Suzy Davies: Y ddadl nesaf yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Strategaeth Ryngwladol Ddrafft Llywodraeth Cymru. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—David Rees.
Suzy Davies: Roeddwn eisiau gofyn i chi, Weinidog, pan fyddwn yn sôn am dai fforddiadwy yn benodol, a fydd eich cynlluniau ar gyfer dulliau adeiladu anhraddodiadol, os caf ddweud, yn effeithio ar dai cyngor a thai cymdeithasol a ddarperir gan landlordiaid cymdeithasol? Yn amlwg, bydd eu cyfleuster benthyca yn dibynnu ar brisio corff yr asedau ac yn amlwg, cawsom broblemau gydag eiddo a godwyd rhwng y...
Suzy Davies: Rydych yn achub y blaen ar fy mhwynt, Mr George. Roeddwn yn ceisio cyrraedd y pwynt fod hwn yn gwestiwn anodd. Nid yw'n ymwneud yn syml â cheir yn hytrach na threnau yn hytrach na beth bynnag. Mae gennym ffyrdd sydd mewn cyflwr peryglus, nad oes ganddynt ddigon o gapasiti ar hyn o bryd i ymdopi â'r tagfeydd rydym wedi'u creu am nifer o resymau, ac nid ydynt wedi'u cynllunio i flaenoriaethu...
Suzy Davies: O'r gorau.
Suzy Davies: Diolch i Jenny am roi'r ymyriad hwnnw i mi hefyd. Mae'n rhaid i mi ddechrau, fodd bynnag, drwy ddweud pa mor siomedig rwyf fi wrth weld cynnig arall eto gan y gwrthbleidiau'n cael ei ddileu'n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru a'i ddisodli gan ei chynnig ei hun. Bob wythnos, mae gan y Llywodraeth ddiwrnod cyfan i gyflwyno dadleuon o'i dewis ei hun, ond gan fod hyn yn dod yn batrwm sefydlog gan...
Suzy Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Diolch yn fawr iawn, Jenny. O ran gwella'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru, beth yw eich barn am yr ardaloedd y tu allan i ganolfannau trefol de Cymru a gogledd Cymru? Nid oes gan y rhan fwyaf o Gymru system reilffyrdd sy'n werth siarad amdani.
Suzy Davies: Weinidog, mae bargen ddinesig bae Abertawe, wrth gwrs, wedi'i seilio ar fasnacheiddio arloesedd, a datgarboneiddio ffynonellau ynni i'r gorllewin o fy rhanbarth yn anad dim, ond rwy'n falch o'r cynnydd yn fy rhanbarth. Rwyf wedi codi’r posibilrwydd o greu canolfan arloesi dur genedlaethol gyda chi o'r blaen, felly rwy'n falch o glywed bod prosiectau Castell-nedd Port Talbot ar gyfer hynny a...
Suzy Davies: A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd strategaeth twristiaeth Llywodraeth Cymru yn hybu economi Gorllewin De Cymru?
Suzy Davies: Diolch am yr ateb yna. Rwyf i wedi codi mater gwarchodfa natur Cynffig a'i thwyni gyda chi o'r blaen, ac mae honno wedi cael ei tharo gan y tywydd a llifogydd, nid yn ystod y pythefnos diwethaf yn unig, ond ers y Nadolig. Ac rydych chi'n iawn, mae pob llygad ar gartrefi a busnesau ar hyn o bryd, ac yn sicr nid wyf i eisiau bychanu hynny, ond rwy'n synnu braidd o glywed bod Cyfoeth Naturiol...
Suzy Davies: 2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i effeithiau'r llifogydd diweddar ar ardaloedd gwarchodedig o'r amgylchedd naturiol yng Ngorllewin De Cymru? OAQ55121
Suzy Davies: Wel, rwy'n cytuno'n llwyr â chi, Mike, a chydag apiau yn arbennig—os nad oes gennyf bâr o'r rhain gyda mi, waeth i mi beidio â bod ag ap o gwbl. Mae'n rhaid i mi ddweud, mae bron i chwe blynedd mewn gwirionedd ers i mi gyflwyno dadl fer ar fater tebyg iawn, ac ar ddiwedd hyn, hoffwn glywed gan y Dirprwy Weinidog beth sydd wedi newid yn ei barn hi, yn enwedig ar gwestiwn cyntaf Rhun ap...
