Ken Skates: Allwch chi fy nghlywed i nawr, Llywydd?
Ken Skates: Diolch. Ymddiheuriadau. Croesawaf yn fawr y datganiad a wnaethpwyd gan Jenny Rathbone, yn enwedig ei sylwadau am fioamrywiaeth ac ansawdd aer. Ar dudalennau 79 ac 80 o'r adroddiad, gwneir rhai datganiadau cryf iawn ynghylch manteision gweithredu'r argymhellion o ran ansawdd aer a bioamrywiaeth, yn enwedig ar dudalen 80, a dyfynnaf: Byddai ein hargymhellion yn helpu i liniaru'r problemau hyn...
Ken Skates: [Anghlywadwy.]
Ken Skates: Llywydd, a gaf i ddiolch i David Rowlands am ei sylwadau a'i gwestiynau? Rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd David am yr adroddiad a'r argymhellion amrywiol sydd ynddo ef yn fawr iawn, a'r angen i Lywodraeth y DU fod â rhan weithredol ac, yn wir, yr angen i wahanol grwpiau, gan gynnwys grŵp gweithredu Magwyr, fod â rhan wrth gynllunio datrysiadau yn y gymuned o ran trafnidiaeth. Fe ddywedais...
Ken Skates: Wel, a gaf i ddiolch i Jayne Bryant am ei chwestiynau hi ac am ei sylwadau ynglŷn â'r adroddiad a'r problemau hanesyddol sy'n gysylltiedig â'i hetholaeth a'r heriau y mae ei hetholwyr yn eu hwynebu bob dydd? Mae Jayne Bryant wedi bod yn dadlau yn gryf dros fuddsoddi mwy yng nghymuned Casnewydd a'r cylch, ac rwy'n croesawu ei chyfraniad hi heddiw'n fawr iawn. Mae'n rhaid imi ddweud bod...
Ken Skates: A gaf i ddiolch i Delyth Jewell am ei chwestiynau hi? Rwy'n hynod o falch yn wir fod croeso wedi bod i adroddiad Arglwydd Burns gan y llefarydd a chan Blaid Cymru. Yn amlwg, pan edrychwn ni yn ôl ar y dadleuon a gynhaliwyd droeon yn y Siambr ynghylch y cynigion ar gyfer ffordd liniaru, fe gefnogodd rhai pleidiau'r llwybr glas, fe gefnogodd pleidiau eraill y llwybr du. Rwyf i'n gobeithio...
Ken Skates: A gaf i ddiolch yn fawr iawn i Russell George nid yn unig am ei gyfraniad heddiw, ond am ei gyfraniadau adeiladol yn ystod y broses dan arweiniad Arglwydd Burns? Ac yn wir, fe hoffwn i ddiolch i bob Aelod o'r Senedd am fod mor adeiladol, parod a brwdfrydig o ran y drafodaeth ag Arglwydd Burns a'r comisiwn, ac rwy'n gobeithio bod yr Aelodau wedi teimlo eu bod nhw'n hyddysg yn y mater o...
Ken Skates: Diolch, Llywydd. Fe gyhoeddwyd adroddiad terfynol Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru ar 26 Tachwedd, gan gwblhau ei adolygiad manwl ac annibynnol o'r ffyrdd cynaliadwy o fynd i'r afael â thagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd. Fe hoffwn i roi ar gofnod fy niolch i Arglwydd Burns a'i dîm o gomisiynwyr am baratoi darn o waith rhagorol ar sail tystiolaeth. I'r bobl leol y bu'n rhaid iddyn...
Ken Skates: A gaf i ddiolch i Mick Antoniw am y pwyntiau y mae wedi'u codi a'r cwestiynau y mae wedi'u gofyn? Mae'n hollol iawn i ddweud bod angen inni osgoi unrhyw ras i'r gwaelod. Wrth wneud hynny, rhaid inni sicrhau bod y safonau hynny y soniais amdanyn nhw'n gynharach o'r ansawdd uchaf, a sicrhau y gallwn ni gystadlu â'r newydd-ddyfodiaid hynny i'r farchnad ar sail safonau a diogelwch. Rhaid dweud...
Ken Skates: A gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am y cwestiynau y mae wedi'u codi, a hefyd am ei chyfraniad ehangach o ran tynnu sylw at yr effaith anghymesur y mae'r coronafeirws wedi'i chael ar rai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, gan gynnwys, o ran y diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat, pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig? Rydym yn cydnabod bod y pandemig wedi effeithio'n...
Ken Skates: A gaf i ddiolch hefyd i David Rowlands am ei sylwadau a'i argymhellion yn ei gyfraniad adeiladol heddiw? O dan y ddeddfwriaeth bresennol, fel yr amlinellais eisoes, mae gennym ni 22 o awdurdodau lleol sy'n gweithredu gwahanol bolisïau trwyddedu ledled Cymru, ac mae hynny'n cynnwys, fel yr amlinellais, uchafswm oedran y cerbyd trwyddedig, hyd y drwydded, gwiriadau yswiriant y drwydded, a...
