Canlyniadau 241–260 o 3000 ar gyfer speaker:Julie James

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Adeiladau (19 Hyd 2022)

Julie James: Yn sicr. Ar 7 Hydref, cyhoeddais fod 11 o ddatblygwyr wedi ymrwymo i gytundeb datblygwyr Llywodraeth Cymru. Mae gwaith bellach ar y gweill i greu'r ddogfennaeth gyfreithiol ffurfiol a fydd yn sail i'r cytundeb, ac rwy'n rhagweld y bydd drafft o'r ddogfennaeth yn cael ei rannu gyda datblygwyr erbyn diwedd y mis hwn.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Hawliau Datblygu a Ganiateir (19 Hyd 2022)

Julie James: Wel, i ddechrau, nid cyfleustod mohono. Dylai gael ei drin fel un, ond nid yw'n cael ei drin fel un, ac mewn gwirionedd mae hynny'n arwain at gyfres gyfan o ganlyniadau. Felly un o'r pethau cyntaf yr hoffwn ei awgrymu yw eich bod yn gofyn i Lywodraeth y DU ei wneud yn gyfleustod, gan y byddai hynny'n datrys cryn dipyn o ran pam fod lleoliadau ar ei hôl hi'n—[Torri ar draws.]  

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Hawliau Datblygu a Ganiateir (19 Hyd 2022)

Julie James: Ie, ond rwy'n dweud wrthych eich bod chi wedi dweud mai cyfleustod ydyw ac nid yw hynny'n wir.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Hawliau Datblygu a Ganiateir (19 Hyd 2022)

Julie James: Mae'n gwneud gwahaniaeth eithaf mawr i sut mae'r system gynllunio yn gweithio, Darren. Rwy'n dweud wrthych chi, mae'n gwneud gwahaniaeth, ac nid yw'n gyfleustod. Nid wyf yn gwybod beth yw manylion cytundeb Llywodraeth y DU gydag Openreach i wneud y gwaith, ond pam ar wyneb y ddaear nad yw'n golygu bod rhaid iddynt ddefnyddio'r seilwaith presennol? Roedd ein cytundeb ni'n cynnwys hynny. Dylai...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Hawliau Datblygu a Ganiateir (19 Hyd 2022)

Julie James: Mae hawliau datblygu a ganiateir yn cael eu hadolygu'n gyson drwy ymgynghori ag awdurdodau cynllunio lleol, busnesau a sefydliadau eraill sydd â diddordeb mewn datblygu a'r system gynllunio. Mae'r newidiadau diweddaraf yn helpu i sicrhau hyblygrwydd i awdurdodau lleol reoli ail gartrefi a llety gosod tymor byr.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (19 Hyd 2022)

Julie James: Mae gennyf gryn ddiddordeb mewn treialu hawl i gartref digonol yn ystod tymor y Senedd hon, yn sicr. Ond un o'r pethau y mae'n rhaid inni eu sicrhau yw ein bod yn gosod y dominos mewn rhes yn gyntaf. Bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed yn siarad—mae fy synnwyr o amser yn ofnadwy—yn ddiweddar iawn yn y Siambr am y ddeddfwriaeth ddigartrefedd yr ydym ar fin ei chyflwyno. Rydym yn ystyried...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (19 Hyd 2022)

Julie James: Yn hollol, Mabon, mae gennym arferion yn datblygu yn y sector rhentu sy’n amlwg yn gosod rhwystrau i bobl sydd am rentu. Yn amlwg, yr hyn yr hoffem ei wneud yw adeiladu llawer o gartrefi cymdeithasol yn gyflym. Rwyf newydd gael sgwrs gyda’r meinciau gyferbyn am y ffactorau macro-economaidd sy’n ein hatal rhag adeiladu mor gyflym ag yr hoffem, ond hoffwn ddweud ein bod wedi rhoi’r...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (19 Hyd 2022)

Julie James: Unwaith eto, Janet, sut y credwch chi y caiff y bobl hynny eu talu?

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (19 Hyd 2022)

Julie James: Rwy'n ateb y cwestiwn. Y grant cynnal ardrethi sy'n talu am y bobl hynny. Ynte? Mae hwnnw wedi’i dorri gan Lywodraethau Ceidwadol olynol dros y 10 mlynedd diwethaf. Cynllunwyr yw'r staff ystafell gefn hynny y mae Llywodraethau Ceidwadol mor hoff o'u gwawdio am fod yn wastraffus. Dyma ganlyniad uniongyrchol eich polisïau cyni, gyda mwy i ddod yn ôl pob tebyg. Os credwch fod yna goeden...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (19 Hyd 2022)

Julie James: Unwaith eto, Janet, mae hyn fel ceisio trafod y 1930au heb gyfeirio at y dirwasgiad. Mae’r syniad y gallwch chi ddweud wrthyf fod fy nharged ar gyfer ffosffadau yn atal adeiladu tai, pan fyddwch yn honni drwy'r amser eich bod yn credu mewn argyfwng hinsawdd a natur, yn syfrdanol a dweud y gwir. Mae ein hafonydd mewn sefyllfa enbyd. Mae angen inni wneud rhywbeth am yr holl bobl sy’n...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (19 Hyd 2022)