Suzy Davies: Yn ôl ym mis Medi, dywedwyd wrthyf, ar ymweliad, fod llawer o'r swyddi yn Ysbyty Tywysoges Cymru yn rhai dros dro ac yn destun cytundebau lefel gwasanaeth sy'n dod i ben yn ddiweddarach eleni. Nid oes gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg reolaeth lawn eto dros rai agweddau ar y ddarpariaeth iechyd yn Ysbyty Tywysoges Cymru, ac yn ychwanegol at hynny, mae'r sgandal famolaeth a...
Suzy Davies: Diolch am eich ymateb, a chlywais eich ymatebion cynharach i Jack Sargeant ar y cwestiwn hwnnw. Mae'r ymgyrch Dewis Doeth, wrth gwrs, yn amlwg iawn ar hyn o bryd, ond yn realistig, weithiau mae'n rhaid i bobl ddewis rhwng Galw Iechyd Cymru a'r adran damweiniau ac achosion brys—mae'n brofiad rwyf wedi'i gael fy hun. Nodaf yr adolygiad o unedau mân anafiadau y sonioch chi amdano, ond pa...
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Lywydd. Mae rhai o'r ysgolion yn fy rhanbarth, yn gwbl briodol, yn defnyddio rhan o'u grant datblygu disgyblion i helpu i gefnogi gwasanaethau cwnsela ysgolion ar y safle i ddisgyblion. Pa adborth a gawsoch gan ysgolion nad ydynt yn cael lefelau uchel o grant datblygu disgyblion, ac sydd wedi cael toriadau i'w cyllid craidd, ynghylch yr anawsterau y gallant eu hwynebu wrth...
Suzy Davies: 8. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i osgoi presenoldeb diangen y gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru? OAQ55088
Suzy Davies: Diolch i chi, Weinidog. Gobeithio y byddwch chi'n teimlo'n well cyn bo hir. Rwy'n croesawu hyn, achos rŷn ni i gyd, rwy'n credu, yn gweld pa mor allweddol yw hyn i unrhyw lwyddiant i'r cynllun 2050, ond rwy'n croesawu hefyd y gydnabyddiaeth taw mater personol iawn yw dewis iaith, yn arbennig o fewn y teulu. Roeddwn i yn yr un sefyllfa â chi, Weinidog, ond fi oedd yr un di-Gymraeg. Gwnaethon...
Suzy Davies: Mae dinas-ranbarth Bae Abertawe yn ymwneud â chodi hyder economaidd yn fy rhanbarth i a thu hwnt, ond law yn llaw â hynny, mae'r awdurdod lleol yn Abertawe yn ceisio adfywio canol y ddinas, gan gynnwys adeiladu arena ddigidol newydd yn Abertawe. Felly, gyda'r Ganolfan Gynadledda Ryngwladol, mae hyn yn cynyddu'r capasiti yn sylweddol ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau mawr ar draws de...
Suzy Davies: Wel, diolch am yr ymateb, ond mae'r cwestiwn yn dal i fod yna: faint o amser yw'r tymor canolig a'r tymor hir? Dwi jest eisiau dod i ben gyda hyn: neithiwr, roeddem yn siarad am y partneriaethau sgiliau rhanbarthol, a'r ffaith bod sgiliau iaith Gymraeg wedi bod yn thema sy'n dod lan drwyddyn nhw, sydd wedi dod i sylw. Os dwi'n deall yn iawn, byddwn yn disgwyl hynny—wel, byddwn i'n disgwyl...
Suzy Davies: Diolch am yr ymateb yna. Yn bersonol, rwy'n croesawu'r syniad o lysgenhadon, yn arbennig gan mai syniad y Ceidwadwyr Cymraeg oedd hwnnw, i'w cael nhw yn y gweithle. Felly, os yw e'n gweithio ym maes addysg bellach, mae'n mynd i fod yn beth da. Dwi'n derbyn beth ddywedoch chi ynglŷn â sut i fwrw ymlaen gyda hynny, ond un o elfennau craidd y cynllun yw sicrhau digon o staff dwyieithog i...
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Llywydd. Weinidog, neithiwr, roedd y ddwy ohonom ni mewn digwyddiad ColegauCymru i ddysgu mwy am ganlyniadau Cymraeg Gwaith. Unwaith eto, roedd sgiliau cudd wedi cael eu cydnabod, nid yn unig o fewn y gweithlu, ond yn y corff myfyrwyr hefyd. Mae'r mwyafrif mawr o ddarlithwyr, myfyrwyr a phrentisiaid yn nodi, yn eu barn nhw eu hunain, nad oes ganddyn nhw unrhyw sgiliau Cymraeg...