Ken Skates: A gaf i ddiolch i Alun Davies am ei gyfraniad? Unwaith eto, yn anhygoel o adeiladol—ni allwn anghytuno â dim o'r hyn y mae Alun Davies wedi'i amlinellu. Gwnaeth dri phwynt cryf iawn. Un, mae angen cymorth tymor byr i gael y sector drwy'r pandemig. Yn ail, mae angen cymorth pontio i sicrhau ein bod yn diogelu'r diwydiant yn y dyfodol, i'w wneud yn gystadleuol, er mwyn sicrhau y gall bontio...
Ken Skates: Byddwn yn cytuno'n llwyr â Helen Mary Jones fod llawer o bobl yn dibynnu'n eithriadol o drwm ar dacsis a cherbydau hurio preifat, yn enwedig pobl nad oes mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus ar gael iddyn nhw mewn ardaloedd gwledig, er enghraifft, a hefyd, yn hollbwysig, pobl sy'n wynebu rhwystrau anablu mewn cymdeithas. Ac eto hefyd, ochr yn ochr â hyn, gwyddom, mewn rhai ardaloedd...
Ken Skates: A gaf i ddiolch i Helen Mary Jones am ei chyfraniad, a oedd, fel arfer, yn adeiladol? Rwy'n falch iawn o ateb y cwestiynau a gododd. Byddaf yn dechrau gyda'r cwestiwn olaf hwnnw am y cymorth a allai fod ar gael ar gyfer tacsis gwyrdd yn y dyfodol. Wrth gwrs, cynllun treialu yw hwn, yn bennaf oll, a fydd yn galluogi gyrwyr tacsis, gweithredwyr, i brofi cerbydau gwyrdd cyn iddyn nhw eu prynu....
Ken Skates: A gaf i ddiolch i Russell George am ei sylwadau, ei gwestiynau a dweud fy mod yn credu bod ei gyfraniad yn cyfeirio at y ffaith bod cytundeb cyffredinol ar draws y Siambr bod angen diwygio, bod angen moderneiddio a bod angen deddfwriaeth? Mae'r fframwaith presennol yn fwy na 150 mlwydd oed; fe'i diweddarwyd 44 mlynedd yn ôl. Mae'n hen bryd cyflwyno deddfwriaeth newydd sy'n cydnabod yr oes yr...
Ken Skates: Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm ag undebau llafur a roddodd yr wybodaeth ddiweddaraf i mi am yr heriau presennol a wynebir gan y diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat yn sgil y pandemig. Rydym wedi ceisio darparu cymorth drwy gydol y cyfnod hwn lle bo hynny'n bosibl. Yn ogystal â chynlluniau cymorth ariannol Llywodraeth y DU, rwyf wedi darparu cyllid drwy gam 3 ein cronfa cadernid...
Ken Skates: Dirprwy Lywydd, hoffwn yn gyntaf gydnabod y rhan hollbwysig y mae'r diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat yn ei chwarae yn ystod pandemig COVID. Mae llawer wedi parhau i weithio drwyddi draw ac wedi darparu cludiant i weithwyr allweddol, yn ogystal â darparu gwasanaethau sy'n amlwg wedi galluogi darparu nwyddau, bwyd a chyflenwadau meddygol hanfodol. Rydym yn cydnabod bod hwn yn gyfnod...
Ken Skates: A gaf i ddiolch i John Griffiths am ei gwestiynau a chydnabod hefyd y diddordeb anhygoel y mae wedi'i ddangos mewn cyfleusterau cynhyrchu dur yn ardal Casnewydd a'r rhanbarth ehangach dros flynyddoedd lawer? Mae'n gefnogwr mawr i'r sector. Ar hyn o bryd mae Llanwern yn cyflogi tua 960 o bobl fedrus iawn, gan ddarparu dur ar gyfer y sector modurol ac, felly, yn dibynnu'n glir ar Bort Talbot....
Ken Skates: Wel, ynglŷn â'r sylw olaf yna—ac a gaf i ddiolch i Mark Reckless am ei gwestiynau—ynglŷn â'r sylw olaf yna, ni fyddai'r uno wedi mynd i'r afael â'r her y mae gweithrediadau dur y DU yn ei hwynebu ar hyn o bryd. Yr un fyddai'r heriau, a dim ond drwy gydweithio â Llywodraeth y DU y gellir ateb yr heriau hynny. O ran y tensiwn sy'n bodoli, rwy'n cydnabod yn llwyr fod y tensiwn hwnnw yn...
Ken Skates: A gaf i ddiolch i Jack Sargeant am ei gwestiynau, ac a gaf i ddiolch, ar goedd, i Jack Sargeant am y gwaith enfawr y mae wedi'i wneud i gefnogi cyfleuster Shotton Tata wrth ddatblygu'r cynlluniau ar gyfer canolfan logisteg? Mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio gyda Tata Shotton i ddatblygu'r prif gynllun hwnnw, ond rwy'n gwybod faint o waith y mae Jack wedi'i gyfrannu at yr agenda benodol...