Julie James: Unwaith eto, Janet, mae gofyn y cwestiynau hyn i mi yn absenoldeb llwyr unrhyw ddealltwriaeth o’r trefniadau ariannol cyffredinol yn y DU ar hyn o bryd yn rhyfeddol. Rydym yn wynebu argyfwng costau byw ar draws y DU, yn gyfan gwbl o ganlyniad i benderfyniadau hurt y Llywodraeth Geidwadol. Mae gennym benderfyniad anodd iawn i’w wneud ar osod y capiau rhent yng Nghymru ar gyfer tai...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Parciau Cenedlaethol (19 Hyd 2022)

Julie James: Wel, rwy'n cytuno'n llwyr â chi, Mike. Hoffwn bwysleisio nad oes gennym unrhyw fwriad i ddilyn Llywodraeth y DU o ran ystyried caniatáu mwy o ddatblygu ger ein parciau cenedlaethol yn ein hardaloedd o harddwch naturiol eithriadol neu ein safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig. Mae 'Cymru’r Dyfodol' a 'Polisi Cynllunio Cymru' yn darparu fframwaith cynhwysfawr o amddiffyniadau i'n...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Parciau Cenedlaethol (19 Hyd 2022)

Julie James: Iawn, felly, yn sicr, mae angen i barciau cenedlaethol ymateb i bobl leol a’u pryderon, ac wrth gwrs, mae’n rhaid iddynt fod yn gynrychioliadol o’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, ond mae parciau cenedlaethol hefyd yn gwasanaethu holl bobl Cymru—hwy, yn amlwg, yw ein parciau 'cenedlaethol', ac mae'n bwysig iawn fod awdurdodau'r parciau cenedlaethol yn ymateb i anghenion lleol a...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Parciau Cenedlaethol (19 Hyd 2022)

Julie James: Mae atebolrwydd lleol yn hanfodol i lywodraethiant ein parciau cenedlaethol. Mae dwy ran o dair o’r aelodau’n cael eu dewis gan awdurdodau lleol, gan warantu atebolrwydd i bobl a chymunedau lleol. Rydym yn gwella atebolrwydd a llywodraethiant, gan gynnwys pecyn cymorth ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a swydd strategol newydd ar gyfer Cymru gyfan sy’n canolbwyntio ar...

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Newid Hinsawdd (19 Hyd 2022)

Julie James: Mae 655 o aelwydydd yn Arfon wedi elwa ar y gwelliannau effeithiolrwydd ynni a ddarperir o dan gynllun Arbed 2, gan arbed iddynt ar gyfartaledd fwy na £300 ar eu biliau ynni blynyddol. Mae fy swyddogion wedi gweithio gyda Fortem Energy Services i sicrhau bod pob aelwyd yn gwybod am y broses unioni cam pan geir problemau.

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Newid Hinsawdd (19 Hyd 2022)

Julie James: The Welsh Government works with the private sector by providing increased funding, reducing barriers and maintaining a regular dialogue with developers, SMEs and industry representatives with the aim of encouraging more house building in North Wales, and across Wales.

7. Gorchymyn y Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 3) 2022 (18 Hyd 2022)

Julie James: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Rwy'n falch o allu cyflwyno'r Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 3) 2022, sy'n gwneud mân ddiwygiadau i Orchymyn y Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020. Effaith y gwelliannau hyn yw cynnwys hediadau o Brydain Fawr i'r Swistir yng nghwmpas cynllun masnachu allyriadau'r DU o fis Ionawr 2023. Mae hyn yn helpu i...

6. Rheoliadau Digartrefedd (Angen Blaenoriaethol a Bwriadoldeb) (Cymru) 2022 (18 Hyd 2022)

Julie James: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn am y cyfraniad hwnnw, Mabon. Nid datganiad yw hwn, dim ond i ddweud—rydyn ni'n cyflwyno'r rheoliadau heddiw—felly, yn amlwg, nid yw'n cynnwys nifer fawr o'r eitemau eraill o'i gwmpas yr ydych chi wedi gofyn cwestiynau arnyn nhw. Serch hynny, byddaf ond yn eu cwmpasu. Felly, os na fyddwn ni'n gwneud hyn heddiw, yna, cyn trawsnewid cyfraith...

6. Rheoliadau Digartrefedd (Angen Blaenoriaethol a Bwriadoldeb) (Cymru) 2022 (18 Hyd 2022)

Julie James: Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd aelodau'n ymwybodol o'r gwaith aruthrol a wnaed ers dechrau'r pandemig, sy'n parhau heddiw, i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael allan yn ein hagwedd at ddigartrefedd. Drwy ganllawiau statudol, fe wnaethom ni, ynghyd ag awdurdodau lleol, sicrhau bod y rhai a oedd yn profi digartrefedd yn cael cymorth a llety, gan sicrhau ymateb cyfannol i'r argyfwng iechyd...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.