Canlyniadau 241–260 o 2000 ar gyfer speaker:Lee Waters

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Seilwaith Trafnidiaeth ( 2 Maw 2022)

Lee Waters: Diolch. Fel y dywedwch, mae’r adolygiad ffyrdd yn ystyried y llwybr coch, ynghyd â 54 o gynlluniau eraill, ac mae’n gwneud hynny mewn dull trefnus, a bydd yn adrodd yn yr haf. Felly, ni ddylem geisio dyfalu beth fydd canlyniad y broses honno, gan fy mod yn cymryd y bydd rhai cynlluniau ffyrdd yn mynd rhagddynt, ond rwyf hefyd yn cymryd na fydd nifer fawr ohonynt yn gwneud hynny. Felly,...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Seilwaith Trafnidiaeth ( 2 Maw 2022)

Lee Waters: Diolch. Bydd ein rhaglen gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer metro gogledd Cymru yn trawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol ar draws yr ardal. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi comisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru a fydd yn datblygu llif o gynlluniau trafnidiaeth ar gyfer gogledd Cymru, gan gynnwys Alun a Glannau Dyfrdwy.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Llifogydd ar yr A4042 ( 2 Maw 2022)

Lee Waters: Wel, ydy, fel y mae’r Aelod yn nodi, mae’r bont yn Llanelen yn safle y cydnabyddir ei bod yn agored i lifogydd, ac mae'n cau weithiau pan fo stormydd neu law trwm. Mae’r sefyllfa yno wedi gwella ar ôl gwaith draenio, ac mae’r ffordd bellach wedi ailagor yn gynt nag yn y gorffennol o ganlyniad i'r gwaith hwnnw. Mae proses yr arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru, fel y gwyddoch, i...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Llifogydd ar yr A4042 ( 2 Maw 2022)

Lee Waters: Diolch. Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gwella'r systemau draenio presennol yn Llanelen i helpu i gyflymu adferiad a'r amserlen ar gyfer ailagor yr A4042 pan fydd llifogydd yn digwydd. Eleni, byddwn hefyd yn cyflawni cam 1 arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru i nodi opsiynau mwy hirdymor i helpu i fynd i'r afael â'r problemau llifogydd.

9. Dadl Fer: Adfywio canol trefi a dinasoedd yng Nghymru: Ni fydd mwy o'r un peth yn gweithio (16 Chw 2022)

Lee Waters: Diolch am gyflwyno'r cynnig ac am yr amrywiaeth o gyfraniadau. Er bod consensws clir ynghylch y broblem, credaf fod y cyfraniadau'n dangos nad oes consensws clir go iawn ynghylch yr ateb, oherwydd mae hyn yn gymhleth. Mae ystod eang o rymoedd yn dod at ei gilydd. Mae'n ymwneud yn sylfaenol â marchnad sy'n newid, ac roedd James Evans yn ei gyfraniad yn cefnogi rôl y farchnad yn cyflymu...

3. Cwestiynau Amserol: Y Prosiect i Gael Gwared ar Gylchfannau'r A55 (16 Chw 2022)

Lee Waters: Wel, hoffwn ddiolch i Llyr Gruffydd am ei sylwadau cefnogol a'i gymeradwyaeth i'r dull gweithredu cyffredinol yr ydym yn ei fabwysiadu. Ac mae'r ffaith y bydd yna rôl i herio a chraffu ar hyn i gyd yn iawn, ac mae'n bwysig fod comisiwn Burns yn gweithredu yn y modd hwnnw, fel y gwnaeth yn y de, fel y mae'r adolygiad ffyrdd yn ei wneud yn wir. Mae'r adolygiad ffyrdd yn sicrhau bod yr holl...

