol o gymharu gweithredu a diffyg gweithredu yw cael sampl rheoli. Mae Brasil a thaleithiau deheuol Unol Daleithiau America wedi rhoi sampl rheoli o'r fath i ni, ond gyda chyfraddau marwolaethau trychinebus yn y gwledydd hynny. Hoffwn godi dau bwynt: yn gyntaf, fod camau'n cael eu cymryd yn erbyn archfarchnadoedd a chwmnïau bysiau nad ydynt yn gorfodi gwisgo masgiau; ac yn ail,...

10. Dadl Fer: Datblygu economi dinas-ranbarth Bae Abertawe (15 Rha 2021)

Mike Hedges: Hoffwn gymharu Abertawe â dinas sy'n cyfateb iddi, Aarhus, sef y ddinas fwyaf ond un yn Nenmarc, a Mannheim, sef ei gefell ddinas yn yr Almaen. Mae'r data economaidd ar gyfer y ddwy ardal yn ddiddorol, ond, fel un o drigolion bae Abertawe, yn ddigalon. Yn rhanbarth metropolitanaidd Mannheim, mae ei werth ychwanegol gros yn 147 y cant o'r cyfartaledd Ewropeaidd, ond yn ninas Mannheim, mae'n...

10. Dadl Fer: Datblygu economi dinas-ranbarth Bae Abertawe (15 Rha 2021)

Mike Hedges: Diolch, Lywydd. Ceir cymuned fuddiant ledled dinas-ranbarth bae Abertawe. Abertawe oedd y ddinas fwyaf yng ngorllewin Ewrop i dderbyn cyllid amcan 1. Nid yw hynny'n destun balchder i mi o gwbl. Drwy'r rhanbarth, mae gennym Bort Talbot gyda dur, Llanelli gyda thunplat, sir Benfro gydag ynni, sir Gaerfyrddin gydag amaethyddiaeth ac Abertawe gyda gwasanaethau mawr y Llywodraeth fel y DVLA. Mae...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y Cynllun Buddsoddi i Arbed (15 Rha 2021)

Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb? Rwy'n llwyr gefnogi'r defnydd o gynlluniau buddsoddi i arbed—mae'n ffordd synhwyrol ymlaen, yn enwedig pan fydd yn lleihau costau sefydlog. A all y Gweinidog roi enghraifft o gynllun buddsoddi i arbed llwyddiannus sydd wedi'i ymestyn i feysydd eraill, a sut y maent yn disgwyl iddo gyflawni, a pha wersi a ddysgwyd o'u hymestyn felly?

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y Cynllun Buddsoddi i Arbed (15 Rha 2021)

Mike Hedges: 2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiolrwydd y cynllun buddsoddi i arbed? OQ57348

7. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Adeiladau (14 Rha 2021)

Mike Hedges: Mae hyn yn rhywbeth yr wyf i wedi gofyn amdano dros gyfnod o amser; mae'n fater o bryder difrifol. Fel y Gweinidog, sydd â'r datblygiad ar ochr arall yr afon, mae gen i ddatblygiad SA1, lle mae nifer o'r eiddo hyn. Un o'r problemau mwyaf, serch hynny, Gweinidog, yw bod rhai o'r rhain wedi eu hadeiladu gan sefydliadau nad ydyn nhw mewn busnes mwyach, fel Carillion, a adeiladodd rai ohonyn...

7. Dadl Plaid Cymru: Tlodi bwyd ( 8 Rha 2021)

Mike Hedges: Fe ddywedoch chi 'mewn byd delfrydol'. Mae rhai ohonom yn ei adnabod fel y 1950au, y 1960au a'r 1970au.

7. Dadl Plaid Cymru: Tlodi bwyd ( 8 Rha 2021)

Mike Hedges: Mae tlodi bwyd yn bodoli. Mae'n sicr yn bodoli yn nwyrain Abertawe. Yr hyn sydd wedi fy synnu yw banciau bwyd yn dechrau yn yr hyn roeddwn i bob amser yn meddwl amdanynt fel maestrefi cyfoethog gorllewin Abertawe. O'r wyth ward yn Nwyrain Abertawe, mae gan chwech ohonynt fanciau bwyd. Mae'r ddwy sydd heb rai yn agos iawn at fanciau bwyd yn yr ardaloedd cyfagos. Roedd y defnydd o fanciau bwyd...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Ti a Fi ( 8 Rha 2021)

Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ymateb? Os ydym am gyflawni'r bwriad o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, sicrhau bod mwy o blant yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yw'r ffordd orau a hawsaf o wneud hynny. A yw'r Gweinidog yn derbyn mai Ti a Fi yw'r cam cyntaf i ddysgu Cymraeg i lawer o blant, yn enwedig y rheini sy'n dod o gefndiroedd Saesneg eu hiaith? Pa gymorth pellach y...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Ansawdd Dŵr Mewndirol ( 8 Rha 2021)

