Neil McEvoy: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynllun brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd? OAQ53119
Neil McEvoy: Prif Weinidog, yng Ngorllewin Caerdydd, yr ardal yr ydych chi i fod i'w chynrychioli, mae cefn gwlad a meysydd glas yn cael eu dinistrio ar hyn o bryd i wneud lle ar gyfer tai drud na all y rhan fwyaf o bobl leol eu fforddio. Bydd y datblygiadau yn arwain at o leiaf 10,000 o geir ychwanegol ar y ffyrdd bob un dydd, ac mae'r ffyrdd hyn eisoes yn llawn lorïau sy'n taranu drwy ein cymunedau....
Neil McEvoy: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithredu cynlluniau datblygu lleol yng Nghanol De Cymru? OAQ53120
Neil McEvoy: Adam Price.
Neil McEvoy: Diolch. Mae heddiw'n ddiwrnod hanesyddol, felly hoffwn ddechrau drwy anrhydeddu'r Tywysog Llywelyn, tywysog brodorol olaf Cymru sofran, a gafodd ei ladd ar y diwrnod hwn ym 1282 yng Nghilmeri. Ysgrifennydd y Cabinet, ymwelais yn ddiweddar â thŷ yn Nhrelái a oedd yn dechrau edrych fel jyngl. Roedd yr ardd wedi tyfu mor wyllt fel mai prin y gallech chi weld bod tŷ yno. Yn yr ardd, roedd...
Neil McEvoy: Diolch, Llywydd. Rwy'n datgan buddiant gan fy mod i'n gynghorydd yng Nghaerdydd .
Neil McEvoy: 1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r system gynllunio i fynd i'r afael ag anheddau gwag yng Nghaerdydd? OAQ53075
Neil McEvoy: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer yr eiddo preswyl gwag hirdymor yng Nghymru?
Neil McEvoy: Mae'n anhygoel.
Neil McEvoy: Y dreth ystafell wely. Cymru yw'r unig genedl ddatganoledig lle mae'n rhaid i'r rhai mwyaf agored i niwed dalu'r dreth ystafell wely. Cafodd yr SNP yn yr Alban wared arno. Yng Ngogledd Iwerddon nid ydyn nhw'n talu'r dreth ystafell wely. Ac mae'n gywilyddus. Ac rwy'n dweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet: ble mae eich sosialaeth yr unfed ganrif ar hugain pan fyddwch yn caniatáu i bobl Cymru dalu...
Neil McEvoy: Yn hollol. Mae pwysau enfawr, fel y dywedais i, ar lywodraeth leol. Pobl wirioneddol yn colli swyddi gwirioneddol, a beth sydd gennym ni yn y fan yma?
Neil McEvoy: Beth sydd gennym ni mewn gwirionedd, Ysgrifennydd y Cabinet? Mae gennym ni haelioni Llafur. Mae gennym ni symiau enfawr o arian, rhai sylwadau craff, ond symiau enfawr o arian wedi'u colli i'r pwrs cyhoeddus. Bargen tir Llys-faen, £39 miliwn; Cylchdaith Cymru, £10 miliwn; dwy siop fach ym Mhontypridd, £1 miliwn wedi'i golli gan y Llywodraeth Lafur hon. Arian sydd wedi'i daflu at brosiectau...
Neil McEvoy: Nid wyf i'n credu bod y gyllideb hon yn diwallu anghenion Cymru. Dyma gyllideb arall lle mae'r Llywodraeth yn gwneud dim mwy na symud arian o gwmpas. Mae hon hefyd yn Llywodraeth sy'n fodlon—ac yn wir, Plaid Lafur Cymru sy'n fodlon—gadael y penderfyniadau mawr am Gymru i wleidyddion etholedig yn Lloegr yn Senedd San Steffan. Yr hyn sydd gennym ni yma yw Llywodraeth Lafur sy'n defnyddio...
Neil McEvoy: Arweinydd y Siambr, rwyf yn gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth i gefnogi Safia Saleh a'i theulu. Cipiwyd Safia yn anghyfreithlon pan oedd hi'n blentyn, ac mae hi'n ceisio dychwelyd i Gymru. Gwn y byddai ei mam, Jackie Saleh, yn ddiolchgar iawn am ddatganiad. Mae'r cyhoedd wedi bod yn hael iawn wrth gefnogi Crowdfunder i brynu tocynnau ar gyfer y teulu, ond yr un rhwystr yw...
Neil McEvoy: Diolch. Mae ysgol Hamadryad yn symud i safle newydd yn Nhrebiwt ym mis Ionawr. Mae cyfle i wneud rhywbeth arbennig a phositif yma gyda chymunedau lleol. Beth fydd y strategaeth, a beth ydych chi'n mynd i'w wneud i ymgysylltu â hyn? A fydd hi'n bosib trefnu cyfarfod â rhanddeiliaid yn y gymuned?
Neil McEvoy: 5. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Chyngor Caerdydd mewn perthynas â chynyddu nifer y lleoedd ysgol cyfrwng Cymraeg? OAQ52971
Neil McEvoy: Diolch, Dirprwy Lywydd. Ar 24 Hydref, fi oedd yr unig Aelod Cynulliad a bleidleisiodd i wrthwynebu ynni niwclear yng Nghymru. Yr oedd hynny'n hollol anhygoel o ystyried faint o wrthwynebiad sydd i ynni niwclear ymhlith y cyhoedd ac ymhlith gwleidyddion eraill yn ôl y sôn. Pe byddai ef yma, fe fyddwn i'n dweud wrth yr ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yr honnir iddo fod yn...
Neil McEvoy: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch unrhyw gymorth ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i gymuned Yemeni Cymru o ganlyniad i'r rhyfel yn Yemen?
Neil McEvoy: Diolch, Lywydd. Yn gyntaf oll, nid yw hwn yn fater Mwslimaidd nac Iddewig. Nid oes ganddo ddim i'w wneud ag arferion crefyddol, felly nid wyf yn gweld perthnasedd crybwyll hynny yn gynharach. Mater sy'n ymwneud â lles anifeiliaid yw hwn. Rwyf wedi cyflwyno gwelliant syml: sef gwahardd gwerthu cŵn bach gan drydydd parti er mwyn rhoi diwedd ar ffermio cŵn bach yn anfoesegol. Gall bridio cŵn...
Neil McEvoy: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid ydym yn gadael milwyr ar ôl ar faes y gad ac ni ddylem eu gadael ar ôl pan fyddant yn dychwelyd adref. Mae fy ngwelliant heno yn un syml i sicrhau Deddf peidio â gadael yr un milwr ar ôl a fyddai'n gwarantu tai a gofal iechyd o ansawdd i gyn-filwyr sydd wedi gweld gwasanaeth gweithredol. Mae llawer o filwyr yn gwasanaethu ac yn mynd drwy drawma. Caiff rhai eu...