3. Cwestiynau Amserol: Y Prosiect i Gael Gwared ar Gylchfannau'r A55 (16 Chw 2022)

Lee Waters: Wel, Lywydd, nid oes pedwar mis wedi bod ers i mi ymuno â Janet Finch-Saunders ar risiau'r Senedd i anfon neges gref at arweinwyr y byd yng Nghynhadledd y Partïon ar yr angen i roi camau dramatig ar waith i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae Janet Finch-Saunders wedi pregethu yn y Siambr droeon nad yw Llywodraeth Cymru yn mynd yn ddigon pell, nad yw'n symud yn ddigon cyflym i ymdrin â'r...

3. Cwestiynau Amserol: Y Prosiect i Gael Gwared ar Gylchfannau'r A55 (16 Chw 2022)

Lee Waters: Gwnaf. Argymhellodd y panel adolygu ffyrdd, yn hytrach na bwrw ymlaen â'r prosiect ar ei ffurf bresennol, fod achos cryf dros ystyried adolygiad o goridor gogledd Cymru yn ei gyfanrwydd, fel yr argymhellwyd yn adroddiad terfynol adolygiad cysylltedd yr undeb Llywodraeth y DU. Derbyniais yr argymhellion hynny, a'r wythnos diwethaf sefydlais gomisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru, dan...

7. Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022 (15 Chw 2022)

Lee Waters: Diolch i Huw Irranca-Davies am ei sylwadau ac am yr adborth gan ei bwyllgor, ac rwy'n falch ein bod wedi cytuno ar ffordd ymlaen, a gobeithio y gall yr Aelodau gefnogi'r rheoliadau.

7. Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022 (15 Chw 2022)

Lee Waters: Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig. Fel y mae'r Gweinidog dros gyllid newydd ei ddweud yn ei dadl, un o swyddogaethau craidd y cyd-bwyllgorau corfforedig newydd yw cyflawni dyletswydd i baratoi cynllun trafnidiaeth rhanbarthol, ac fel yr ydym newydd glywed, bydd y ddyletswydd hon yn trosglwyddo'n ddiweddarach yn 2022. A'r hyn yr wyf yn ceisio'i wneud heddiw yw addasu deddfwriaeth sy'n...

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig (26 Ion 2022)

Lee Waters: Gofynnodd James Evans, yn ei ymyriad ar Hefin David, ac yn ei gyfraniad gwreiddiol: pam na wnaeth y Llywodraeth Lafur ar ddiwedd y 1990au gael gwared ar y system dameidiog? Credaf fod yr hyn a wnaethant yn ymgais wirioneddol i ddefnyddio dull partneriaeth gyda gweithredwyr i ddatblygu ffordd wahanol o'i wneud. Ond rwy'n credu y gallwn ddweud nad yw dull partneriaeth wedi gweithio. Gallwn weld...

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig (26 Ion 2022)

Lee Waters: Diolch yn fawr iawn i'r Aelodau sydd wedi siarad a diolch iddynt am gyflwyno'r ddadl hon. Unwaith eto, credaf ein bod wedi dangos yn y Siambr hon fod yna gefnogaeth a phryder trawsbleidiol am drafferthion trafnidiaeth gyhoeddus ac ewyllys i'w gwella. Credaf ei fod yn beth gwerthfawr y dylem ei feithrin. Mae'n siŵr y byddwn yn anghytuno ar rai o'r manylion ac rydym wedi treulio llawer o'r...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Gwasanaethau Rheilffordd yn Islwyn (26 Ion 2022)

Lee Waters: Dyna'n sicr yw ein huchelgais ninnau hefyd, ond rydym yn dal i aros am benderfyniad gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â'r cyllid a gyflwynwyd o dan gynllun Adfer Eich Rheilffordd, a fydd yn ein galluogi i fwrw ymlaen â'n cynlluniau i ailagor rheilffordd gangen Abertyleri. Bydd Rhianon Passmore yn gwybod nad yw'r seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli i Gymru, ond Llywodraeth Cymru a...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Gwasanaethau Rheilffordd yn Islwyn (26 Ion 2022)