Mike Hedges: Un o'r problemau mawr mewn perthynas ag ansawdd dŵr mewndirol yw gollyngiadau i afonydd, sydd wedyn yn mynd i mewn i lynnoedd. Pryder difrifol a godwyd gyda mi gan fy etholwyr yw gollyngiadau Dŵr Cymru i mewn i afon Tawe yng ngwaith trin dŵr gwastraff Trebannws yn etholaeth Castell-nedd, sy'n effeithio ar ddŵr yn fy etholaeth innau, gan fod y dŵr o Drebannws yn llifo i lawr ac i mewn i'r...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Ti a Fi ( 8 Rha 2021)

Mike Hedges: 7. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r Mudiad Meithrin i ddarparu gwasanaethau Ti a Fi? OQ57307

4. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Diwygio’r Dreth Gyngor yng Nghymru ( 7 Rha 2021)

Mike Hedges: Yn gyntaf, a gaf i groesawu'r datganiad? Mae'r prisiad eiddo bron i 20 mlynedd ar ôl ei oes. Mae bron yn sicr y bydd gwerthoedd wedi codi. Mae gwerthoedd hefyd wedi newid o'u cymharu ag eiddo eraill. Wrth gwrs, mantais treth ar werth eiddo yw ei bod yn anodd iawn ei hosgoi, o'i gymharu â threth incwm. Mae'r dreth gyngor wedi'i gosod ar fand D ac mae'r holl daliadau band eraill yn seiliedig...

10. Dadl Fer: Creu Cymru gerddorol ar gyfer yr 21ain ganrif: Mynediad, llesiant a chyfle ( 1 Rha 2021)

Mike Hedges: A gaf innau ddiolch hefyd i Rhianon am roi munud i mi yn y ddadl hon? Mae gan Gymru draddodiad cerddorol balch iawn. Yn fy etholaeth i, mae gennym gorau meibion, corau cymysg, corau merched, i gyd yn cynhyrchu canu o'r safon uchaf. Mae gennym fandiau hefyd, er nad cymaint â rhai o'r etholaethau cyfagos. Mae cerddoriaeth yn bwysig i lawer o bobl. Rwyf am bwysleisio pa mor bwysig yw hi fod...

8. Dadl Plaid Cymru: Dyled aelwydydd ( 1 Rha 2021)

Mike Hedges: Rwy'n derbyn hynny; yr hyn rwy'n ei ddweud yw, yn fy marn i—a dim ond fy marn i ydyw, ond rwy'n cael fy nhalu i ddod yma i'w rhoi—nid yw'n cael ei achosi gan wariant anghyfrifol. Mae'r rhan fwyaf o bobl dlawd rwy'n eu hadnabod mewn dyled, caiff ei achosi gan fil annisgwyl. Mae'n digwydd. Ac angladdau yw'r pethau gwaethaf. Rwyf am sôn am achos rwy'n ymwybodol ohono. Felly, os wyf yn...

8. Dadl Plaid Cymru: Dyled aelwydydd ( 1 Rha 2021)

Mike Hedges: A gaf fi ddechrau drwy ddweud fy mod yn cytuno â phopeth y mae Heledd Fychan newydd ei ddweud? Ac yn anffodus, rwy'n gobeithio na fyddaf yn ailadrodd unrhyw ran ohono yn ystod yr hyn a ddywedaf yma. Credaf ei bod yn bwysig iawn inni feddwl am bobl sydd mewn dyled. Maent mewn dyled oherwydd eu bod yn dlawd. A gaf fi ymateb i Mark Isherwood? Nid yw dyled yn cael ei hachosi gan wariant...

8. Dadl Plaid Cymru: Dyled aelwydydd ( 1 Rha 2021)

Mike Hedges: A wnewch chi dderbyn ymyriad?

8. Dadl Plaid Cymru: Dyled aelwydydd ( 1 Rha 2021)

Mike Hedges: Yr hyn y byddwn yn ei ddweud hefyd yw bod y ddyled hon weithiau'n ennill mwy a mwy o log, ac mae'n mynd yn fwy ac yn fwy. Pan nad yw pobl yn gallu fforddio ei dalu ar y dechrau, nid yw ei gwneud yn fwy ac yn fwy ond yn gwneud pethau'n waeth ac yn waeth. Diolch.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Anhwylderau Bwyta ( 1 Rha 2021)

Mike Hedges: Nid yw pobl ar y cyfryngau cymdeithasol yn edrych fel y bobl ar y cyfryngau cymdeithasol o ran eu ffotograff. Mae llawer wedi'u golygu â meddalwedd Photoshop ac mae llawer wedi defnyddio ffilteri i wneud i'w hunain edrych yn llawer gwell. A gaf fi ddweud bod anhwylderau bwyta, fel pob gwasanaeth iechyd meddwl arall, o dan bwysau cynyddol? Cafwyd adroddiadau fod gwasanaethau anhwylderau bwyta...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.