Lee Waters: Rydym wedi darparu benthyciad o £70 miliwn i gyngor Blaenau Gwent i weithio gyda Network Rail er mwyn gallu gweithredu gwasanaeth bob awr o Gasnewydd i Lynebwy o fis Rhagfyr 2023 ymlaen. Ein huchelgais mwy hirdymor yw darparu pedwar gwasanaeth yr awr ar y rheilffordd.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Teithio Llesol yng Nghaerffili (26 Ion 2022)

Lee Waters: Gallaf gadarnhau'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud: yn sicr, fe gaiff pont ei chodi ac rydym yn gobeithio y bydd yn ei lle ymhen blwyddyn, rhwng diwedd mis Mawrth a mis Ebrill 2023. Mae wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl. Fel y dywedodd Hefin David, cafodd ei difrodi'n ddifrifol gan lori ac yna bu'n rhaid ei chwalu. Mae'r broses y bu'n rhaid mynd drwyddi, gyda chynllun pwrpasol ar gyfer y...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Teithio Llesol yng Nghaerffili (26 Ion 2022)

Lee Waters: Rydym yn cefnogi llwybrau teithio llesol yng Nghaerffili drwy roi dyraniad craidd i'r cyngor o'n cronfa teithio llesol bob blwyddyn, a thrwy gynnig cyfle i wneud cais am gyllid ychwanegol drwy amrywiaeth o grantiau. Yn y flwyddyn ariannol hon, dyrannwyd dros £1.4 miliwn i Gaerffili.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Ffyrdd sy’n Llifogi’n Gyson (26 Ion 2022)

Lee Waters: Fel y soniais yn yr ateb i Rhun ap Iorwerth, rydym yn cydnabod bod newid hinsawdd yn golygu y bydd y digwyddiadau hyn yn digwydd yn amlach ac maent yn peri problem i'n seilwaith hanfodol, ac rydym wedi ymrwymo i wneud yr hyn a allwn i fynd i'r afael â hynny. Mae'r cwestiwn y mae'r Aelod yn ei ofyn yn benodol am atebion draenio naturiol yn un pwysig  iawn, oherwydd credaf ein bod yn...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Ffyrdd sy’n Llifogi’n Gyson (26 Ion 2022)

Lee Waters: Ie. Sylwais ei fod wedi'i godi yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ac yng nghwestiynau Prif Weinidog y DU gan Simon Baynes—yn wallus, oherwydd mae'n beio Llywodraeth Cymru am rywbeth sy'n gyfrifoldeb i'r awdurdod lleol. Rwy'n deall y demtasiwn i chwarae gwleidyddiaeth ar hyn, ond dylai wneud ei waith cartref ychydig yn well cyn bwrw sen. Rydym mewn trafodaethau gyda'r awdurdod lleol. Rydym am...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Ffyrdd sy’n Llifogi’n Gyson (26 Ion 2022)

Lee Waters: Wel, mae'r Aelod yn iawn. Mae hyn yn real iawn, a gwyddom y bydd yn gwaethygu wrth i'r newid yn yr hinsawdd ddwysáu ac mae gwella gallu ein ffyrdd i wrthsefyll bygythiadau stormydd ac effaith gwres eithafol hefyd yn un o'r pethau y mae angen inni ei wneud wrth inni addasu i newid hinsawdd, sy'n rhan o'n strategaeth sero net. Dyma un o'r rhesymau pam ein bod wedi sefydlu'r adolygiad o ffyrdd,...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Ffyrdd sy’n Llifogi’n Gyson (26 Ion 2022)

Lee Waters: Nodaf na ddymunwyd yn dda i mi wrth i mi wella o fy annwyd i, ond fe anwybyddaf hynny. Mae gan Lywodraeth Cymru fesurau ar waith i reoli cefnffyrdd yr effeithir arnynt gan ddigwyddiadau tywydd, gan gynnwys llifogydd. Cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yw'r rhwydwaith ffyrdd lleol wrth gwrs, a chânt arian grant gan Lywodraeth Cymru i gynnal a sicrhau cydnerthedd eu ffyrdd.


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.